Datganiad i'r wasg

Mae gyrwyr yn colli mwy na £2 filiwn o gynilion drwy beidio ag adnewyddu trwyddedau gyrru cerdyn-llun ar-lein

Mae ffigurau newydd a ryddhawyd gan DVLA yn dangos bod gyrwyr wedi colli £2.3 miliwn o gynilion drwy beidio ag adnewyddu eu trwydded yrru cerdyn-llun ar-lein.

Collodd gyrwyr £2.3 miliwn o gynilion drwy beidio ag adnewyddu eu trwydded yrru cerdyn-llun gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein DVLA, yn ôl ffigurau newydd a ryddhawyd gan DVLA.

Mae’r asiantaeth wedi datgelu bod tua 23% o’r ddwy filiwn o geisiadau adnewyddu a dderbyniwyd wedi’u hanfon naill ai drwy’r post neu drwy swyddfa’r post rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae hyn er bod y gwasanaeth ar-lein yn gyflymach ac yn rhatach.

Mynd ar-lein yw’r ffordd rataf i adnewyddu trwydded yrru cerdyn-llun. Mae adnewyddu trwydded yrru cerdyn-llun gan ddefnyddio GOV.UK yn costio £14 a bydd y gyrrwr yn derbyn ei drwydded newydd mewn dim ond 5 diwrnod. Mae postio cais i DVLA yn costio £17 a bydd yn cymryd rhagor o amser.

Gall cwsmeriaid sy’n gwneud cais ar-lein hefyd olrhain cynnydd eu trwydded drwy ymweld â’r dudalen olrhain eich cais am drwydded yrru ar wefan GOV.UK.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i yrwyr adnewyddu eu trwydded yrru cerdyn-llun bob 10 mlynedd a byddant yn cael eu hatgoffa gan DVLA cyn i’w trwydded bresennol ddod i ben.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Ein gwasanaethau ar-lein yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf o ddelio â DVLA ac fel arfer mae cwsmeriaid yn derbyn eu dogfennau gyrru a cherbydau mewn dim ond 5 diwrnod. Cofiwch ddefnyddio GOV.UK bob amser wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA.

I adnewyddu ar-lein neu i gael gwybod mwy am adnewyddu trwydded ewch i GOV.UK.

Nodiadau i olygyddion:

  • Adnewyddu trwydded yrru ar-lein neu gael gwybod mwy am adnewyddu trwydded.
  • Os ydych yn adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun, a ni allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, gallwch wneud hwn yn gyflym ac yn hawdd mewn canghennau Swyddfa’r Post sy’n cymryd rhan. Gwiriwch a ydych yn gymwys i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, gallwch ddisgwyl i’ch trwydded yrru gael ei chyhoeddi o fewn 5 diwrnod.
  • Os oes angen ichi newid eich cyfeiriad ar eich trwydded yrru, gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i GOV.UK.
  • Trwy ddefnyddio GOV.UK yn unig wrth wneud cais am wasanaethau DVLA ar-lein, gall modurwyr hefyd sicrhau eu bod yn osgoi defnyddio gwefannau trydydd parti sy’n honni eu bod yn DVLA. Bydd safleoedd o’r fath yn aml yn codi ffi ychwanegol am wasanaethau sydd am ddim - neu’n costio llawer yn is ar GOV.UK. Nid yw’r gwefannau hyn yn gysylltiedig â DVLA mewn unrhyw ffordd.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 9 November 2021