Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n croesawi ehangu Cynllun Cymorth Swyddi Llywodraeth y DU

Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n croesawi ehangu Cynllun Cymorth Swyddi Llywodraeth y DU

Job Support Scheme graphic

Cyhoeddodd y Canghellor ar y 9fed o Hydref y bydd Cynllun Cymorth Swyddi Llywodraeth y DU yn cael ei ehangu i gefnogi busnesau sy’n gorfod cau eu drysau yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Bydd hyn yn berthnasol i fusnesau ledled Cymru.

Wrth groesawi’r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi miloedd o bobl a busnesau ar draws Cymru drwy gydol yr heriau economaidd digynsail rydym wedi’u hwynebu.

Mae ehangu’r Cynllun Cymorth Swyddi yn dangos y byddwn yn parhau i wneud beth sydd ei hangen i ddiogelu’r economi a diogelu gweithwyr ar draws Cymru.

Rydym hefyd wedi dyrannu biliynau o bunnoedd o gyllid a chefnogaeth ychwanegol i Lywodraeth Cymru ac rydym bellach wedi cynyddu’r cyfanswm yma i £4.4bn wrth i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i wynebu’r argyfwng fwyaf y mae Cymru a’r DU wedi’i wynebu ers cenedlaethau.

Mae manylion llawn y cyhoeddiad ar gael ar wefan Trysorlys EM.

Cyhoeddwyd ar 15 October 2020