Datganiad i'r wasg

Hwb i arloesi ym maes amaeth yng Nghymru gan gronfa Llywodraeth y DU

Tri sefydliad yng Nghymru’n elwa o gyfran o £5 miliwn gan Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Photograph by Christopher Guither

Bydd tri sefydliad yng Nghymru’n elwa o gyfran o £5 miliwn gan Llywodraeth y DU i ddatblygu syniadau i ddatrys rhai o’r sialensiau amaethyddol mwyaf yn y byd, fel diogelu’r cyflenwad bwyd, rheoli chwyn ac afiechydon da byw.

Mae tri o’r tri dyfarniad ar ddeg sy’n cael eu rhoi ledled y DU yn cael eu dyfarnu i brosiectau lle mae sefydliadau o Gymru wrth y llyw. Y rhain yw:

  • Ymchwilio i amrywiaeth miled perlog i gynhyrchu gwell cynnyrch bara ar gyfer pobl sy’n dioddef o glefyd siwgr (o dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth)

  • Lleihau gwastraff bwyd drwy reoli pryfaid ffrwythau yn Asia ac Affrica (o dan arweiniad Russell IPM Ltd. UK, Sir y Fflint)

  • Datblygu reis sy’n gallu gwrthsefyll dau afiechyd mawr i helpu i ddiogelu’r cyflenwad bwyd yn Asia (Prifysgol Bangor)

Dyma ail rownd gyllido gan Agri-Tech Catalyst, sydd werth £70 miliwn, a gyhoeddwyd fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y DU ar gyfer Technolegau Amaethyddol ym mis Gorffennaf 2013. Mae Agri-Tech Catalyst wedi’i gynllunio i gefnogi gwaith ymchwil ar y cyd rhwng gwyddonwyr a busnesau i roi hwb i brosiectau o’r labordy i’r farchnad.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae gan Gymru draddodiad ffermio balch, ac mae’n hyfryd gweld ein bod ni’n dal i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau amaethyddol. Mae’r tri phrosiect o Gymru sy’n elwa o gyllid Llywodraeth y DU yn rhai cyffrous, a fydd yn arwain at fanteision go iawn i bobl ledled y byd, a drwy werthu’r cynhyrchion hyn ar draws y byd, gallwn gynnal safle Cymru wrth galon arloesedd byd-eang.

Mae hyn i gyd yn rhan o’n cynllun i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach yng Nghymru.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cefnogi mentrau arloesol a gwerth chweil fel hyn.

Dywedodd y Gweinidog Prifysgolion, Gwyddoniaeth a Dinasoedd, Greg Clark:

Bydd buddsoddi mewn technoleg amaethyddol heddiw’n arwain at fanteision masnachol yfory, gan arwain at gamau pwysig o’r labordy i’r farchnad. Mae hyn i gyd yn rhan o gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i greu rhagor o swyddi a hybu twf drwy strategaeth ddiwydiannol.

Cyhoeddwyd ar 22 October 2014