Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn tawelu meddwl staff Porthladd Caergybi fod gadael yr UE gyda bargen yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchaf Llywodraeth y DU

Daw'r ymweliad ar ôl i'r Undeb Ewropeaidd caniatáu estyniad hyblyg o Erthygl 50 wythnos diwethaf

Ar ymweliad â Phorthladd Caergybi, mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth y DU i anrhydeddu canlyniad y refferendwm a darparu Brexit llyfn a threfnus yn dilyn estyniad ar Erthygl 50, a roddwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos diwethaf.

Porthladd Caergybi yw’r porthladd ‘rholio arno ac ymadael’ ail prysuraf y Deyrnas Unedig, yn darparu cyswllt allweddol yn y gadwyn gyflenwi i fusnesau ar draws Cymru, y DU a’r Iwerddon. Wrth gydnabod pwysigrwydd porthladdoedd Cymru i economi Cymru a’r DU, bu Alun Cairns yn tawelu meddwl Rheolwr y Porthladd, Capten Wyn Parry yn ystod yr ymweliad, gan ddweud fod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a gweithredwyr porthladdoedd i sicrhau ymadawiad llyfn o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae porthladdoedd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru ac felly yn parhau i fod yn ystyriaeth allweddol yng nghynlluniau Brexit Llywodraeth y DU.

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda bargen yn sicrhau y gall porthladdoedd Cymru parhau i weithredu yn ddi-dor a dyna pam ein bod yn fwy penderfynol nag erioed i gyrraedd bargen fydd yn hawlio cefnogaeth seneddol fel y gall y DU gadael yr UE yn drefnus ac yn amserol.

Cyhoeddwyd ar 17 April 2019