Datganiad i'r wasg

Mae’n amser gosod eich hwyaid mewn rhes, gyda llai na mis ar ôl

Mae CThEM yn annog pob cwsmer Hunanasesiad i lenwi ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2020.

Decorative image of ducks with text 'Do it by 31 Jan GOV.UK/Self Assessment'/Gwnewch e erbyn 31 Ion GOV.UK/ffurflenni-treth-hunanasesiad

Mae gan tua 5.4 miliwn o drethdalwyr lai na mis i lenwi eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr.

Mae disgwyl i dros 11 miliwn o Ffurflenni Treth ar gyfer 2018-2019 ddod i law Cyllid a Thollau EM (CThEM) erbyn diwedd mis Ionawr. Mae tua 54% o drethdalwyr eisoes wedi cyflwyno eu Ffurflenni Treth, ac roedd dros 5.6 miliwn o’r rheiny wedi’u llenwi ar-lein (89% o’r holl Ffurflenni Treth sydd wedi’u cyflwyno).

Gweler cymorth ac arweiniad ar gyfer Hunanasesiad ar GOV.UK.

Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad, sef 31 Ionawr, yma cyn pen dim, ac felly mae gan gwsmeriaid ychydig yn llai na mis i gyflwyno eu Ffurflenni Treth ar-lein er mwyn osgoi cosbau diangen. Mae’n rhaid talu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr hefyd.

Rydym yn gwybod y gall hyn beri pryder – ac nid yn unig pan fo’r symiau dan sylw yn rhai sylweddol – ac felly byddwn yn annog unrhyw un sy’n rhagweld trafferthion o ran talu ei dreth i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i helpu ac i roi cymorth ymarferol.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad am y tro cyntaf, neu os nad ydych wedi dechrau ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2018-2019 hyd yn hyn, mae yna ystod eang o gymorth ac arweiniad ar gael ar GOV.UK i helpu ar bob cam o’r broses.

I unrhyw gwsmer sydd heb ddechrau llenwi ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018-2019 hyd yn hyn, gall ffilmiau a gweminarau helpu gyda phob cam o’r broses, gydag arweiniad pwrpasol ar gyfer amgylchiadau amrywiol unigolion, gan gynnwys fideo sydd wedi’i anelu’n benodol at unrhyw gwsmer sy’n llenwi Ffurflen Dreth am y tro cyntaf.

Mae help i’w gael hefyd ar wefan GOV.UK neu gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900 ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n rhaid i unigolyn lenwi Ffurflen Dreth os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • cafodd ef neu ei bartner Fudd-dal Plant, ac roedd gan y naill neu’r llall incwm blynyddol o fwy na £50,000
  • cafodd fwy na £2,500 o incwm arall heb ei drethu, er enghraifft:
    • o ganlyniad i gildyrnau neu gomisiwn
    • arian o roi eiddo ar osod
    • incwm o gynilion, buddsoddiadau a difidendau
    • incwm tramor
  • mae’n hunangyflogedig fel unig fasnachwr, ac wedi ennill mwy na £1,000
  • mae’n bartner mewn partneriaeth busnes
  • mae’n gyflogai sy’n hawlio mwy na £2,500 o dreuliau
  • mae ganddo incwm blynyddol dros £100,000

Os llenwodd cwsmer Ffurflen Dreth Hunanasesiad y llynedd ond nid oedd ganddo dreth i’w thalu, mae dal yn rhaid iddo lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer 2018-2019, oni bai bod CThEM wedi ysgrifennu ato i roi gwybod nad oes angen gwneud hynny.

Gall unrhyw gwsmer nad yw’n siŵr a oes yn rhaid iddo lenwi Ffurflen Dreth ddefnyddio’r twlsyn hwn i wirio hynny.

Rhagor o wybodaeth

Crynodeb o ffeithiau ynghylch Hunanasesiad:

  • 11,718,339 – cyfanswm y Ffurflenni Treth Hunanasesiad i’w cyflwyno (11.7 miliwn)
  • 6,293,550 – cyfanswm y Ffurflenni Treth a gyflwynwyd erbyn 31 Rhagfyr 2019
  • 34,488 – nifer y Ffurflenni Treth a gyflwynwyd ar 31 Rhagfyr 2019
  • 5,424,789 – nifer y Ffurflenni Treth a oedd heb eu cyflwyno erbyn 31 Rhagfyr 2019
  • 5,630,496 – nifer y Ffurflenni Treth sydd wedi’u cyflwyno ar-lein (89% o gyfanswm y rhai sydd wedi’u cyflwyno) erbyn 31 Rhagfyr 2019
  • 663,054 – nifer y Ffurflenni Treth sydd wedi’u cyflwyno ar bapur (11% o gyfanswm y rhai sydd wedi’u cyflwyno) erbyn 31 Rhagfyr 2019
  • 17,080 – nifer y Ffurflenni Treth a gyflwynwyd ar 1 Ionawr 2020

Y cosbau ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr yw:

  • cosb benodol gychwynnol o £100, sy’n gymwys hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, neu os yw’r dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd
  • ar ôl 3 mis, gellir codi cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900
  • ar ôl 6 mis, cosb bellach o 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf
  • ar ôl 12 mis, cosb bellach o 5% neu £300, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf

Mae yna gosbau ychwanegol am dalu’n hwyr hefyd, sef 5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar ôl 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis. Codir llog ar bob taliad hwyr.

Mae’r llinell Gymraeg ar agor tan 5pm ar 30 Ionawr a than 8pm ar 31 Ionawr, a bydd y llinellau cymorth Saesneg ar agor tan 8pm ar y ddau ddiwrnod. Gall cwsmeriaid sydd eisiau siarad Saesneg gysylltu â ni drwy’r gwasanaeth sgwrs dros y we tan hanner nos ar y ddau ddiwrnod hynny.

Mae treth yn cael ei didynnu’n awtomatig o gyflogau, pensiynau neu gynilion y rhan fwyaf o drethdalwyr yn y DU. Ond, mae’n rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau nad ydynt yn cael treth wedi’i didynnu’n awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.

Byddwch yn wyliadwrus o wefannau sy’n dynwared gwefannau eraill a sgamiau gwe-rwydo – gofalwch eich bod bob amser yn teipio’r cyfeiriad ar-lein llawn http://www.gov.uk/cymraeg i ddod o hyd i’r cysylltiad cywir er mwyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim.

Mae CThEM yn defnyddio’ch cyfeiriad cartref i benderfynu a ddylech fod yn talu Cyfradd Treth Incwm Cymru, Cyfradd yr Alban o Dreth Incwm neu Gyfradd y DU o Dreth Incwm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi’ch cyfeiriad cartref diweddaraf drwy fynd i’ch Cyfrif Treth Personol neu https://www.gov.uk/rhoi-gwybod-i-cthem-newid-manylion.

Gall cwsmeriaid hefyd gofrestru ar gyfer gwasanaeth e-bost CThEM o ran help a chymorth yma neu drwy fynd i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC videos, webinars and email alerts’.

Cyhoeddwyd ar 3 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 January 2020 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.