Datganiad i'r wasg

Medal Ebola i dros 3000 o arwyr

Mae medal newydd wedi cael ei chreu i gydnabod dewrder a gwaith caled y bobl sydd wedi helpu i atal Ebola rhag lledaenu.

Heddiw (11 Mehefin 2015), mae’r Llywodraeth wedi rhoi manylion medal newydd a fydd yn cydnabod dewrder a gwaith caled miloedd o bobl sydd wedi helpu i fynd i’r afael ag Ebola yng ngorllewin Affrica.

Disgwylir y bydd y fedal yn cael ei chyflwyno i dros 3,000 o bobl a deithiodd o’r DU i weithio mewn ardaloedd risg uchel i atal lledaeniad yr afiechyd.

Dyma’r tro cyntaf i fedal gael ei chreu yn benodol i gydnabod y rheini sydd wedi ceisio atal argyfwng dyngarol ac mae’n cael ei rhoi i gydnabod yr amgylchedd peryglus iawn yr oedd yn rhaid i weithwyr fynd iddo.

Dylunydd y fedal yw John Bergdahl, sydd wedi bod yn engrafwr ers dros 40 mlynedd, ac yn ddiweddar mae wedi dylunio set newydd o ddarnau arian i ddathlu genedigaeth y Tywysog George. Cafodd dyluniad Mr Bergdahl ei ddewis yn dilyn cystadleuaeth a gafodd ei chynnal gan Bwyllgor Cynghori’r Bathdy Brenhinol. Mae’n dangos fflam ar gefndir sy’n portreadu’r firws Ebola - uwch ei ben y mae’r geiriau “For Service” ac o dan “Ebola Epidemic West Africa”.

Ar y wyneb blaen mae llun o Ei Mawrhydi’r Frenhines a ddyluniwyd gan Ian Rank-Broadley.

Bydd y fedal yn cael ei rhoi i sifiliaid a phersonél milwrol sydd wedi bod yn helpu i drin Ebola ar ran y DU yng ngorllewin Affrica. Yn eu plith y mae aelodau o’n lluoedd arfog, meddygon a nyrsys o’r GIG, arbenigwyr labordy ac aelodau o’r gwasanaeth sifil a chyrff anllywodraethol. Mae pwy sy’n gymwys i’w derbyn yn cael ei nodi’n fanwl mewn papur gorchymyn a gyhoeddwyd heddiw.

Bydd y medalau cyntaf yn cael eu rhoi mor gynnar â’r haf hwn a byddant yn parhau i gael eu rhoi wedi hynny. Bydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad haf i longyfarch yn bersonol rai o’r bobl a fydd yn ei derbyn.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:

Roedd yr afiechyd Ebola yn un o epidemigau mwyaf dychrynllyd ein cenhedlaeth. Ond gwnaethom lwyddo i’w atal rhag lledaenu diolch i waith caled pobl o Brydain a deithiodd i orllewin Affrica.

Oherwydd eu hymdrechion, achubwyd llawer o fywydau a chafodd yr afiechyd ei atal.

Mae’r fedal hon yn deyrnged i’r bobl hynny. Rhoesant eu hunain mewn perygl personol mawr ac rydym yn ddyledus iawn iddynt.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan Gymru rai o’r gweithwyr iechyd a gwirfoddolwyr gorau yn y byd ac mae’r fedal hon yn dyst i gryfder ac ymroddiad staff y GIG ledled Cymru.

Diolch i ymdrechion diflino’r bobl hyn, mae miloedd o fywydau wedi cael eu hachub ac mae cynnydd anhygoel wedi cael ei wneud tuag at ddileu’r firws.

Nodiadau i olygyddion

Gwybodaeth am y fedal

  • Roedd y Pwyllgor ar Roi Anrhydeddau, Tlysau a Medalau wedi cyflwyno meini prawf cymhwysedd penodol i’w Mawrhydi’r Frenhines, a fu’n ddigon caredig i’w cymeradwyo.

  • Bydd y rheini sy’n gymwys, gan gynnwys gweision sifil, y lluoedd arfog, UK Med, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yr Uned Sefydlogi, Tîm Gweithrediadau CHASE (yr Adran Diogelwch, Dyngarol a Gwrthdaro), gwladolion y DU a oedd yn gweithio i gyrff anllywodraethol, a oedd yn cael eu hariannu gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, yn cefnogi ymdrechion y llywodraeth a wnaeth o leiaf 21 diwrnod o wasanaeth parhaus (neu 30 diwrnod o wasanaeth cronnus) o fewn tiriogaethau daearyddol Sierra Leone, Liberia, Guinea a’u dyfroedd tiriogaethol, yn derbyn y fedal yn awtomatig.

  • Bydd y fedal yn cael ei hanfon at y rhan fwyaf o bobl yn awtomatig. Ond bydd angen i rai nad oeddynt wedi mynd yno fel rhan o ymdrech llywodraeth y DU enwebu’u hunain.

  • Mae’r fedal newydd hon wedi cael ei chyflwyno yn dilyn cael cymeradwyaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines a’r Pwyllgor Anrhydeddau a Medalau.

  • Bydd y fedal yn cael ei chynhyrchu yn y DU gan Worcestershire Medal Service a bydd yn cael ei dyfarnu’n gyson o’r haf hwn i bawb sy’n gymwys.

Gwybodaeth am ymateb llywodraeth y DU i Ebola

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo £427 miliwn i’r ymdrech. Mae ein cyfraniad wedi cynnwys cefnogi mwy na hanner yr holl welyau sydd ar gael i gleifion Ebola yn Sierra Leone, ariannu dros 100 o dimau claddu, hyfforddi 4,000 o staff y rheng flaen, darparu tri labordy i brofi traean o’r holl samplau a gasglwyd yn genedlaethol ac wedi darparu dros filiwn o siwtiau diogelu personol (PPE) a 150 o gerbydau.

Cyhoeddwyd ar 11 June 2015