Datganiad i'r wasg

David Lidington yn ymweld a Chymru a'r Alban i drafod busnes a Brexit.

Bydd David Lidington AS a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn yn ymweld â Chymru a’r Alban yr wythnos hon lle bydd yn cyfarfod arweinwyr busnes a gwleidyddion i drafod yr economi a pharatoadau’r DU i adael yr UE

Bydd Mr Lidington yn mynd i drafodaethau bwrdd crwn gyda gwahanol sectorau busnes yng Nghaerdydd (dydd Iau, 1af Chwefror) a Chaeredin (dydd Gwener, 2il Chwefror). Bydd y Gweinidog sydd newydd ei benodi hefyd yn cynnal trafodaethau dwy ochr ynghylch Bil Ymadael yr UE gyda Phrif Weinidog Cymru a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban ddydd Iau.

Gan siarad cyn iddo ymweld â Chaerdydd a Chaeredin, dywedodd David Lidington:

Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ymweld â Chymru a’r Alban.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i greu Prydain lle mae ein heconomi gref yn arwain at fanteision i bob rhan o’r DU.

Rwy’n gwybod bod busnesau yng Nghymru yn edrych ymlaen at y cyfleoedd yn sgil ein cynlluniau i ddiddymu tollau Pontydd Hafren. Mae ein buddsoddiad mewn band eang a’n Bargeinion Dinesig yn y DU yn gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru a’r Alban. Rwyf eisiau clywed gan fusnesau yng Nghaerdydd a Chaeredin beth arall y gallwn ei wneud i helpu i sbarduno twf economaidd.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at barhau â’r trafodaethau gyda Carwyn Jones a John Swinney ynghylch sut y gallwn fwrw ati gyda Bil Ymadael yr UE yn ein sgyrsiau wyneb yn wyneb heddiw.

Ar y cyd ag Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd David Lidington yn cynnal cyfarfod yng Nghaerdydd gyda grŵp o gynrychiolwyr busnesau, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, a thrydydd sector y Panel Arbenigol sy’n cyfarfod yn rheolaidd yng Nghymru i gynghori ynghylch trefniadau gadael yr UE.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi sefydlu’r grŵp i weithio gydag ef i sicrhau y bydd y broses o ymadael â’r UE yn mynd rhagddi’n drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru.

Gan siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn gadarn ei hymrwymiad i ymadael â’r UE mewn ffordd sy’n gweithio i bob rhan o’r wlad, ac i fanteisio ar bob cyfle ar hyd y daith i gryfhau ein hundeb werthfawr ymhellach.

Rydym wedi sicrhau bod Llywodraeth Cymru a phob sector yng Nghymru wedi cael cyfle i gyfrannu’n llawn ac yn adeiladol at broses Brexit, er mwyn i ni sicrhau gyda’n gilydd y fargen orau bosibl i bobl Cymru.

Dywedodd David Mundell, Ysgrifennydd yr Alban:

Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â Llywodraeth yr Alban yn ddiweddarach heddiw. Bydd dychwelyd pwerau o’r UE yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhwerau gwneud penderfyniadau Holyrood. Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran ein trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch fframweithiau cyffredin a byddwn yn parhau â’r trafodaethau hynny heddiw. Rydym eisiau cytuno ar ddiwygiad i Fil (Ymadael) â’r UE, y gallwn ei gyflwyno yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ôl hynny.

Bydd y Gweinidog hefyd yn cadeirio trafodaeth bwrdd crwn gyda chynrychiolwyr busnes o’r Alban yng Nghaeredin bore dydd Gwener.

Cyhoeddwyd ar 1 February 2018