Datganiad i'r wasg

Cynnydd mewn Budd-dal Plant ar y ffordd i miliynau o deuluoedd

Bydd teuluoedd sy’n hawlio Budd-dal Plant yn gweld cynnydd yn eu taliadau o wythnos nesaf ymlaen

  • Bydd mwy na 6.9 miliwn o deuluoedd sy’n hawlio Budd-dal Plant yn gweld cynnydd yn eu taliadau o wythnos nesaf ymlaen
  • Defnyddio ap CThEF yw’r ffordd hawsaf a chyflymaf i hawlio Budd-dal Plant a rheoli taliadau
  • Mae miloedd o rieni newydd yn colli allan ar y cyfle i gael taliadau drwy oedi gwneud hawliad

Bydd miliynau o deuluoedd sy’n hawlio Budd-dal Plant yn gweld cynnydd yn eu taliadau o wythnos nesaf ymlaen, wrth i Gyllid a Thollau EF (CThEF) annog y bobl hynny sydd heb hawlio eto i ddefnyddio ap CThEF neu fynd ar-lein i hawlio heddiw.

O 6 Ebrill ymlaen, bydd hawlwyr yn cael £27.05 yr wythnos – neu £1,406.60 y flwyddyn – ar gyfer y plentyn hynaf neu’r unig blentyn a £17.90 yr wythnos – neu £930.80 y flwyddyn – ar gyfer pob plentyn ychwanegol, a dim terfyn o ran sawl plentyn y gall rhieni hawlio ar eu cyfer. Mae hyn yn gynnydd blynyddol o £52 a £33.80.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos er bod mwy na 6.9 miliwn o deuluoedd yn cael Budd-dal Plant, dim ond 72% o deuluoedd gwnaeth hawlio yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn. Gellir ond ôl‑ddyddio hawliad Budd‑dal Plant am hyd at 3 mis o’r dyddiad y mae’ch hawliad yn dod i law CThEF, sy’n golygu bod miloedd o deuluoedd ar eu colled.

Mae CThEF wedi cyhoeddi fideo YouTube newydd yn esbonio sut y gall rhieni newydd hawlio.

How do I claim Child Benefit online?

Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

“Gall edrych ar ôl plentyn fod yn ddrud, yn enwedig babi sydd newydd ei eni. Mae hawlio Budd-dal Plant drwy’r ap yn cymryd munudau, ac os byddwch yn gwneud hynny cyn gynted ag y gallwch ar ôl i’ch babi gael ei eni, bydd hyn yn sicrhau nad ydych yn colli allan ar gymorth ariannol hanfodol.”

Y ffordd fwyaf hwylus i rieni a gofalwyr hawlio taliadau Budd-dal Plant, yn ogystal â’u gweld nhw a’u rheoli nhw, yw drwy lawrlwytho ap CThEF sy’n ddiogel ac am ddim, neu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth digidol. Ers lansio’r gwasanaeth digidol, mae mwy na 1.5 miliwn o deuluoedd wedi mynd ar-lein neu wedi defnyddio ap CThEF i hawlio’u Budd-dal Plant, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron 85% o hawliadau yn cael eu gwneud yn y modd hwn.

Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei dalu bob pedair wythnos, a bydd hwn yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc yn awtomatig.

Gall y bobl sy’n defnyddio’r ap olrhain eu taliadau Budd-dal Plant gydag un sweip syml. Ers Ebrill 2025 mae mwy na 928,000 o rieni wedi defnyddio ap CThEF i reoli eu cyfrif Budd-dal Plant, gan gynnwys:

  • gwneud hawliad newydd
  • rhoi gwybod am newid i’w hamgylchiadau
  • diwygio manylion personol a manylion banc
  • ychwanegu plant ychwanegol at hawliad
  • bwrw golwg dros dystiolaeth o hawl i Fudd-dal Plant neu ei hargraffu
  • rhoi gwybod i ni fod eu plant yn parhau mewn addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy

Er mwyn hawlio Budd-dal Plant, bydd angen i rieni greu gyfrif ar-lein CThEF a bydd angen y canlynol arnyn nhw:

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu eu plentyn
  • eu manylion banc
  • eu rhif Yswiriant Gwladol a rhif Yswiriant Gwladol eu partner, os oes ganddynt un
  • tystysgrif geni neu fabwysiadu wreiddiol eu plentyn a’u pasbort neu ddogfen deithio, ar gyfer plant a anwyd y tu allan i’r DU.

Meddai Anna Sharkey, o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

Defnyddiwch Gyfrifiannell Budd-daliadau yr HelpwrArian sy’n rhad ac am ddim os ydych yn credu eich bod chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, yn gymwys i gael Budd-dal Plant.  Bydd y gyfrifiannell yn dangos i chi’r holl fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w cael.

Mae gan yr HelpwrArian declynnau eraill i rieni newydd gan gynnwys y Gyfrifiannell Costau Babi i’ch helpu chi gyllidebu pan fyddwch yn cael babi, a’r Teclyn cynllunio ariannol sy’n rhoi’r dyddiadau allweddol i’ch helpu chi gynllunio a threfnu’ch arian.

Ewch i MoneyHelper.org.uk i gael arweiniad cyffredinol i ynghylch sut i reoli arian. Mae’r arweiniad hwn yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim.

Mae’n bosibl bydd yn rhaid i rieni sy’n cael taliadau Budd-dal Plant, neu sy’n gwneud hawliad newydd, dalu’r Tâl Budd-dal Plant ar Incwm Uchel (HICBC). Mae hyn yn berthnasol pan fo’r rhieni hynny, neu eu partner, yn ennill incwm sy’n fwy na £60,000 y flwyddyn.

Gall y rhieni hynny sy’n agored i’r tâl ddefnyddio’r gwasanaeth digidol ar gyfer TWE HICBC i dalu’r tâl drwy eu cod treth TWE yn hytrach na llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os nad oes ganddynt reswm arall i lenwi Ffurflen Dreth.

Mae’r gwasanaeth ar gael i rieni sy’n agored i’r tâl, pan fo’u hincwm yn mynd y tu hwnt i’r trothwy ar gyfer HICBC. Gall rhieni cymwys gofrestru drwy ap CThEF neu ar GOV.UK.

Bydd y rhai sy’n dewis talu drwy Hunanasesiad yn gallu gwneud hynny o hyd.

Gall teuluoedd sydd wedi optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant optio yn ôl mewn ac ailddechrau eu taliadau yn hwylus ar-lein neu drwy ap CThEF.

Bydd person sy’n byw mewn aelwyd sy’n agored i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel yn cael credydau Yswiriant Gwladol o hyd os bydd yn hawlio Budd-dal Plant ond yn dewis optio allan o gael taliadau.

Rhagor o Wybodaeth

Cafodd yr ystadegau diweddaraf hyd at Awst 2024 eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2025.

Oherwydd gŵyl y banc, bydd y taliadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer 6 Ebrill yn cael eu talu ar 2 Ebrill. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar GOV.UK.           

Gwybodaeth am Fudd-dal Plant.

Mae hawlwyr Budd-dal Plant yn cael credydau Yswiriant Gwladol (YG) sy’n cyfrif tuag at eu cymhwystra yn y dyfodol ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth. Gall hyn helpu pobl nad ydynt mewn cyflogaeth â thâl na chwaith yn cael credydau YG drwy eu cyflogwr neu drwy unrhyw lwybrau eraill, fel Credyd Cynhwysol.

Mae hawlio Budd-dal Plant hefyd yn sicrhau y bydd eich plentyn yn cael ei rif Yswiriant Gwladol yn awtomatig pan fydd yn troi’n 16 oed.

Mae modd defnyddio’r hysbysiad dyfarnu Budd-dal Plant i brofi eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant a gallwch ei lawrlwytho a’i argraffu o ap CThEF neu o GOV.UK. Mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth o hawl ar rieni a gofalwyr i gael mynediad at fudd-daliadau a gwasanaethau eraill.

Cododd trothwy’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel i £60,000 ar 6 Ebrill 2024. £50,000 oedd y trothwy cyn hyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2026