Datganiad i'r wasg

Elusennau yng Nghymru yn elwa ar Gronfa’r Dreth Tamponau

Mae pedair elusen yng Nghymru ar fin cael peth o’r £600,000 o Gronfa’r Dreth Tamponau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil heddiw.

Bwriad Cronfa’r Dreth Tamponau yw bod o fudd i elusennau sy’n rhoi cymorth i fenywod a genethod, yn enwedig rhai sy’n dioddef trais a cham-drin domestig.

Yn 2016 / 17, fe wnaeth Cronfa’r Dreth Tamponau ddyfarnu £15 miliwn ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r gronfa’n cyfateb i’r swm y mae Cyllid a Thollau EM yn amcangyfrif y cafodd ei chodi drwy Dreth ar Werth ar nwyddau mislif. Cafodd y gronfa ei chyhoeddi yn Natganiad yr Hydref 2015.

Dyma’r pedwar prosiect a fydd yn elwa ar y gronfa yng Nghymru: SAFE Volunteering Matters yng Ngwent, Canolfan Merched Gogledd Cymru, Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yng Nghymru.

Dywedodd yr Arglwydd Nick Bourne, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

Eleni, bydd yr arian o fudd i brosiectau ledled Cymru, a thrwy raglenni addysg, cymorth a hunangymorth bydd yn helpu i ddarparu safon well o fyw i lawer o fenywod, merched a phlant ifanc, - llawer ohonynt yn agored i niwed.

Mae’r Llywodraeth hon yn Llywodraeth sy’n gweithio dros bawb, ac mae’r arian hwn yn dangos ei hymrwymiad i’r undeb ac i gefnogi prosiectau ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Rob Wilson, y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil:

O Gernyw i Dundee, mae Cronfa’r Dreth Tamponau’n parhau i fod o fudd i sefydliadau ym mhob cwr a chornel o’r Deyrnas Unedig, gan weithio i wella bywydau menywod a genethod sydd dan anfantais, gan gynnwys y rhai sy’n dioddef trais.

Mae’r Gronfa hon yn helpu i wella bywydau, ac yn cefnogi ein huchelgais i greu cymdeithas decach ar y cyd i bawb. Rwy’n falch y bydd cynifer o sefydliadau gwerth chweil yn elwa ar yr arian.

Isod, ceir braslun o’r gweithgareddau sydd ar y gweill yn y pedair elusen yng Nghymru:

  • Prosiect SAFE (‘Ymwybyddiaeth Rywiol i Bawb’) Volunteering Matters – Bydd y prosiect yn cynyddu diogelwch personol ac yn cynnal iechyd rhywiol da ymysg 300 o fenywod ifanc (rhwng 16 a 35 oed) sydd ag anawsterau dysgu o ardaloedd difreintiedig yng Ngwent, a hynny drwy weithdai, cymorth un-i-un i gyfoedion, ynghyd â llunio a dosbarthu cerdyn SAFE. Rhennir y dysgu gyda’r gymuned yn ehangach gan 50 o’r menywod ifanc a fydd yn cael eu hyfforddi fel Hyrwyddwyr SAFE ac yn darparu cymorth i gyfoedion mewn gwasanaethau ieuenctid, addysgol a chymunedol.

  • Canolfan Merched Gogledd Cymru – Nod y prosiect yw gwella bywydau 300 (o leiaf) o ferched a genethod dan anfantais gan dargedu’r rhai sydd ag anghenion lluosog a chymhleth ac sydd mewn perygl o droseddu neu aildroseddu. Ymdrinnir â materion sy’n bodoli eisoes ymysg y criw o fenywod, gan roi’r pŵer iddynt fod yn fwy gwydn. Gwneir hyn drwy ddarparu cymorth yn y gymuned ledled gogledd Cymru lle bydd merched a gyfeirir atynt yn cael eu hasesu i ganfod beth yw eu hanghenion er mwyn datblygu cynllun gofal gyda nhw. Rhennir y dysgu drwy weithio gyda sefydliadau ehangach yn y gymuned i gynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

  • Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru - Y nod drwy bartneriaeth a chydweithio yw treialu a gwerthuso rhaglen hunangymorth ar gyfer pobl sydd wedi goroesi trais rhywiol ac sy’n dioddef Anhwylder Straen Ôl-drawmatig Trawma Rhywiol yn Benodol. Caiff y prosiect ei dreialu ymysg tri grŵp o wyth bob blwyddyn, yna caiff ei ymestyn i grwpiau o 12 pan fydd y cynllun treialu wedi’i gwblhau. Ar ôl y cynllun treialu, maent yn bwriadu hyfforddi hwyluswyr ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig i gynnig cymorth ymarferol i filoedd o ferched sydd wedi goroesi trais a cham-drin rhywiol.

  • Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol - Nod y prosiect yw gwella bywydau menywod ifanc a genethod sy’n gadael y system ofal yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n feichiog, mewn perygl o fod yn feichiog yn eu harddegau, yn agored i gam-fanteisio rhywiol, a rhieni sydd wedi cael profiad o’r system ofal. Bydd y prosiect yn un pwrpasol ac wedi’i deilwra i anghenion pobl ifanc, gan fagu eu hyder a’u gwytnwch a rhoi gwybodaeth a chymorth iddynt ar faterion iechyd rhywiol, perthnasoedd iach, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a delwedd o’r corff. Yn ogystal â sefydlu nifer o rwydweithiau cymorth, mae’r prosiect yn ceisio canfod beth sy’n gweithio orau i fenywod a genethod yn y criw difreintiedig hwn, ac ar ôl dysgu’r gwersi bydd yn chwilio am arian i roi’r prosiect ar waith mewn rhannau eraill o’r wlad.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2017