Datganiad i'r wasg

Mae DVLA yn chwalu 9 myth am HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol)

Ym mis Mawrth 2020, gwelwyd y nifer uchaf o HOSau (Hysbysiadau Oddi-ar-y-ffordd Statudol) yn cael eu gwneud mewn unrhyw fis yn ystod y degawd diwethaf, felly rydym wedi chwalu 9 myth amdano.

Bob blwyddyn mae tua 3.4 miliwn o gerbydau’n cael eu datgan fel eu bod “oddi ar y ffordd” (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol neu HOS) – weithiau am ychydig fisoedd ar y tro yn unig. Ym mis Mawrth 2020, gwelwyd y nifer uchaf o HOSau yn cael eu gwneud mewn unrhyw fis yn ystod y degawd diwethaf, gyda dros hanner miliwn o yrwyr yn dewis HOS eu cerbyd ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf. Mae’n bosibl bod angen i nifer o bobl gael eu cerbydau yn ôl ar y ffordd nawr yn dilyn HOS.

Mae dweud wrth DVLA am HOS ar gyfer cerbyd yn syml ac yn creu ad-daliad ar gyfer unrhyw fisoedd llawn o dreth cerbyd sy’n weddill yn awtomatig. Mae’n rhaid i unrhyw un sydd am ddechrau defnyddio’r cerbyd ar y ffordd eto ei drethu cyn iddynt ei ddefnyddio. Y ffordd hawsaf a chyflymaf yw ei drethu ar-lein - dim ond ychydig funudau sydd angen i wneud hyn ac mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae gyrru neu gadw cerbyd ar y ffordd pan ei fod o dan HOS yn erbyn y gyfraith, felly mae angen i yrwyr sicrhau eu bod yn gwybod beth i’w wneud os ydynt am ddechrau defnyddio eu cerbyd eto, a sut i wneud HOS yn gywir os ydynt yn dymuno cadw eu cerbyd oddi ar y ffordd.

Mae DVLA yn helpu gyrwyr drwy ddatgelu a chwalu’r mythau cyffredin sy’n bodoli am HOS.

Myth 1: Gallwch gadw eich cerbyd ar y ffordd – ond peidiwch â’i yrru

Mae’r enw’n dweud y cyfan. Pan fyddwch chi’n HOS eich cerbyd, ni ellir ei gadw ar ffordd gyhoeddus – felly mae’n rhaid ei gadw mewn garej, ar lôn y tŷ neu ar dir preifat.

Myth 2: Mae HOS yn drosglwyddadwy i berchennog nesaf y cerbyd

Nid yw treth cerbyd yn cael ei drosglwyddo i berchennog newydd y cerbyd. Yn yr un modd, pan fyddwch chi’n prynu cerbyd, nid yw HOS yn cael ei drosglwyddo chwaith. Felly, os ydych chi’n prynu cerbyd ac eisiau ei gadw oddi ar y ffordd, cofiwch wneud HOS gyda DVLA.

Myth 3: Mae angen i chi wneud HOS yn flynyddol

Dim ond unwaith y mae’n rhaid i chi ddweud wrth DVLA pan fyddwch chi’n HOS eich cerbyd, ac nid oes angen i chi adnewyddu hyn bob blwyddyn. Mae’r HOS yn para tan fod y cerbyd yn cael ei ail-drethu, ei werthu, ei allforio’n barhaol neu’i sgrapio.

Myth 4: Ni allwch yrru cerbyd i gael MOT os yw’n HOS

Gallwch yrru i apwyntiad MOT sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw o dan HOS.

Myth 5: Mae llawer o waith gweinyddol i wneud HOS ac mae’n ddrud

IMae gwneud HOS yn rhad ac am ddim – a dim ond ychydig funudau sydd eu hangen i’w wneud ar-lein. Dim ond tystysgrif gofrestru (V5C) eich cerbyd sydd ei hangen arnoch. Byddwch yn derbyn cadarnhad gan DVLA yn syth. Os nad oes gennych chi eich V5C ac mae angen i chi archebu un newydd, mae’n gyflym ac yn hawdd gwneud hyn drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein newydd DVLA - dylech dderbyn eich tystysgrif newydd o fewn 5 diwrnod gwaith os ydych chi’n gwneud cais ar-lein.

Myth 6: Mae gen i gerbyd trydan ac nid oes angen i mi dalu am fy nhreth cerbyd, felly nid oes angen i mi wneud HOS

Hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu unrhyw beth i drethu eich cerbyd, er enghraifft oherwydd eich bod wedi’ch eithrio gan fod anabledd gennych neu eich bod yn gyrru cerbyd trydan, mae angen i chi ei drethu bob blwyddyn. Os ydych chi’n tynnu eich cerbyd oddi ar y ffordd ac nad ydych chi’n bwriadu ei drethu, bydd angen i chi wneud HOS o hyd – hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth i’w thalu. Bydd hefyd angen i chi drethu eich cerbyd cyn i chi ei ddychwelyd i’r ffordd.

Myth 7: Os ydych chi’n gwneud HOS ar eich cerbyd ac yn methu cael ad-daliad ar eich treth

Bydd y perchennog cofrestredig yn cael ad-daliad yn awtomatig ar gyfer unrhyw fisoedd llawn o dreth sy’n weddill pan fyddwch chi’n gwneud HOS. Mae’n bwysig sicrhau bod gan DVLA eich cyfeiriad cywir er mwyn derbyn eich ad-daliad – y ffordd symlaf a chyflymaf i wneud hyn yw defnyddio ein gwasanaeth ar-lein ar GOV.UK

Myth 8: Ni allwch chi ddweud wrth DVLA ymlaen llaw os ydych chi am wneud HOS yn nes ymlaen

Os ydych chi’n gwybod y byddwch chi am gadw eich cerbyd oddi ar y ffordd yn fuan, gallwch ddweud wrth DVLA hyd at ddeufis ymlaen llaw. Os ydych chi am i’r HOS ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis nesaf, mae angen i chi fynd ar-lein a defnyddio’r rhif 16 digid ar eich llythyr atgoffa V11.

Myth 9: Mae’n anodd iawn i ganslo HOS

Nid oes y fath beth â chanslo HOS yn bodoli. Pan fyddwch chi am ddechrau defnyddio eich cerbyd eto, gallwch ei drethu ar-lein ymhen munudau ac yna bant â chi.

Dywedodd Prif Weithredwr y DVLA, Julie Lennard:

Rydym wedi casglu rhestr o fythau cyffredin am HOS er mwyn rhoi’r cyngor gorau i yrwyr.

Mae chwalu mythau’n helpu gyrwyr i ddeall yr hyn sydd angen iddynt ei wneud â cherbyd pan gaiff ei ddatgan fel HOS, gan gynnwys ei drethu cyn ei ddefnyddio neu’i gadw ar y ffordd eto. Mae’n hawdd iawn i wirio ar-lein os yw cerbyd wedi’i drethu Gall gyrwyr hyd yn oed wirio hyn drwy ofyn i Amazon Alexa neu Google Home. Dim ond munudau sydd eu hangen i’w drethu.

Dywedodd llefarydd dros yr RAC, Rod Dennis:

Cyn y pandemig, mae’n debygol nad oedd yr acronym ‘HOS’ yn golygu llawer i’r rhan fwyaf o bobl ond ymhen wythnosau o’r cyfnod clo cyntaf, roedd cannoedd o filoedd o yrwyr ychwanegol eisoes wedi stopio defnyddio eu ceir ac wedi gwneud cais HOS i DVLA.

Nawr, gyda’r cyfyngiadau’n llacio, byddem yn annog pob gyrrwr sy’n defnyddio ei gar – does dim ots pa mor anaml – i sicrhau ei fod wedi’i drethu, wedi’i yswirio ac yn barod ar gyfer y ffordd. Mae’n hanfodol bod gyrwyr yn cofio bod y statws HOS ond yn berthnasol i geir nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sydd heb eu parcio ar ffyrdd cyhoeddus.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut, pryd a ble i wneud HOS.

Nodiadau i Olygyddion:

1) Gwnaed 526,747 o ddatganiadau HOS i DVLA ym mis Mawrth 2020.

2) Mae llyfr cofnodion V5CW y cerbyd yn ofynnol wrth wneud HOS. Gall cwsmeriaid gael llyfr cofnodion (V5CW) arall drwy wasanaeth ar-lein y DVLA ar GOV.UK os yw eu llyfr gwreiddiol ar goll, wedi cael ei ddwyn, ei ddifrodi neu’i ddifa.

3) Gall gyrwyr fynd ar-lein, 24 awr y diwrnod, i drethu cerbyd neu i wirio a yw eu treth cerbyd yn gyfredol. Gall gyrwyr hefyd ddewis rhannu’r gost dros y flwyddyn gyda debyd uniongyrchol.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 24 June 2021