Datganiad i'r wasg

Technolegau trawiadol Prydain i gael eu hybu yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghymru yn 2014

Technolegau arloesol i gael eu harddangos yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU Cymru 2014 (20 i 21 Tachwedd 2014).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae cwch cyflym perfformiad uchel tebyg i gwch y byddech yn disgwyl gweld James Bond yn ei yrru ac sy’n trawsnewid yn gwch tanddwr effeithlon, a hefyd beic metel 3D cyntaf y DU wedi’i argraffu, yn 2 o’r technolegau arloesol sydd i gael eu harddangos yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU Cymru 2014.

Mae’r gynhadledd (20 i 21 Tachwedd 2014) yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd, a gefnogir gan lywodraethau’r DU a Chymru, yn dod â mwy na 250 o fuddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnes a gweinidogion at ei gilydd, a hefyd yn denu digwyddiad byd-eang uchel ei broffil arall i Gymru yn dynn ar sodlau Uwchgynhadledd NATO.

Bydd yn ffenest siop fyd-eang i arloesi a sgiliau Prydain, gyda nifer o gynhyrchion a thechnolegau wedi’u datblygu yn y DU, gan gynnwys Cymru, yn rhan ganolog o’r arddangosfa a gynhelir ochr yn ochr â’r gynhadledd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cynhyrchion hyn yn enghreifftiau eithriadol o pam mae ein cenedl yn haeddu ei henw da cynyddol yn fyd-eang am arloesi. Bydd y dyfeisgarwch, y talentau a’r sgiliau hyn yn cael eu harddangos i fuddsoddwyr rhyngwladol yn yr uwchgynhadledd y mis yma ac ni fydd ganddynt unrhyw amheuaeth ynghylch gosod Cymru ar frig eu rhestr fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi ynddo.

Mae calibr y cynhyrchion hyn hefyd yn dangos bod ein cynllun economaidd tymor hir yn creu’r amodau priodol i fusnesau yng Nghymru feithrin hyder i fuddsoddi mewn datblygu cynhyrchion technolegol, creu swyddi a sbarduno twf.

Dywedodd Prif Weithredwr Masnach a Buddsoddi’r DU, Dominic Jermey:

Mae arloesi a dyfeisgarwch yn rhan gwbl greiddiol o Gymru ac o’r DU yn gyffredinol. Dyma sy’n hoelio sylw buddsoddwyr a phartneriaid busnes o bob cwr o’r byd.

Gyda phythefnos i fynd tan Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghasnewydd, mae’n gyffrous gweld rhai o’r cynlluniau’n cael eu harddangos, o Gymru ac o bob cwr o’r DU. Mae’r DU wir yn cynnig byd o gyfleoedd buddsoddi.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru:

Mae’r detholiad bychan hwn o gynhyrchion a thechnolegau unigryw sydd wedi’u datblygu a’u gweithgynhyrchu yng Nghymru’n hysbyseb wych i allu ac arbenigedd Cymru. Mae’n dangos yn eithaf clir bod gan Gymru’r sgiliau, y dechnoleg a’r arbenigedd sydd eu hangen i ehangu busnes llwyddiannus a’i fod yn lleoliad gwych i gwmnïau arloesol sydd eisiau buddsoddi.

Mae’r detholiad o gynhyrchion arloesol sydd wedi’u cadarnhau hyd yma’n cynnwys y canlynol.

  • beic modur pwrpasol cyntaf y byd gyda chelloedd tanwydd hydrogen, wedi’i wneud gan gwmni o Loughborough, Intelligent Energy
  • cwmni technoleg lân o Lundain, Pavogen, sydd wedi arloesi’n fyd-eang gyda thechnoleg llawr – technoleg sy’n trawsnewid yr ynni cinetig a wastreffir gan ein camau wrth gerdded yn drydan adnewyddadwy
  • Cerbydau Erial Heb Oruchwyliaeth wedi’u gwneud gan Maplebird yng Nghaerfaddon sydd wedi creu patent injan i yrru hediad adain sy’n chwifio fel adain pryf
  • bydd offer gwarchodol personol gyda thechnoleg gwarchod effaith o batent unigryw yn cael ei arddangos gan D30 o Brighton
  • model o awyren Airbus A380 – awyren fwyaf y byd – o Frychdyn, Cymru
  • beic mynydd 4 olwyn a yrrir gan ddisgyrchiant ar gyfer pobl sy’n mwynhau chwaraeon eithafol, wedi’i greu gan Project Enduro yn Abertawe
  • mae Raspberry Pi (Pencoed), y cyfrifiadur bach maint cerdyn credyd – un o’r cyfrifiaduron personol lleiaf yn y byd – sy’n dysgu myfyrwyr i raglennu cyfrifiaduron, yn cael ei wneud yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK
  • ffrâm beic metel 3D cyntaf y byd wedi’i argraffu, gan Renishaw yng Nghaerdydd
  • cerbyd dŵr sy’n symud ar draws ac o dan ddŵr gan Scubacraft Ltd ar Ynys Môn
  • Sure Chill yn Nhywyn, Cymru, sydd wedi datblygu technoleg i gadw oergelloedd yn oer heb bŵer am fwy na 10 diwrnod, gan gynnwys meddyginiaethau a brechiadau achub bywyd
  • delweddau holograffig a 3D ar gyfer hysbysebu ac adwerthu, addysg, gwyddoniaeth a meddygaeth, peirianneg, amgueddfeydd a threftadaeth gan View Holographics yn Llanelwy, Cymru
Cyhoeddwyd ar 7 November 2014