Datganiad i'r wasg

Hanner miliwn yn fwy o gartrefi a busnesau yn derbyn band eang cyflym iawn yng Nghymru

Gweinidog Swyddfa Cymru yn gweld y chwyldro digidol yn cyrraedd Sir Fynwy

Superfast broadband

Mae rhaglen genedlaethol y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn ar hyd a lled gwledydd Prydain wedi cyrraedd mwy o gartrefi a busnesau yng Nghymru, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 12 Awst).

Mae’r rhaglen yn darparu mynediad cyflym iawn – cyflymder rhyngrwyd dros 24 Mbps – i’r cartrefi a busnesau hynny nad oedd rhwydweithiau masnachol cyfredol yn eu cyrraedd, ac mae’n debygol o gwrdd â’r targed i fynd â mynediad cyflym iawn i 95 y cant o’r DU erbyn 2017. Mae dros bedwar o bob eiddo yn y DU yn derbyn mynediad cyflym iawn yn barod, ac mae’r rhaglen, ar hyn o bryd, yn cyrraedd 40,000 yn fwy o gartrefi a busnesau bob wythnos.

Daw’r cyhoeddiad yr un diwrnod â datganiad gan y Llywodraeth bod y rhaglen genedlaethol i gyflwyno band eang cyflym iawn wedi cyrraedd dros dair miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y newyddion yr wythnos diwethaf y bydd BT yn rhyddhau hyd at £129m i ehangu rhaglen y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn ledled y DU.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn cwrdd â BT Openreach i weld â’i lygaid ei hun sut mae seilwaith band eang ffibr yn cael ei osod, yn ystod ymweliad â Chaldicot ddydd Iau 13 Awst.

Dyma oedd gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, i’w ddweud:

Mae cyrraedd tair miliwn o gartrefi a busnesau yn gyflawniad aruthrol, ac rwyf wrth fy modd bod y ffigur hwn yn cynnwys dros 482,000 yng Nghymru. Mae ein rhaglen band eang cyflym iawn yn gweddnewid bywydau ar hyd a lled y DU wrth i filoedd yn fwy o gartrefi a busnesau gael mynediad at wasanaeth cyflym iawn.

Mae’n wych bod y rhaglen band eang cyflym iawn yn hwyluso bywydau cwsmeriaid a’r trethdalwyr. Mae lefelau’r bobl sy’n manteisio ar fand eang cyflym iawn mewn ardaloedd lle gwnaethom ni fuddsoddi arian cyhoeddus y tu hwnt i’n disgwyliadau, ac mae BT yn awr yn ad-dalu’r pwrs cyhoeddus er mwyn sicrhau gwasanaeth gwell fyth ledled y DU. Mae hyn yn awr yn golygu y bydd BT yn ad-dalu hyd at £129m yn rhai o’r rhannau mwyaf anodd eu cyrraedd.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:

Mae’r tirlun digidol yng Nghymru wedi’i weddnewid gan fand eang cyflym iawn, ac mae ffigurau heddiw yn dangos nad yw’r chwyldro technolegol drosodd, o bell ffordd.

Mae band eang cyflym iawn ar ei fwyaf hygyrch ymhlith y gwledydd datganoledig, ac mae hyn yn golygu bod mwy o gartrefi a busnesau nag erioed o’r blaen yn mwynhau mynediad i fand eang cyflym iawn yn awr – ac mae hynny’n adfywio ein ffordd o gyfathrebu, siopa, bancio a gweithio.

Fory, byddaf yn ymweld â Chaldicot gyda BT Openreach, i weld sut mae band eang ffibr yn cael ei osod ledled Cymru, a dysgu am y buddiannau y gall band eang cyflym iawn eu dwyn i gwsmeriaid, yn ogystal â’r swyddi a’r twf a ddaw i’r economi lleol.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi’r rhaglen gyda nawdd, ac rwy’n annog pobl ym mhob cwr o Gymru i fanteisio ar y cyfle ardderchog hwn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg LLywodraeth Cymru, Julie James:

Mae darparu gwasanaeth rhyngrwyd cyflymach i gartrefi a busnesau yng Nghymru yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Dyna pam bod Llywodraeth Cymru yn ymroddedig, drwy raglen Cyflymu Cymru, i gyflwyno band eang cyflymach ledled y wlad.

Mae adroddiad diweddaraf Ofcom yn dangos mai Cymru sy’n gwneud y cynnydd cyflymaf ymhlith yr holl wledydd datganoledig o ran dod â band eang cyflym iawn i gartrefi a busnesau.

Mae cyfraniad Cymru i’r 3 miliwn o gartrefi a busnesau ledled y DU hefyd yn arwyddocaol, gyda dros 482,000 ohonynt yn awr yn gallu derbyn band eang cyflymach.

Dywed Bill Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr BT ar gyfer Mynediad y Genhedlaeth Nesaf:

Mae heddiw yn garreg filltir hynod bwysig arall yn y rhaglen i gyflwyno technoleg gyffrous sy’n gweddnewid bywydau cymunedau ledled Cymru a’r DU yn ei chyfanrwydd.

Mae buddsoddiad BT mewn band eang cyflym iawn, sydd werth biliynau o bunnoedd, drwy ei gyfraniad at bartneriaethau a’i raglen fasnachol ei hun, eisoes wedi darparu band eang ffibr i gannoedd o filoedd o aelwydydd a busnesau yng Nghymru – ac mae’r ffigur yn parhau i gynyddu’n gyflym. Mae ein peirianwyr yn cyflwyno’r dechnoleg yn arbennig o gyflym, gan gyrraedd miloedd o gartrefi a busnesau ychwanegol bob wythnos.

Mae partneriaethau band eang llwyddiannus yn creu cymynrodd barhaol, cymynrodd a fydd yn chwarae rhan allweddol yn ffyniant cymunedau i’r dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod.

Gall cartrefi a busnesau ganfod mwy o wybodaeth am dderbyn band eang cyflym iawn yma

Cyhoeddwyd ar 12 August 2015