Datganiad i'r wasg

Taith yr Hyb Allforio’n ymdrech i hybu masnach dramor Cymru

Busnesau Cymru i gael mwy o help i werthu dramor wrth i ‘sioe deithiol’ allforion UKTI gyrraedd Cymru.

ExportingisGREAT

ExportingisGREAT

Bydd busnesau yng Nghymru a hoffai ystyried cyfleoedd i allforio’n fyd-eang yn gallu manteisio ar gyngor perchnogion busnesau rhyngwladol ac entrepreneuriaid pan fydd Hyb Allforio Exporting is GREAT yn gwibio i’ch rhan chi o’r byd yr wythnos nesaf (15-26 Chwefror).

Bydd y lorri 32 tunnell, 40 troedfedd o hyd yn cynnal cyfres o seminarau, sesiynau galw i mewn a chyfarfodydd un i un ag arbenigwyr ar allforio mewn marchnadoedd ledled y byd yn ystod y daith bythefnos o hyd drwy Gymru.

Mae Taith yr Hyb Allforio o Gymru yn gynllun ar y cyd thwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r ymgyrch Exporting is GREAT sy’n cael ei rhedeg ledled y DU. Nod yr ymgyrch yw cael 100,000 o gwmnïau’n ychwanegol i allforio erbyn 2020.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Mewn marchnad sy’n un gynyddol fyd-eang, ni fu erioed gyfle gwell i fusnesau Cymreig i ymestyn allan i gwsmeriaid newydd ac i diriogaethau gwerthfawr y tu hwnt i’r DU.

Mae’r ymgyrch Exporting is GREAT yn cynnig y cymorth sydd ei angen ar gwmnïau o Gymru sydd am allforio am y tro cyntaf i fanteisio ar farchnadoedd rhyngwladol ac i fachu ar y cyfleoedd i dyfu sy’n dod yn eu sgil.

Ein cenhadaeth yw bod yn genedl sy’n allforio mwy, rhoi hwb i hyder busnesau ac i falchder cenedlaethol, a grymuso mwy o’n cwmnïau cynhenid i ddangos i’r byd yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.

Bydd y daith yn cychwyn yn Noc Penfro ddydd Llun 15 Chwefror, a bydd y lorri wedyn yn mynd yn ei blaen o wyth o leoliadau eraill yn y Gogledd, y De a’r Canolbarth.

Bydd Cyllid Allforio’r DU – yr asiantaeth credyd allforio genedlaethol – wrth law i gynnig cymorth i gwmnïau Cymreig o bob maint, gan eu helpu i wireddu cyfleoedd i allforio drwy arweiniad gan ei chynghorydd cyllid allforio arbenigol a thrwy yswiriant a gwarantau banc i hwyluso contractau allforio.

Gofynnir i gwmnïau a hoffai fod yn bresennol yn y sesiynau galw i mewn neu drefnu sesiynau 1-i-1 gofrestru eu diddordeb ar wefan Busnes Cymru lle ceir rhagor o wybodaeth am y canolfannau.

Nodiadau i Olygyddion

  • Ar yr Hyb Allfori bydd busnesau’n gallu defnyddio sgriniau rhyngweithiol i gael gafael ar wybodaeth ar wefan Exporting is GREAT sy’n cynnwys rhestrau a diweddariadau am dros 1000 o gyfleoedd i allforio a gyhoeddwyd gan gwmnïau, sefydliadau a llywodraethau tramor sy’n chwilio’n benodol am gyflenwyr a gweithgynhyrchwyr o’r DU. Mae’n cynnig cyfleoedd allforio amser real y gall busnesau wneud cais amdanynt ar-lein.

  • Mae enghreifftiau o’r rhestrau presennol yn amrywio o gwmni o China sy’n chwilio am gig wedi’i rewi o Brydain i fewnforiwr cwrw o Frasil sy’n chwilio am frandiau newydd; o gwmni o Singapôr sy’n chwilio am arbenigedd i fonitro a gwerthuso treialon cerbydau awtomatig i Gwmni Ymgynghori o Dwrci sy’n chwilio am bartner ar gyfer tendr ar gyfer Prosiect Twnnel o dan y Môr yn Istanbul.

  • Bydd modd i fusnesau gael cyngor gan Fusnes Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyllid Allforio’r DU, asiantaeth credyd allforio’r DU.

Amserlen a lleoliadau’r Hyb Allforio:

15 Chwefror, Canolfan Arloesi’r Bont, Doc Penfro – (9am- 2pm digwyddiad lansio);

16 Chwefror, Stadiwm Liberty, Abertawe (10am- 2pm, Skype ag arbenigwr yn y farchnad yng Ngweriniaeth Tsiec);

17 Chwefror, Y Gweithfeydd, Glynebwy (10am – 2pm, Seminar ar Opsiynau Taliadau Allforio);

18 Chwefror, Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd (10am – 2pm, arbenigwr ar y farchnad o Tsieina);

19 Chwefror, Industrial Automation & Control Ltd (IAC) Delta House, Meadows Road, Queensway Meadows, Casnewydd, NP19 4SS, (10am-12.30pm, cyfleoedd i allforio yn India);

22 Chwefror, Parc Menai, Bangor (10am – 2pm, arbenigwr ar y farchnad o Ganada);

23 Chwefror, Canolfan OpTIC, Llanelwy (10am- 2pm, Skype ag arbenigwr ar y farchnad o’r Almaen);

24 Chwefror, Cefn Lea, Dolfor, Y Drenewydd, SY16 4AJ (10am- 2pm, arbenigwr ar y farchnad o Tsieina)

25 Chwefror, Calbee UK, First Avenue, Sgwâr Newtech, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, CH5 2AW (10am- 2pm, arbenigwr ar y farchnad o India);

26 Chwefror, Stadiwm y Cae Ras Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam (9am- 4pm Cyfleoedd i Allforio yn y Gwlff). Bydd pwyslais penodol ar gynnal busnes yn y Gwlff gyda chynrychiolwyr yn bresennol o Qatar, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Saudi Arabia a Kuwait. Ni fydd yr Hyb yn bresennol yn y digwyddiad hwn.

Cyhoeddwyd ar 11 February 2016