Datganiad i'r wasg

£8.6 biliwn yn ychwanegol i Gymru ers dechrau pandemig Covid-19

Mae cyllid Llywodraeth y DU wedi cefnogi busnesau, swyddi ac wedi helpu i gaffael brechlynnau.

Mae Cymru wedi elwa o £8.6 biliwn o gyllid llywodraeth y DU i’r gweinyddiaethau datganoledig, dangoswyd ffigurau a ryddhawyd heddiw gan y Trysorlys.

Mae’r Adroddiad Tryloywder Grantiau Bloc, sy’n gyhoeddiad blynyddol, yn dangos faint mae pob gweinyddiaeth ddatganoledig yn ei dderbyn mewn grant bloc, yn nodi bod grant bloc yr Alban wedi cynyddu £14.5 biliwn ers mis Mehefin 2020, bod cynnydd o £8.6 biliwn yng Nghymru a chynnydd o £5.0 biliwn yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r cyllid hwn wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i unigolion, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru mewn ymateb i Covid-19 a bydd yn parhau i gefnogi’r adferiad drwy 2021-22.

Mae hyn yn ychwanegol at y pecyn cymorth digynsail ar gyfer y DU cyfan drwy gydol y pandemig, gyda £352 biliwn o bunnoedd yn cael eu gwario ledled y DU ar fesurau Covid-19. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys diogelu mwy na 460,000 o swyddi drwy’r cynllun ffyrlo, £173 miliwn mewn cymorth i weithwyr hunangyflogedig, cymorth i fusnesau a chaffael brechlynnau.

Dywedodd Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi Cymru drwy gydol y pandemig, nid yn unig drwy sicrhau grant bloc o £8.6 biliwn i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt allu gweinyddu eu trefniadau, ond hefyd drwy ddarparu’r cynlluniau a’r cyllid angenrheidiol ledled y DU i sicrhau bod unigolion a busnesau ledled y wlad yn cael eu cefnogi drwy’i gydol.

Mae’r gefnogaeth hon, a oedd hefyd yn cynnwys cyflenwi brechlynnau i Gymru, yn parhau i fod yn hanfodol wrth i ni barhau i adeiladu’n ôl yn well. Fe wnaethom ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol drwy’r pandemig, a nawr byddwn yn arwain yr adferiad wrth i ni adeiladu ein ffordd allan ohono.

Dywedodd Steve Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:

Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth y DU bob amser wedi sicrhau bod Cymru yn cael y cymorth cywir – gyda £8.6 biliwn o wariant ychwanegol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi diogelu miliynau o swyddi a busnesau yng Nghymru gyda’r cynlluniau cymorth a ffyrlo, mae’r rhaglen frechu yn datgloi’r economi, ac mae ein Cynllun Swyddi yn cynyddu’r cyfleoedd i godi’r gwastad gan ailgodi’n gryfach ar draws y DU.

Mae Cynllun Swyddi Llywodraeth y DU yn helpu i gefnogi, creu a diogelu swyddi ledled y DU. Mae’r cynllun Kickstart eisoes yn helpu miloedd o bobl ifanc 16-24 oed i gael gwaith. Bydd y cynllun Restart yn helpu tua miliwn o bobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers dros flwyddyn, ac mae 13,500 o Hyfforddwyr Gwaith newydd wedi cael eu recriwtio i roi cymorth wedi’i deilwra i bobl sy’n ddi-waith.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 25 June 2021