Datganiad i'r wasg

Hwb ariannol gwerth £650 miliwn i Gymru

Bydd yr arian hwn yn cefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae coronafeirws yn effeithio arnynt.

Image of coins
  • Mae Llywodraeth y DU yn darparu £650 miliwn ychwanegol i’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael â’r coronafeirws.
  • Gellir gwario’r arian yn awr neu ei gario drosodd i’w wario ym mlwyddyn ariannol 2021/22, gan ddarparu hyblygrwydd hanfodol a digynsail.
  • Mae’r arian yn ychwanegol at y £5.2 biliwn sydd eisoes wedi’i ddarparu ar gyfer eleni drwy warant Barnett a dalwyd ymlaen llaw, gan ddod â’r cyfanswm i £5.85 biliwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £650 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r gwasanaethau cyhoeddus y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt.

Mae’r cyllid hwn yn dod â’r cyfanswm a ddyrannwyd drwy fformiwla Barnett i Lywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig i £5.85 biliwn.

I gydnabod yr amgylchiadau eithriadol ac mewn ymateb i alwadau am hyblygrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cario faint bynnag o’r £650 miliwn sydd ddim yn cael ei wario eleni drosodd i flwyddyn ariannol 2021/22. Mae hyn ar ben yr adnoddau sydd ganddynt eisoes i drosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Rydym ni yn Llywodraeth y DU wedi bod yn ddi-ildio yn ein penderfyniad i gael y gefnogaeth angenrheidiol i bob rhan o’r DU, a bydd cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu at y gefnogaeth honno i Gymru, gan wneud cyfanswm o £5.85 biliwn.

Mae hynny’n ychwanegol at holl becynnau cymorth eraill Llywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun ffyrlo, y Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan a’r amrywiol fenthyciadau busnes.

Mae’n bwysig bod y cyllid hwn nawr yn cyrraedd y busnesau a’r unigolion perthnasol ledled Cymru wrth i ni geisio ailadeiladu economi’r DU.

Yn dilyn y diweddariad blaenorol ar 24 Rhagfyr, rydym yn rhagweld mai hwn fydd y diweddariad terfynol ar gyfer 2020-21 fel rhan o’r broses o gwblhau cyllid adrannol yng nghyswllt Amcangyfrifon Atodol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 16 February 2021