Datganiad i'r wasg

Symud tuag at sicrhau hyblygrwydd ym mhwerau treth incwm Cymru

Heddiw mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi diwygiadau i Fesur Cymru i gael gwared ar y ddyfais gloi - "lockstep".

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wales Office sign

Caiff y newidiadau eu trafod yn Nhŷ’r Arglwyddi yr wythnos nesaf ac, os cânt eu cymeradwyo, byddant yn galluogi Cynulliad Cymru i osod cyfraddau treth incwm gwahanol yng Nghymru ar gyfer pob band treth, yn amodol ar refferendwm.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r pwerau treth incwm newydd yn offeryn i helpu economi Cymru fod yn fwy deinamig ac yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol.

O’u defnyddio’n gywir, gallant rhoi hwb i dwf economaidd ac, yn ei dro, bydd hyn yn cyfieithu i fwy o bobol yng Nghymru yn mwynhau safonau byw gwell.

Ond dwi wedi bod o’r farn erioed bod angen i’r pwerau treth yma fod yn hyblyg, sef paham yr ydym nawr yn cael gwared ar gyfyngiadau y ddyfais gloi ar sut y gellid defnyddio’r pwerau. Mae hwn yn ddatganoli gyda phwrpas.

Gwybodaeth gefndir:

Darllenwch y newidiadau i Fesur Cymru yma

Cyhoeddwyd ar 7 October 2014