Mims Davies MP

Bywgraffiad

Penodwyd Mims Davies yn Weinidog Gwladol (Gweinidog Pobl Anabl, Iechyd a Gwaith) yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 12 Ebrill 2024.

Yn flaenorol, roedd hi’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng 27 Hydref 2022 a 12 Ebrill 2024.

Cyn hynny roedd hi’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gartref rhwng 20 Medi 2022 a 27 Hydref 2022, ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyflogaeth yn yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng 26 Gorffennaf 2019 a 6 Gorffennaf 2022.

Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon rhwng 5 Tachwedd 2018 a 25 Gorffennaf 2019.

Cyn hynny roedd yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth o fis Ionawr 2018 i Dachwedd 2018, ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru o fis Gorffennaf 2018 i Dachwedd 2018.