Datganiad i'r wasg

Cael gwared â signal ffonau symudol gwael yn y Deyrnas Unedig

Mae Cymru yn mynd i elwa o gynlluniau Llywodraeth y DU i gael gwared â signal ffonau symudol gwael yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant heddiw bod defnyddwyr ffonau symudol mewn nifer o ardaloedd y Deyrnas Unedig yn dioddef yn aml o signal gwael ac felly yn methu â gwneud galwadau neu anfon negeseuon testun.

Mae gan yr ardaloedd hyn - sy’n cael eu galw’n ‘fannau gwan rhannol’ – signal gan rai ond nid pob un o’r pedwar rhwydwaith symudol (EE, O2, Three a Vodafone). Gan ddibynnu ar ba rwydwaith y mae’r cwsmeriaid arno, mae’n bosib iddynt gael dim signal o gwbl.

Yng Nghymru, mae yna nifer helaeth o fannau gwan sydd â signal ar un neu ddau o’r rhwydweithiau yn unig. Mae’r rhain yn cynnwys Ceredigion, Conwy, Powys, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

Mae’r Ysgrifennydd yn benderfynol o wella signal y pedwar rhwydwaith yn yr ardaloedd hyn ac mae ef felly wedi lansio ymgynghoriad ar yr amryw gynigion deddfwriaethol all helpu i gyflawni hyn.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r Llywodraeth gael barn ar y cynigion hyn gan yr holl bartïon a chanddynt fuddiant.

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r cwmnïau ffôn yn y misoedd diwethaf er mwyn ceisio cael datrysiad gwirfoddol ac mae disgwyl i’r gwaith hwn gan y diwydiant barhau wrth i’r ymgynghoriad fod ar waith.

Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant:

Rwyf yn benderfynol o sicrhau bod gan y Deyrnas Unedig signal ffonau symudol o safon fyd-eang a bydd buddsoddiad mewn seilwaith yn helpu i lywio cynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth.

Mewn un rhan o bump o’r Deyrnas Unedig mae pobl yn cael trafferth wrth ddefnyddio eu ffonau symudol i wneud galwad, ac mae hynny’n hollol annerbyniol. Dydy’r Llywodraeth ddim am weld hynny’n parhau.

Rydym wedi bod yn siarad â’r cwmnïau ffonau symudol ynglŷn â’r broblem ac maen nhw’n gweithio gyda ni i ddod o hyd i ddatrysiad.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ategu’r gwaith y mae’r diwydiant yn ei wneud ac yn gadael i’r Llywodraeth glywed gan y sector telathrebu ehangach, busnesau a’r cyhoedd.

Mae busnesau wedi gwneud pwysigrwydd ffonau symudol yn hollol glir, a bydd signal gwell yn helpu i gyflawni diogelwch swyddi a diogelwch economaidd.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae’n hollbwysig bod Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, yn gallu defnyddio signal ffonau symudol o safon fyd-eang ac rwyf yn annog yn gryf bod busnesau yn cyfrannu at yr ymgynghoriad pwysig hwn.

Mae signal ffonau symudol gwell yng Nghymru yn hanfodol i fusnesau yng Nghymru ac yn rhan allweddol o’n cynllun economaidd tymor hir i wneud Cymru yn lle mwy atyniadol fyth i fuddsoddi ynddo a chreu swyddi yma.

Cyhoeddwyd ar 5 November 2014