CThEF yn annog cwsmeriaid i beidio ag anwybyddu llythyrau Asesiad Syml
Mae CThEF yn annog cwsmeriaid sy’n cael llythyr Asesiad Syml yr haf hwn i’w wirio’n ofalus a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio ap CThEF neu ddulliau talu eraill.
- Yr haf hwn bydd CThEF yn anfon llythyrau Asesiad Syml ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026.
- Anfonir y llythyrau at y rhai sydd â threth i’w thalu ar incwm nad yw wedi’i drethu drwy’r system Talu Wrth Ennill (TWE) neu Hunanasesiad.
- Mae CThEF yn annog y rhai sy’n cael y llythyrau hyn i beidio â’u hanwybyddu.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog pobl sy’n cael llythyr Asesiad Syml yr haf hwn i beidio â’i anwybyddu, ac i wirio’r manylion a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus.
Bob blwyddyn mae CThEF yn ysgrifennu at bobl sydd angen talu treth ar incwm nad yw wedi’i chasglu drwy TWE neu Hunanasesiad.
Mae’r llythyrau – ‘PA302’ yn swyddogol - yn nodi union swm y dreth sydd arnoch chi a pham.
Efallai y bydd cwsmeriaid yn cael llythyr ar gyfer cyfrifo treth Asesiad Syml os oes ganddynt dreth i’w thalu, a bod CThEF methu â’i chasglu’n awtomatig, er enghraifft:
- mae treth i’w thalu ar log ar gynilion neu ddifidendau
- nid yw ail incwm wedi’i drethu
- mae treth yn ddyledus ar incwm pensiwn
- cwsmeriaid a gafodd fwy o lwfans rhydd o dreth na’r hyn yr oedd hawl ganddynt i’w gael
- methu â chasglu’r dreth drwy god treth (er enghraifft symiau mawr sy’n ddyledus, fel arfer £3,000 neu fwy)
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
Os ydych chi’n cael llythyr Asesiad Syml a bod gennych dreth i’w thalu, peidiwch â’i anwybyddu. Mae’n gyflym ac yn hawdd iawn talu unrhyw dreth sy’n ddyledus drwy ap CThEF.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘Simple Assessment’ ar GOV.UK.
Bydd CThEF yn anfon tua 1.8 miliwn o lythyrau Asesiad Syml. Dylai pobl wirio’r ffigurau yn eu llythyr yn erbyn eu cofnodion eu hunain a thalu unrhyw dreth sydd arnyn nhw erbyn 31 Ionawr 2027, oni bai bod dyddiad gwahanol wedi’i nodi. Gellir gwneud taliadau yn llawn neu fesul rhandaliad cyn y dyddiad cau, ac nid oes angen Ffurflen Dreth.
Gall cwsmeriaid dalu gan ddefnyddio ap CThEF sy’n rhad ac am ddim ac yn ddiogel, drwy fynd ar-lein i GOV.UK, drwy drosglwyddiad banc neu drwy siec. Ewch i GOV.UK i weld rhestr lawn o’r dulliau talu.
Mae canllawiau manwl ar Asesiad Syml ar gael ar GOV.UK - gan gynnwys canllaw penodedig i bensiynwyr. Mae gwefan newydd Magu’ch hyder o ran treth CThEF hefyd yn cynnig adnoddau clir a syml i helpu pobl i ddeall eu materion treth yn hyderus.
Mae’r llythyrau’n swyddogol ac yn cyrraedd drwy’r post neu’n ymddangos yng Nghyfrif Treth Personol cwsmeriaid ar-lein. Gall cwsmeriaid wirio a yw llythyr gan CThEF yn ddilys ar GOV.UK.
Nodiadau i Olygyddion
Rhagor o wybodaeth am Asesiad Syml.
Mae llythyrau Asesiad Syml (PA302) yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig pan fydd CThEF yn cael data gan gyflogwyr, yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a sefydliadau ariannol sy’n cadarnhau bod treth yn ddyledus. Mae’r broses hon yn arferol, ac yn digwydd bob blwyddyn.
Dechreuodd cwsmeriaid o oedran gweithio gael llythyrau o 30 Mehefin 2026. Bydd pensiynwyr yn dechrau cael llythyrau o 12 Awst 2026. Bydd ail set o lythyrau yn cael eu hanfon rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2026, yn ymwneud â data Llog Banc a Chymdeithasau Adeiladu (BBSI).