Datganiad i'r wasg

Pob canolfan waith yng Nghymru i gynnig Credyd Cynhwysol o heddiw ymlaen

Alun Cairns: Gwaith o ddiwygio lles yng Nghymru yn trawsnewid bywydau

  • Mae pob canolfan waith yng Nghymru yn cynnig Credyd Cynhwysol erbyn hyn - y genedl gyntaf i gwblhau’r gwaith o’i gyflwyno yn y Deyrnas Unedig

  • Yn ôl y Gweinidog Diwygio Lles, David Freud, mae’r Credyd Cynhwysol “yn helpu pobl i symud i fyd gwaith yn gyflymach ac i ennill mwy o arian”

  • Mae dros 4,000 o bobl ledled Cymru wedi symud i fyd gwaith o dan y Credyd Cynhwysol

Daw’r Credyd Cynhwysol i saith canolfan waith arall yng Nghymru heddiw, sy’n golygu bod pob un o’r 62 canolfan waith ar draws y wlad yn awr yn cynnig y budd-dal newydd i unigolion sy’n ceisio gwaith.

Mae’r Credyd Cynhwysol yn symleiddio’r system fudd-daliadau ac mae wedi ei gynllunio i bobl elwa ar weithio. Mae’n sgubo ymaith gymhlethdodau a maglau’r system fudd-daliadau flaenorol ac mae’n ganolog i ddiwygiadau lles y Llywodraeth un-genedl hon.

Mae mwy na 11,000 o bobl yn hawlio’r Credyd Cynhwysol yn barod ar draws Cymru - ac mae bron 40% o’r rhai sy’n hawlio yn gweithio.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’r gwaith o ddiwygio lles yng Nghymru yn trawsnewid bywydau pobl o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig er gwell. Mae’r Credyd Cynhwysol yn symleiddio’r system dreth a budd-daliadau gan gefnogi’r rhai sydd ar yr incwm isaf wrth wneud hynny.

Bydd diwygio lles a chefnogi pobl yn ôl i fyd gwaith yn helpu i sicrhau dyfodol mwy disglair i bobl ar draws Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Diwygio Lles, David Freud:

Mae heddiw yn garreg filltir bwysig yn ein chwyldro lles, gyda’r Credyd Cynhwysol ar gael ledled Cymru bellach.

Mae Credyd Cynhwysol yn helpu pobl i symud i fyd gwaith yn gyflymach ac i ennill mwy o arian. Yn barod, mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn gweithio yng Nghymru, a chyda chymorth y Credyd Cynhwysol, rydym yn awyddus i helpu mwy fyth o bobl i gael y sicrwydd a ddaw yn sgil swydd a phecyn tâl.

Gan chwarae rôl allweddol yn niwygiadau lles y Llywodraeth, mae’r Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-daliad gydag un taliad misol ac yn creu system les sydd wedi ei chynllunio i bobl elwa ar weithio.

Ar draws y Deyrnas Unedig mae mwy na 95% o ganolfannau gwaith wedi mabwysiadu’r gwasanaeth newydd erbyn hyn, a bydd y ddarpariaeth ar gael ym mhob man erbyn y gwanwyn eleni. Ar ôl cyflwyno’r ddarpariaeth yn llawn, disgwylir i ffigurau cyflogaeth genedlaethol gynyddu cymaint â 300,000.

Ar draws y wlad mae dros 400,000 o bobl wedi hawlio’r Credyd Cynhwysol erbyn hyn, gyda thros 10,000 yn rhagor yn gwneud hawliadau newydd bob wythnos.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae’r Credyd Cynhwysol yn awr ar gael ym mhob un o 62 canolfan waith Cymru
  • Mae 11,213 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd
  • Gyda 4,440 (40%) o’r rheini’n gweithio
  1. Ledled y Deyrnas Unedig, mae’r Credyd Cynhwysol yn awr ar gael mewn 95% o’r holl ganolfannau gwaith (681) , gan gynnwys pob un yng ngogledd orllewin Lloegr, lle mae ar gael i gyplau a theuluoedd hefyd.

  2. Ar 21 Mawrth bydd y Credyd Cynhwysol ar gael i’r holl unigolion sy’n hawlio o’r newydd yn: * Aberdâr * Llantrisant * Aberpennar * Pontypridd * Porth * Tonypandy * Treorci

  3. Mae’r adroddiad Credyd Cynhwysol ar Waith diweddaraf yn dangos am bob 100 o bobl oedd yn dod o hyd i waith dan yr hen Lwfans Ceisio Gwaith, bydd 113 o hawlwyr Credyd Cynhwysol wedi cael swydd.

  4. Telir Credyd Cynhwysol bob mis, gan adlewyrchu’r ffordd y caiff y rhan fwyaf o bobl eu talu i weithio.

  5. Bydd Credyd Cynhwysol yn y pen draw yn disodli; * Lwfans Ceisio Gwaith * Cymhorthdal Incwm
    * Lwfans Cyflogaeth a Chymorth * Credyd Treth Gwaith * Credyd Treth Plant * Budd-dal Tai

  6. Gyda mynediad at ddata Enillion Amser Real Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, bydd y Credyd Cynhwysol yn arbed dros £1 biliwn i drethdalwyr bob blwyddyn drwy ostwng achosion o dwyll, gwallau a gordaliadau.

Cyhoeddwyd ar 21 March 2016