Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad o £17 miliwn i wneud Cymru’n arweinydd byd-eang mewn ystadegau a data

Mae Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Matt Hancock, wedi datgelu cynlluniau newydd i greu canolfan gwyddoniaeth data o safon byd yng Nghymru.

Yn y gyllideb yr wythnos hon, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai’n cyfrannu £10 miliwn at y prosiect arloesol a fydd yn moderneiddio’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn creu ystadegau mwy arloesol, manwl ac amserol.

Bydd hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £17 miliwn i gyd, a fydd yn cynnwys arian ychwanegol i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Bydd y Campws Gwyddoniaeth Data a’r Ganolfan Rhagoriaeth Economeg newydd, a leolir yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd, yn creu o leiaf 30 o swyddi ar lefel uchel. Bydd yn meithrin sgiliau technoleg yn y gweithlu rhanbarthol presennol, gan yrru’r DU yn ei blaen fel arweinydd byd-eang ym maes data ac ystadegau.

Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar dechnegau i newid y ffordd byddwn yn rheoli ac yn defnyddio data drwy ddefnyddio technegau blaengar fel echdynnu data o’r we. Bydd hyn yn darparu monitro unigryw ac amser real ar yr economi a marchnad lafur y DU gan ffynonellau preifat a chyhoeddus yn uniongyrchol.

Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Economeg yn gwella’r gallu i fesur y newid yn economi ddigidol y DU, gan wthio ffiniau mesur economaidd ledled y byd.

Mae penderfyniad y llywodraeth i fuddsoddi yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru yn deillio o’i hymateb i’r Adolygiad Annibynnol o Ystadegau Economaidd y DU (IRES) gan yr Athro Syr Charles Bean.

Roedd IRES yn amlinellu cyfres o argymhellion i alluogi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddatblygu galluoedd digidol a dadansoddol gyda’r gorau yn y byd o ran mesur economaidd, a sicrhau bod y gwaith o gynhyrchu ystadegau economaidd y DU yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.

Roedd rhai o’r pwyntiau a wnaed yn yr IRES yn amlinellu y dylai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wneud y canlynol:

  • gwthio’r ffiniau a datblygu ei hystadegau ymhellach
  • gorfodi diwylliant sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
  • defnyddio data gweinyddol sydd eisoes gan y llywodraeth yn llawn
  • cryfhau llywodraethu ystadegol yn unol ag argymhellion strategol yr Athro Syr Charles Bean

Hefyd, croesawodd y llywodraeth y syniad o greu Swyddfa Gwerthuso a Rheoleiddio Annibynnol i gefnogi llywodraethu gwell o ran ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Bydd y corff newydd hwn yn gyfrifol am asesu’n gyhoeddus ansawdd yr ystadegau swyddogol a faint mae modd ymddiried ynddynt, yn ogystal ag asesu effeithiolrwydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn ystod ymweliad â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Iau 17 Mawrth, dywedodd Matt Hancock, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet:

Data yw’r tanwydd sydd ei angen arnom i wneud y pederfyniadau gorau ar gyfer y cyhoedd. Caiff y polisïau a’r gwasanaethau gorau eu datblygu ar sail gwybodaeth sy’n gyfredol, yn berthnasol ac yn hygyrch.

Mae ystadegau swyddogol yn taflu goleuni ar berfformiad yr economi, ond hefyd yn sail i benderfyniadau polisi’r llywodraeth a busnesau sy’n effeithio ar fywydau miliynau o bobl ledled y DU.

Mae fy nghyhoeddiad heddiw’n tanlinellu ein hymrwymiad i gadw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd. Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn helpu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ymgymryd â her economi sy’n mynd yn fwyfwy technolegol ac i wneud yn siŵr bod y DU yn arweinydd byd-eang.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne:

Mae sicrhau bod ystadegau’r DU ar flaen y gad yn fater pwysig sydd nid yn unig yn effeithio ar y penderfyniadau rwyf yn eu gwneud fel Canghellor, ond hefyd ar fusnesau ac aelwydydd ledled y wlad.

Dyna pam y gofynnodd Matt Hancock a minnau i’r Athro Bean y llynedd ystyried sut gallem gael ystadegau o safon fyd-eang yma yn y DU. Nawr, diolch i’w ddadansoddi awdurdodol, rydyn ni mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â’r her ryngwladol o fesur economi fodern ac rwy’n falch o ddweud y bydd yr arian newydd a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yn helpu i sicrhau y bydd ystadegau’r DU yn addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn bleidlais o ymddiriedaeth yn arbenigedd Casnewydd a Chymru.

Mae Cymru’n datblygu enw da yn rhyngwladol fel canolfan sy’n arloesi mewn technoleg, a bydd y ganolfan gwyddoniaeth data newydd yn ychwanegiad gwych at hynny. Mae llywodraeth y DU a Swyddfa Cymru yn benderfynol o chwarae rhan yn y gwaith o adeiladu ar y rhagoriaeth honno.

Cyhoeddwyd ar 17 March 2016