Datganiad i'r wasg

Help llaw i fusnesau newydd

Mae gwasanaeth newydd gan y llywodraeth sy’n rhoi cyfle i fusnesau newydd gofrestru eu cwmni yn ogystal â chofrestru ar gyfer treth wedi’i ddefnyddio 200,000 o weithiau.

Mae dros 200,000 o fusnesau newydd wedi defnyddio gwasanaeth traws-lywodraethol newydd sbon sy’n rhoi cyfle iddyn nhw gofrestru eu cwmni a chofrestru ar gyfer treth ar yr un pryd.

Bydd y Gwasanaeth Cofrestru Cwmni’n Syml, a sefydlwyd ar y cyd rhwng CThEM a Thŷ’r Cwmnïau, yn codi’r pwysau oddi ar ysgwyddau busnesau newydd, gan adael iddyn nhw ganolbwyntio ar eu cryfderau — sef creu nwyddau, darparu gwasanaethau a chyfrannu at enw da’r DU fel un o’r lleoedd gorau yn y byd i ddechrau busnes ynddo.

Wrth gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, mae cwmnïau hefyd yn gallu cofrestru ar gyfer treth a gwasanaethau digidol CThEM. Mae’n haws felly i fusnesau newydd gyflawni pob un o’u hymrwymiadau cyfreithiol yn y fan a’r lle.

Mae’r newid, a ddaeth i rym y llynedd, yn cael gwared ar yr angen i fusnesau anfon yr un wybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau ac i CThEM.

Mae’r gwasanaeth newydd yn rhan o ymrwymiad Strategaeth Ddiwydiannol fodern y Llywodraeth i leihau beichiau gweinyddol ar fusnesau bach a gwella enw da’r DU fel un o’r mannau gorau i fusnesau bach fod yn llewyrchus ynddo.

Meddai Gweinidog y Trysorlys, Mel Stride AS – yr Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys:

Nid yw hi erioed wedi bod yn haws i ddechrau busnes yn y DU. Mae lleihau’r baich gweinyddol ar fusnesau bach yn rhan o ymrwymiad y llywodraeth hon i helpu busnesau bach i dyfu.

Mae CThEM a Thŷ’r Cwmnïau yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i fusnesau gofrestru a delio â threth. O’r blaen, roedd yn rhaid rhoi’r un wybodaeth ar sawl platfform gwahanol er mwyn cofrestru cwmni a chofrestru ar gyfer treth. Rydym felly wedi gwneud y broses yn symlach.

Mae’r llywodraeth hon yn ymrwymedig i sicrhau y gallwn gyflwyno system dreth ddigidol a modern i bob busnes, a’u hasiantau i’w helpu i gael eu treth yn gywir a lleihau faint o dreth sy’n cael ei golli drwy wallau hawdd eu hosgoi.”

Meddai’r Gweinidog dros Fusnesau Bach, Kelly Tolhurst:

Mae busnesau bach ym Mhrydain, a’u hysbryd mentrus, yn rhan hollbwysig o economi’r DU - maen nhw’n cyflogi dros 16 miliwn o bobl ar hyd a lled y wlad.

Drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern, rydym yn ei gwneud hi’n haws i fusnesau bach dyfu a llwyddo, a hynny drwy fuddsoddi mewn diwydiannau, seilwaith a sgiliau modern, a’i gwneud hi’n haws i ddod i’r afael â chyllid. Dylai unrhyw un sy’n ystyried dechrau busnes newydd yn 2019 bori drwy’r doreth o gyngor a chymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth a mynd amdani.

Dim ond un peth yn rhagor sydd ei angen arnoch i ddechrau busnes yn y flwyddyn newydd - a brwdfrydedd ydy hynny. Mae gennych syniad newydd ac rydych chi a’r sawl o’ch cwmpas yn credu ynddo i’r dim. Rydych ar dân eisiau rhoi’r syniad hwnnw ar waith. Mentrwch felly. Blwyddyn newydd, pwrpas newydd, busnes newydd!

Rhagor o wybodaeth

Mae’r gwasanaeth ar y cyd, o’r enw’r Gwasanaeth Cofrestru Cwmni’n Syml, yn helpu amcan y Llywodraeth i leihau beichiau gweinyddol ar fusnesau bach a’u helpu i dyfu. Fe’i cyhoeddwyd fel rhan o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015.

Gweithiodd Tŷ’r Cwmnïau a CThEM gyda’i gilydd ar y gwasanaeth ar y cyd i sefydlu cwmni cofrestredig a chofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth, a chofrestru cyflogwr ar gyfer treth Talu Wrth Ennill (TWE).

Gall asiant ffurfio gael ei ddefnyddio o hyd i gofrestru busnes, a gall asiantau ffurfio barhau i weithredu dros eu cleientiaid.

Cyhoeddwyd ar 4 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 January 2019 + show all updates
  1. Welsh language translation added.

  2. First published.