Cogydd blaenllaw i arlwyo gwledd Cymreig i arweinwyr byd
Mae seren y byd coginio, Stephen Terry, o Gymru i baratoi cinio ar gyfer arweinwyr y byd a fydd yn ymweld ag Uwchgynhadledd NATO

Chef Stephen Terry chosen to feed the world leaders at NATO Summit
Bydd y cogydd, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn seilio ei fwydlen ar y dreftadaeth goginio gref sydd gennym yng Nghymru wrth ddewis yr arlwy i’w ddarparu i arweinwyr y byd, gan gynnwys y Prif Weinidog David Cameron ac Arlywydd UDA Barack Obama. Bydd yn defnyddio cynnyrch lleol o Gymru i arddangos peth o’r bwyd anhygoel y mae Cymru wedi ennill bri amdano.
Bydd 12 myfyriwr sy’n dilyn cwrs lletygarwch ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn helpu Mr Terry i baratoi’r cinio a gynhelir ddydd Iau 4ydd Medi yng Nghaerdydd.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru:
Rydw i wrth fy modd fod Stephen Terry wedi cael ei benodi’n gogydd ar gyfer cinio NATO. Yn ddiamau, ef yw un o’r cogyddion gorau i ddod o Gymru a braf yw ei weld yn dewis tîm mor dalentog o fyfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i’w helpu i baratoi’r pryd hanesyddol hwn.
Mae dewis Stephen i oruchwylio’r cinio mawreddog hwn hefyd yn brawf pellach o sut mae’r Uwchgynhadledd yn arddangos y gorau ym maes busnes yng Nghymru. Mae sgiliau ac arbenigedd busnesau yng Nghymru yn cael eu cydnabod ar lwyfan byd-eang drwy’r Uwchgynhadledd hon. Bydd arweinwyr y byd yn troi nôl am adref wedi blasu a mwynhau coginio o safon fyd-eang yma yng Nghymru.
Bu Stephen Terry yn gweithio yng ngheginau’r ddau gogydd enwog, Marco Pierre White a Michel Roux Jr, lle enillodd seren Michelin glodwiw cyn mynd ymlaen i sefydlu ei fwyty ei hun, sef The Hardwick, yn Y Fenni, de Cymru. Daeth yn ffigur cyhoeddus cyfarwydd yng nghyfres y BBC, The Great British Menu.
Mae’r cogydd yn cydweithio’n agos â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac ef ddewisodd y grŵp talentog o 12 myfyriwr i’w helpu.
Bydd Penaethiaid Gwladwriaethau, Penaethiaid Llywodraethau a Gweinidogion yn bwyta mewn amryw leoliadau o amgylch y ddinas, gan gynnwys HMS Duncan ym Mae Caerdydd, Castell Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Yn y cyfamser, croesewir cynrychiolwyr cyfryngau rhyngwladol yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd.
Dywedodd Stephen Terry:
Mae hwn yn brofiad unwaith-mewn-oes i’r myfyrwyr hyn a bydd yn gyfle gwych iddynt brofi eu hunain ar un o nosweithiau mwyaf eu bywydau.
Rwyf yn sicr y bydd Mr Cameron, Arlywydd Obama ac arweinwyr eraill y byd yn mwynhau’r gorau o fwyd a lletygarwch Cymru.
Dywedodd Lisa Wright, uwch ddarlithydd mewn lletygarwch ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd:
Mae’r myfyrwyr ymysg y gorau yn y wlad a bydd gweithio yn yr achlysur hwn yn rhoi profiad amhrisiadwy iddynt.
Byddant yn paratoi gwledd yng ngwir ystyr y gair - un a fydd yn gweddu i Brif Weinidogion ac Arlywyddion!
Find out more about NATO Summit Wales 2014 or follow the official Summit Twitter account @NATOWales