Tîm gwasanaethau i gwsmeriaid Cymraeg CThEM i aros ym Mhorthmadog
Guto Bebb: Cyhoeddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r iaith Gymraeg

Mae tîm Cyllid a Thollau EM (CThEM) sy’n cynnig gwasanaethau treth i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn aros ym Mhorthmadog.
Mae CThEM wedi cadarnhau y bydd y 17 o bobl sy’n gweithio yn Nhŷ Moelwyn ar hyn o bryd yn cyd-leoli â chydweithwyr o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn eu hadeilad Thedford House yn gynnar yn 2018.
Mae’r symudiad hwn yn caniatáu i CThEM gadw ei dîm Cymraeg ym Mhorthmadog, yn ogystal â galluogi’r ddwy adran i chwilio am ffyrdd o weithio gyda’i gilydd yn y dyfodol er mwyn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Rachel McLean, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaeth i Gwsmeriaid, CThEM:
Mae’r symudiad hwn yn hanfodol os yw ein cynlluniau i barhau i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg, o Borthmadog, yn mynd i lwyddo. Bydd hefyd yn ein galluogi i chwilio am ffyrdd o ddatblygu’r gwasanaethau hynny gyda DWP, ac adrannau eraill y llywodraeth, yn y dyfodol.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU, Guto Bebb:
Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau dyfodol y swyddfa hynod bwysig hon, sy’n rhan o Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig gwasanaeth hanfodol i Gymry Cymraeg.
Mae sawl adran o Lywodraeth y DU yng Nghymru wedi gweithio’n galed er mwyn gwireddu hyn, ac mae’n dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ateb ar y cyd.
Mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r iaith Gymraeg ac i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r buddion sy’n dod yn sgil cyd-leoli swyddfeydd y Llywodraeth er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’r trethdalwr.
Dywedodd Fiona Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaith ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru:
Edrychwn ymlaen at gael croesawu ein cydweithwyr o CThEM i Thedford House yn gynnar y flwyddyn nesaf, a rhannu ein profiadau o ddarparu gwasanaethau gyda nhw. Mae darparu gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn faes sy’n tyfu yn ein canolfannau gwaith a chanolfannau gwasanaethau ledled Cymru.
Nodiadau i Olygyddion:
-
Mae’r Rhaglen Foderneiddio’n cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau ar-lein newydd, dadansoddi data, technegau cydymffurfiad newydd, sgiliau newydd a dulliau newydd o weithio. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i’r mwyafrif gonest o gwsmeriaid dalu eu treth, gan gynnwys drwy wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Ar ben hynny, bydd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r lleiafrif anonest dwyllo’r system. Eisoes o ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae dros 80 y cant o bobl yn llenwi eu ffurflenni treth Hunanasesiad ar-lein. Mae’r newidiadau hefyd wedi rhoi ffyrdd newydd, syml, i gwsmeriaid wirio’u taliadau, gwneud newidiadau neu ddod o hyd i atebion i’w cwestiynau.
-
Ar hyn o bryd, mae gweithlu CThEM yng Nghymru yn gweithio mewn pum swyddfa, sy’n amrywio o ran maint o tua 2,750 o bobl i lai na 10.
-
Y bwriad gwreiddiol oedd bod Tŷ Moelwyn yn mynd i gau yn ystod y flwyddyn ariannol 2019-20.
-
At ei gilydd, bydd CThEM yn cau pum swyddfa yng Nghymru, gan gynnwys Tŷ Moelwyn. Bydd Tŷ Nant yn Abertawe, a Thŷ Glas a Brunel House yng Nghaerdydd, yn cau yn ystod 2019-20, er na fydd unrhyw newidiadau i’r ystâd tan i’r Ganolfan Ranbarthol agor yng Nghaerdydd. Bydd Plas Gororau yn Wrecsam yn dal ar agor tan 2020-21.
-
Cyhoeddwyd y lleoliadau ar gyfer y canolfannau rhanbarthol ym mis Tachwedd 2015.
-
Bydd CThEM yn cyflwyno’r symudiadau’n raddol, dros gyfnod o 10 mlynedd, er mwyn rhoi amser i’w staff wneud dewisiadau ar gyfer eu dyfodol a lleihau’r nifer posibl o bobl a fydd yn colli eu swyddi.
-
Y tro cyntaf i’r cynlluniau lefel uchel ar gyfer gweddnewid CThEM gael eu rhannu â’i bobl oedd 18 mis yn ôl. Ers hynny, mae CThEM wedi cynnal tua 2,000 o ddigwyddiadau ledled y DU, i siarad â chydweithwyr am sut y mae’r adran yn newid ac er mwyn eu cynnwys yn y sgyrsiau.