Datganiad i'r wasg

Llai o bobl yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru nag yn y chwe blynedd diwethaf er gwaethaf cynnydd mewn diweithdra

Stephen Crabb: "Tuedd hirdymor gadarnhaol ond mae’r ffigurau hyn yn dangos na allwn ni laesu dwylo."

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Gwelwyd gostyngiad o 1,200 yn nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru ym mis Tachwedd - gostyngiad am yr 21ain mis yn olynol - er gwaethaf cynnydd mewn diweithdra, yn ôl ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (17 Rhagfyr).

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru ar ei hisaf ers chwe blynedd, er gwaethaf y ffaith fod 8,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith dros y chwarter.

Roedd diweithdra ymysg pobl ifanc wedi gostwng 700 yn ystod y mis diwethaf, ac roedd wedi gostwng bron i 6,000 yn ystod y flwyddyn.

Gwelwyd gostyngiad mewn diweithdra tymor hir yng Nghymru hefyd – 5,100 dros y flwyddyn ddiwethaf a 600 yn ystod y mis diwethaf yn unig – wrth i lywodraeth y DU helpu miloedd o bobl anodd eu cyrraedd i ganfod swyddi drwy ei Rhaglen Waith.

Yn gyffredinol, er mis Mai 2010, mae yna 28,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru, ac mae ffigurau eraill a gyhoeddwyd gan yr ONS yr wythnos diwethaf yn dangos bod economi Cymru wedi tyfu’n gynt nag unrhyw ran arall o’r DU rhwng 2012 a 2013.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru:

Er gwaethaf cynnydd mewn diweithdra yn ystod y tri mis diwethaf, mae’r duedd gyffredinol yn gadarnhaol ac mae economi Cymru’n tyfu.

Rydyn ni’n creu’r amodau hirdymor iawn i helpu’r economi i dyfu, ond rydyn ni’n gwybod ein bod yn wynebu rhai heriau mawr a bod mwy i’w wneud.

Dyna pam fy mod yn benderfynol ein bod yn dal ati gyda’n cynllun hirdymor ar gyfer twf i godi safonau byw, cryfhau’r economi a sicrhau bod pobl weithgar Cymru’n cael mwy o sicrwydd ariannol.

Cyhoeddwyd ar 17 December 2014