Datganiad i'r wasg

Y Canghellor yn Amlinellu Cynllun Economi’r Gaeaf i Gymru

Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi cyfres o fesurau i ddiogelu swyddi ymarferol ac amddiffyn busnesau ledled Cymru a'r DU dros fisoedd y gaeaf

Rishi Sunak making his statemernt
  • Rishi Sunak yn datgelu cynllun Llywodraeth y DU i ddiogelu swyddi a chefnogi busnesau ledled Cymru dros y misoedd nesaf
  • Mae’r Cynllun Cymorth Swyddi newydd ag ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn ganolog i’r cynllun
  • Yn ogystal â hyn, bydd dros filiwn o fusnesau’r DU yn cael hyblygrwydd i helpu ad-dalu benthyciadau

Amlinellodd y Canghellor Rishi Sunak gymorth ychwanegol gan y Llywodraeth i roi sicrwydd fusnesau a gweithwyr sydd wedi eu heffeithio gan effaith y coronafeirws.

Wrth gyflwyno araith yn y Senedd, cyhoeddodd y Canghellor becyn o fesuriadau a fydd yn parhau i ddiogelu swyddi a helpu busnesau drwy’r misoedd ansicr sydd o’n blaen wrth i ni barhau i fynd i’r afael ar ledaeniad y feirws.

Mae’r pecyn yn cynnwys Cynllun Cymorth Swyddi newydd i ddiogelu miliynau o weithwyr sy’n dychwelyd nôl i’r gwaith, ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth a thorri TAW o 15% i’r sectorau twristiaeth a lletygarwch a help i fusnesau sy’n talu benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn mesurau ychwanegol i reoli lledaeniad y feirws ddod i rym ar draws y DU.

Yn ôl Canghellor y Trysorlys Rishi Sunak:

Rwy’n deall bod ail don y feirws a’r cyfyngiadau a osodir o ganlyniad i hyn yn her newydd i fusnesau a gweithwyr sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.

Dyna pam rwyf wedi cyflwyno mesuriadau ledled y DU i gefnogi swyddi a chwmnïau Cymru yn uniongyrchol drwy gam nesaf yr argyfwng.

Roeddwn bob amser yn glir na fyddwn yn oedi cyn gweithredu mewn ffordd greadigol ac effeithiol i ddiogelu economi Cymru ac mae’r mesuriadau yma’n cynrychioli’r ymrwymiad hwnnw.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cefnogi mwy na 500,000 o swyddi yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws ac mae Cynllun Economi’r Gaeaf yn gosod allan y camau nesaf i fynd i’r afael ar effaith economaidd barhaol a digynsail y feirws.

Bydd y Cynllun Cymorth Swyddi newydd, ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn ogystal â’r mesurau eraill a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn helpu i gadw pobl mewn swyddi, ymestyn cymorth hanfodol i fusnesau a rhoi’r sicrwydd sydd ei angen iddynt.

Y frwydr yn erbyn Covid-19 yw’r argyfwng fwyaf y mae Cymru a’r DU wedi ei wynebu mewn degawdau ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi a’r economi wrth gadw pobl yn ddiogel

Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi darparu biliynau o bunnoedd o gefnogaeth i’r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a hefyd yn uniongyrchol i fusnesau a gweithwyr Cymru.

Rydym wedi rhoi £4bn yn ychwanegol i’r llywodraeth ddatganoledig i ymdopi â phwysau’r pandemig yn ogystal â diogelu dros hanner miliwn o swyddi yng Nghymru drwy’r cynllun ffyrlo.

Mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth wedi helpu 110,000 o bobl hunangyflogedig yng Nghymru ac mae mwy na 41,000 o fusnesau wedi elwa o gynlluniau benthyca Llywodraeth y DU.

Cyhoeddodd y Canghellor ei Gynllun ar Gyfer Swyddi hefyd ym mis Gorffennaf a oedd yn cefnogi swyddi ledled y DU drwy ganolbwyntio ar sgiliau, pobl ifanc a rhoi hwb i’r sector lletygarwch gyda thoriad mewn TAW a’r cynllun nodedig ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn glir yn gyson y bydda’n parhau i adolygu’r gefnogaeth i ddiogelu swyddi, busnesau a’r economi, gyda’r camau heddiw yn adlewyrchu’r amgylchiadau sy’n esblygu ag ansicrwydd y misoedd sydd i ddod.

Mae’r pecyn o fesurau sy’n berthnasol i ranbarthau a chenhedloedd y DU yn cynnwys:

Cefnogaeth i weithwyr

Bydd y Cynllun Cymorth Swyddi newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd i ddiogelu swyddi ymarferol mewn busnesau sy’n wynebu llai o alw dros y gaeaf yn sgil y coronafeirws.

Dan y cynllun, a fydd yn rhedeg am chwe mis ac yn helpu i gadw gweithwyr yn gysylltiedig â’r gweithlu, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu at gyflogau’r gweithwyr sy’n gweithio llai o oriau nag arfer oherwydd y gostyngiad yn y galw.

Bydd cyflogwyr yn parhau i dalu cyflogau’r staff am yr oriau maent yn gweithio – ond am yr oriau nad ydynt yn gweithio, bydd Llywodraeth y DU a’r cyflogwr yn talu traean o’u cyflog cyfatebol.

Mae hyn yn golygu fod gweithwyr sydd ond yn gallu mynd nôl i’r gwaith am gyfnodau byr dal yn cael eu talu dau draean o’r oriau hynny na allant weithio.

Er mwyn cefnogi’r swyddi ymarferol yn unig, rhaid i weithwyr fod yn gweithio o leiaf 33% o’u horiau arferol. Cyfrifir lefel y grant yn seiliedig ar gyflog arferol gweithiwr wedi ei gapio ar £697.92 y mis.

Bydd y Cynllun Cymorth Swyddi ar agor i fusnesau ar draws y DU, hyd yn oed os nad ydynt wedi defnyddio’r cynllun ffyrlo a’r blaen gyda chanllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Fe’i cynlluniwyd i eistedd ochr yn ochr â’r Bonws Cadw Swyddi a all fod werth dros 60% ar gyfartaledd o gyflogau gweithwyr sydd ar y cynllun ffyrlo – ac sy’n cael eu cadw ymlaen tan ddechrau Chwefror 2021. Gall busnesau elwa o’r ddau gynllun i helpu diogelu swyddi.

Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU yn parhau gyda’i chefnogaeth i filiynau o unigolion hunangyflogedig drwy ymestyn Budd-dal y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth. Bydd y grant trethadwy cychwynnol yn cael ei ddarparu i’r sawl sy’n gymwys ar hyn o bryd i’r CCIH ac yn parhau i fasnachu ond yn wynebu llai o alw oherwydd y coronafeirws. Bydd y cyfandaliad cychwynnol yn cwmpasu gwerth tri mis o elw am y cyfnod rhwng Tachwedd tan ddiwedd Ionawr flwyddyn nesa. Mae hyn werth 20% o elw ar gyfartaledd, hyd at gyfanswm o £1,875.

Bydd ail grant, a ellir ei addasu i ymateb i’r amgylchiadau sy’n newid ar gael i unigolion hunangyflogedig i gwmpasu’r cyfnod rhwng Chwefror 2021 a diwedd mis Ebrill – gan sicrhau bod ein cymorth yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Mae hyn ar ben y dros £13 biliwn o gefnogaeth sydd wedi ei ddarparu’n barod i dros 2.6 miliwn o unigolion hunangyflogedig drwy ddau gam cyntaf y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth – un o’r rhai mwyaf haelaf yn y byd.

Toriadau treth a gohirio

Fel rhan o’r pecyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ymestyn y toriad TAW dros dro ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi’r hyder i fusnesau yn y sector, sydd wedi eu heffeithio’n wael gan y pandemig, i gynnal eu staff wrth iddynt addasu i’r amgylchedd newydd o fasnachu.

Yn ogystal â hyn, bydd hanner miliwn o fusnesau a ohiriodd eu biliau TAW yn cael mwy o hyblygrwydd drwy’r Cynllun Taliad Newydd. Bydd hyn yn rhoi’r opsiwn iddynt i’w dalu nôl mewn rhandaliadau llai yn hytrach na thalu’r cyfanswm yn llawn ar ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddant yn gallu gwneud 11 taliad di-log yn ystod blwyddyn ariannol 2021-2022.

Ar ben hyn, bydd tua 11 miliwn o drethdalwyr hunanasesu yn gallu elwa o estyniad 12 mis ychwanegol ar wahân gan CThEM drwy’r cyfleustr hunanwasanaeth “Amser i Dalu”, sy’n golygu na fydd angen talu taliad a ohiriwyd o fis Gorffennaf 2020, a’r rhai sy’n ddyledus ym mis Ionawr 2021 tan fis Ionawr 2022.

Bydd busnesau’n cael hyblygrwydd i ad-dalu benthyciadau

Bydd y baich yn cael ei godi ar fwy na miliwn o fusnesau a gafodd Fenthyciadau Ailgydio drwy’r cynllun ad-dalu hyblyg Talu wrth Dyfu. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i gwmnïau sy’n ad-dalu’r Benthyciad Ailgydio.

Mae hyn yn cynnwys ymestyn cyfnod y benthyciad o chwech i ddeng mlynedd a fydd yn torri’r ad-daliadau misol o bron i hanner. Bydd cyfnodau llog yn unig o hyd at chwe mis a gwyliau talu hefyd ar gael i fusnesau. Bydd y mesurau yma’n diogelu swyddi ymhellach drwy helpu busnesau i adfer yn dilyn y pandemig.

Rydym hefyd yn bwriadu rhoi’r gallu i fenthycwyr y Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes i ymestyn cyfnod eu benthyciadau am gyfnod hyd at chwech i ddeng mlynedd os bydd hynny’n helpu’r busnesau i ad-dalu’r benthyciad.

Yn ogystal â hyn, cyhoeddodd y Canghellor y bydd yn ymestyn y ceisiadau ar gyfer cynlluniau benthyciadau’r coronafeirws Llywodraeth y DU sy’n helpu dros filiwn o fusnesau tan ddiwedd mis Tachwedd. O ganlyniad i hyn, gall fwy o fusnesau ymelwa o’r Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws, y Cynllun Benthyciadau Ymyriad Coronafeirws i Fusnesau Mawr, y Benthyciadau Ailgydio a Chronfa’r Dyfodol. Mae’r newid yma’n cyd-fynd â holl ddyddiadau terfynol y cynlluniau hyn, gan sicrhau bod cefnogaeth bellach ar waith i’r cwmnïau hynny sydd eu hangen.

Ymatebion gan grwpiau busnes

Yn ôl y Fonesig Carolyn Fairbairn, Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI

Bydd y camau beiddgar yma gan y Trysorlys yn helpu i arbed cannoedd o filoedd o swyddi ymarferol y gaeaf hwn. Mae’n iawn i dargedu cymorth ar swyddi sydd â dyfodol, ond gall hyn ond fod yn rhan-amser tra bod y galw’n parhau yn wastad. Dyma sut y gellir cadw sgiliau a swyddi i alluogi adferiad cyflym.

Bydd y cymorth cyflog, gohirio trethu a’r cymorth i’r hunangyflogedig yn lleihau effaith andwyol o golli swyddi diangen wrth i’r DU fynd i’r afael â’r feirws. Bydd cyflogwyr yn cymhwyso’r un ysbryd o greadigrwydd gan fanteisio ar bob cyfle i ailhyfforddi a gwella sgiliau eu gweithwyr.

Mae’r Canghellor wedi gwrando ar y dystiolaeth gan fusnesau ac wedi ymateb yn bendant. Bydd yr ysbryd yma o ystwythder a chydweithrediad yn helpu i wneud. 2021 yn flwyddyn o dwf ac adnewyddu.

Yn ôl Mike Cherry OBE, Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn y Busnesau Bach:

Mae busnesau bach y DU yn wynebu gaeaf anodd iawn. Y pecyn cymorth a gyhoeddwyd heddiw yw ochor arall y geiniog i gyfyngiadau busnes COVID-19 dydd Mawrth.

Mae’r ymyrraeth gyflym a sylweddol gan ymestyn benthyciadau brys i fusnesau bach a chanolig, creu cymorth newydd i gyflogau cyflogwyr bach a’r hunangyflogedig a darparu cymorth ariannol i helpu gohirio TAW ac Amser i Dalu am unrhyw filiau treth i’r CThEM.

Rydym yn croesawu’r ffaith bod y Canghellor yn sicrhau bod penderfyniadau i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn cael eu llywio gan yr angen i ddiogelu’r economi, swyddi pobl â’r cyfleodd i bobl ifanc yn ein hysgolion a’n gweithleoedd.

Dywedodd Adam Marshall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BCC:

Bydd y mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn rhoi hwb enfawr i fusnesau. Mae’r Siambrau Masnach wedi galw yn gyson am genhedlaeth newydd o gefnogaeth i helpu diogelu bywoliaeth a lleddfu’r pwysau ariannol y mae cwmnïau yn ei wynebu wrth iddynt fynd i mewn i aeaf heriol ac ansicr.

Mae’r Canghellor wedi ymateb i’n pryderon gyda chamau sylweddol a fydd yn helpu cwmnïau i ddiogelu swyddi a gweithredu drwy gydol y misoedd nesaf. Bydd y cynllun cymorth cyflog newydd yn helpu llawer o gwmnïau i gadw eu gweithwyr gwerthfawr yn dilyn y cyfnod ffyrlo a bydd ymestyn cynlluniau benthyciadau busnes a’r amynedd dros drethu yn lleihau’r pwysau uniongyrchol yn ariannol i lawer o gwmnïau sydd wedi eu heffeithio.

Wrth i ni edrych tu hwnt i’r her bresennol, bydd angen gwneud mwy i ailadeiladu ac adnewyddu ein heconomi. Bydd Siambrau Masnach ar draws y DU yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau manteision y cynlluniau hyn sy’n cael eu darparu i gwmnïau ar lawr gwlad.

Cyhoeddwyd ar 29 September 2020