Datganiad i'r wasg

Lansio adolygiad annibynnol o S4C

Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU, yn lansio adolygiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol

S4C

Heddiw, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd Euryn Ogwen Williams yn arwain adolygiad annibynnol o’r darlledwr iaith Gymraeg, S4C.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar elfennau allweddol o’r sefydliad, gan gynnwys cylch gwaith S4C, sut mae’n cael ei lywodraethu, ei atebolrwydd a’i bartneriaeth â’r BBC, a’r dulliau cyllido presennol.

Cytunwyd hefyd y bydd y BBC yn rhoi un taliad o £350,000 yn 2017/18 i helpu i roi rhagor o sefydlogrwydd yn ystod cyfnod yr adolygiad

Gwnaed y cyhoeddiad gan Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, yn ystod ymweliad â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn.

Dywedodd Euryn Ogwen Williams:

Roedd yn anrhydedd mawr cael gwahoddiad i arwain adolygiad S4C, a hynny yn ystod cyfnod allweddol i’r sefydliad pan mae’n mynd i’r afael â’r heriau mae’n eu hwynebu wrth i’r dirwedd cyfryngau newid yn gyflym. Bydd y degawd nesaf yn fwy heriol byth wrth i S4C, fel pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, feithrin y berthynas â’i gynulleidfaoedd yn y byd digidol. Mae’n rhaid iddo hefyd chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o ddatblygu’r Gymraeg mewn cyfnod hollbwysig yn ei hanes.

Dywedodd Karen Bradley, yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant:

Mae gan Euryn lawer iawn o brofiad ym maes darlledu yng Nghymru, ac ef oedd y Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf pan sefydlwyd S4C yn 1982. Bydd ei ddealltwriaeth ragorol o ddarlledu yng Nghymru, yn ogystal â’r iaith, y diwylliant a’r gymdeithas yng Nghymru, yn sicr yn dwyn budd i gynnydd yr adolygiad pwysig hwn.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Mae S4C a’r cyfoeth o gynnwys y mae’n ei gynhyrchu yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, at ffyniant y Gymraeg ac at gryfder ein sector creadigol.

Mae Llywodraeth y DU wedi pwysleisio droeon ei hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu Cymraeg annibynnol a chryf. Rydym yn hynod o falch bod Mr Williams wedi cytuno i arwain yr adolygiad annibynnol pwysig hwn. Mae wedi cael y dasg o asesu cylch gwaith S4C, y ffordd mae’r darlledwr yn cael ei ariannu, a’r ffordd mae’n cael ei lywodraethu, gyda golwg ar sicrhau y bydd yn gallu dal ati i fuddsoddi mewn rhaglenni o safon uchel a diwallu anghenion cynulleidfaoedd Cymraeg ymhell i’r dyfodol.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ynglŷn ag adolygu S4C, a’r ffaith bod Euryn Ogwen Williams – darlledwr profiadol a dadansoddwr craff o ddyfodol y cyfryngau – wedi cael ei benodi i arwain yr adolygiad.

Bydd yr adolygiad yn gyfle allweddol i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw gwasanaeth S4C at ddiwylliant ac economi Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac at ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu cyflwyno i’r Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Mawrth y bydd yn rhoi £350,000 o arian cyfalaf ychwanegol i S4C ar gyfer 2017/18 i’w helpu i uwchraddio offer technegol a TG. Cytunwyd hefyd y bydd y BBC yn rhoi un taliad o £350,000 yn 2017/18 i helpu i roi rhagor o sefydlogrwydd yn ystod cyfnod yr adolygiad.

Nodiadau i olygyddion:

Euryn Ogwen Williams oedd y Cyfarwyddwr Rhaglenni Cyntaf pan sefydlwyd S4C yn 1982. Ar ôl hynny daeth yn Ddirprwy Brif Weithredwr rhwng 1988 a 1991. Mae ganddo dros 50 mlynedd o brofiad ym maes darlledu yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth drylwyr am yr iaith, y diwylliant a’r gymdeithas yng Nghymru.

Darllenwch y Cylch Gorchwyl yma

Cyhoeddwyd ar 7 August 2017