Ymgynghoriad caeedig

Y lefelau gwasanaeth gofynnol os bydd streic: gwasanaethau ysbyty

Applies to England, Scotland and Wales

Rydym yn dadansoddi eich adborth

Dewch yn ôl at y wefan hon yn fuan i lwytho'r canlyniad i lawr ar gyfer yr adborth cyhoeddus hwn.

Crynodeb

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ceisio safbwyntiau ar gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn gwasanaethau ysbytai yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i ddiogelu diogelwch cleifion yn ystod streic.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lloegr) yn ceisio safbwyntiau i lywio penderfyniadau ar gyflwyno rheoliadau ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban, er mwyn diogelu diogelwch cleifion mewn gwasanaethau ysbyty allweddol yn ystod streic.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymgynghori ar gymhwyso lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer sectorau eraill. Ym maes iechyd, rydym yn dymuno cael y cydbwysedd cywir rhwng gallu gweithwyr i streicio a diogelu bywyd ac iechyd.

Ein cynnig yw bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau ysbyty hanfodol ac sy’n gritigol o ran amser gael eu cwmpasu gan reoliadau lefel gwasanaeth gofynnol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylai gwasanaethau ysbyty gael eu cwmpasu ac, os felly, pa wasanaethau ysbyty, y lefelau gwasanaeth gofynnol priodol sydd eu hangen, ac a ddylid cynnwys unrhyw wasanaethau iechyd y tu allan i ysbytai.

Mae Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Nid yw’r ddeddf yn berthnasol i Ogledd Iwerddon

Rydym yn ceisio safbwyntiau gan:

  • y cyhoedd yn gyffredinol (gan gynnwys cleifion ac aelodau o’r teulu neu ofalwyr)
  • undebau llafur
  • cyflogwyr y GIG a’r gwasanaeth iechyd
  • sefydliadau cynrychiadol a chyrff proffesiynol
  • gweithwyr yn y gwasanaethau iechyd
  • gweithwyr mewn unrhyw wasanaethau eraill y mae streiciau yn y GIG yn effeithio arnynt
  • grwpiau cleifion

Bydd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Dogfennau

Cyhoeddwyd ar 16 October 2023