Datganiad i'r wasg

Hwb i fusnesau Cymru wrth i’r DU daro bargen i ymuno â’r bloc masnach rydd enfawr yn ardal Cefnfor India a’r Môr Tawel

Mae’r bloc yn gartref i dros 500 miliwn o bobl a bydd cyfanswm y GDP yn £11 triliwn ar ôl i’r DU ymuno â’r bloc hwn.

  • Mae’r DU wedi cyhoeddi cytundeb i ymuno â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) – bloc masnach enfawr yn ardal Cefnfor India a’r Môr Tawel a fydd â chyfanswm cynnyrch domestig gros (GDP) o £11 triliwn ar ôl i’r DU ymuno â’r bartneriaeth hon
  • Roedd dros 450 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio i wledydd CPTPP yn 2021, a gallent elwa ar ôl cyhoeddiad heddiw
  • Roedd dros 450 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio i wledydd CPTPP yn 2021, a gallent elwa ar ôl cyhoeddiad heddiw

Mae disgwyl i economi Cymru elwa o hyn ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi heddiw (31 Mawrth) bod trafodaethau masnach wedi dod i ben gyda’r CPTPP, ardal fasnach rydd enfawr ar draws Cefnfor India a’r Môr Tawel.

Mae’r bloc yn gartref i dros 500 miliwn o bobl a bydd cyfanswm y GDP yn £11 triliwn ar ôl i’r DU ymuno â’r bloc hwn. Gallai ymuno â’r bloc roi hwb i economi Cymru drwy wella mynediad busnesau at rai o farchnadoedd mwyaf y byd.

Dywedodd Rishi Sunak, y Prif Weinidog:

Mae masnachu’n rhydd ac yn agored yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud, ac mae’r cytundeb hwn yn dangos manteision economaidd gwirioneddol o ran y rhyddid sydd gennym ar ôl Brexit. Fel rhan o’r CPTPP, mae’r DU bellach mewn safle amlwg yn yr economi fyd-eang i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer swyddi, twf ac arloesedd newydd.

Mae ymuno â bloc masnachu’r CPTPP yn rhoi’r DU yng nghanol grŵp o economïau sy’n tyfu ac sy’n ddeinamig yn y Môr Tawel, fel y wlad newydd gyntaf a’r wlad gyntaf yn Ewrop i ymuno â’r bloc. Bydd busnesau Prydain nawr yn mwynhau mynediad heb ei ail at farchnadoedd, o Ewrop i dde’r Môr Tawel.

Mae llawer o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru elwa o ymuno â’r CPTPP, gyda 450 a mwy o’r busnesau hyn yn allforio gwerth dros £900m o nwyddau i wledydd y CPTPP yn 2021.

Dywedodd Kemi Badenoch, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach:

Mae hon yn foment bwysig iawn i’r DU. Mae dod yn aelod o’r CPTPP yn cyfleu neges bwerus bod y DU ar agor i fusnes ac yn defnyddio ein rhyddid ar ôl Brexit i gysylltu â marchnadoedd newydd ledled y byd ac i dyfu ein heconomi ni.

Bydd ymuno â’r CPTPP yn cefnogi swyddi ac yn creu cyfleoedd i gwmnïau o bob maint ac o bob rhan o’r DU. Mae’n ymwneud hefyd â rhoi gwell mynediad i fusnesau Cymru i’r gwledydd a fydd yn borth i ardal ehangach Cefnfor India a’r Môr Tawel, a fydd yn disgwyl i wneud y twf economaidd mwyaf yn y dyfodol.

Bydd ymuno â’r bloc masnach yn golygu bydd dros 99 y cant o allforion nwyddau’r DU i aelodau’r CPTPP yn gymwys i gael tariffau sero. Yn y tymor hir, gallai’r bloc roi hwb o £1.8 biliwn i economi’r DU ac arwain at gynnydd o £1.7 biliwn yn allforion y DU i wledydd y CPTPP o ganlyniad i leihau rhwystrau ar draws nwyddau a gwasanaethau yn ôl asesiad cwmpasu cyhoeddedig y Llywodraeth. Gallai allforion allweddol o Gymru - fel peiriannau a generaduron pŵer - elwa o gael gwared ar dariffau o ganlyniad i’r cytundeb hwn.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:

Mae’r cytundeb masnach hwn yn newyddion gwych i fusnesau Cymru. Mae gwledydd y CPTPP eisoes yn sector pwysig ym marchnad allforio Cymru. Bydd 450 a mwy o gwmnïau - gan gynnwys Halen Môn a Fifth Wheel - yn elwa o lai o fiwrocratiaeth ac o gyfleoedd gwell. Bydd y marchnadoedd hyn sy’n tyfu yn helpu busnesau yng Nghymru i wella cyfleoedd allforio ac yn rhoi hwb i’r awydd byd-eang am nwyddau a gwasanaethau o Gymru.

Mae Fifth Wheel Company yn fusnes sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu carafanau teithio moethus. Mae eu holl gerbydau’n cael eu rhoi at ei gilydd yn fewnol yn eu ffatri yn Rhuallt yng ngogledd Cymru, ac maen nhw’n gyffrous am y cyfleoedd allforio a fydd yn cael eu creu wrth i’r DU ymuno â’r CPTPP.

Dywedodd Gethin Whiteley, o Fifth Wheel:

Rydyn ni wedi bod yn allforio ein carafanau moethus i gwsmeriaid yn Awstralia a Seland Newydd dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’r farchnad hamdden a gwersylla yn tyfu yn y gwledydd hyn, ac mae ein cynnyrch ni’n cynnig maint a lle tebyg i gartref modur ac yn cynnig ymarferoldeb car neu garafán, felly maen nhw’n berffaith addas.

Rydyn ni eisoes wedi dechrau ar daith fasnach i gryfhau ein safle yn y marchnadoedd hyn, ac rydyn ni’n credu y bydd ymuno â’r CPTPP, ynghyd â’r cytundebau dwyochrog, yn ein helpu ymhellach yn ein gwaith o chwilio am ffyrdd i allforio mwy o’n cynnyrch i farchnadoedd sy’n dod yn fwy pwysig.

Mae Halen Môn yn gwmni o Gymru sy’n cynhyrchu halen môr o YNYS MÔN, sydd i’w weld mewn 100 a mwy o siopau delicatessen gorau’r DU, yn ogystal â mewn siopau fel Marks and Spencer, Waitrose a Harvey Nichols.

Maen nhw eisoes yn allforio eu cynnyrch i fwy na 22 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys sawl aelod o’r CPTPP, ac maen nhw’n edrych ymlaen at archwilio’r potensial allforio pellach sy’n cael ei greu wrth i’r DU ymuno â’r bloc masnachu.

Dywedodd Alison Lea-Wilson, o Halen Môn:

Byddwn ni’n croesawu unrhyw beth y gall Llywodraeth y DU ei wneud i helpu i wireddu potensial enfawr masnachu gydag aelod-wladwriaethau’r CPTPP. Rydyn ni eisoes yn allforio i Japan a Singapore, ac mae cyfleoedd ar gael hefyd yn Awstralia.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cyflenwi cwmni cynhwysion becws Japaneaidd gyda’n dŵr mwg derw arloesol. Mae perthynas wych eisoes rhwng Cymru a Japan - sydd wedi’i meithrin yn rhannol gan rygbi, gwymon a hyd yn oed cennin - ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas hon.

Mae aelodaeth ar gyfer y CPTPP yn borth i ardal ehangach Cefnfor India a’r Môr Tawel, sydd â 60% o boblogaeth y byd ac sydd i gyfrif am y rhan fwyaf (54%) o dwf economaidd byd-eang a thua hanner biliwn o ddefnyddwyr dosbarth canol y byd yn y degawdau i ddod.

Fel aelod o’r CPTPP, bydd y DU yn helpu i ddylanwadu ar reolau byd-eang ar gyfer diwydiannau’r dyfodol, fel y diwydiannau digidol, data a gwasanaethau. Bydd hefyd yn sicrhau ein lle fel arweinydd byd-eang mewn rhwydwaith o wledydd sydd wedi ymrwymo i fasnach rydd.

Bydd aelodau’r DU a’r CPTPP nawr yn cymryd y camau terfynol sy’n ofynnol er mwyn i’r DU ymuno’n ffurfiol â’r bloc yn 2023.

Cyhoeddwyd ar 5 April 2023