Datganiad i'r wasg

Mims Davies: “Rhaid i Fargen Twf Gogledd Cymru gynnal y momentwm wrth i ni nesáu at ben y daith”

Bydd Gweinidog newydd Llywodraeth y DU dros Gymru yn ymweld â gogledd Cymru am ddeuddydd

Rhaid i gynigion ar gyfer Bargen Twf i Ogledd Cymru gynnal y momentwm nawr wrth i drafodaethau gyrraedd eu terfyn, yn ôl Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Mims Davies heddiw, wrth iddi gychwyn ar daith deuddydd i’r rhanbarth (21-22 Awst).

Wrth iddi gyflawni ei dyletswyddau swyddogol cyntaf yng Nghymru, bydd Mims Davies yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer gogledd Cymru ac yn dod ag egni newydd i Fargen Twf Gogledd Cymru. Mae Bargen Twf Gogledd Cymru yn un o ymrwymiadau maniffesto Llywodraeth y DU, sy’n cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y rhanbarth dros y 15 mlynedd nesaf.

Bydd y Gweinidog Davies yn cychwyn ei rhaglen drwy gyfarfod â Chadeirydd Bwrdd Twf Gogledd Cymru, y Cynghorydd Aaron Shotton, a’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn OpTIC Glyndŵr, Llanelwy.

Bydd hefyd yn cwrdd â phob arweinydd cyngor unigol sy’n helpu i sicrhau’r fargen. Bydd yn galw ar bawb i wneud pob ymdrech i ddatblygu achosion busnes cadarn ac arloesol a fydd yn helpu i sicrhau bod y fargen yn croesi’r llinell derfyn.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Davies:

Mae bargeinion twf, fel yr un rydyn ni’n ei hyrwyddo yng ngogledd Cymru, yn gallu arwain at ganlyniadau real, go iawn, fel swyddi, buddsoddiad mewn trafnidiaeth a dod â busnesau ac awdurdodau lleol at ei gilydd.

Yn ystod y dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf, rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r arbenigwyr, yr arloeswyr a’r arweinwyr busnes yn y rhanbarth a fydd yn rhan ganolog i lwyddiant y fargen hon.

Gallai’r gwobrau a ddaw i ran gogledd Cymru fod yn rhai trawsnewidiol. Nawr yw’r amser i bawb ddod at ei gilydd ar gyfer yr hwb olaf yma gyda chynnig sy’n seiliedig ar arbenigedd a gwybodaeth leol, er mwyn gwneud yn siŵr bod y fargen yn llwyddiannus.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Gweinidog i drafod ein cynnydd o ran datblygu cynnig a fydd yn cyflawni ar themâu allweddol ledled y rhanbarth.

Rhaid canolbwyntio nawr ar gydweithio a blaenoriaethu’r rhaglenni pwysicaf a fydd yn effeithio ar ein cymunedau ac yn rhoi hwb i economi gogledd Cymru, gan ffocysu ar gysylltedd digidol, creu swyddi a chysylltiadau trafnidiaeth.

Hoffem ddiolch iddi ymlaen llaw am gefnogi’r Bwrdd Uchelgais ac am roi o’i hamser i weld drosti’i hun yr holl waith caled sydd wedi cael ei wneud wrth baratoi cynnig a fydd yn arwain at fudd i economi ac i drigolion gogledd Cymru.

Rydyn ni’n canolbwyntio nawr ar sicrhau bod Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn nodwedd allweddol yng Nghyllideb yr Hydref a ddaw cyn hir, a fydd yn y pen draw yn llunio’r rhanbarth deinamig sy’n tyfu rydyn ni i gyd yn gobeithio ei weld.

Bydd y Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at enw da cynyddol y rhanbarth fel y lle ar gyfer twristiaid sy’n chwilio am wefr, drwy ymweld â Surf Snowdonia.

Eleni, mae’r atyniad wedi cyhoeddi cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i ymestyn, a fydd yn cynnwys gwesty pedair seren gyda sba a chyfleusterau ar gyfer priodasau a chynadleddau. Rhagwelir y bydd atyniad antur newydd dan do yn cael ei greu hefyd.

Yma, bydd y Gweinidog yn cynnal cyfarfod gyda busnesau bach y rhanbarth er mwyn clywed eu barn am sut gall Llywodraeth y DU gefnogi eu potensial o ran twf a chystadlu yn yr economi fyd-eang.

Dywedodd Justin Everley, cyfarwyddwr masnachol Surf Snowdonia:

Mae wir yn bleser i ni gael croesawu’r Gweinidog i Surf Snowdonia yn ystod ei hymweliad â gogledd Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ei chyflwyno i’n gweithwyr a rhannu ein stori hyd yma. Hefyd, rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein cynlluniau datblygu a fydd yn caniatáu i ni dyfu a datblygu ein busnes yn 2019 a thu hwnt i hynny.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 21 August 2018