Stori newyddion

100 diwrnod i fynd i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2017 i 2018

Ewch ati nawr i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2017 i 2018 yn hytrach na’i gadael tan y funud olaf.

Self Assessment promotional image - "Don't let your tax return peck away at you - do it by 31st January" / "Peidiwch â gadael i'ch Ffurflen Dreth eich pigo"

Gall trethdalwyr lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol mor gynnar â 6 Ebrill. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn aros tan ar ôl y Nadolig i’w llenwi.

Y llynedd, llenwodd dros 11 miliwn o gwsmeriaid Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2016 i 2017, a llwyddodd 10.7 miliwn ohonynt i wneud hynny mewn pryd. Cyflwynodd 4,852,744 o gwsmeriaid eu Ffurflen Dreth ym mis Ionawr 2018 (44.8% o’r cyfanswm) a 758,707 o gwsmeriaid ar 31 Ionawr.

Mae 100 diwrnod i fynd tan y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2019, ond does dim byd yn bod ar lenwi’ch Ffurflen Dreth ymlaen llaw. Gallwch ddysgu faint o dreth sydd arnoch a’i thalu cyn y dyddiad cau - un peth yn llai ar eich rhestr felly dros y cyfnod prysur.

Meddai Mel Stride, yr Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys:

Y llynedd, llenwodd dros 11 miliwn o drethdalwyr eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad ac o ganlyniad i hynny, cafwyd refeniw o £32.7 biliwn - y swm uchaf erioed. Ac mae’r arian hwnnw’n ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Mae cyfran sylweddol o’n Ffurflenni Treth Hunanasesiad yn dod oddi wrth weithwyr hunangyflogedig a busnesau bach, ac mae’r llywodraeth yn ymrwymedig i’w helpu a lleihau eu baich gweinyddol. Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth a rheoli’ch treth ar-lein yn hawdd ac yn hwylus drwy’ch Cyfrif Treth Personol.

Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Er bod y dyddiad cau 100 diwrnod i ffwrdd, mae llawer ohonom yn ei gadael hi tan fis Ionawr i ddechrau arni. Mae amser yn hedfan dros yr ŵyl, ond eto mae’r dasg o lenwi’ch Ffurflen Dreth o’ch blaen o hyd.

Rydyn ni am helpu pobl i gael eu Ffurflenni Treth yn iawn. Drwy ddechrau ar y broses yn gynnar, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn ddiffwdan mewn pryd.

Mae treth yn cael ei didynnu’n awtomatig o’r rhan fwyaf o gyflogau, pensiynau neu gynilion trethdalwyr y DU. Ond, mae’n rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi’i didynnu’n awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.

Y llynedd, cyflwynodd 93% o gwsmeriaid eu Ffurflen Dreth ar-lein - y ganran uchaf erioed - ac mae CThEM yn rhoi cryn gymorth i unigolion sydd angen llenwi’u Ffurflen Dreth. Mae ffilmiau a gweminarau ar gael sy’n dangos pob cam o’r broses, ac mae arweiniad arbennig ar gael i wahanol fathau o unigolion.

Mae help i’w gael hefyd am Hunanasesiad ar-lein ar wefan GOV.UK neu gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar bapur yw 31 Hydref 2018, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein, a thalu unrhyw dreth sy’n weddill, yw 31 Ionawr 2019. Gall cwsmer wynebu isafswm cosb o £100 am gyflwyno’r Ffurflen Dreth yn hwyr.

Cyhoeddwyd ar 24 October 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 October 2018 + show all updates
  1. Added Welsh language translation.

  2. First published.