Stori newyddion

DVLA yn lansio ymgyrch newydd i helpu i symud cwsmeriaid ar-lein

Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at hwylustod, cyflymder a diogelwch gwasanaethau ar-lein DVLA.

Mae miliynau o’n cwsmeriaid eisoes yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein bob mis, er enghraifft, mae 98% o’r holl gerbydau sydd wedi’u trethu yn y DU yn cael eu trethu drwy ein gwasanaethau digidol. Fodd bynnag, gwyddom fod llawer o gwsmeriaid yn parhau i bostio eu ceisiadau atom pan allent fod yn defnyddio ein gwasanaethau digidol, felly mae annog y cwsmeriaid hynny i fynd ar-lein yn hytrach na phostio eu ceisiadau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu gweithredu’n effeithlon gyda DVLA.

Mae’r ymgyrch yn hyrwyddo 3 gwasanaeth allweddol, gyda’r neges allweddol o ‘gyflym, hawdd a diogel’ i atgoffa cwsmeriaid o fanteision defnyddio ein gwasanaethau ar-lein:

Lansiwyd yr ymgyrch ar 9 Tachwedd gyda datganiad i’r wasg yn tynnu sylw at yr arbedion ariannol y gallai cwsmeriaid fod wedi’u gwneud pe baent wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA yn hytrach na gwneud cais ar bapur. Dyma un o’r nifer o fanteision wrth drafod ar-lein, ynghyd â hwylustod, cyflymder a diogelwch ein gwasanaethau ar-lein yn cael eu hatgyfnerthu gyda’n negeseuon ymgyrchu.

Efallai y byddwch yn clywed neu’n gweld hysbysebion dros y misoedd nesaf ar y radio, y cyfryngau cymdeithasol ac ar chwilotwyr. Os ydych chi, a’ch bod yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein, rhowch gynnig arni neu dywedwch wrth rywun sydd efallai angen newid manylion cerbyd, adnewyddu trwydded yrru cerdyn-llun neu drwydded yrru dros 70 oed.

Cyhoeddwyd ar 3 December 2021