Tybaco a fêps: deunydd pecynnu, edrychiad ac arddangos
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ceisio barn ar gynigion i reoleiddio tybaco, fepio a chynhyrchion nicotin o dan y Ddeddf Tybaco a Fêps. Mae’r cynigion yn cwmpasu:
- pecynnu ar gyfer rhai cynhyrchion tybaco, papurau sigaréts, cynhyrchion ysmygu llysieuol, dyfeisiau tybaco wedi’i wresogi a chynhyrchion fepio a nicotin
- ymddangosiad dyfeisiau tybaco wedi’i wresogi a fêps
- lle gall siopau arddangos cynhyrchion ysmygu llysieuol, papurau sigaréts, dyfeisiau tybaco wedi’i wresogi a dyfeisiau eraill sy’n gysylltiedig â thybaco a chynhyrchion fepio a nicotin
Mae’r cynigion hyn yn berthnasol ledled y DU ac maent wedi cael eu datblygu gyda’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym am leihau apêl y cynhyrchion hyn, yn enwedig i blant a phobl ifanc, gan gefnogi oedolion sy’n ysmygu i roi’r gorau iddi.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi asesiadau effaith cam yr ymgynghoriad ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn.
See the English version - the 4 impact assessments are published on this page.