Datganiad i'r wasg

Cyfleusterau ar lawr gwlad ledled Cymru yn rhannu buddsoddiad o £1.2 miliwn

Mae'r cyllid yn rhan o fuddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau aml-chwaraeon mewn cydweithrediad â Cymru Football Foundation

Ysgol Y Grango students in football practice, using the 3G pitch delivered with the grassroots sport funding.

  • Mae 43 o safleoedd yn derbyn cyfran o £1.2 miliwn fel rhan o fuddsoddiad parhaus y Llywodraeth mewn cyfleusterau aml-chwaraeon ar y cyd â Sefydliad Pêl-droed Cymru
  • Llywodraeth y DU yn ailddatgan ei hymrwymiad i wella mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel a chynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru
  • Mae buddsoddiad cyfalaf parhaus o £300 miliwn ledled y DU yn parhau i feithrin capasiti ar gyfer ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli

Bydd pobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn elwa’n uniongyrchol o fuddsoddiad diweddaraf Llywodraeth y DU o £1.2 miliwn mewn cyfleusterau aml-chwaraeon o ansawdd uchel, mewn partneriaeth â Sefydliad Pêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth ar gyfer 2022/23, bydd mwy o gyfranogwyr ar lawr gwlad yng Nghymru yn gweld eu cyfleusterau’n gwella. Bydd y cyfleusterau sydd ar gael yn cynyddu a bydd gwell mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer pêl-droed, hoci a chwaraeon eraill ar lawr gwlad. Dewiswyd 43 o safleoedd ar gyfer cyllid ledled Cymru fel rhan o ddyraniad cyllid 2022/23.

Un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth yw gwella mynediad at gyfleusterau chwaraeon cymunedol ym mhob rhan o’r DU, i helpu cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau’r holl fanteision iechyd meddwl a chorfforol sy’n gysylltiedig â ffyrdd egnïol ac iach o fyw.

Mae’r buddsoddiad diweddaraf yn rhan o fuddsoddiad parhaus dros sawl blwyddyn y Llywodraeth o £300 miliwn mewn meysydd aml-chwaraeon ar lawr gwlad ledled y DU erbyn 2025 – bydd dros £13 miliwn o hyn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.

Dywedodd Lucy Frazer, yr Ysgrifennydd Diwylliant:

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella mynediad at chwaraeon, sydd mor bwysig i iechyd corfforol a meddwl y genedl.

Heddiw, rydyn ni’n darparu 43 o gyfleusterau chwaraeon newydd, gwell ar lawr gwlad ledled Cymru er mwyn parhau i gefnogi, cynnal a thyfu chwaraeon cymunedol a chwaraeon ar lawr gwlad – fel bod gweithgareddau corfforol ar gael i bawb, beth bynnag fo’u cefndir a ble bynnag y maen nhw.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i feithrin talent y dyfodol gan wneud yn siŵr ar yr un pryd bod gan gymunedau lleol y cyfleusterau chwaraeon sydd eu hangen arnyn nhw.

Un o nodau canolog y rhaglen yw gwella mynediad at gyfleusterau chwaraeon cymunedol a buddsoddi yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU, er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan mewn chwaraeon. Er mwyn cyflawni hyn, ac er mwyn sicrhau mynediad sydd ei angen ar bob cymuned, bydd o leiaf 50% o’r buddsoddiad yn cael ei wario mewn ardaloedd difreintiedig.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, gan helpu clybiau a grwpiau i sicrhau’r manteision iechyd a chymdeithasol enfawr a ddaw yn sgil chwaraeon.

Rwyf wrth fy modd bod y cyllid hwn yn cael ei ddosbarthu i gymunedau ar hyd a lled Cymru, gan alluogi cenedlaethau’r dyfodol i ddatblygu eu sgiliau yn y byd chwaraeon. Drwy weithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill, rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod llwyddiant gwych diweddar chwaraeon Cymru yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Dyma rai o’r cyfleusterau a fydd yn elwa o fuddsoddiad yng Nghymru yn 2022/23:

  • Mae Parc Darran yng Nglynrhedynnog wedi cael dros £170,000 i uwchraddio eu maes 3G;
  • Mae Stadiwm Essity yn y Fflint wedi cael dros £40,000 ar gyfer llifoleuadau;
  • Mae Maes Chwaraeon Hamdden Tredegar yn Park Hill wedi cael dros £18,000 ar gyfer llifoleuadau, storfa, pyst gôl a lloches;
  • Mae Parc Underhill yn y Mwmbwls, Abertawe wedi cael £190,000 ar gyfer cae glaswellt artiffisial newydd;
  • Mae Caeau Chwarae Evans Bevans ym Mhort Talbot wedi cael dros £27,000 ar gyfer uwchraddio caeau glaswellt.

Mae rhestr lawn o’r cyfleusterau a fydd yn elwa o fuddsoddiad yng Nghymru yn 2022/23 ar gael yma.

Bydd 40% y cant o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyfleusterau aml-chwaraeon, gan sicrhau bod amrywiaeth eang o chwaraeon yn cael eu cefnogi a helpu i sicrhau manteision y tu hwnt i bêl-droed. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n benodol ar gynyddu cyfranogiad ymysg grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli fel menywod a merched, ac unigolion sydd ag anabledd.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn canolbwyntio ar wella safon cyfleusterau pêl-droed ar lawr gwlad ledled Cymru ac ar gefnogi clybiau pêl-droed i fod yn ganolfannau cymunedol sy’n dod â manteision cymdeithasol, iechyd ac economaidd i’r ardaloedd maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae’r buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd drwy Sefydliad Pêl-droed Cymru, sydd wedi bod yn bosibl drwy gyllid gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn enghraifft berffaith o hyn.

Mae Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Sefydliad Pêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yn parhau i adeiladu ar ei buddsoddiad o £1.3 miliwn yn 2021/22, gyda chyfanswm o £1.2 miliwn arall wedi’i gadarnhau heddiw a 60 o safleoedd yng Nghymru wedi elwa hyd yma.

Drwy gydol cylch bywyd y rhaglen buddsoddi mewn cyfleusterau aml-chwaraeon ar lawr gwlad, a fydd yn rhedeg tan 2025, bydd Cymru’n cael cyfanswm o dros £13 miliwn i helpu i feithrin talent y dyfodol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 20 May 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 May 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation