Datganiad i'r wasg

Adolygiad o Wariant sy’n fuddiol i Gymru

Stephen Crabb: "Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnwys pecyn beiddgar o fesurau sy’n cyflawni ymrwymiadau ein maniffesto i gryfhau economi Cymru a chreu Llywodraeth gryfach a mwy atebol yng Nghymru"

Heddiw, defnyddiodd y Canghellor George Osborne ei Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref i ddangos sut fydd yn darparu sicrwydd economaidd, sicrwydd cenedlaethol a chyfleoedd i deuluoedd yng Nghymru.

Mae cynllun economaidd y Llywodraeth yn parhau i weithio i bobl Cymru. Gwelwyd cynnydd o bron i 43,600 mewn cyflogaeth yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, sef y gyfradd cydradd gyflymaf yn y DU, ac mae diweithdra wedi lleihau 26% ers 2010.

Bydd grant bloc Llywodraeth Cymru yn cyrraedd bron i £15 biliwn erbyn 2019-20.

Cyhoeddodd yr Adolygiad o Wariant y bydd cynnydd o dros £900 miliwn yng nghyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru dros bum mlynedd, sef cynnydd o 16% mewn termau real, i gefnogi’r gwaith o fuddsoddi mewn prosiectau sy’n bwysig i economi Cymru.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi deddfwriaeth ddrafft a fydd yn trosglwyddo Cymru i fodel datganoli newydd. Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni gwnaeth y Llywodraeth addewid pwysig, sef y byddai’n datganoli pwerau ychwanegol dros ynni, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac etholiadau i Gynulliad Cymru.

Bydd Cymru yn elwa o fuddsoddiadau mawr mewn cytundebau datganoli a chyllidebau seilwaith, gan gynnwys:

  • Mesur cyllid canolog y pecyn Dydd Gŵyl Dewi – cyflwyno ‘Cyllid Gwaelodol’ newydd sydd wedi’i osod ar 115% ar gyfer y senedd hon. Mae hyn yn unol ag ystod “cyllid teg” Comisiwn Holtham. O ganlyniad i’r cyllid gwaelodol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i elwa os yw’r lefel o gyllid cymharol mae’n ei chael yn uwch na 115% y pen, a bydd yn elwa hefyd o’r sicrwydd na fydd yn disgyn o dan y lefel honno.
  • Mae Datganiad yr Hydref yn cyhoeddi y bydd y Llywodraeth yn deddfu i ddileu’r angen am refferendwm i gyflwyno cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru, a fydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu cymryd mwy o gyfrifoldebau dros y modd mae’n codi arian a’i wario.
  • Mae’r penderfyniad i amddiffyn yr Heddlu mewn termau real yn golygu y bydd gan heddluoedd ledled Cymru yr arian sydd ei angen arnyn nhw i ddiogelu’r cyhoedd.
  • Hefyd rydyn ni’n ailddatgan y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cael benthyg hyd at £500 miliwn ar gyfer gwariant cyfalaf, gan ddechrau yn 2018, gyda mynediad cynnar at y pwerau benthyca hyn er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno ffordd liniaru’r M4.
  • Yn ogystal â hyn, mae’r Adolygiad o Wariant yn datgan ymrwymiad mewn egwyddor y Llywodraeth i gefnogi cronfa seilwaith i Ranbarth Prifddinas Caerdydd.
  • Hefyd, bydd pobl Cymru yn elwa yn uniongyrchol o fesurau yn yr Adolygiad o Wariant hwn a Datganiad yr Hydref, a fydd yn cymryd cyfartaledd o £30 oddi ar filiau ynni tua miliwn o aelwydydd yng Nghymru o 2017/18 ymlaen, drwy gynllun rhwymedigaeth ar gyflenwyr domestig newydd a rhatach, a gwneud diwygiadau arfaethedig i gefnogi cynlluniau ar gyfer trydan carbon isel.

Dywedodd y Canghellor:

Heddiw, mae fy Adolygiad o Wariant yn rhoi sicrwydd yn gyntaf. Mae’n darparu sicrwydd economaidd i sicrhau nad yw Prydain yn gweithio mwy nag mae’n gallu ei fforddio, sicrwydd ariannol ar gyfer teuluoedd yng Nghymru, a sicrwydd cenedlaethol i bawb.

Rydyn ni’n cyflawni ein haddewid i gyflwyno cyllid gwaelodol yn yr Adolygiad o Wariant hwn, sy’n darparu lefel sicr o gyllid y pen yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae’r Adolygiad o Wariant yn cynnwys cynnydd yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru mewn termau real. Nawr, gall y ddadl symud ymlaen i drafod sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.

Hefyd, rydw i’n cadarnhau ein cytundeb mewn egwyddor i gefnogi cronfa seilwaith i Ranbarth Prifddinas Caerdydd. Rwy’n edrych ymlaen i gael cynigion cadarn gan Gaerdydd a Llywodraeth Cymru a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol economaidd un o ddinasoedd mawr y DU.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Adolygiad o Wariant hwn yn bwysig i Gymru.

Nawr, does dim byd i atal Llywodraeth Cymru rhag bwrw ymlaen a defnyddio’r hawliau cyllidol newydd a phwysig rydyn ni wedi’u datganoli i dyfu economi Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Drwy ddileu’r angen am refferendwm ar dreth incwm bydd Cynulliad Cymru, o’r diwedd, yn cael lle ochr yn ochr â deddfwrfeydd aeddfed eraill a bydd yn atebol i’r bobl mae’n eu gwasanaethu.

Drwy gyflawni ein haddewid i gyflwyno cyllid gwaelodol hanesyddol i Gymru, gan gynyddu cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ar yr un pryd, rydyn ni’n darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau pwysig yng Nghymru.

Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnwys pecyn beiddgar o fesurau sy’n cyflawni ymrwymiadau ein maniffesto i gryfhau economi Cymru a chreu Llywodraeth gryfach a mwy atebol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 25 November 2015