Stori newyddion

Gweinidog Davies yn ymweld â phrosiect Morol Doc Penfro sy’n mynd i'r afael â newid hinsawdd wrth hybu economi Rhanbarth Bae Abertawe

Bydd y prosiect yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU ac yn cynhyrchu mwy na 1,800 o swyddi i'r rhanbarth

Minister Davies visits Pembroke Dock Marine project

Minister Davies visits Pembroke Dock Marine project

Ymwelodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, â phrosiect Morol Doc Penfro, lle clywodd am y datblygiad ynni morol gwerth £60 miliwn a fydd yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ehangu economi carbon isel y rhanbarth.

Yn ystod ei ymweliad ar ddydd Iau (27 Awst), clywodd Gweinidog Davies sut y gallai prosiect Morol Doc Penfro, a fydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gynhyrchu £73.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe a chreu mwy na 1,800 o swyddi yn y 15 mlynedd nesaf.

Cymeradwyodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yr achos busnes ar gyfer y datblygiad yn ddiweddar fel rhan o Fargen Dinas Bae Abertawe, gan alluogi’r prosiect ynni glân i ddatblygu.

Tra’i fod yn y porthladd, clywodd Mr Davies sut y bydd y datblygwyr yn ehangu ar y sylfaen cyfleusterau a sgiliau sefydledig y rhanbarth i sicrhau’r effeithlonrwydd a’r arloesedd mwyaf posibl er mwyn lleihau cost ynni morol.

Meddai David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Gan weithio law yn llaw â llywodraeth leol a busnesau, rydym yn helpu i greu cyfleoedd economaidd newydd a chyffrous yn ne-orllewin Cymru.

Bydd prosiect Morol Doc Penfro nid yn unig yn rhoi hwb economaidd sylweddol i’r rhanbarth ond bydd hefyd yn helpu i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg ynni morol.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi adferiad economaidd gwyrdd a gwydn ac edrychaf ymlaen at weld sut mae’r datblygwyr yn defnyddio cyllid Llywodraeth y DU i gyflymu’r prosiect hwn.

Mae prosiect Morol Doc Penfro yn cynnwys pedair prif elfen: Canolfan Ragoriaeth Ynni a Pheirianneg y Môr, Seilwaith Doc Penfro, Parth Arddangos Sir Benfro ac Ardal Brawf Ynni Morol.

Cyhoeddwyd ar 27 August 2020