Consultation outcome

Annex A: draft guidance for responsible authorities (Welsh accessible)

Updated 23 December 2022

Applies to England and Wales

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn svdutyconsultation@homeoffice.gov.uk

Crynodeb

Y canllawiau hyn

1. Cyhoeddir y canllawiau hyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel canllawiau statudol o dan Bennod 1 Rhan 2 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 (“Deddf PCSC”) ac y cynhyrchwyd i gefnogi sefydliadau ac awdurdodau sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r Ddyletswydd Trais Difrifol.

2. Mae’r canllawiau’n nodi astudiaethau achos sy’n dangos gwaith partneriaeth effeithiol, cyngor ar rannu data, gwybodaeth am fonitro ac arolygu a chyngor ar weithio gyda’r sector gwirfoddol a chymunedol a phobl ifanc. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn darparu dolenni i ganllawiau a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn hytrach na’u hailadrodd neu eu hailgyflwyno yma.

3. Mae’r canllawiau’n amlinellu’r newidiadau a wnaed i adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol lunio a gweithredu strategaeth i atal a lleihau trais difrifol.

4. Mae’r canllawiau hyn ar gyfer awdurdodau penodedig a ddiffinnir yn adran 11 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 1 i’r Ddeddf (Prif Swyddogion yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, Grwpiau Comisiynu Clinigol [Byrddau Gofal Integredig][footnote 1] , Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol, timau troseddau ieuenctid a gwasanaethau prawf), awdurdodau carchardai, awdurdodau dalfeydd ieuenctid ac awdurdodau addysgol (fel y diffinnir yn adran 12 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 2 i’r Ddeddf), cyrff plismona lleol, ac unrhyw berson a ragnodir mewn rheoliadau o dan adran 10 o Ddeddf PCSC.

5. Mae canllawiau penodol hefyd wedi’u cynnwys ar gyfer awdurdodau sy’n gweithredu yng Nghymru, sy’n adlewyrchu cyd-destun deddfwriaethol a gweithredol penodol Cymru.

Pennod Un: Y Ddyletswydd

Cyflwyniad

6. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2019[footnote 2], cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n cyflwyno deddfwriaeth yn cyflwyno dyletswydd trais difrifol newydd (“y Ddyletswydd”) ar amrywiaeth o awdurdodau penodedig. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau perthnasol yn gweithio gyda’i gilydd i rannu gwybodaeth ac yn caniatáu iddynt dargedu eu hymyriadau, lle bo’n bosibl drwy strwythurau partneriaeth presennol, er mwyn atal a lleihau trais difrifol yn eu cymunedau lleol.

7. Cyhoeddodd y Llywodraeth hefyd y byddai’n diwygio Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i sicrhau bod trais difrifol yn flaenoriaeth benodol i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol a thrwy sicrhau bod ganddynt strategaeth ar waith i fynd i’r afael â thrais difrifol yn benodol.

Y Ddyletswydd

Pam bod y Ddyletswydd wedi’i chyflwyno?

8. Mae trais difrifol yn cael effaith ddinistriol ar fywydau dioddefwyr, teuluoedd ac mae’n meithrin ofn mewn cymunedau ac mae’n gostus iawn i gymdeithas.

9. Mae’r Ddyletswydd yn rhan allweddol o raglen waith y Llywodraeth i atal a lleihau trais difrifol: gweithredu dull amlasiantaethol o ddeall achosion a chanlyniadau trais difrifol, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, a’i lywio gan dystiolaeth.

10. Yn ogystal â gorfodi’r gyfraith yn llym, mae angen inni ddeall a mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n achosi i rywun gyflawni troseddau treisgar yn y lle cyntaf. Nod y Ddyletswydd yw sicrhau bod asiantaethau yn canolbwyntio ar eu gweithgarwch i leihau trais difrifol wrth hefyd ddarparu digon o hyblygrwydd fel ybydd y sefydliadau perthnasol yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda’i gilydd yn y bartneriaeth leol fwyaf effeithiol ar gyfer unrhyw ardal benodol.

Beth yw’r Ddyletswydd?

11. Mae’r Ddyletswydd yn cynnwys y gofynion a nodir ym Mhennod 1 Rhan 2 o Ddeddf PCSC. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodedig [footnote 3] weithio gyda’i gilydd i atal a lleihau trais difrifol, gan gynnwys nodi’r mathau o drais difrifol sy’n digwydd yn yr ardal, achosion y trais hwnnw (lle mae’n bosibl gwneud hynny), ac i baratoi a gweithredu strategaeth ar gyfer atal, a lleihau trais difrifol yn yr ardal. Mae’r Ddyletswydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau penodedig ymgynghori ag awdurdodau addysgol, carchardai a dalfeydd ieuenctid [footnote 4] ar gyfer yr ardal wrth baratoi eu strategaeth.

12. Nid yw’r Ddyletswydd yn gofyn am greu strwythurau amlasiantaethol newydd. Gall uwch arweinwyr lleol, fel y nodir yn y canllawiau hyn, ddefnyddio strwythurau lleol presennol lle y bo’n bosibl i gydymffurfio â gofynion y Ddyletswydd i gydweithio i atal a lleihau trais difrifol yn eu hardaloedd lleol ac, yn y pen draw, i wella diogelwch cymunedol.

13. Mae’r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau penodedig gydweithio a chynllunio i atal a lleihau trais difrifol. Wrth wneud hynny, anogir ardaloedd lleol i fabwysiadu diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd, a grynhoir fel a ganlyn:

  • Canolbwyntio ar boblogaeth bendant;

  • Gyda chymunedau ac ar eu cyfer;

  • Dim cyfyngiad o ran ffiniau sefydliadol neu broffesiynol;

  • Canolbwyntio ar greu atebion tymor hir yn ogystal ag atebion tymor byr;

  • Yn seiliedig ar ddata a gwybodaeth ddefnyddiol i nodi’r baich ar y boblogaeth, gan gynnwys unrhyw anghydraddoldebau;

  • Gyda thystiolaeth o effeithiolrwydd i fynd i’r afael â’r broblem.[footnote 5]

14. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu fframwaith defnyddiol gyda phedwar cam [footnote 6]ar gyfer gweithredu dull iechyd cyhoeddus o ddeall ac atal trais difrifol.

15. Dylid cydnabod hefyd fod gweithgarwch gorfodi a gweithgarwch sy’n seiliedig ar gyfiawnder troseddol yn rhan hanfodol o ddull iechyd cyhoeddus. Wrth fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus, ni ddylid ystyried bod hyn mewn unrhyw ffordd yn tanseilio nac yn atal yr angen am waith gwerthfawr a hanfodol yr heddlu a phartneriaid eraill mewn perthynas â gorfodi a gweithgarwch sy’n seiliedig ar gyfiawnder troseddol. Dengys hyn yn glir mewn cyngor gan y Coleg Plismona ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr[footnote 7] ynghylch dulliau iechyd cyhoeddus o blismona[footnote 8].

16. Rhaid i awdurdodau penodedig ledled Cymru a Lloegr nodi’r mathau o drais difrifol sy’n digwydd yn yr ardal, a, lle bo hynny yn bosibl, nodi achosion y trais hwnnw. Er mwyn gwneud hynny, dylai awdurdodau penodedig gynnal dadansoddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o achosion trais difrifol yn eu hardal a defnyddio’r dadansoddiad hwn i ddatblygu asesiad strategol lleol o anghenion a ddylai lywio’r strategaeth leol. Dylai’r strategaeth, y mae’n rhaid i awdurdodau penodedig ei pharatoi a’i gweithredu, gynnwys atebion pwrpasol i atal a lleihau trais difrifol yn eu hardal. Rhaid adolygu hyn yn barhaus, a dylid digwydd yn flynyddol a’i ddiweddaru pan fo angen.

17. Bwriad y Ddyletswydd yw creu amodau cywir i awdurdodau gydweithio a chyfathrebu yn rheolaidd, gan ddefnyddio partneriaethau sydd eisoes yn bodoli lle bo hynny yn bosibl a rhannu gwybodaeth a chymryd camau cydweithredol effeithiol yn eu hardaloedd lleol. Bydd pob sefydliad ac asiantaeth sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd yn atebol am eu gweithgarwch a’u cydweithrediad.

Pwy sydd rhaid cydymffurfio â’r Ddyletswydd?

18. Mae’r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau penodedig canlynol o fewn ardal llywodraeth leol gydweithio i atal a lleihau trais difrifol:

  • Heddlu
    • Prif Swyddog yr heddlu ar gyfer ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr
    • Cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru
  • Cyfiawnder
    • Gwasanaethau Prawf
    • Timau Troseddau Ieuenctid
  • Tân ac Achub

    • Pob awdurdod tân ac achub sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr[footnote 9]
  • Iechyd
    • Grwpiau Comisiynu Clinigol [Byrddau Gofal Integredig][footnote 10] yn Lloegr
    • Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru
  • Awdurdodau lleol
    • Cyngor dosbarth
    • Cyngor sir yn Lloegr
    • Cyngor bwrdeistref yn Llundain
    • Cyngor Cyffredin Dinas Llundain fel awdurdod lleol
    • Cyngor Ynysoedd Sili
    • Cyngor sir yng Nghymru
    • Cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru

19. Bydd rhai o’r awdurdodau hyn yn cael eu datganoli yng Nghymru. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys pennod benodol ar y cyd-destun yng Nghymru, a fydd yn berthnasol i unrhyw awdurdod (wedi’i datganoli neu heb ei ddatganoli) sy’n cyflawni’r Ddyletswydd yng Nghymru.

20. Nid yw’r Ddyletswydd yn pennu ‘prif’ awdurdod i fod yn gyfrifol am gydlynu gweithgarwch na chyflwyno strwythur y disgwylir i awdurdodau penodedig weithio iddo. Mater i’r awdurdodau penodedig yw dod at ei gilydd i benderfynu ar yr arweiniad a’r strwythur cydweithredu priodol ar gyfer eu hardal. Efallai y bydd rhai ardaloedd yn dewis defnyddio Unedau Lleihau Trais (VRU) i arwain ar y gwaith (os oes un yn bodoli) neu eu Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (CSP) leol, tra bydd eraill yn defnyddio partneriaethau eraill megis trefniadau diogelu amlasiantaethol, byrddau Cyfiawnder Troseddol neu fyrddau Iechyd a Lles. Efallai y byddai’n well hefyd cydweithio gyda nifer o strwythurau partneriaeth gwahanol yn dibynnu ar y cyd- destun lleol.

21. Gall cyrff plismona lleol, sef Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu (MOPAC) a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain fel awdurdod heddlu, ddewis cydweithio â phartneriaethau lleol a chymryd rôl gynnull er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r strategaeth leol. Yn unol â’r trefniadau presennol o fewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPs), rhaid i awdurdodau sydd â chyfrifoldeb gydweithredu â’r corff plismona lleol os yw’r corff plismona lleol hwnnw’n dewis cynorthwyo neu fonitro’r awdurdod penodedig wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddyletswydd. Mae hyn yn berthnasol hefyd i Gomisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu fel cyrff plismona lleol ac wrth arfer y swyddogaethau hynny.

22. I gydnabod y rôl hanfodol y mae ysgolion yn ei chwarae o ran diogelu plant a phobl ifanc, rhaid i’r awdurdodau penodedig ymgynghori â sefydliadau addysgol, [footnote 11] gan gynnwys; ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, academïau, ysgolion annibynnol, ysgolion annibynnol, ysgolion am ddim, darparwyr addysg amgen a darparwyr addysg bellach, wrth baratoi’r strategaeth. Mae Adran 15 o Ddeddf PCSC yn darparu hefyd bod yn rhaid i awdurdodau addysgol gydweithio ag awdurdodau penodedig, os bydd gofyn iddynt gymryd rhan. Gall awdurdodau addysgol ofyn hefyd am gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth ac os bydd hynny yn digwydd yna byddai’n ofynnol i’r awdurdodau penodedig gydweithio â hwy. Dylai’r partneriaeth ddewis cynrychiolydd(cynrychiolwyr) addysg strategol neu grŵp addysg cynrychioliadol ar gyfer yr ardal leol i ddarparu cyswllt rhwng yr awdurdodau sydd â chyfrifoldeb a sefydliadau unigol. Efallai y bydd yn ofynnol hefyd i awdurdodau addysgol gyflawni’r camau a bennir mewn strategaeth y cytunwyd arni gan y bartneriaeth mewn cydweithrediad â’r cynrychiolydd/cynrychiolwyr addysg strategol neu’r grŵp cynrychioliadol. Fodd bynnag, nid yw’r dyletswyddau hynny yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau[footnote 12].

23. Mae carchardai yn diogelu’r cyhoedd ac yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o adsefydlu’r carcharorion hynny sydd wedi cyflawni troseddau treisgar ac a allai yn y dyfodol, ac sydd wedi bod, bod ymhlith rhai sy’n fwy tebygol i brofi trais. Fel y mae gydag awdurdodau addysgol, mae’n ofynnol i’r awdurdodau penodedig ymgynghori ag awdurdodau carchardai a dalfeydd ieuenctid wrth baratoi’r strategaeth. Mae Adran 15 o Ddeddf PCSC yn daraparu hefyd bod yn rhaid iddynt gydweithio ag awdurdodau penodedig os bydd gofyn iddynt gymryd rhan. Mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i sefydliadau unigol gydweithio a chymryd rhan weithredol os bydd awdurdodau penodedig ar gyfer yr ardal yn gofyn iddynt wneud hynny. Gall awdurdodau carchardai a dalfeydd ieuenctid ofyn hefyd i gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth, ac os bydd hynny yn digwydd yna byddai’n ofynnol i’r awdurdodau penodedig gydweithio â hwy. Efallai y bydd yn ofynnol hefyd, o dan y Ddyletswydd, i awdurdodau carchardai a dalfeydd ieuenctid gyflawni’r camau a bennir mewn strategaeth leol, a chydweithio ag awdurdod addysgol, neu garchar arall neu awdurdod dalfa ieuenctid yn yr ardal llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid yw’r dyletswyddau hynny yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau[footnote 13]. Rhoddir y dyletswyddau a ddisgrifir uchod i lywodraethwr neu gyfarwyddwr y sefydliad gwarchodol perthnasol. Fodd bynnag, yn achos carchardai i oedolion, gall Cyfarwyddwyr Grwpiau Carchardai sicrhau ymgysylltiad rhwng awdurdodau carchardai ac awdurdodau penodedig os ystyrir bod yn berthnasol ac yn angenrheidiol er mwyn atal a lleihau trais difrifol. Gallant gael eu dewis hefyd i gynrychioli awdurdodau dalfa ieuenctid perthnasol.

24. Efallai y bydd awdurdodau penodedig dewis ymgysylltu ag awdurdodau addysgol, carchardai a/neu dalfa ieuenctid er mwyn:

  • Dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol leol a allai gyfrannu at benderfynu ar asesiad strategol o anghenion lleol.
  • Gofyn am ddata i lunio dadansoddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o achosion lleol trais difrifol.
  • Cyflawni unrhyw gamau sy’n deillio o’r strategaeth ar lefel sefydliad unigol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw gyda’r sefydliad/sefydliadau perthnasol.
  • Asesu effeithiolrwydd a chanlyniadau unrhyw gamau gweithredu sy’n deillio o’r strategaeth sy’n cynnwys neu yn cael ei chyflwyno gan sefydliadau unigol.

Diffinio Trais Difrifol

25. Mae Adran 13 o Ddeddf PCSC yn nodi, at ddibenion y Ddyletswydd, bod trais yn cynnwys cam-drin domestig, troseddau rhywiol, trais yn erbyn eiddo a bygythiadau o drais ond nad yw’n cynnwys terfysgaeth. Mae Adran 13(6) yn nodi hefyd, wrth ystyried a yw trais yn gyfystyr â thrais difrifol, fod yn rhaid i awdurdodau penodedig ystyried y ffactorau canlynol:

a. y gosb uchaf y gellid ei gosod am unrhyw drosedd sy’n gysylltiedig â’r trais;

b. effaith y trais ar unrhyw ddioddefwr;

c. nifer o’r achosion trais yn yr ardal, ac

d. effaith y trais ar y gymuned yn yr ardal.

Mae’r dull hwn yn golygu y gall y strategaeth ystyried mathau newydd ac amlwg o drais difrifol wrth iddynt ddatblygu a’u adnaobd ac mae’n cydnabod y gwahaniaeth daearyddol yn nifer yr achosion o wahanol fathau o droseddau treisgar difrifol.

26. Wrth ystyried sut i ddiffinio trais difrifol yn eu hardal ac ystyried y ffactorau yn adran 13(6), dylai awdurdodau penodedig gynnwys trais difrifol fel y diffinnir at ddibenion y Strategaeth Trais Difrifol [footnote 14]a chanolbwyntio ar faterion fel trais ieuenctid mewn mannau cyhoeddus. Cyhoeddwyd Strategaeth Trais Difrifol mewn ymateb i’r nifer o rhai mathau o droseddau treisgar mewn mannau cyhoeddus yn codi.

27. Mae’r Strategaeth Trais Difrifol yn nodi mathau penodol o droseddau sydd â phryder mawr penodol, gan gynnwys dynladdiad, trais yn erbyn y person a all gynnwys troseddau cyllyll a throseddau gynnau, ac ardaloedd o droseddu lle mae trais difrifol neu fygythiad o drais difrifol yn barhaol, megis delio cyffuriau mewn llinellau sirol. Dylai’r troseddau hyn fod wrth wraidd unrhyw ddiffiniad o drais difrifol at ddibenion ei leihau a’i atal.

28. Fodd bynnag, mae hyblygrwydd i awdurdodau penodedig mewn ardaloedd lleol ystyried eu hasesiad o anghenion strategol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth ddiffinio trais difrifol ac, gan ystyried y ffactorau yn adran 13(6), gallant gynnwys yn eu camau gweithredu strategaeth sy’n canolbwyntio ar fathau cysylltiedig eraill o drais difrifol, gallai hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) trais sy’n gysylltiedig ag alcohol, caethwasiaeth fodern a thrais yn erbyn menywod a merched [footnote 15], gan gynnwys cam-drin domestig a throseddau rhywiol.

29. Mae Adran 13 o Ddeddf PCSC yn nodi yn glir bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o drais at ddibenion y Ddyletswydd. Dylai awdurdodau penodedig gyfeirio at Bennod 2: Asesiadau Anghenion Strategol o’r canllawiau hyn i gael rhagor o wybodaeth am gynnal asesiadau o anghenion ar gyfer troseddau cam-drin domestig a throseddau rhywiol.

30. Mae adran 13(3)(a)(i) o Ddeddf PCSC yn datgan bod cam-drin domestig yn cael ei ddiffinio yn unol ag adran 1 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (‘Deddf DA’)[footnote 16]. Mae Deddf DA yn diffinio cam-drin domestig fel ymddygiad (naill ai fel digwyddiadau unigol neu batrwm ymddygiad) rhwng y rhai yn hyn na 16 oed, ‘wedi’u cysylltu’n bersonol’ ac, sy’n mynd tu hwnt i drais corfforol yn unig i gynnwys ymddygiad treisgar neu fygythiol, ymddygiad rheoli neu orfodi, cam-drin rhywiol, cam-drin economaidd, a cham-drin seicolegol, emosiynol neu gam-drin arall. Mae Canllawiau Statudol y Ddeddf Cam-drin Domestig [drafft] yn rhoi gwybodaeth glir am beth yw cam-drin domestig a sut i’w adnabod.[footnote 17]

31. Diffinnir trais rhywiol yn adran 13(4) a (5) o Ddeddf PCSC fel trosedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr a nodir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, ac eithrio’r drosedd o osgoi tollau twyllodrus. Wrth benderfynu a yw trosedd wedi’i nodi yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, ni ddylid ystyried unrhyw gyfyngiad yn yr Atodlen honno sy’n cyfeirio at amgylchiadau achos penodol (gan gynnwys y ddedfryd a osodir). Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys trais rhywiol ac ymosodiad anweddus.

Diffinio’r Ardal Leol

32. Mae’r “ardal leol” lle mae disgwyl i awdurdodau penodedig gydweithio gyda’i gilydd ynddi, o fewn ardal llywodraeth leol o leiaf.[footnote 18]

33. Fodd bynnag, gall partneriaeth leol ymestyn i ardal ehangach fel ardal heddlu, os mai dyna beth sy’n cael ei gytuno ar gyfer yr ardal. Gall y strategaeth gynnwys ardal ehangach na sir ond rhaid bod yr holl awdurdodau penodedig ar gyfer yr ardal honno yn rhan o’r gwaith o’i pharatoi a’i gweithredu.

34. Mae’r ddeddfwroaetj yn fwriadol hyblyg i adael i awdurdodau penodedig bennu graddau daearyddol eu cydweithrediad (yn amodol ar ardal benodedig lleiaf). Nid oes dull “cywir” cyffredinol wrth bennu maint yr ardal y bydd y bartneriaeth yn gweithredu ynddi. Bydd yr ardal ddewisol yn fwyaf tebygol o gyd-fynd â’r bartneriaeth leol lle mae’r Ddyletswydd yn cael ei chyflawni. Dylai cynrychiolwyr o’r awdurdodau penodedig benderfynu ar y cyd am bartneriaeth briodol ar gyfer gweithio gyda’i gilydd i ymgymryd â gofynion y Ddyletswydd.

35. Nid oes angen creu partneriaeth newydd er mwyn cydymffurfio â’r Ddyletswydd. Yn hytrach, gall yr awdurdodau penodedig ddefnyddio partneriaethau sydd eisoes yn bodoli lle bo hynny’n bosibl a gydag addasiadau priodol. Er enghraifft, efallai y bydd awdurdodau penodedig am greu is-bwyllgor i bartneriaeth sydd eisoes wedi’i sefydlu, megis Partneriaeth Diogelwch Cymunedol neu fwrdd diogelu amlasiantaethol. Fel arall, efallai y byddant am gryfhau’r cysylltiadau rhwng nifer o bartneriaethau presennol sy’n gweithredu o fewn ardal ddaearyddol. Er enghraifft, cysylltu gwaith nifer o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol sy’n gweithredu yn yr un ardal heddlu er mwyn datblygu dull strategol mwy effeithiol o fynd i’r afael â thrais difrifol. Mae’r Ddyletswydd yn gyfle i symleiddio ac ychwanegu ffocws at y trefniadau partneriaeth presennol yn hytrach na chymhlethu’r dirwedd aml- asiantaeth bresennol yn bellach.

36. Mae Adran 9 o Ddeddf PCSC yn gadael i ddau neu fwy o awdurdodau penodedig gydweithio i atal a lleihau trais difrifol mewn “ardal berthnasol”.[footnote 19] Mae hyn yn golygu y caniateir i awdurdodau weithio ar draws ffiniau llywodraeth leol ac wrth wneud hynny, cydweithio ar strategaethau sy’n cynnwys ardaloedd sy’n fwy na’r hyn y maent yn darparu gwasanaethau ynddo yn bennaf. Gallai hyn gynnwys cydweithio ag awdurdodau mewn ardaloedd cyfagos neu’r rhai ymhellach i ffwrdd. Lle y bo’n briodol, gall cyrff ac asiantaethau ddewis i weithio ar draws ffiniau llywodraeth leol a hyd yn oed yn genedlaethol lle mae angen mynd i’r afael â materion trais difrifol penodol (e.e. delio cyffuriau mewn llinellau sirol neu achosion lle mae unigolion yn cael eu cadwn yn y ddalfa neu ofal y tu allan i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol amdanynt).

Beth fydd disgwyl i awdurdodau penodedig ei wneud?

37. Unwaith y bydd yr awdurdodau penodedig wedi nodi strwythur partneriaeth, dyma fydd elfennau craidd y Ddyletswydd:

a. Deall materion lleol: Er mwyn nodi’r mathau o drais difrifol sy’n digwydd yn eu hardaloedd, a chyn belled bod yn bosibl gwneud hynny, achosion y trais difrifol hwnnw, dylai’r bartneriaeth weithio gyda’i gilydd i benderfynu ar ‘asesiad anghenion strategol’ lleol – gan adnabod ffactorau sy’n arwain trais difrifol sy’n gweithredu yn yr ardal leol a’r grwpiau o bobl yr effeithir arnynt fwyaf neu sydd mewn perygl. Bydd hyn yn gofyn am rannu data perthnasol a gwybodaeth ddefnyddiol a gedwir gan y sefydliadau unigol sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd.

b. Paratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaeth: Er mwyn paratoi paratoi a gweithredu strategaeth ar gyfer arfer eu swyddogaethau i atal a lleihau trais difrifol yn yr ardal, rhaid i’r bartneriaeth ddatblygu strategaeth ar y cyd a ddylai amlinellu’r ymateb amlasiantaethol y bydd y bartneriaeth yn ei gymryd i fynd i’r afael â’r ffactorau a nodwyd yn yr asesiad strategol o anghenion a gweithio i atal a lleihau trais difrifol yn yr ardal leol benodedig. Dylai’r strategaeth nodi sut y bydd y camau gweithredu arfaethedig yn gwella ac yn ategu’r trefniadau lleol presennol sy’n ymateb i drais difrifol. Gall rhan o’r gwaith hwn gynnwys ystyried ariannu neu fuddsoddi ar y cyd i gefnogi ymyriadau ac ymatebion cynnar lleol. Bydd angen i bartneriaethau ymgynghori hefyd ag unrhyw a phob sefydliad addysgol, carchardai a lleoliadau diogel sydd yn yr ardal leol, a ystyrir ganddyn nhw i fod yn angenrheidiol, fel rhan o’r broses hon. Rhaid cyhoeddi strategaethau a rhaid iddynt beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ystyried gan awdurdodau penodedig y gallai beryglu diogelwch unrhyw berson, rhagfarnu atal neu ganfod trosedd neu ymchwilio neu erlyn trosedd neu beryglu diogelwch neu, drefn neu ddisgyblaeth dda o fewn, awdurdod addysgol, carchar neu ddalfa’r ifanc. Bydd rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer neu mewn cysylltiad â chyhoeddi a chyfathrebu strategaethau o’r fath.

c. Adolygiad: Mae’r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol, unwaith y bydd strategaeth wedi’i pharatoi a’i chyhoeddi, fod rhaid adolygu’r strategaeth yn barhaus. Dylai’r bartneriaeth adolygu’r strategaeth yn flynyddol o leiaf. Dylai adolygiad ystyried yn benodol sut mae’r ymyriadau a’r atebion wedi effeithio ar drais difrifol yn eu hardal – gan ystyried, er enghraifft, ystadegau troseddu a data damweiniau ac achosion brys. Efallai y bydd yr adolygiad yn tynnu sylw at yr angen am gael asesiad a strategaeth anghenion strategol newydd, er enghraifft lle nodir mathau newydd ac amlwg o droseddau.

38. Bydd yr elfennau craidd hyn yn cael eu harchwilio yn fanylach yn y canllawiau hyn. Bydd pob awdurdod sydd â chyfrifoldeb yn atebol am eu gweithgarwch a’u cydweithrediad wrth weithredu’r strategaeth. Dylai pob awdurdod penodedig ac unrhyw asiantaethau perthnasol y gallent effeithio arnynt gytuno ymlaen llaw ar unrhyw gamau gweithredu a nodir mewn strategaeth. Efallai y bydd awdurdodau sydd â chyfrifoldeb am benodi uwch swyddog yn eu hasiantaeth i fod yn gyfrifol a chael awdurdod dros sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Ddyletswydd.

Cyflawni yng Nghymru

Cyflwyniad

39. Er nad yw troseddu a chyfiawnder wedi’u datganoli yng Nghymru, mae gwasanaethau allweddol sy’n helpu i atal troseddau fel gofal iechyd, llety, addysg, cyflogadwyedd a chamddefnyddio sylweddau wedi’u datganoli. Mae hyn yn golygu bod gweithgarwch troseddu a chyfiawnder yng Nghymru yn digwydd mewn cyd- destun cyflawni a deddfwriaethol unigryw.

40. Mae sefydliadau datganoledig a rhai sydd heb gael eu datganoli yn gweithio ar y cyd yng Nghymru i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl ac i adlewyrchu deddfwriaeth a strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru wrth ddarparu gwasanaethau. Mae sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Byrddau Cynllunio Ardal mewn perthynas â Chamddefnyddio Sylweddau, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Plismona yng Nghymru a’r Swyddfa Gartref yn cydweithio’n agos yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau effeithiol.

41. Mae hyn yn cefnogi dull penodol o gyflawni darpariaeth troseddu a chyfiawnder yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar gydnabod effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE’s), amharu ar gylchoedd cenedlaethau o droseddu, cydweithio i gadw cymunedau’n ddiogel ac atal aildroseddu a niwed pellach i ddioddefwyr drwy ymarfer sy’n seiliedig ar drawma.

42. Mae hyn yn cael ei ffurfioli a’i gynnal gan femorandwm cyd-dealltwriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Plismona yng Nghymru a phartneriaid cyfiawnder troseddol. Ceir tystiolaeth hefyd o waith strategol ar y cyd fel y Fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol i’r rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru [footnote 20], y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid, [footnote 21]y Glasbrint Cyfiawnder Menywod [footnote 22]a gwaith mewn meysydd fel gwrth-hiliaeth a Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV). Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni yng nghyd- destun y pwerau deddfwriaethol a nodir yn Neddf Cymru 2017.

43. Gan ystyried y cyd-destun hwn, mae’r bennod hon yn amlinellu’r ffactorau penodol y bydd angen i gyrff perthnasol eu hystyried wrth iddynt gyflawni’r Ddyletswydd yng Nghymru.

Y cyd-destun partneriaeth yng Nghymru

44. Bydd gan bob ardal leol yng Nghymru ystod o drefniadau amlasiantaethol presennol mewn lle. Bydd y partneriaethau presennol hyn yn cynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (Deddf WFG), Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf SS&WB), Byrddau Diogelu Rhanbarthol [footnote 23]ar gyfer Oedolion a Phlant (Deddf SS&WB), Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Rhanbarthol neu Leol, Byrddau Rhanbarthol mewn perthynas â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Deddf VAWDASV).

45. Gallant hefyd gynnwys Grwpiau Cydweithredol Rhanbarthol ar gyfer Cymorth Tai, Byrddau Trais Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol, Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol, Grwpiau Rheoli Troseddwyr Integredig, Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA), Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid y Byrddau Iechyd, Byrddau Cynllunio Ardal mewn perthynas â Chamddefnyddio Sylweddau, Byrddau Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc a Byrddau Partneriaeth Anabledd Dysgu.

46. Nid yw Deddf PCSC yn nodi’r model partneriaeth y mae’n rhaid i awdurdodau penodedig gyflawni eu rhwymedigaethau i gydweithio i atal a lleihau trais difrifol. Dylai cynrychiolwyr o’r sefydliadau statudol penodedig benderfynu ar y cyd am bartneriaeth briodol ar gyfer gweithio gyda’i gilydd i ymgymryd â gofynion y ddyletswydd. Bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a’r (ar gyfer rhannau o’r Ddyletswydd) Bwrdd VAWDASV eisoes yn cynnwys y rhan fwyaf neu’r cyfan o’r partneriaid sydd angen cymryd rhan.

47. Er mwyn cydymffurfio â’r Ddyletswydd, efallai na fydd angen creu partneriaeth newydd, a dylid defnyddio partneriaethau presennol lle bo hynny’n bosibl. Lle mae partneriaethau cryf eisoes yn bodoli yng Nghymru, maent mewn sefyllfa gref i gyflawni’r Ddyletswydd yn y rhan fwyaf o ardaloedd lleol. Yn benodol, gan fod y Ddyletswydd yn cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol o fewn ei gylch gwaith, gall sefydliadau sydd â chyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd ystyried sut y gallant fynd i’r afael â’r Ddyletswydd a’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf VAWDASV (gweler paragraff 59 i 61 isod) heb sefydlu trefniadau cyfochgrog neu ddyblygol. Efallai y bydd awdurdodau penodedig am ystyried addasu ac adolygu eu trefniadau presennol o dan Ddeddf VAWDASV, er mwyn sicrhau bod y trefniadau hyn hefyd yn mynd i’r afael â thrais difrifol yn fwy eang yn unol â’r Ddyletswydd.

48. Gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau VAWDASV rhanbarthol adolygu eu haelodaeth i sicrhau bod yr holl gyrff perthnasol yn cael eu cynnwys ac o bosibl i adolygu eu strategaethau presennol. Yna gall yr adroddiadau ar y Ddyletswydd gyfeirio yn gywir at strategaethau VAWDASV rhanbarthol.

49. Dylai’r awdurdodau penodedig yn ardal y bartneriaeth ddod at ei gilydd, darparu gwybodaeth a data, a chydweithio wrth lunio a chytuno ar yr asesiad strategol o anghenion, fel sydd eisoes yn digwydd ar gyfer yr Asesiad Strategol, Cynlluniau Lles a’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Cynlluniau Gweithredu.

Dyletswyddau statudol cyfredol perthnasol yng Nghymru

50. Mae angen i wasanaethau sy’n cael eu darparu yng Nghymru ystyried y cyd-destun deddfwriaethol a statudol ehangach. Mae’r adran hon yn amlinellu rhai o’r dyletswyddau perthnasol y bydd angen i bartneriaid eu hystyried wrth gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

51. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf WfG”) yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, ac i weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Yn benodol, mae Deddf WFG yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru i gyflawni gwaith datblygu cynaliadwy, gan weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

52. Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol, dylai awdurdodau ystyried sut y gallant wneud y gorau o’u cyfraniad at y nodau llesiant a nodir yn y Ddeddf. Dylent hefyd ystyried y ffordd orau o ymgorffori’r pum ffordd o weithio yn y Ddeddf: atal, integreiddio, cydweithio, hirdymor a chyfranogiad.

53. Ers Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, bu rhwymedigaeth statudol ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol i gynhyrchu strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y cyfeirir atynt fel Asesiadau Strategol. Yng Nghymru, gall y rhain fod yn ddogfennau annibynnol neu wedi’u hymgorffori yn yr Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth a’r Cynlluniau Gweithredu neu’r Cynlluniau Lles. Yn yr un modd, bydd angen i’r Asesiad o Anghenion Strategol ar gyfer y Ddyletswydd sicrhau bod gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael eu bodloni fel y nodir uchod.

Cymru Iachach

54. Mae iechyd yn wasanaeth datganoledig yng Nghymru ond bydd Byrddau Iechyd ar draws GIG Cymru yn gweithio gyda’u partneriaid i gefnogi’r Ddyletswydd. Maent yn gyfrifol am ddiwallu anghenion gofal brys a gofal mewn argyfwng, gan weithio gyda’r heddlu ac asiantaethau troseddau eraill a’r trydydd sector i drin a chefnogi unigolion. Gellir lleihau’r pwysau ar wasanaethau gofal brys os gellir mynd i’r afael â thrais difrifol yn lleol, felly mae’n bwysig bod partneriaethau yn gweithio i fynd i’r afael â’r rhesymau dros drais difrifol a’r ymyriadau i’w lleihau.

55. Mae Cymru yn mabwysiadu dull iechyd cyhoeddus ar gyfer mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac mae Strategaeth Cymru Iachach yn ceisio creu gwell canlyniad iechyd i bawb. Mae’r Strategaeth am newid gofal iechyd Cymru yn sylfaenol mewn pum prif ffordd: - Bydd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd. - Atal drwy ganfod ymyrraeth yn gynharach mewn lleoliadau cymunedol. - Gwella’r broses o benderfynu beth sydd wir yn bwysig er mwyn nodi pa gymorth sydd ei angen. - Gwneud Cymru yn lle dymunol ar gyfer gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. - Un system lle mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd.

56. Mae angen i wasanaethau cynghori, megis gwasanaeth 111, ddatblygu dulliau cyfeirio priodol at gyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cymorth fel y gellir cyfeirio galwyr sydd angen cymorth yn gynnar at wasanaethau priodol i’w cefnogi, gan gynnwys y rhai sydd ar gael gan wasanaethau statudol a’r trydydd sector.

57. Mae angen i wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol fod yn ymwybodol o arwyddion trais difrifol, ac hefyd bod yn ymwybodol o’r angen i ddarparu cyngor a thriniaeth ddiogel, yn ogystal â gwybod am y llwybrau amgen sydd ar gael i unigolion.

58. Dylai Byrddau Iechyd ddefnyddio cysylltiadau o fewn eu bwrdd partneriaeth rhanbarthol â gofal cymdeithasol yn ogystal â’u partneriaethau diogelwch i sicrhau bod cyswllt rhwng yr asiantaethau i gefnogi’r rhai sy’n dioddef trais difrifol yn y ffordd orau bosibl. Dylai eu cynlluniau strategol a’u cynlluniau tymor canolig integredig adlewyrchu’r angen i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi a chyflawni yn erbyn y Ddyletswydd.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

59. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf) yn nodi dyletswydd ar awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi strategaeth ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ar gyfer mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Diben y Ddeddf yw gwella: - Trefniadau ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; - Trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; - Cymorth i bobl sydd wedi cael ei heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhwyiol.

60. Mae’r ddyletswydd hon yn cael ei harfer drwy fyrddau partneriaeth VAWDASV rhanbarthol sy’n gweithredu o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’r gofynion o dan Ddeddf VAWDASV, yn benodol y gofyniad i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddatblygu strategaeth leol ar y cyd, yn cyd-fynd yn gryf â’r cyfrifoldebau a roddir ar sefydliadau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol.

61. Fel y nodwyd uchod, dylai awdurdodau penodedig, lle y bo’n bosibl, geisio osgoi sefydlu trefniadau cyfochrog i gynnwys Deddf VAWDASV a’r Ddyletswydd Trais Difrifol ar wahân. Yn hytrach, dylai sefydliadau geisio addasu a diwygio eu trefniadau presennol o dan Ddeddf VAWDASV i sicrhau bod y trefniadau hyn hefyd yn mynd i’r afael â thrais difrifol yn fwy eang yn unol â’r Ddyletswydd Trais Difrifol. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau VAWDASV rhanbarthol adolygu eu haelodaeth er mwyn sicrhau bod yr holl gyrff perthnasol yn cael eu cynnwys, ac o bosibl i adolygu eu strategaethau presennol.

62. Mae gan Weinidogion Cymru ofyniad statudol hefyd o dan Ddeddf VAWDASV 2015 i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol i atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr yn dilyn etholiad cyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu ei Strategaeth Genedlaethol VAWDASV pum mlynedd nesaf ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partneriaid allweddol gan gynnwys yr heddlu, y sector arbenigol a goroeswyr.

63. Cyhoeddir y strategaeth ym mis Mai 2022 a bydd yn cael ei chyflwyno drwy ddull Glasbrint, sy’n dod â sefydliadau datganoledig a sefydliadau nad ydynt wedi’u datganoli at ei gilydd, yn ogystal â chryfhau’r bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus preifat ac arbenigol. Bydd yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd wedi’i gyd-gadeirio gan Gomisiynydd arweiniol yr Heddlu a Throseddu Cymru. Dylai awdurdodau perthnasol ystyried y Strategaeth Genedlaethol ddiwygiedig hon wrth ymgymryd â’u cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

64. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Dyma egwyddorion sylfaenol y Ddeddf:

  • Lles – cefnogi pobl i fod yn gyfrifol am eu lles eu hunain.
  • Pobl – rhoi llais cyfartal i bobl o ran y cymorth y maen nhw’n ei gael.
  • Partneriaeth – darparu gwasanaethau cydweithredol.
  • Atal – yr angen iawn ar yr amser iawn.

65. Dylai awdurdodau penodedig, gan gynnwys Byrddau diogelu, ystyried Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a fframwaith cyfreithiol penodol Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol wrth ystyried sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau o ran lleihau ac atal trais difrifol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol yng Nghymru.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

66. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) [footnote 24]yn gytundeb rhyngwladol sy’n nodi hawliau plant. Y rhesymeg dros CCUHP yw bod angen rhoi ystyriaeth benodol i hawliau plant oherwydd y gofal a’r amddiffyniad arbennig sydd eu hangen yn aml ar blant a phobl ifanc.

67. Mae hawliau plant wedi’u hymgorffori yng nghyfraith Cymru o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 - gan danlinellu ymrwymiad Cymru i hawliau plant a’r CCUHP. Mae’r mesur yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion i ystyried y CCUHP wrth ddatblygu neu adolygu deddfwriaeth a pholisi.

68. Lle mae’r Ddyletswydd yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Byddem yn annog ac yn disgwyl i unrhyw gynlluniau fod â dull sy’n seiliedig ar hawliau.

Deddf Tai (Cymru) 2014

69. Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod cyfrifoldebau ar awdurdodau lleol mewn perthynas ag atal a lleihau digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau rhesymol pan fydd rhywun mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod (a66).
  • Dyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau llety i rywun sy’n ddigartref (a73).
  • Dyletswydd i ddarparu ar gyfer rhywun sy’n ddigartref ac sy’n dod o dan y categori angen blaenoriaeth (a75).
  • Dyletswydd i ddarparu llety dros dro ar gyfer rhywun sy’n ddigartref ac a allai fod ag angen blaenoriaeth (a68).

70. Mae Adran 70 o Ddeddf Tai (Cymru) yn amlinellu’r rhestr o gategorïau sy’n cael eu hystyried ar gyfer statws angen blaenoriaeth, gan gynnwys person sy’n destun cam- drin domestig a pherson rhwng 18 a 21 oed sydd mewn perygl o gamfanteisio rhywiol neu ariannol. Mae’r Ddeddf yn nodi yn glir y dylai unrhyw un sydd mewn perygl neu sy’n cael ei gam-drin neu sy’n dioddef cam-drin domestig gael ei ystyried yn ddigartref ac yn gymwys i gael cymorth i ddod o hyd i lety arall.

71. Cafodd y Cod Canllawiau [footnote 25]ei ddiweddaru yn 2016 ac mae’n rhoi cyngor ar y dyletswyddau.[footnote 26] O ganlyniad i’r pandemig, roedd canllawiau atodol gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys diffiniad ehangach o fod yn agored i niwed i gynnwys unrhyw un sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd o safbwynt iechyd cyhoeddus. Bydd y dull hwn yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y pandemig wrth i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu trawsnewid gyfan o wasanaethau digartrefedd yn ystod y tymor hwn o Lywodraeth.

72. Dylai’r cyfrifoldebau gael eu hystyried gan sefydliadau wrth iddynt weithredu ar y Ddyletswydd.

Y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol – Deddf Cydraddoldeb 2010

73. Dylai’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol, sydd wedi’i deddfu yng Nghymru ond nid yn Lloegr, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, a gwasanaethau tân ac achub:

“Wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i arfer ei swyddogaethau, ystyried manteision eu harfer mewn ffordd sydd wedi’i chynllunio i leihau’r anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.”

74. Diben y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yw annog gwell penderfyniadau, gan sicrhau canlyniadau mwy cyfartal. Wrth ddatblygu dull o gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y SVD, dylai arweinwyr yng Nghymru ystyried sut mae’r cynlluniau yn lleihau’r anghydraddoldebau o ran canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

75. Sefydlodd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 [footnote 27](“Deddf 2021”) Gwricwlwm i Gymru yn ôl y gyfraith a disodli’r cwricwlwm sylfaenol (sy’n cynnwys, er enghraifft, y cwricwlwm cenedlaethol a lleol a nodir yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002[footnote 28]). Mae Deddf 2021 yn darparu ar gyfer dilyniant ac asesu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm ar gyfer plant 3 i 16 oed. Mae’n hefyd yn cael ychydig o effaith ar y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr sy’n hŷn nag oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion a gynhelir.

76. Dylai sefydliadau ystyried Deddf 2021 yng nghyd-destun y Ddyletswydd wrth gymryd gwaith ymlaen sy’n effeithio ar leoliadau addysg. Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru[footnote 29], a gyflwynir o Fedi 2022, yn cynnwys Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) sydd â statws cyfartal yn y gyfraith i bum maes arall y cwricwlwm. Bydd yn gwella ffocws y cwricwlwm newydd ar iechyd a lles dysgwyr sy’n cynnwys Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) gorfodol[footnote 30].

Strategaethau Cenedlaethol Perthnasol yng Nghymru

77. Mae’r strategaethau a’r cynlluniau gweithredu canlynol yn effeithio ar y cyd-destun strategol ar gyfer gwaith i atal trais difrifol yng Nghymru. Dylai awdurdodau penodedig eu hystyried wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Ddyletswydd. Trafodir y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer VAWDASV o dan yr adran ar ddyletswyddau statudol uchod.

Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22

78. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (2019-22) ym mis Hydref 2019. Mae’r cynllun wedi’i wreiddio mewn dull lleihau niwed sy’n cydnabod camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd a gofal yn hytrach na mater sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Fodd bynnag, mae angen gwaith agos, ac sy’n digwydd, gyda’r sector cyfiawnder troseddol er mwyn gweithredu agweddau o’r Cynllun.

79. Nod cyffredinol y Cynllun yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau a gwybod ble i fynd am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Mae’r Cynllun wedi’i ddiwygio mewn ymateb i Covid-19 i adlewyrchu’r gwaith sydd wedi’i wneud, ac a fydd yn cael ei wneud, o ganlyniad i’r pandemig.

80. Mae gwaith partneriaeth agos yng Nhymru, yn enwedig rhwng Llywodraeth Cymru, Byrddau Cynllunio Ardal, y trydydd sector ar gyfer camddefnyddio sylweddau a’r heddlu, yn sicrhau bod anghenion y boblogaeth fwyaf agored i niwed sy’n camddefnyddio sylweddau yn cael eu diwallu a bod y canllawiau priodol mewn lle.

81. Byddem yn disgwyl i bartneriaid perthnasol ystyried y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau wrth ystyried y Ddyletswydd.

Y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles

82. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith ar ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol. Bwriad y Fframwaith yw cefnogi ysgolion, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau addysg i adolygu eu tirwedd llesiant eu hunain ac wrth ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau. Mae’r Fframwaith yn cydnabod na all yr ysgol yn unigol ddiwallu holl anghenion poblogaeth gymhleth o blant a phobl ifanc, ac mae’n nodi rôl cyrff rhanbarthol, y GIG ac eraill fel y trydydd sector, wrth gefnogi’r ysgol.

83. Rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ystyried y Fframwaith ar ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu, strategaethau a pholisïau eraill sy’n effeithio ar les dysgwyr, staff ac eraill sy’n gweithio o fewn awyrgylch yr ysgol. Bydd angen i awdurdodau lleol hefyd ystyried y Fframwaith mewn perthynas ag addysg nad yw mewn ysgolion.

Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru

84. Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru yn hyrwyddo ac yn annog cyfleoedd i bob person ifanc 11-25 oed. Mae gwaith ieuenctid effeithiol yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ifanc i ddeall eu hawliau, cymdeithasu, datblygu a chael mynediad at gymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion, gan gynnwys iechyd meddwl ac emosiynol neu lles. Mae’n cefnogi pobl ifanc i chwarae rhan weithredol yn eu cymunedau a chynnig cymorth wrth iddynt ymgysylltu ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

85. MaeStrategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru[footnote 31] yn nodi gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru ac y cefnogir gan Gynllun Gweithredu[footnote 32]. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu diwygio i adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn ymateb i argymhellion a nodir yn adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Mae’n Bryd Cylfawni Dros Bobl Ifanc yng Nghymru[footnote 33], i ddatblygu model cyflawni sy’n gynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae Bwrdd Gweithredu newydd ar gyfer y Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn cael ei benodi i helpu i weithredu argymhellion yr adroddiad. Dylai awdurdodau sydd â chyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd ystyried y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu.

Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a’r Warant i Bobl Ifanc

86. Nod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yw sicrhau bod pobl ifanc yn symud i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant mewn ffordd gadarnhaol pan fyddant yn gadael yr ysgol, ac yn lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’r Fframwaith wedi’i seilio ar adnabod ac atal yn gynnar, a dylai awdurdodau ei ystyried wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddyletswydd.

87. Y Warant i Bobl Ifanc yw ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i gefnogi pawb o dan 25 oed, sy’n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a chymorth i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Gall darparu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth gyflawni troseddau, a dylid ystyried hyn wrth gyflawni cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

88. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn bryd gweithredu ar frys i fynd i’r afael â hiliaeth. Ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gan gefnogi gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol lle mae partneriaid yn mynd ati’n rhagweithiol i fynd i’r afael â hiliaeth o bob math.

89. Ategir hyn gan Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol, sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd gan bartneriaid Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, HMPPS yng Nghymru, Plismona yng Nghymru a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru. Bydd y cynllun hwn yn nodi’r camau pendant i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac i greu system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol.

90. Wrth ymgymryd â’u dyletswyddau o dan y Ddyletswydd SVD, dylai awdurdodau fabwysiadu dull gwrth-hiliol a sicrhau eu bod yn cymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â hiliaeth o bob math.

Cynllun Gweithredu LGBT+

91. Mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a chwiar neu chwilfrydig (LGBTQ+), gyda’r + sy’n cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill, yn wynebu anawsterau go iawn yn erbyn anfantais, anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar Gynllun Gweithredu LGBTQ+ uchelgeisiol, trawslywodraethol i Gymru, a fydd yn ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau strwythurol presennol a brofir gan gymunedau LGBTQ+, i wrthwynebu gwahaniaethu a chreu cymdeithas lle mae pobl LGBTQ+ yn ddiogel i fyw a charu’n ddilys, yn agored ac yn rhydd fel eu hunain.

92. Wrth ymgymryd â’u dyletswyddau o dan y SVD, dylai awdurdodau ystyried y Cynllun a cheisio gwrthwynebu gwahaniaethu a thrais yn erbyn pobl LGBTQ+. Mae hyn yn ategu’r cyfrifoldebau presennol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

93. Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yw strategaeth Llywodraeth Cymru i wella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau iechyd meddwl. Mae’n nodi nifer o ganlyniadau lefel uchel sydd â’r nod o sicrhau gwelliant sylweddol i ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau iechyd meddwl i bob oedran. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod achosion ac effeithiau iechyd meddwl gwael yn gymhleth, yn heriol ac yn amlweddog ac felly mae angen dull partneriaet integredig, traws-lywodraethol a thraws-sector os ydym am gyflawni’r canlyniadau hyn. Dylai awdurdodau ystyried hyn wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddyletswydd.

Rhannu data yng Nghymru i gefnogi’r Ddyletswydd Trais Difrifol

94. Mae rhannu data yn sylfaen wrth gyflawni’r Ddyletswydd yng Nghymru. Mae sefydliadau yng Nghymru sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd, addysg, diogelwch, atal troseddu a lles cymdeithasol pobl wedi ymrwymo i Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) fel ffordd i’w helpu i rannu gwybodaeth bersonol yn effeithiol ac yn gyfreithlon.

95. Byddem yn disgwyl i WASPI fod yn sail i rannu data i gefnogi’r Ddyletswydd.

Partneriaethau a phartneriaid Cymru

96. Mater i’r bartneriaeth leol fydd penderfynu ar y ffordd orau o gydweithio i gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd. Fodd bynnag, rydym wedi tynnu sylw at rai partneriaethau yn yr adran hon a fydd yn cyfrannu at y Ddyletswydd yng Nghymru ar lefel leol a/neu strategol.

Byrddau Cynllunio Ardal mewn perthynas â Chamddefnyddio Sylweddau

97. Yng Nghymru, saith Bwrdd Cynllunio Ardal sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau (ar y cyd â byrddau iechyd). Mae aelodaeth y Byrddau Cynllunio Ardal yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ‘awdurdodau sydd â chyfrifoldeb’, sy’n cynnwys Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, er mwyn gallu cyflawni cyfrifoldebau statudol mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau ar lefel ranbarthol.

Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru

98. Sefydlwyd Rhwydwaith Diogelwch Cymunedol Cymru (Y Rhwydwaith) yn dilyn Adolygiad gan Lywodraeth Cymru o Ddiogelwch Cymunedol. Mae’r Rhwydwaith yno i gefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau ac arferion diogelwch cymunedol yng Nghymru yn y dyfodol ac i helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth briodol sydd eu hangen i weithredu newidiadau ac adlewyrchu arfer gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ledled Cymru [footnote 34]Cyflawnir hyn drwy ddatblygu cronfa ddata llyfrgell ac adnoddau diogelwch cymunedol ar-lein ar gyfer Cymru yn barhaus, sy’n cynnwys yr asesiadau strategol.

99. Mae’r Rhwydwaith yn darparu cymorth i Rwydwaith Arloesi a Gwella Dadansoddi Data Cymru; Cymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru; Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru; a Chyfiawnder Cymunedol Cymru y mae pob un ohonynt yn debygol o fod â gwybodaeth, data a darparu a datblygu gwasanaethau presennol sy’n bwysig i gyflawni’r Ddyletswydd Trais Difrifol.

100. Mae’r Rhwydwaith, Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a’r Uned Atal Trais i gyd yn darparu ystod o gymorth a gwybodaeth i awdurdodau penodedig lleol. Gan weithio gyda’i gilydd i leihau bylchau a’r risg o ddyblygu, byddant yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ystod o gymorth gan ddefnyddio’r cylchoedd gwaith unigol i gefnogi partneriaid i gyflawni’r ddyletswydd.

Uned Atal Trais

101. Mae Uned Atal Trais Cymru (VPU) ynbartneriaeth o bobl o gynghrair o sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i atal pob math o drais yng Nghymru drwy ddull iechyd y cyhoedd. Mae’r Uned Atal Trais yn dîm aml-asiantaeth, gan gynnwys aelodau o Heddluoedd, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Awdurdodau Lleol a’r sector gwirfoddol. Cefnogir y VPU gan ymrwymiadau ychwanegol gan dros 30 o bartneriaid yng Nghymru, o dan gylch gwaith Bwrdd Atal Trais Cymru. Cenhadaeth y VPU yw atal Trais yng Nghymru drwy ddull iechyd cyhoeddus.

102. Mae gan Wefan VPU[footnote 35] fwy o fanylion am y gwaith a wnaed gan y VPU, gan gynnwys ymchwil sy’n helpu i nodi arfer effeithiol ar gyfer atal trais a rhai o’r gwasanaethau y maent yn eu comisiynu’n uniongyrchol i atal trais. Rhan o rôl y VPU yw defnyddio data, ymchwil a dadansoddi amlasiantaethol i ddeall ac atal trais difrifol yn well. Bydd y VPU yn cefnogi partneriaid i fynd i’r afael â gofynion y Ddyletswydd.

Rhaglen Ysgolion Heddluoedd Cymru (WPSP)

103. Mae Rhaglen Ysgolion Heddluoedd Cymru (WPSP) yn gweithredu ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth ac atal gynnar mewn perthynas ag ystod o faterion gyda phlant a phobl ifanc, wedi’u lleoli yn yr ysgol. Mae’r WPSP yn darparu rhaglen gytbwys ar draws holl gyfnodau allweddol y cwricwlwm, gan gynnwys pynciau fel camddefnyddio sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig, bwlio, diogelwch ar-lein, anfon negeseuon rhywiol, camfanteisio yn rhywiol ar blant a chydsynio.

Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai

104. Mae Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai ar waith yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cael ei fonitro gan Grŵp Goruchwylio Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Carchardai sy’n cael ei gadeirio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a HMPPS yng Nghymru. Mae’r Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai yn gytundeb gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, HMPPS, Byrddau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n nodi blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwella iechyd mewn carchardai. Mae’r blaenoriaethau’n seiliedig ar y cytundeb bod hwn yn ddull carchar cyfan o wella canlyniadau iechyd a lles carcharorion yng Nghymru. Dyma’r blaenoriaethau:

  • Awyrgylch ehangach y carchardai a’i gyfraniad at wella canlyniadau iechyd a lles.
  • Iechyd meddwl a datblygu safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl mewn carchardai.
  • Camddefnyddio sylweddau a datblygu Fframwaith Triniaeth newydd mewn perthynas â Chamddefnyddio Sylweddau ar gyfer carchardai.
  • Rheoli meddyginiaethau.
Canolfan Cymorth Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE)

105. Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn cyfeirio at brofiadau trawmatig yn ystod plentyndod a all barhau i gael effaith ar les pobl trwy eu bywyd. Dengys ymchwil fod cysylltiad cryf rhwng ACEs a throseddu, fel dioddefwr a chyflawnwr. Canfu ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Astudiaeth ACEs 2015) fod y rhai â phedwar neu fwy o ACEs: 14 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef trosedd yn ystod y 12 mis diwethaf; 15 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cyflawni trais yn ystod y 12 mis diwethaf; ac 20 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi treulio amser mewn carchar. Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru i nifer ac effaith ACEs yng Nghymru oedd un o’r prif ffactorau a oedd yn arwain at sefydlu’r Ganolfan Gymorth ACE.

106. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ers 2017, mae’r Ganolfan Gymorth ACE (y Ganolfan) yn cefnogi unigolion, sefydliadau a chymunedau i ddod yn ymwybodol o ACE. Mae’r Ganolfan wedi mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer atal ACEs, gan ganolbwyntio ar rannu tystiolaeth a dysgu o arfer gorau, datblygu gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol, a datblygu a thrawsnewid systemau ar lefel leol a chenedlaethol.

107. Mae’r Ganolfan wrthi yn gweithio gyda Straen Trawmatig Cymru ar ddatblygu fframwaith ymarfer sy’n seiliedig ar drawma i Gymru a fydd o ddiddordeb i awdurdodau sy’n cyflawni’r Ddyletswydd. Disgwylir i’r fframwaith gael ei gyhoeddi yn ystod haf 2022.

Sector Cymunedol a Gwirfoddol (Trydydd sector)

108. Mae’r Trydydd sector yn cyfrannu’n eang at gefnogi pobl yng Nghymru. Fel y cydnabyddir yn y canllawiau cyffredinol, dylid ystyried yn briodol eu cefnogaeth i ddarparu SVD sy’n adlewyrchu materion lleol yn briodol. Mae hyn yn cynnwys y sector arbenigol VAWDASV, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â VAWDASV yng Nghymru.

109. Mae’r Sector Cymunedol a Gwirfoddol (Trydydd Sector) yng Nghymru yn bartner allweddol a phwysig ar draws partneriaethau, gan gynnwys Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Byrddau Diogelu Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae presenoldeb, fel partner cyfartal, yn cydnabod y rôl ddibynadwy ac annibynnol bwysig y mae’r sefydliadau’n ei chwarae mewn cymunedau lleol ac wrth ddarparu cysylltiadau â phob sector o gymunedau lleol. Mae defnyddio sgiliau’r sector yn elfen bwysig o gyflawni deddfwriaeth Cymru. Cefnogir hyn drwy Cefnogi Trydydd Sector Cymru, partneriaeth o’r Cynghorau Gwirfoddol Cymunedol lleol ledled Cymru a’r corff cenedlaethol WCVA. Bydd cydweithredu, integreiddio ac ymgysylltu â’r sector hwn yn parhau i fod yn rhan allweddol ar gyfer cyflawni’r Ddyletswydd, yn enwedig o ran cyflawni camau gweithredu lleol ar lefel gymunedol.

Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, dioddefwyr, goroeswyr a’r sawl sy’n cyflawni trosedd

110. Mae ymgysylltu a chyfathrebu â phob rhan o’r boblogaeth ledled Cymru yn un o ofynion allweddol y ddeddfwriaeth bresennol, y Ddeddf SS&WB, Deddf WFG a Deddf VAWDASV i enwi ond ychydig. Rydym yn disgwyl i’r trefniadau presennol gael eu hehangu i gynnwys pob grŵp nad ydynt yn rhan o’r gwaith ar hyn o bryd, neu i addasu’r cwestiynau a’r data a gesglir i gynnwys adran am drais difrifol a’i effaith ar bob rhan o’r gymuned. Dylai hyn gynnwys plant a phobl ifanc, oedolion gan gynnwys pobl hŷn, y rhai o grwpiau ymylol, dioddefwyr (goroeswyr yn achos Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) a chyflawnwyr. Gall hyn a dylai hyn gynnwys casglu data a gwybodaeth gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol sydd eisoes yn gweithio yn y meysydd hyn ac sy’n ymgysylltu â chymunedau mewn ffyrdd na all cyrff statudol eu gwneud o bosibl.

111. Bydd Fframwaith Ymgysylltu Cenedlaethol i Oroeswyr yn cael ei ddatblygu yng Nghymru fel rhan o Strategaeth a Glasbrint Cenedlaethol VAWDASV. Bydd hyn yn cyfuno sawl ffordd y gall goroeswyr ddylanwadu ar waith yng Nghymru a rhoi cyfrwng i oroeswyr eirioli drostynt eu hunain i addysgu eu cyfoedion, eu cymunedau, eu cydweithwyr a’u rhanddeiliaid ehangach. Bydd y ddealltwriaeth a ddarperir gan y Fframwaith yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i awdurdodau wrth iddynt gyflawni’r Ddyletswydd yng Nghymru.

Pennod Dau: Cynllunio a Chydweithio

Cydweithio

112. Bydd gan bob ardal leol amrywiaeth o drefniadau amlasiantaethol presennol ar waith. Gall y partneriaethau presennol hyn gynnwys Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, Byrddau Iechyd a Lles, Partneriaethau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn ogystal â Strwythurau Rhaglenni Cefnogi Teuluoedd, Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC), Byrddau Partneriaeth Lleol Cam-drin Domestig, Byrddau VAWDASV, Byrddau Cyfiawnder Troseddol, Unedau Lleihau Trais (anstatudol), Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA) a threfniadau diogelu amlasiantaethol. Mae gan Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru ddwy ddyletswydd mewn perthynas â Byrddau Diogelu Rhanbarthol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; i roi cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn effeithiol ac i adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru.

113. Fel y nodwyd eisoes, nid yw Deddf PCSC yn nodi’r model partneriaeth y mae’n rhaid i awdurdodau penodedig ei ddefnyddio i gyflawni eu rhwymedigaethau i gydweithio i atal a lleihau trais difrifol. Dylai cynrychiolwyr o’r sefydliadau statudol penodedig benderfynu ar y cyd am bartneriaeth briodol ar gyfer gweithio gyda’i gilydd i ymgymryd â gofynion y Ddyletswydd. Mae enghraifft o fodel partneriaeth amlasiantaethol wedi’i chynnwys fel astudiaeth achos isod.

114. Mae’r hyblygrwydd hwn wedi’i gynllunio i ganiatáu i awdurdodau penodedig adeiladu ar y seilwaith, cryfderau a’r galluoedd presennol fel y byddant yn eu hystyried yn fwyaf priodol. Er mwyn cydymffurfio â’r Ddyletswydd, efallai na fydd angen creu partneriaeth newydd, a dylai’r awdurdodau penodedig ddefnyddio partneriaethau sydd eisoes yn bodoli lle bo hynny’n bosibl a gydag addasiadau priodol.

115. Mae’r Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau hefyd wedi cynhyrchu adnodd defnyddiol ar gyfer arweinwyr systemau lleol ar weithio mewn partneriaeth amlasiantaethol at ddibenion atal trais difrifol.[footnote 36]

116. Dylai’r awdurdodau penodedig yn yr ardal bartneriaeth ddod at ei gilydd, darparu gwybodaeth a data, a chydweithio wrth lunio a chytuno ar yr asesiad strategol o anghenion. Fodd bynnag, mater i’r bartneriaeth leol fydd penderfynu ar y ffordd orau o gydweithio i gyflawni’r camau gweithredu a nodwyd yn y strategaeth o ganlyniad i’r asesiad cychwynnol.

117. Nid oes dull “un ateb i bawb”, gan y bydd angen i rai awdurdodau penodol gydweithio ag awdurdodau eraill ar draws graddau daearyddol eang ar rai materion (er enghraifft, troseddau cyllyll ar draws Llundain neu weithgarwch llinellau sirol), tra gall cyrff eraill gydweithio mewn ardaloedd llai ar faterion eraill (er enghraifft, cynnydd mewn gwaharddiadau ysgolion mewn rhan o ardal awdurdod lleol sy’n arwain at fwy o risg o drais difrifol). Yn yr un modd, efallai y bydd rhai camau gweithredu a nodwyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod penodedig weithio gyda’i gilydd, ond efallai bydd ond angen sylw penodol un neu ddau o’r awdurdodau ar gyfer camau gweithredu eraill.

Diogelu plant

118. Mae’n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn cydnabod bod plant a phobl ifanc yn agored i niwed, waeth beth fo’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig ag unrhyw ryngweithio.

119. Mae Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 yn gosod dyletswydd ar dri o’r awdurdodau penodedig (yr heddlu, iechyd ac awdurdod lleol) fel ‘partneriaid diogelu’ statudol ar gyfer ardaloedd lleol yn Lloegr. Mae’r ddyletswydd hon yn golygu bod yn rhaid iddynt (ac asiantaethau perthnasol eraill sy’n briodol yn eu barn hwy) gydweithio i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn eu hardal, gan gynnwys adnabod ac ymateb i’w hanghenion.

120. Nid yw’r Ddyletswydd Trais Difrifol yn amharu ar y cyfrifoldebau hyn. Wrth gydweithio i atal a lleihau trais difrifol, mae gan bartneriaid diogelu gyfle i ddangos a chryfhau effeithiolrwydd trefniadau diogelu amlasiantaethol mewn ardal leol.

Astudiaeth Achos: Model Partneriaeth Amlasiantaethol

Yn Abertawe, mae’r Uned Atal Trais (VPU) a phartneriaid yn darparu amrywiaeth o ymyriadau a threfniadau amlasiantaethol i leihau ac atal trais, ac i fabwysiadu ymagwedd gyfannol sy’n canolbwyntio ar y plentyn tuag at blant a phobl ifanc sy’n gysylltiedig â thrais/mewn perygl o drais. Mae’r VPU wedi ariannu llu o ymyriadau ar lefel gynradd, eilaidd a thrydyddol, sy’n cynnwys ymyriadau sy’n targedu achosion sylfaenol trais ac sy’n cynnig cymorth ar yr hyn a ystyrir yn ‘adeg addysgadwy’. Mae’r ymyriadau hyn yn rhan o system sydd wedi sefydlu amrywiaeth o ddulliau ar gyfer targedu trais.

Mae Panel CMET Abertawe (Pobl Ifanc Ar Goll, Camfanteisio a Masnachu Mewn Pobl) yn gyfarfod amlasiantaethol a sefydlwyd ac a arweinir gan Gyngor Abertawe, yn cwrdd bob pythefnos, gan weithio o fewn fframwaith Diogelu Cyd-destunol, gan gydnabod ac ymateb i anghenion unigol pobl ifanc sydd wedi’u hadnabod gan bartneriaid (gan gynnwys Heddlu De Cymru, Diogelwch Cymunedol, Troseddau Ieuenctid a sefydliadau’r trydydd sector) sy’n darparu, neu’n hwyluso mynediad i, gwasanaethau cymorth arbenigol mewn perthynas â gwendidau megis camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, digartrefedd a thrais. Mae hefyd yn canolbwyntio ar leoliadau â phroblemau a nodwyd ar draws Abertawe a grwpiau cyfoedion, gan ddarparu gweithgareddau allgymorth wedi’u targedu.

Mae’r Panel CMET yn galluogi pobl ifanc i gael eu dargyfeirio o’r risg o gamfanteisio, trais ieuenctid a throseddau cyfundrefnol difrifol ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu a bod llwybr atgyfeirio clir i ymyriadau arbenigol.

Mae Prifysgol Lerpwl John Moores (LJMU) wedi’i chomisiynu gan y VPU i asesu’r ffordd mae’r dulliau hyn yn cael eu cyflawni yn Abertawe gyda’i gilydd, i gasglu sut maent yn gweithredu i adnabod unigolion sydd mewn perygl o drais neu sy’n gysylltiedig â thrais, a’r mesurau a roddwyd ar waith i liniaru risg, ac atal cymryd rhan mewn trais a throseddu bellach. Bydd y gwerthusiad yn ymgorffori dulliau ehangach asiantaethau allweddol (e.e. yr heddlu a phartneriaethau diogelwch cymunedol), ond gan ganolbwyntio’n benodol ar banel y CMET, trefniant amlasiantaethol i dargedu ardaloedd â phroblemau, gan hefyd yn darparu cymorth cofleidiol i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl.

Fel rhan o’r gwerthusiad, bydd LJMU yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau sy’n darparu ymyriadau fel rhan o ‘ddull systemau’ Abertawe i nodi cyfleoedd i ymgysylltu â’r cymunedau y maent yn gweithio’n uniongyrchol â nhw, i ddeall effaith a phrofiadau pobl sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol oherwydd eu gweithgarwch, a chynnig cynnal cyfweliadau/grwpiau ffocws gydag aelodau’r gymuned (gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, fel y bo’n briodol) a defnyddio canfyddiadau’r rhain i ddatblygu hyd at 5 astudiaeth achos i ddangos effaith.”

Asesiadau Strategol o Anghenion

121. Bydd asesiad strategol o anghenion yn galluogi ardal leol i adnabod y mathau o drais difrifol sy’n digwydd yn eu hardal bartneriaeth a, chyn belled ag y bo modd, achosion y trais difrifol hwnnw fel sy’n ofynnol gan Ddeddf PCSC, gan ddarparu gwybodaeth am faterion cyfredol a hirdymor sy’n ymwneud â thrais difrifol a’r grwpiau sydd fwyaf agored i gymryd rhan yn eu hardal bartneriaeth. Bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth o dueddiadau trais difrifol sefydledig a rhai sy’n dod yn amlwg, lleoliadau blaenoriaeth neu faterion risg uchel eraill. Mae enghraifft sy’n amlinellu nodau a fframwaith cyffredinol asesiad strategol o anghenion sy’n bodoli eisoes wedi’i chynnwys fel astudiaeth achos isod.

122. Dylid llunio’r asesiad strategol o anghenion yn dilyn dadansoddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o wybodaeth sy’n ymwneud â’r mathau o droseddau treisgar, y ffactorau sy’n arwain at droseddu yn ardal y bartneriaeth a’r grwpiau sydd fwyaf agored i niwed. Bydd hyn yn gofyn am gasglu a dadansoddi data gan bob partner, lle bo hynny’n bosibl, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Cenedlaethol (e.e. troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn ôl math o drosedd, canlyniadau troseddu a phroffiliau dioddefwyr a throseddwyr),
  • Data gan ysbytai am anafiadau o drais difrifol,
  • Data addysg (e.e. presenoldeb, atal dros dro a gwahardd),
  • Data dienw gan garchardai (e.e. mathau o droseddau),
  • Data lleol (e.e. gwybodaeth cyfrifiad),
  • DATA SYG, e.e troseddau VAWG,
  • Data’r Cynllun Datgelu Trais Domestig,
  • Data MARAC,
  • Data gofal cymdeithasol plant,
  • Canlyniadau adolygiadau dynladdiad gan gynnwys meysydd fel dynladdiad domestig, diogelu plant ac oedolion, iechyd meddwl ac adolygiadau dynladdiad arfau tramgwyddus,
  • Mewnbwn o wybodaeth a phrofiad sefydliadol a, lle bo’n briodol, gwybodaeth ddefnyddiol gan sefydliadau arbenigol yn y sector gwirfoddol a phobl ifanc (e.e. data am drais yn erbyn menywod a merched). Mae’r Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau a Phecyn Cymorth Comisiynu VAWG [footnote 37]yn nodi ffynonellau data y gellid eu hystyried wrth asesu anghenion penodol dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol,
  • Bydd Fframwaith Perfformiad VAWG [footnote 38]hefyd yn amlinellu data y dylai’r Heddlu wirio,

123. Efallai y bydd ardaloedd lleol am gymorth ac arbenigedd dadansoddol ychwanegol wrth lunio eu hasesiad strategol o anghenion. Mae’r Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau hefyd wedi cyhoeddi adnodd defnyddiol ar gyfer ardaloedd lleol ar ddatblygu asesiadau strategol lleol o anghenion.[footnote 39]

124. Gall yr asesiad strategol o anghenion hefyd nodi bylchau o ran data neu wybodaeth, lle mae diffyg gwybodaeth gan y bartneriaeth a bod angen rhagor o wybodaeth arni. Bydd cynnwys amrywiaeth o staff a phartneriaid wrth ddatblygu’r asesiad strategol o anghenion yn gwella’r dadansoddiad ac yn arwain at ddarlun cliriach o broblemau’r ardaloedd lleol. Er enghraifft, mae achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu tanadrodd i’r heddlu ac asiantaethau statudol eraill felly bydd data eraill yn ychwanegu at ddealltwriaeth o’r darlun lleol ar gyfer y mathau hyn o droseddu. Efallai y bydd partneriaethau hefyd yn ei gweld yn ddefnyddiol casglu data ansoddol fel rhan o’r broses hon.

125. Dylai’r bartneriaeth ddefnyddio canlyniadau’r asesiad strategol o anghenion i ddiffinio eu materion am drais difrifol a llunio a blaenoriaethu camau gweithredu pwrpasol i atal a lleihau trais difrifol y bydd y bartneriaeth yn ei ddatblygu (y strategaeth).

Astudiaeth Achos: Asesiad Strategol o Anghenion ar y Cyd ar Atal a Lleihau Trais – Cynghrair Atal Trais Gorllewin Canolbarth Lloegr, Medi 2019

Sefydlwyd Cynghrair Atal Trais Gorllewin Canolbarth Lloegr gan ddefnyddio cyllid gan y PCC a chyda chefnogaeth yr heddlu a’r gwasanaeth iechyd.

Mae timau heddlu ac iechyd ar y cyd yn gweithio gyda sefydliadau fel cynghorau, ysbytai ac elusennau i’w helpu i ddarparu gwasanaethau a fydd yn atal trais, gan ddefnyddio arfer gorau a thystiolaeth am ble mae trais yn digwydd.

Nodau Asesu Anghenion:

Nodi, gwirio a derbyn data sydd eisoes yn bodoli ar draws asiantaethau partner a systemau cysylltiedig o ran anghenion atal trais:

  • Dull epidemiolegol - amser, person, lle
  • Dull cymharol - cymaryddion rhanbarthol a chenedlaethol
  • Dull corfforaethol - llunio unrhyw ymgynghoriad â rhanddeiliaid a gynhaliwyd eisoes ar lefel awdurdod lleol neu ymchwil ansoddol os yw ar gael

Pennu a deall y ddarpariaeth bresennol ar gyfer atal trais ar draws asiantaethau partner mewn perthynas ag angen ac i nodi bylchau yn y ddarpariaeth:

  • Canolbwyntio ar drais sydd wedi achosi anaf (ac eithrio cam-drin domestig a throseddau cyllyll)
  • Caniatau triongli o ran data ysbytai
  • Ystyried y troseddau sy’n gysylltiedig â thystiolaeth o newid
  • Ategu dadansoddiad arall sydd ar y gweill sy’n cael ei ystyried yn “bob trosedd”

Fframwaith Asesu Anghenion:

1. Atal sylfaenol - Atal cysylltiad â thrais

2. Atal eilaidd - Atal trais rhag digwydd eto yn dilyn bod yn gysylltiedig â thrais o’r blaen

3. Atal trydyddol - Lleihau niwed ac atal trais pellach rhag digwydd lle mae tystiolaeth o drais

4. Gorfodi a chyfiawnder troseddol

5. Newid agweddol

Ffynonellau data: Data Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, data Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol, data’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Iechyd Cyhoeddus Lloegr Fingertips, Yr Adran Addysg, Arolygon lleol, Ymgynghoriad a arweinir gan awdurdodau lleol, archwiliad dwfn Iechyd a chyfiawnder

Y Strategaeth

126. Dylai’r awdurdodau penodedig baratoi’r strategaeth ar ôl nodi’r mathau o drais difrifol sy’n digwydd yn ardal y bartneriaeth ac, lle mae’n bosibl gwneud hynny, nodi achosion trais difrifol yn yr ardal honno drwy asesiad strategol cynhwysfawr o anghenion. Dylai gynnwys ystod o gamau gweithredu newydd a phresennol y bydd y bartneriaeth yn eu gweithredu i atal a lleihau’r materion trais difrifol a ffactorau a nodwyd.

127. Mae Deddf PCSC yn ei gwneud yn ofynnol i’r strategaeth gael ei chyhoeddi, ei hadolygu a’i diwygio o bryd i’w gilydd. Dylid adolygu’r strategaeth yn flynyddol o leiaf a dylai awdurdodau penodedig, ar y cyd, benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau newydd neu a oes angen strategaeth ddiwygiedig. Nid oes rhywbeth i atal awdurdodau penodedig rhag adolygu a diwygio eu hasesiad strategol o anghenion a’u strategaeth (neu ran ohonynt) yn amlach os oes angen.

128. Gallai’r strategaeth gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig, y canlynol:

a. Trefniadau sy’n cael eu defnyddio i gyflawni’r Ddyletswydd a phwy yw’r prif gydgysylltydd,

b. Llywodraethu, gan gynnwys sut y bydd y bartneriaeth yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth, cyfarfodydd rheolaidd, monitro trefniadau a phrosesau a dyddiadau ar gyfer adolygu,

c. Fframwaith, ar gyfer casglu a dadansoddi data,

d. Gyda phwy (megis y sector gwirfoddol a chymunedol, pobl ifanc a chymunedau) y bydd y bartneriaeth yn gweithio; pam y cawsant eu dewis; a sut y byddan nhw’n cydweithio,

e. Trefniadau ymgynghori â phobl ifanc a chymunedau,

f. Ffiniau daearyddol (yn enwedig os yw’r trefniadau yn cael eu gweithredu ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol) a sut mae hyn yn cysylltu â gofynion y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn,

g. Sut y bydd ymgysylltu ag addysg a charchardai yn cael ei reoli’n effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd rhan,

h. Sut y gwneir cysylltiadau priodol â threfniadau diogelu,

i. Rhan y PCC,

j. Nodi beth yw’r trefniadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau ychwanegol o dan y strategaeth a sut y gwneir cysylltiadau â’r bartneriaeth ariannu bresennol ar gyfer gweithgareddau atal a lleihau,

k. Beth yw’r trefniadau ar gyfer craffu annibynnol ar y strategaeth,

l. Crynodeb lefel uchel (nad yw’n gyfrinachol) o’r asesiad strategol am anghenion,

m. Camau gweithredu (gan gynnwys camau atal ymyrraeth gynnar) i’w cyflawni gan yr ardal bartneriaeth, gan sector/partneriaid a chamau gweithredu ehangach (lle bo’n briodol – ar draws ffiniau neu’n genedlaethol), sut mae’r camau gweithredu a nodwyd yn gwella neu’n ategu camau gweithredu/neu drefniadau presennol yn yr ardal leol,

n. Crynodeb gweithredol o’r strategaeth trais difrifol,

o. Lle bo’n berthnasol, yr asesiad blynyddol o berfformiad y bartneriaeth yn erbyn strategaeth y blynyddoedd blaenorol.

129. Efallai y bydd awdurdodau penodedig hefyd am ystyried amseru datblygiad eu strategaethau a’u gweithredoedd i gyd-fynd â phenderfyniadau cyllidebol neu wariant yn eu hardal leol – bydd hyn yn galluogi asesiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’r ffordd orau o ddargyfeirio arian. Dylai unrhyw gamau gweithredu sy’n cael eu rhoi i sefydliadau addysgol, carchardai neu leoliadau diogel fod yn destun asesiad cost y cytunwyd arno er mwyn sicrhau fforddiadwyedd ochr yn ochr â’r rhwymedigaethau gwariant presennol. Lle nad oes cyllid ar gael drwy gyllidebau lleol, efallai y bydd partneriaethau am ystyried cyfuno a/neu gyfeirio adnoddau i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf.

130. Cyn cwblhau’r strategaeth, anogir yn gryf i gasglu barn a syniadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, plant a phobl ifanc, dioddefwyr oedolion (gan gynnwys goroeswyr), defnyddwyr gwasanaethau a busnesau sy’n gweithredu yn yr ardal. Gweler Pennod 3 o’r canllawiau hyn am gyngor ac arweiniad pellach ar y broses hon. Efallai y bydd awdurdodau penodedig hefyd am gyfeirio at strategaethau a gyhoeddir gan ardaloedd cyfagos i wirio am ddull gweithredu cyson os oes angen gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol ar faterion cyffredin.

131. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth; hyrwyddo cyfleoedd cyfartal; a meithrin cysylltiadau da, rhwng pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Y nodweddion gwarchodedig yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. Wrth ddatblygu eu strategaethau lleol, a fydd yn cynnwys camau gweithredu ac ymyriadau ar gyfer eu hardaloedd lleol, rhaid i awdurdodau penodedig gydymffurfio â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010. Dylai awdurdodau penodedig hefyd fonitro effaith eu strategaethau lleol ar y rhai â nodweddion gwarchodedig yn barhaus.

Trefniadau ar gyfer cyhoeddi a chyfathrebu’r strategaeth

132. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud rheoliadau ar gyfer cyhoeddi a chyfathrebu’r strategaeth neu mewn cysylltiad â hynny[footnote 40].

133. Cynigir y bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i’r partneriaethau sydd â chyfrifoldeb gyhoeddi eu strategaeth trais difrifol gyntaf o fewn blwyddyn i ddyddiad gweithredu’r ddyletswydd trais difrifol. Efallai y bydd ardaloedd lle mae gwaith eisoes ar y gweill i atal neu leihau trais difrifol am gyhoeddi strategaeth dros dro yn gynharach.

134. Cynigir y bydd angen i’r awdurdodau penodedig gyhoeddi eu strategaeth trais difrifol gyntaf ac unrhyw strategaeth ddiwygiedig ddilynol ar wefan sy’n agored i bawb i’w harchwilio gan y cyhoedd. Cynigir hefyd y bydd y ddolen we ar gyfer y strategaeth gychwynnol a gyhoeddwyd ac unrhyw strategaeth ddiwygiedig ddilynol yn cael ei rhannu â’r Swyddfa Gartref.

135. Cynigir y dylai awdurdodau penodedig gyfathrebu eu strategaeth drwy eu prosesau adrodd blynyddol ar gyfer asiantaethau unigol a phartneriaethau, gan gynnwys eu strategaeth trais difrifol, a chynnydd o ran camau gweithredu a chanlyniad adolygiadau dilynol o’u strategaeth.

136. Gellir ymgorffori asesu/strategaethau mewn dogfennau sydd eisoes yn bodoli (er enghraifft, strategaethau CSP) os yw wedi’i nodi’n glir. Neu, gall awdurdodau penodedig ddatblygu strategaeth unigol bwrpasol mewn ymateb i’r Ddyletswydd.

137. Mae enghraifft o strategaeth a chamau gweithredu cysylltiedig wedi’u cynnwys fel astudiaeth achos isod. Mae’r Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau hefyd wedi cynhyrchu adnodd defnyddiol i arweinwyr systemau lleol ar weithio mewn partneriaeth at ddibenion atal trais difrifol.[footnote 41]

138. Bydd yn ofynnol i awdurdodau penodedig yng Nghymru gyhoeddi fersiwn Gymraeg o’u strategaeth.

Astudiaeth Achos: Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wandsworth – Cynllun Troseddau Cyllyll a Thrais Difrifol 2019/2020

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wandsworth wedi llunio cynllun gweithredu i gefnogi eu strategaeth ar gyfer lleihau troseddau cyllyll a thrais difrifol yn 19/20. Bydd camau gweithredu yn cael eu grwpio yn ôl pwnc gyda chanlyniadau mesuradwy, sefydliadau arweiniol a chysylltiadau gweithredol. Mae’r grwpiau a chrynodeb lefel uchel o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys fel a ganlyn:

1) Llywodraethu:

Goruchwylio gweithredu’r cynllun

Sicrhau bod materion trais difrifol yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd perthnasol Cyhoeddi Cynllun Gweithredu a strategaeth cyfathrebu

2) Targedu’r rhai sy’n torri’r gyfraith

Dadansoddiad ac adolygiad perthnasol o asesu strategol Gangiau a phroffilio’r farchnad gyffuriau

Parhau â’r gweithrediadau gwrth-gyllyll presennol Adolygiad o’r camau gorfodi presennol

3) Cadw arfau marwol oddi ar ein strydoedd

Darparu hyfforddiant Safonau Masnach

Datblygu rhaglen o ‘ysgubo’ strydoedd/mannau agored Ymgysylltu â busnesau lleol

4) Amddiffyn ac addysgu pobl ifanc

Ymgysylltu ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol ar faterion trais difrifol Parhau i gefnogi pobl ifanc yn ôl i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant

Monitro gwaharddiadau a data ‘off-rolling’ (arfer o dynnu disgybl o ysgol heb waharddiad ffurfiol, parhaol)

Parhau â’r gwaith i gefnogi plant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal Gwerthuso rhaglenni ieuenctid presennol

5) Sefyll gyda Chymunedau, Cymdogaethau a Theuluoedd yn erbyn Troseddau Cyllyll

Datblygu ac ymestyn Fforwm Cymunedol Troseddau Cyllyll Gwella ymgysylltu â phobl ifanc

Hysbysu ac ymgysylltu â sefydliadau VCS sydd â nodau’r cynllun Datblygu a chyhoeddi cyngor i rieni

6) Cefnogi Dioddefwyr Troseddau Cyllyll

Parhau i ddatblygu proses asesu ar gyfer dioddefwyr

Cyflwyno cynllun i ddarparu cymorth mewn ysgolion i ddioddefwyr/tystion

Sicrhau bod canolfan trawma/adran achosion brys lleol yn adnabod dioddefwyr ac yn rhannu data fel y bo’n briodol

7) Cynnig Ffyrdd o ddianc troseddu

Ymyriadau pwrpasol ar gyfer oedolion a throseddwyr ifanc Datblygu amserlen o ymyriadau cynnar

Gwirio cyfeiriadur o weithgareddau dargyfeiriol lleol

Rhannu Gwybodaeth

Cefndir

139. Er mwyn cydnabod pwysigrwydd rhannu gwybodaeth amlasiantaethol yn effeithiol, mae deddfwriaeth Dyletswydd Trais Difrifol, Rhan 1 o Bennod 2 o Ddeddf PCSC, yn cynnwys darpariaethau penodol i gefnogi partneriaid i rannu gwybodaeth a chudd-ymchwil i atal a lleihau trais difrifol.

140. Ni fydd y darpariaethau yn disodli cytundebau neu brotocolau rhannu data presennol sydd eisoes wedi’u sefydlu, gan gynnwys y rhai o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Bwriad y pyrth rhannu gwybodaeth newydd at ddibenion y Ddyletswydd yw galluogi rhannu data perthnasol lle na fyddai’r pwerau presennol yn unig yn ddigonol.

141. Dylai awdurdodau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau o dan y pwerau yn adran 16 a 17 ar ddatgelu gwybodaeth am gleifion a/neu ddatgelu gwybodaeth bersonol gan awdurdod iechyd neu ofal cymdeithasol penodedig.

142. Bydd pob awdurdod eisoes yn casglu gwybodaeth fel mater o drefn am agwedd benodol ar asesiad strategol o anghenion ardal leol. Mae’r ddeddfwriaeth yn galluogi rhannu gwybodaeth o’r fath yn briodol â’r bartneriaeth er mwyn i bob agwedd o drais difrifolgaelei hystyried yn ddigonol. Gall rhannu gwybodaeth hefyd helpu i gefnogi nodau partneriaeth drwy:

a. Darparu dealltwriaeth gyffredin o’r broblem – gellir defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o sefydliadau/asiantaethau i nodi patrymau a thueddiadau, lleoliadau â phroblemau a grwpiau agored i niwed. Gellir hefyd dychwelyd gwybodaeth o’r fath at ddibenion gwerthuso;

b. Bydd meithrin ymateb amlasiantaethol – gan gynnwys amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth yn yr asesiad strategol cychwynnol o anghenion yn helpu i ennyn ymateb amlasiantaethol naturiol gan y bydd gan bob sefydliad/asiantaeth rôl glir i’w chwarae wrth fynd i’r afael â materion lleol;

c. Cefnogi gweithio mewn partneriaeth – gall rhannu gwybodaeth yn rheolaidd helpu i adeiladu a/neu wella cydberthnasau rhyngasiantaethol gan y bydd partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd ar yr un math o faterion gyda nod cyffredin.

143. Mae rhannu data’n effeithiol hefyd yn ffocws allweddol i’r Unedau Lleihau Trais (VRUs) presennol, gyda chymorth cyllid gan y Swyddfa Gartref. Mae VRUs yn darparu adnodd pwrpasol, lle clir i gydgysylltu gwybodaeth yn ogystal ag arweinyddiaeth strategol i ymateb i ganfyddiadau unrhyw ddadansoddiad. Fel y nodir mewn canllawiau dros dro [footnote 42]i VRUs, dylai rhannu gwybodaeth a chudd- ymchwil gynnwys rhannu data cyfanredol dienw yn bennaf i lywio’r ymateb strategol, tactegol a gweithredol i drais difrifol.

144. Cydnabyddir y dylid mabwysiadu’r dull ‘Rhannu Gwybodaeth i fynd i’r afael â Thrais (ISTV) o rannu gwybodaeth fel llinell sylfaen a’i wella yn brhaus lle bo hynny’n bosibl. Mae VRUs wrthi yn gweithio i gyflawni’r tair lefel ganlynol o ddefnyddio gwybodaeth er mwyn cefnogi eu gwaith i atal a lleihau trais difrifol:

a. Lefel 1 – Gwybodaeth a ddefnyddir i lywio’r asesiad strategol o anghenion er mwyn deall materion lleol; b. Lefel 2 – Gwybodaeth a ddefnyddir i nodi lleoliadau â phroblemau yn well a chefnogi dull wedi’i dargedu; c. Lefel 3 – Gwybodaeth a ddefnyddir i nodi unigolion sydd mewn perygl ar gyfer rhaglenni cymorth dwysedd uchel yn well.

Y ddeddfwriaeth – Datgelu Gwybodaeth (Adran 16)

145. Mae Adran 16 o Ddeddf PCSC yn darparu porth rhannu gwybodaeth caniataol sy’n galluogi awdurdodau penodedig[footnote 43], cyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a dalfeydd ieuenctid i ddatgelu gwybodaeth i’w gilydd at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol. Dylid ystyried rhannu gwybodaeth i gefnogi cydweithio effeithiol â phartneriaethau yn ofalus ac yn unol â’r gofyniad diogelu data gan sicrhau bod unrhyw ddatgeliad yn angenrheidiol ac yn gymesur at y diben arfaethedig. Gweler paragraff 152 ymlaen am ragor o wybodaeth.

146. Mae’r pwerau’n caniatáu i geisiadau gael eu gwneud ar gyfer rhannu gwybodaeth ond nid yw’n gofyn am hyn. Er enghraifft, gall grŵp comisiynu clinigol ddewis ymateb i gais o dan adran 16 i ddatgelu gwybodaeth reoli gyfunol am bresenoldebau mewn ysbytai lle yr amheuwyd trais difrifol, a allai gefnogi datblygiad proffil problemau lleol / asesiad strategol o anghenion.

147. Gall awdurdodau penodedig ddatgelu Gwybodaeth Bersonol o dan adran 16 (ac eithrio awdurdodau iechyd neu ofal cymdeithasol), cyrff plismona lleol, awdurdodau addysgol, carchardai a dalfeydd ieuenctid.

148. Nid yw datgelu gwybodaeth am gleifion gan awdurdodau penodedig, cyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a dalfeydd ieuenctid wedi’i awdurdodi o dan y pwerau hyn (adran 16(4)(a)), ac nid yw’n datgelu gwybodaeth bersonol gan awdurdodau iechyd neu ofal cymdeithasol penodedig (adran 16(4)(b)).

149. Gall gwybodaeth ddienw gael ei datgelu o dan adran 16 gan bob awdurdod penodedig, gan gynnwys awdurdodau iechyd neu ofal cymdeithasol, a chyrff plismona lleol, awdurdodau addysgol, carchardai a dalfeydd ieuenctid.

150. Mae adran 16(3) yn nodi nad yw datgeliadau o dan adran 16 yn torri unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, nac unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag, a osodir). Rhaid i ddatgeliad hefyd fod:

a. yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data (adran 16(4)(c), ac

b. na chaiff ei wahardd gan unrhyw un o Ran 1 i 7 neu Bennod 1 o Ran 9 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (adran 16(4)(d)).

151. Mae adran 16(7) yn nodi nad yw’r porth rhannu gwybodaeth hwn fel arall yn effeithio ar bwerau presennol i ddatgelu gwybodaeth. Gellir rhannu data personol o hyd lle y bo’n briodol ac yn gyson â’rfframwaith cyfreithiol presennol a mecanweithiau sydd eisoes wedi’u sefydlu rhwng partneriaid lleol (e.e. MARAC a threfniadau Canolfan Diogelu Aml-asiantaethol (MASH)..

152. Rhaid i ymarferwyr iechyd a gofal ddilyn canllawiau rhannu gwybodaeth eu rheoleiddiwr proffesiynol wrth benderfynu a allant ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol am gleifion neu beidio i gyrff plismona lleol neu awdurdodau eraill. Ceir rhagor o wybodaeth am ddatgeliadau ar gyfer amddiffyn cleifion ac eraill o dan y dulliau presennol hyn yng nghanllawiau’r GMC ar Gyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth am gleifion[footnote 44].

Darparu gwybodaeth i gyrff plismona lleol ayyb (Adran 17)

153. Mae Deddf PCSC hefyd yn creu pŵer o dan adran 17 i gyrff plismona lleol (Comisiynydd Troseddu’r Heddlu a chyrff cyfatebol) ofyn i unrhyw awdurdod penodedig ac unrhyw awdurdod addysg, carchar neu gyfiawnder ieuenctid yn ardal ei heddlu roi unrhyw wybodaeth a bennir ganddo.

154. Diben y pŵer hwn yw galluogi neu gynorthwyo â chyrff plismona lleol i ymgymryd â rôl gynnull sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a monitro’r strategaeth leol a’i heffeithiolrwydd.

155. Pan wneir cais o dan adran 17(1), rhaid i’r person neu’r corff y mae’n ymwneud ag ef gydymffurfio a rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau yn is-adran (6). Rhaid i’r wybodaeth y gofynnir amdani gael ei chadw gan y person sy’n derbyn cais amdani a rhaid iddo ymwneud â’r person hwnnw, swyddogaeth y person hwnnw, neu berson y mae swyddogaeth mewn perthynas ag ef yn arferadwy gan y person y gofynnir amdano i roi’r wybodaeth.

156. Gall awdurdodau penodedig ddatgelu Gwybodaeth Bersonol o dan adran 17 (ac eithrio awdurdodau iechyd neu ofal cymdeithasol), cyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a dalfeydd ieuenctid.

157. Nid yw datgelu gwybodaeth am gleifion gan awdurdodau penodedig, cyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a dalfeydd ieuenctid wedi’i awdurdodi o dan y pwerau hyn (adran 17(6)(a)), ac nid yw datgelu gwybodaeth bersonol gan awdurdodau iechyd neu ofal cymdeithasol penodedig wedi’i awdurdodi ychwaith (adran 17(6)(b)).

158. Gall pob awdurdod penodedig ddatgelu gwybodaeth ddienw o dan adran 17, gan gynnwys awdurdodau iechyd neu ofal cymdeithasol, a chyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a dalfeydd ieuenctid.

159. Mae adran 17(5) yn nodi nad yw datgeliadau sy’n ofynnol o dan adran 17 yn torri unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, nac unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y gosodir). Rhaid i’r datgeliad fod:

a. yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data (adran 17(6(c)), ac

b. na chaiff ei wahardd gan unrhyw un o Ran 1 i 7 neu Bennod 1 o Ran 9 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (adran 17(6)(d)).

160. Mae adran 17(7) yn nodi bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i gorff plismona lleol o dan yr adran hon gael ei defnyddio gan y corff hwnnw yn unig at ddiben ei galluogi neu ei chynorthwyo â chyflawni ei swyddogaethau o dan adran 14. Hynny yw, gellid ond ei ddefnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig â chynorthwyo a monitro awdurdodau penodedig wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol. Er enghraifft, ni ellid ei rannu â’r heddlu nac asiantaeth gorfodi’r gyfraith arall at ddibenion eraill.

Pwerau i wneud rheoliadau (adran 10)

161. Mae adran 10 o Ddeddf PCSC yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n rhoi pwerau i awdurdodau penodedig gydweithio â phersonau penodol (ac i’r gwrthwyneb). Bydd y rhain yn cael eu gweithredu pan fydd ardaloedd lleol yn wynebu heriau cyfreithiol wrth weithio gyda’i gilydd. Mae adran 10 hefyd yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n awdurdodi datgelu gwybodaeth rhwng personau penodol ac awdurdodau penodedig, cyrff plismona lleol, awdurdodau addysg, carchardai a dalfeydd ieuenctid.

162. Byddai unrhyw borth rhannu gwybodaeth o’r fath yn ddarostyngedig i gyfyngiadau tebyg ar yr hyn y gellir ei ddatgelu i’r rhai a nodir yn adran 16 ac 17.

Diogelu data

163. Dylai fod gan bob awdurdod â chyfrifoldeb drefniadau eisoes ar waith sy’n nodi’n glir y prosesau a’r egwyddorion ar gyfer rhannu gwybodaeth yn fewnol. Yn ogystal, gall y trefniadau hyn gynnwys rhannu gwybodaeth o fewn y bartneriaeth leol a gyda chyrff allanol. Lle bo’n berthnasol, dylent gynnwys y rheswm ar gyfer rhannu’r data, beth fydd yn digwydd i’r data ar adegau perthnasol ac eglurder ar y rolau perthnasol. Efallai y bydd angen sefydlu cytundebau rhannu data lle nad oes rhai eisoes ar waith[footnote 45].

164. Byddai datgelu gwybodaeth bersonol (ac eithrio gwybodaeth am gleifion a/neu wybodaeth bersonol ar gyfer awdurdodau iechyd a gofal) o dan adran 16 a 17, ac o dan unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 10, ond yn cael eu caniatáu os nad ydynt yn torri deddfwriaeth diogelu data fel y diffinnir yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018.

165. Mewn amgylchiadau lle mae awdurdodau iechyd a gofal o’r farn bod angen datgelu data personol nad yw wedi’i awdurdodi gan y ddeddfwriaeth hon i gefnogi atal a lleihau trais difrifol, dylid gwneud hyn yn unol â’r canllawiau presennol [footnote 46]a’r fframwaith diogelu data perthnasol.

166. Dylai awdurdodau penodedig gynnwys preifatrwydd yn eu partneriaethau o ddechrau’r broses a chyn arfer y swyddogaethau perthnasol o dan Ddeddf PCSC, gan gynnwys, er enghraifft, sefydlu pob cytundeb a hysbysiad priodol a gallu cyflwyno tystiolaeth dda o gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data.

167. Wrth ddatgelu data personol neu brosesu data personol fel arall er mwyn rhannu data dienw yn effeithiol, rhaid i bob awdurdod â chyfrifoldeb:

a. gydymffurfioRhaid cydymffurfio â’r amodau prosesu o dan ddeddfwriaeth diogelu data- gan gynnwys bod yn eglur ynghylch y rhesymau y mae eich sefydliad yn prosesu data personol ar eu cyfer a’r amgylchiadau lle gallech wneud hynny wrth gydymffurfio â’r Ddyletswydd Trais Difrifol.

b. Dylai fodDylai fodyn ymwybodol o’r eithriadau o ddarpariaethau GDPR penodol y DU sydd wedi’u cynnwys yn Atodlen 2 i Ddeddf Diogelu Data 2018, i’r graddau y byddai cymhwyso’r darpariaethau GDPR hynny yn y DU yn debygol o ragfarnu atal neu ganfod trosedd. Lle na fyddai’r dibenion hynny’n debygol o gael eu rhagfarnu, rhaid i unrhyw brosesu gydymffurfio â GDPR y DU fel sy’n digwydd fel arfer.

Astudiaeth achos: Enghraifft o fodel rhannu data effeithiol (dylanwadu ar ddarpariaeth prif ffrwd ac effeithio arni)

Mae Partneriaeth Trais a Bregusrwydd Essex (V&V) yn fforwm sy’n llwyddo i ddod ag asiantaethau a sefydliadau ar draws Southend, Essex a Thurrock gyda’i gilydd i ddatblygu strategaethau a chyfeiriad ar y cyd ar gyfer mynd i’r afael â thrais difrifol ledled Essex. Mae hyn yn cynnwys rhannu data’n effeithiol er mwyn sicrhau bod dulliau gweithredu’n cael eu darparu mewn ymateb i anghenion a nodwyd. Mae’r Bartneriaeth yn galluogi sefydliadau i nodi materion fel y gellir defnyddio dull gweithredu ar y cyd i’w datrys. Fel rhan o waith y Bartneriaeth ar rannu data, un o’r materion a nodwyd ar draws y bartneriaeth fu rhannu gwybodaeth yn amserol ar draws yr asiantaethau cyfiawnder troseddol (CJ), a waethygir gan Covid. Mae’r Bartneriaeth wedi ystyried sut mae’r mater hwn wedi cael effaith ar sut mae pobl ifanc yn dod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol, sy’n ymwneud â thrais a gangiau difrifol ac sydd mewn perygl o gael eu chamfanteisio yn ystod y cyfnod cyn y llys (a chydnabod y gall y cyfnod hwn fod dros nifer o fisoedd). Ymgysylltodd y Bartneriaeth â thimau perthnasol o Heddlu Essex, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid i ddeall y materion sy’n wynebu’r unigolion a’r asiantaethau dan sylw. Datblygodd y Bartneriaeth gynllun a oedd yn diwallu anghenion yr holl wasanaethau drwy sicrhau:

  • Gwirio data mechnïaeth yn brydlon ac yn ddiogel / ‘rhyddhau dan ymchwiliad’ (RUI)

  • Hyfforddiant ac arweiniad priodol wrth rannu gwybodaeth i dimau ar draws yr asiantaethau

  • Adolygiad o brosesau rhannu gwybodaeth rhwng yr asiantaethau

Arweiniodd hyn at nodi agweddau ar y system a oedd yn achosi rhwystrau rhwng asiantaethau, a rhoddwyd mesurau ar waith i wella’r broses o rannu gwybodaeth rhwng y timau. Yn dilyn hyn, datblygwyd dulliau wedi’u teilwra yn Southend, Essex a Thurrock, a gynlluniwyd i adeiladu ar y cudd-ymchwil a rhannu gwybodaeth mwy rhwng Heddlu Essex a phartneriaid amlasiantaethol eraill o’r gwaith hwn. Mae enghraifft o hyn yn Essex sef y cynllun peilot “Reroute” sy’n anelu at weithio ar draws Heddlu Essex a Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Essex, i gefnogi, amddiffyn a gorfodi yn erbyn y bobl ifanc hynny sydd naill ai’n cael eu rhyddhau dan ymchwiliad neu sydd ar fechnïaeth yr heddlu.

Pennod Tri: Ymgysylltu

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain

168. Mae gan gyrff plismona lleol, sef Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu (MOPAC) a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain, ran bwysig i’w chwarae wrth gynnull asiantaethau partner ac maent yn gyfrifol am holl blismona yn eu hardal, yn ogystal â gwasanaethau i ddioddefwyr troseddau.

169. Gall cyrff plismona lleol ddewis cynorthwyo ag awdurdodau penodedig i arfer eu swyddogaethau i gydweithio a chynllunio i atal a lleihau trais difrifol a gallant fonitro’r modd y mae awdurdodau penodedig yn arfer y swyddogaethau hynny. Fodd bynnag, nid yw PCCs (a’r MOPAC a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain yn Llundain) yn ddarostyngedig i’r Ddyletswydd, ond, fel y mae gyda PCCs a swyddogaethau presennol y MOPAC mewn perthynas â Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol, gallant ddewis cydweithio â phartneriaethau lleol a chymryd rôl gynnull er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r strategaeth leol.

170. Mae hyn yn berthnasol hefyd i Gomisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu fel cyrff plismona lleol ac wrth arfer y swyddogaethau hynny.

171. Gwneir rheoliadau sy’n rhoi swyddogaethau i gyrff plismona lleol o dan adran 14 o Ddeddf PCSC[footnote 47]. Cynigir y bydd y rhain yn rhoi swyddogaethau i gyrff plismona lleol ddarparu cyllid i awdurdodau penodedig ac i gynnull a chadeirio cyfarfodydd i gynorthwyo â’r awdurdodau penodedig i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol. Gallai hyn olygu caniatáu i gorff plismona lleol ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr o’r awdurdodau penodedig yn ogystal â’r opsiwn i gynnwys addysg, carchardai a dalfa’r ifanc, i unrhyw ardal o fewn ardal yr heddlu fynychu cyfarfod i helpu i lunio a gweithredu strategaethau. Bydd awdurdodau penodedig, gan gynnwys addysg, carchardai a dalfa’r ifanc os oes angen, yn anfon cynrychiolwyr a’r nifer a statws cynrychiolwyr a pha strategaeth/strategaethau sydd i’w trafod.

172. Byddwn yn darparu canllawiau pellach i gyrff plismona lleol ar eu rôl yn darparu cyllid.

173. Gall cyrff plismona lleol hefyd fonitro awdurdodau penodedig sy’n arfer eu swyddogaethau Dyletswydd Trais Difrifol. Rhaid i awdurdodau penodedig gydweithredu â chorff plismona lleol pan fo’n ofynnol i’w gwneud hynny yn unol ag adran 14 o Ddeddf PCSC, ond dylai’r corff plismona lleol ystyried cymesuredd ceisiadau ychwanegol a’r costau a ragwelir i awdurdodau penodedig cyn gwneud unrhyw geisiadau o’r fath. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau am wybodaeth a wneir o dan adran 17 o Ddeddf PCSC er mwyn cyflawni eu rôl o alluogi a monitro effeithiolrwydd strategaethau lleol.[footnote 48] Dylid ond gwneud ceisiadau o’r fath ar gyfer gwybodaeth a ddelir gan yr awdurdod y gwnaed y cais iddo, a rhaid i’r wybodaeth ymwneud â’r awdurdod hwnnw yn unig, un o swyddogaethau’r awdurdod hwnnw ac eithrio pan fo swyddogaethau wedi’u contractio. Rhaid cael digon o fesurau diogelu hefyd i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei datgelu yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.

Unedau Lleihau Trais

174. Partneriaethau anstatudol, cydweithredol yw Unedau Lleihau Trais (VRUs). Ar hyn o bryd, mae 20 [footnote 49]VRUs wedi’u sefydlu gyda chymorth cyllid y Swyddfa Gartref mewn ardaloedd yng Nghymru a Lloegr sy’n profi’r niferoedd uchaf o drais difrifol, er y gall ardaloedd eraill hefyd ddewis sefydlu partneriaethau tebyg yn annibynnol.

175. Mae VRUs yn gweithredu dull ‘iechyd cyhoeddus’ o fynd i’r afael â thrais difrifol, sy’n dilyn y 5Cs; Cydweithredu, Cyd-gynhyrchu, Cydweithredu mewn rhannu data a gwybodaeth, Rhannu stori, a Chonsensws Cymunedol.[footnote 50] Nod y dull hwn yw cefnogi gostyngiadau hirdymor mewn trais difrifol drwy ddeall yr achosion sylfaenol ac ymyrryd ag atebion tymor byr a thymor hir i atal y rhai sydd mewn perygl fwyaf rhag cymryd rhan mewn trais difrifol yn y lle cyntaf.

176. Swyddogaeth graidd VRU yw arwain a chydlynu’r ymateb lleol i drais difrifol yn eu hardaloedd. Fel arweinwyr systemau, mae VRUs yn dod â dealltwriaeth ac arbenigedd gan bartneriaid lleol allweddol at ei gilydd i nodi’r ffactorau sy’n achosi troseddau treisgar, diffinio’r poblogaethau a’r ardaloedd sydd mewn perygl fwyaf, a gweithio ar y cyd â nhw, gan ddefnyddio’r sylfaen dystiolaeth gyfredol, i bennu, cytuno a chyflawni’r gweithgarwch wedi’i dargedu a all atal ac effeithio ar drais difrifol yn orau.

177. Mae VRUs yn dod at ei gilydd, o leiaf, Brif Gwnstabl yr ardal, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am yr ardaloedd daearyddol a gynlluniwyd yn bennaf gan weithgareddau’r VRU, y Grwpiau Comisiynu Clinigol [Byrddau Gofal Integredig][footnote 51],Y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau /Cymru a’r Tîm Troseddau Ieuenctid; yn ogystal â chynrychiolwyr sefydliadau addysg lleol, grwpiau cymunedol gan gynnwys pobl ifanc, y sector gwirfoddol a sefydliadau addysgol lleol perthnasol.

178. Bydd partneriaethau lleol a CSPs yn dymuno gweithio’n agos gyda VRUs (os oes un yn bresennol yn eu hardal) wrth ddatblygu’r Asesiad Strategol o Anghenion a’r Strategaeth Ymateb. Efallai y bydd awdurdodau penodedig am ymgorffori, cysoni neu gyfeirio at y dogfennau hyn wrth ddatblygu eu strategaeth. Fodd bynnag, mae’r ardaloedd daearyddol sy’n dod o dan VRUs ar lefel heddlu neu ranbarthol ac felly gallant fod yn rhy eang i’w gweithredu yn lle asesiad/strategaeth anghenion lleol ar ran CSPs/partneriaethau lleol.

179. Gan fod VRUs hefyd yn comisiynu gwasanaethau lleol i ddarparu ymyriadau ac, wrth gyflawni eu swyddogaeth graidd, disgwylir iddynt gadw gwybodaeth sylweddol am y ddarpariaeth bresennol yn y rhanbarth. Drwy eu Hasesiadau Strategol o Anghenion wedi’u cynhyrchu ar y cyd, bydd VRUs hefyd yn cadw gwybodaeth am effaith trais ar gymunedau lleol gan gynnwys effaith gwahaniaethau iechyd.

Y Sector Gwirfoddol a Chymunedol

180. Yng Nghymru a Lloegr, mae llawer o sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol (VCS) yn gweithio i fynd i’r afael â thrais difrifol neu faterion sy’n ymwneud â thrais difrifol ac yn y pen draw gwella canlyniadau i bobl ifanc.

181. Mae’r sefydliadau hyn yn aml yn fedrus iawn ac yn wybodus am faterion a chymunedau lleol penodol. Gall y sector gwirfoddol ddarparu arbenigedd hanfodol, yn aml gan bobl sydd â phrofiad personol o drais. Mae cymunedau yn aml yn ymddiried mewn sefydliadau lleol, ac felly gall y sefydliadau ymgysylltu â phobl yn y gymuned, mewn ffordd na all cyrff cyhoeddus ei wneud o bosibl. Mae modd gwella hyn ymhellach hefyd drwy recriwtio unigolion sydd â phrofiad personol. Drwy ymgysylltu â’r sector gwirfoddol a chymunedol, gall awdurdodau penodedig felly gael dealltwriaeth gryfach o’r materion trais difrifol yn eu hardaloedd lleol.

182. Mae’r VCS yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau ffydd a chydraddoldeb, elusennau, mentrau cymdeithasol, cymdeithasau tai a’r sector arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gall pob un ohonynt fod yn gymwys i ymgysylltu â hwy fel rhan o’r broses gychwynnol o nodi’r asesiad strategol o anghenion lleol, datblygu’r strategaeth ymateb, ei gweithredu a’i hadolygu wedyn.

Beth i’w ystyried wrth ymgysylltu â’r VCS

183. Mae cydweithio â’r VCS yn allweddol i gyflawni polisïau sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i gymunedau ac i gryfhau gwydnwch y sector hwn wrth fynd i’r afael â’r materion hyn. Er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, dylai partneriaethau statudol a sefydliadau VCS gydweithio i feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod sefydliadau VCS yn aros yn annibynnol er mwyn cynnal eu rôl fel adfocadau dros eu buddiolwyr a’r gymuned a chadw ymddiriedaeth eu defnyddwyr gwasanaeth.

184. Mae ymgysylltu cynnar yn sicrhau y gall cyfnodau allweddol o ddatblygu polisi adlewyrchu arbenigedd y sector hwn a gall roi cipolwg gwerthfawr ar sut mae polisïau’n debygol o effeithio ar gymunedau. Dylid hefyd gosod disgwyliadau yn unol â gallu’r sefydliad dan sylw.

185. Mae’n hefyd yn bwysig rhoi rhybudd priodol o gyfleoedd neu benderfyniadau cyllid a sicrhau bod telerau cyllid yn deg ac yn galluogi sefydliadau lleol i gymryd rhan.

186. Mae’r Compact yn gytundeb gwirfoddol y gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng i feithrin partneriaethau cryf ac effeithiol rhwng partneriaethau statudol a sefydliadau VCS. Mae ei egwyddorion yn berthnasol i bob perthynas rhwng sefydliadau VCS, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus sy’n dosbarthu arian ar ran y llywodraeth. Mae gan lawer o ardaloedd lleol yn Lloegr hefyd Compact lleol neu drefniant arall i hyrwyddo gwaith partneriaeth effeithiol.

Plant a Phobl Ifanc

187. Mae ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn cael dweud am y materion sy’n effeithio arnynt hwy ac sy’n bwysig iddynt. Mae hyn yn hynod o bwysig i’r rhai sy’n cael cymorth gwasanaethau y mae’r asiantaethau a’r cyrff sy’n ymwneud â’r bartneriaeth yn eu darparu ac a allai hefyd fod yn agored i niwed, er enghraifft, troseddwyr sy’n blant neu’n bobl ifanc a’r rhai sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, y tu allan i addysg brif ffrwd, a/neu blant sy’n derbyn gofal a/neu ddioddefwyr troseddau.

188. Mae’r Llywodraeth wedi cynnal ymchwil gynhwysfawr i ffactorau sy’n achosi troseddau treisgar a nodweddion cyflawnwyr a dioddefwyr.[footnote 52] Gwyddom fod ffactorau risg sy’n croesi o fod yn ddioddefwr a/neu’n cyflawnwr trais difrifol ac mae’r ffactorau risg hyn yn berthnasol ar lefel unigol, teuluol a chymunedol. Dylai partneriaethau fod yn ymwybodol o’r croesi hwn wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a datblygu ymyriadau sydd wedi’u targedu atynt neu a allai effeithio arnynt.

189. Mae’n hefyd yn bwysig ystyried pa mor ddiogel y mae plant a phobl ifanc yn teimlo wrth iddynt fynd ati yn eu pethau yn ystod y dydd a gyda’r nos, i fynd i’r afael â’u pryderon a sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn eu hardal leol i atal a lleihau trais difrifol a gwella eu diogelwch cymunedol. Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau neu ardaloedd lleol gyngor ieuenctid lleol sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc weithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar amrywiaeth o faterion, megis atal troseddau cyllyll. Mae gan rai ardaloedd hefyd feiri ifanc, comisiynwyr heddlu a throseddu ieuenctid a fforymau ieuenctid o fewn sefydliadau ieuenctid VCS y gellid ymgysylltu â hwy i gyd.

190. Mae ansawdd yr ymgysylltu yn eithriadol o bwysig i gefnogi pobl ifanc pan fyddant yn rhyddhau eu hamser i wella eu cymunedau. Mae pobl ifanc yn amrywiol, a dylid adlewyrchu hyn mewn ymdrechion i ofyn am farn ar dystiolaeth a materion ar gyfer y bartneriaeth. Efallai y bydd angen ar rai pobl ifanc gael cymorth eu gweithwyr cymorth (gweithwyr ieuenctid, gweithiwr iechyd meddwl, gweithiwr allweddol sy’n derbyn gofal ac ati) i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chynllunio cymunedol yn effeithiol. Efallai y bydd awdurdodau penodedig hefyd am ystyried dyrannu cyllideb briodol ar gyfer treuliau parod cyn i ymgysylltu ddigwydd.

191. Sefydlwyd y Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) yn 2019 yn dilyn gwaddol o

£200m gan y Swyddfa Gartref. Nod y rhaglen 10 mlynedd yw cefnogi ymateb y Llywodraeth hon i drais difrifol drwy ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio i atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais ac i wneud hyn yn hygyrch i lunwyr polisi ac ymarferwyr rheng flaen. Mae’r YEF wedi datblygu Pecyn Cymorth sy’n crynhoi’r dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael am wahanol ddulliau o atal trais difrifol ymysg pobl ifanc. Mae’n seiliedig ar ddata gwirioneddol am yr hyn sydd wedi digwydd pan ddefnyddiwyd y dulliau hyn o’r blaen. Mae’n rhoi cipolwg ar 17 o wahanol ddulliau, a bydd mwy yn cael ei ychwanegu yn y dyfodol. Mae’n egluro beth yw pob dull, pa mor effeithiol y mae’n debygol o fod, pa mor hyderus y gallwch fod o ran tystiolaeth o’i effaith, yn ogystal â chostau awgrymol a chysylltiadau ag adnoddau a rhaglenni cysylltiedig.

Astudiaeth achos: Enghraifft o ymgysylltu a chydweithio effeithiol â chymunedau

Mae Uned Lleihau Trais Kent a Medway yn darparu arweinyddiaeth a chydgysylltu strategol o’r ymateb lleol i drais difrifol, gan ddod â gwahanol bartneriaid at ei gilydd i gyflawni’r canlyniad hwn. Yn ogystal â chydweithio sylweddol gyda gwahanol bartneriaid, mae’r VRU yn rhoi pwys mawr ar ymgysylltu â’r gymuned a sicrhau bod anghenion pobl ifanc leol yn llywio strategaeth a darpariaeth. Felly, mae lleisiau cymunedol wedi’u hymgorffori o fewn strwythur y VRU, gyda chynrychiolwyr yn ymuno â’r Bwrdd Goruchwylio yn 2021.

Yn 2020, gweithiodd y VRU gydag Uwcharolygydd Gangiau Cyffuriau yr Heddlu i sefydlu Grŵp Cyfeirio Llinellau Sirol, lle mae cynrychiolwyr o sefydliadau cymunedol yn cyfarfod ag arweinywyr y Tîm Gangiau a Chyfarwyddwyr VRU. Mae cynrychiolwyr cymunedol yn cael cyfle i glywed a mynegi barn am y gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â Llinellau Sirol a’r camfanteisio cysylltiedig, a’r fforwm yw lle y gallant ofyn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau esbonio neu dderbyn cyfrifoldeb am eu gweithrediadau.

Yn ogystal â sefydliadau cymunedol, mae gan y grŵp gynrychiolwyr o grwpiau addysg a ffydd sy’n gallu cyfrannu at y drafodaeth a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Yn 2021, arweiniodd gwaith y grŵp at y VRU yn darparu cyllid ychwanegol i grwpiau cymorth i rieni ar gyfer y rhieni hynny y mae llinellau sirol wedi manteisio ar eu plant. Mae rhieni bellach yn mynychu’r Grŵp Cyfeirio, ac mae eu profiad yn helpu i lunio’r gwaith cynllunio ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac mae’r VRU yn cwrdd â’r rhieni y tu allan i’r grŵp i ddilyn trafodaethau.

Mae gan gynrychiolwyr cymunedol y Grŵp Cyfeirio ddwy sedd ar Fwrdd Goruchwylio’r VRU, sy’n sicrhau bod y trafodaethau o fewn y Bwrdd a chynllunio gwaith y VRU yn adlewyrchu anghenion cymunedau lleol. Yn aml, cynrychiolwyr y gymuned yw’r aelodau mwyaf gweithgar a llafar o’r Bwrdd ac maent yn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu llywio yn ôl anghenion y cymunedau y maent yn eu hadlewyrchu.

Pennod Pedwar: Canllawiau Sy’n Benodol i’r Sector

Heddlu

192. Mae gan yr heddlu rôl hanfodol i’w chwarae wrth orfodi’r gyfraith i ddiogelu’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae’r gofynion sy’n ymwneud â’r Ddyletswydd yn ei gwneud yn glir bod angen ymateb partneriaeth i drais difrifol, sy’n cynnwys amrywiaeth o asiantaethau arweiniol. Gall cydweithredu â phartneriaid helpu i nodi a dargyfeirio yn gynnar rhag cymryd rhan mewn trais difrifol sy’n hanfodol i wrthdroi perygl mwy a achosir yn bennaf gan ac yn erbyn pobl ifanc. Dylai gwaith presennol i ymchwilio, tarfu, atal a gorfodi gan ddefnyddio’r ystod lawn o bwerau ac offer plismona sydd ar gael (er enghraifft, stopio a chwilio) barhau yn ogystal â gwaith a wneir o fewn trefniadau diogelu statudol i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, gan gyfeirio at wasanaethau cymorth a gofal iechyd lle y bo’n briodol.

193. Mae’r Ddyletswydd yn gymwys i Brif Swyddog yr heddlu ar gyfer pob llu heddlu yng Nghymru a Lloegr. Dylai’r Prif Swyddog sicrhau bod cynrychiolaeth briodol ar gyfer pob partneriaeth sy’n gweithredu o fewn ardal eu heddlu. Dylai’r cynrychiolydd hwn allu:

  • Ymgysylltu â phartneriaethau lleol yn llawn, gan gynnwys sefydlu a chynnal y defnydd o wybodaeth ddienw gan adrannau achosion brys y GIG ynghylch y lleoliadau lle mae pobl yn cael eu hanafu mewn trais ac arfau a ddefnyddir
  • Rhannu data a gwybodaeth berthnasol yr heddlu i lywio’r asesiad strategol o anghenion ar gyfer yr ardal leol (er enghraifft; data ar niferoedd a thueddiadau mewn trais yn erbyn y person gan gynnwys troseddau cyllyll, troseddau gynnau, dynladdiadau a chyffuriau yn ogystal â cham-drin domestig neu ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â thrais rhywiol, gwybodaeth am fannau lle ceir problemau trais difrifol lleol gan gynnwys pobl a lleoedd, gwybodaeth am rwydweithiau llinellau sirol ac ati)
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd
  • Hwyluso’r defnydd o becyn asesu risg perthnasol
  • Cefnogi gwaith i sicrhau atal ac ymyrraeth gynnar ac egluro i bartneriaid sut y gall eu data helpu i lywio’r gwaith hwn
  • Esbonio i bartneriaid sut y gall gwaharddebau sifil fod yn effeithiol ar gyfer lleihau trais difrifol

194. Nid yw’r Ddyletswydd yn gymwys i blismona porthladdoedd, plismona niwclear, Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn neu Heddlu Trafnidiaeth Prydain, ond lle mae heddluoedd o’r fath yn gweithredu o fewn ardal leol, gallai’r Prif Swyddog ystyried sut i ymgysylltu â heddluoedd o’r fath lle bo angen.

Cyfiawnder

Carchardai

195. Mae carchardai yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd ac yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adsefydlu pobl sydd wedi cyflawni troseddau treisgar. Mae poblogaethau carchardai yn cynnwys troseddwyr sy’n gallu cyfrannu at drais yn y carchar, ac yn y gymuned ehangach, drwy’r galw am gyffuriau a nwyddau gwaharddedig a chymryd rhan mewn troseddau cyfundrefnol. Mae poblogaeth carchardai hefyd yn cynnwys carcharorion sydd mewn perygl o ddioddef trais, yn enwedig cam-drin domestig yn achos troseddwyr menywod.

196. Mae nifer o wahanol gategorïau a mathau o garchar, sy’n cynnwys gwahanol grwpiau o garcharorion ac felly ni fydd pob un ohonynt yn dod o dan bartneriaethau lleol. Gall llawer ohonynt hefyd letya poblogaeth nad oes ganddi fawr ddim cysylltiad ag ardal yr awdurdod lleol y maent wedi’i lleoli ynddi. Am y rheswm hwn, rhaid i awdurdodau penodedig ymgynghori ag awdurdodau carchardai wrth baratoi’r strategaeth leol, ond gall awdurdodau carchardai hefyd ddewis cydweithio ag awdurdod penodedig neu awdurdod carchardai arall, awdurdod dalfa ieuenctid neu awdurdod addysg yn yr ardal honno o’u dewis eu hun, neu gall unrhyw un o’r cyrff eraill hynny ei gwneud yn ofynnol iddynt gydweithio. Pan fydd carchardai’n dewis, neu pan ofynnir iddynt, gydweithio’n weithredol â’r bartneriaeth, dylid gofyn iddynt gyfrannu at ddatblygu’r asesiad strategol o anghenion a rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw gamau gweithredu yn y strategaeth a allai fod yn berthnasol iddynt.

197. Os bydd gofyn amdani, rhaid bod y carchar yn cydymffurfio â chamau gweithredu mewn strategaeth leol, ar yr amod:

  • eu bod yn gyson ag unrhyw ddyletswyddau statudol eraill;
  • na fyddai’n amharu ar arfer swyddogaethau’r awdurdod;
  • nad ydynt yn anghymesur â’r angen i atal a lleihau trais difrifol yn lleol; ac
  • ni fyddai’n golygu bod yr awdurdod carchardai wedi cael costau afresymol.

198. Dylai partneriaethau lleol ymgysylltu â charchardai yn eu hardal yn gynnar ac yn aml drwy’r broses o ddatblygu’r strategaeth, er mwyn sicrhau:

  • Bod dealltwriaeth gyffredin o’r berthynas rhwng y carchar a thrais difrifol yn yr ardal leol.

  • Bod barn wybodus am sut y gall partneriaid gefnogi ymdrechion yn y carchar i leihau trais ac adsefydlu carcharorion.

199. Wrth ystyried y dystiolaeth y gall carchar ei chyfrannu, dylai partneriaethau lleol geisio edrych y tu hwnt i’r prif ddata trais. Gellir cefnogi hyn drwy gynnwys staff carchardai ac arweinwyr Diogelwch Grwpiau Carchardai yn y broses ymgynghori.

200. Mae carchardai yn cydweithredu’n agos â gorfodi’r gyfraith yn ehangach wrth ymchwilio i droseddu, dilyn pobl ddrwgdybiedig, a sicrhau diogelwch carchardai a diogelu’r cyhoedd. Gall dealltwriaeth gan y sefydliadau hyn lywio gwaith y bartneriaeth leol, er y dylai’r cydweithredu parhaus drwy’r strwythurau presennol barhau beth bynnag.

201. Llywodraethwr neu gyfarwyddwr y carchar sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r Ddyletswydd. Efallai y byddant am ddod o hyd i gynrychiolydd addas, megis Cyfarwyddwr Grŵp Carchardai, a fydd yn gallu:

  • Ymgysylltu â’r bartneriaeth berthnasol i atal a lleihau trais difrifol.
  • Rhannu ac ymchwilio data carchardai cyfanredol dienw sy’n cael ei gyhoeddi neu ei wirio at ddibenion busnes fel arfer gan y carchar neu HMPPS yn genedlaethol.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd.
  • Cyfathrebu rôl carchardai o ran lleihau troseddau ac adsefydlu carcharorion, a gweithio gyda phartneriaid cymunedol i ddatblygu gwaith yn y maes hwn.

202. Mae carchardai eisoes yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu a’r gwasanaeth prawf drwy bartneriaethau amlasiantaethol presennol, megis y Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA), Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC) a Chynlluniau Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM), i asesu a rheoli troseddwyr treisgar cymwys ar lefel strategol. Mae rhai carchardai hefyd yn cymryd rhan mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPs) ac Unedau Lleihau Trais (VRUs) lleol. Fodd bynnag, nid yw llawer o garchardai yn cael eu cynnwys yn aml iawn o ran y partneriaethau y gellir eu dewis i gyflawni’r Ddyletswydd hon. Dylai partneriaethau ystyried hyn o ran y ffordd y maent yn cefnogi cyfranogiad carchardai a mabwysiadu dull pragmatig at y ffordd y mae carchardai yn cael eu cynnwys mewn trefniadau partneriaeth.

Sefydliadau Diogel i Blant a Phobl Ifanc

203. Mae’r lleoliadau Sefydliadau Diogel i Blant a Phobl Ifanc (CYPSE) yn diogelu’r cyhoedd ac mae ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae o ran gofalu am blant ac adsefydlu plant sydd wedi cyflawni trais neu a allai fod mewn perygl o gymryd rhan mewn trais difrifol. Wrth weithio gydag asiantaethau a sefydliadau eraill, gallant gynllunio a darparu dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ganolbwyntio ar y plentyn a all helpu i atal a lleihau trais difrifol. Mae hyn yn cynnwys lleihau trais mewn sefydliadau diogel, ac yn y gymuned ehangach.

204. Bydd y Ddyletswydd yn berthnasol i sefydliadau diogel yn yr un modd â charchardai (gweler manylion uchod).

205. Mae Llywodraethwyr Sefydliadau Troseddwyr Ifanc, Llywodraethwyr neu Gyfarwyddwyr Canolfannau Hyfforddi Diogel, Rheolwyr Cofrestredig Cartrefi Diogel i Blant a phenaethiaid Ysgolion Diogel yn gyfrifol am gydymffurfio â’r Ddyletswydd. Efallai y bydd Llywodraethwyr Sefydliadau Troseddwyr Ifanc a Llywodraethwyr Canolfannau Hyfforddi Diogel am ddod o hyd i gynrychiolydd, gall hyn fod drwy’r gynrychiolaeth a drefnir gan Gyfarwyddwr rhanbarthol y Grŵp Carchardai. Dylai’r cynrychiolydd fod yn gallu:

  • Ymgysylltu â’r bartneriaeth leol yn llawn i atal a lleihau trais difrifol yn y gymuned ac mewn sefydliadau diogel
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r asesiad strategol o anghenion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chyhoeddi a gweithredu’r strategaeth i fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n achosi trais difrifol o fewn sefydliadau ac o fewn yr ardal bartneriaeth leol
  • Nodi cyfleoedd i waith asiantaethau ar draws ffiniau awdurdodau lleol i fynd i’r afael â materion trais difrifol penodol
  • Rhannu data, gwybodaeth weithredol a phrofiad cyfunol ac anhysbys perthnasol yn eglur (er enghraifft; data a phatrymau mewn delio cyffuriau, anghenion ailsefydlu, materion diogelwch, trais yn erbyn staff a nwyddau gwaharddedig, gwybodaeth a phrofiad ar broffiliau cefndir plant a phobl ifanc sydd wedi’u troseddu, gwybodaeth ddefnyddiol a allai gefnogi atal troseddu, a, lle bo’n briodol, gwybodaeth gan blant a phobl ifanc preswyl eu hunain)
  • Adolygu ac adeiladu ar bartneriaethau presennol lle bynnag y bo modd (e.e. Timau Troseddau Ieuenctid, Gofal Cymdeithasol Plant, Cartrefi Diogel i Blant[footnote 53], y GIG a darparwyr Addysg)
  • Nodi effeithiau trais difrifol o fewn y gymuned leol e.e. trais yn erbyn staff a phobl ifanc mewn sefydliadau

206. Mae angen i Bartneriaethau Lleol gefnogi gwaith sefydliadau diogel a chydnabod plant yn y ddalfa a’u hailsefydlu yn ôl yn y gymuned, yng nghyd-destun eu profiadau bywyd. Cydnabod ar y cyd nad yw natur fregus a chymhlethdod y plant yn annibynnol o’r risg y gallant ei achosi i eraill a bod mynd i’r afael â’r cyntaf yn allweddol i liniaru’r llall. Mae’n bwysig bod Partneriaethau Lleol yn helpu pob plentyn a pherson ifanc sy’n rhan o droseddu i deimlo’n ddiogel, i’w cefnogi i wella o drawma ac i ddatblygu hunaniaethau mwy cadarnhaol, lle gellir eu clodfori am y cyfraniadau cadarnhaol y mae modd iddynt gynnig i gymunedau lleol.

Timau Troseddu Ieuenctid

207. Mae Timau Troseddu Ieuenctid yn dimau aml-asiantaeth sy’n gyfrifol am helpu i leihau troseddu ac am oruchwylio plant sy’n destun ymyriadau cyn llys a datrysiadau llys statudol.

208. O dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, mae gan Dimau Troseddu Ieuenctid ddyletswydd i gydweithredu fel endid aml-asiantaeth i sicrhau gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid sy’n briodol i’w hardal ac arwain ymdrech strategol i atal troseddu gan blant a phobl ifanc. Mae’r timau yn chwarae rhan hollbwysig gan eu bod mewn sefyllfa dda i adnabod plant a phobl ifanc sy’n hysbys i sefydliadau ac asiantaethau perthnasol sy’n debygol o fod yn rhan o gyflawni trais difrifol. Drwy bartneriaethau sydd eisoes yn bodoli, maent yn cydweithio â phartneriaid i helpu i nodi a dargyfeirio’n gynnar rhag cymryd rhan mewn trais difrifol.

209. Rhaid i’r Tîm Troseddau Ieuenctid gydymffurfio â’r Ddyletswydd, a dylai enwebu cynrychiolydd o’r tîm a ddylai fod yn gallu:

  • Ymgysylltu â’r bartneriaeth leol berthnasol yn llawn i atal a mynd i’r afael â thrais difrifol, a lle bo hynny’n berthnasol, fel aelod craidd o’r Uned Lleihau Trais leol.
  • Rhannu data cyfunol ac anhysbys perthnasol, lle bo hynny’n ymarferol, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r proffil problemau/asesiad strategol sy’n seiliedig ar dystiolaeth (er enghraifft; gwybodaeth am fannau lle ceir problemau trais difrifol lleol, gwybodaeth am rwydweithiau delio cyffuriau mewn llinellau sirol a chamfanteisio ehangach ar blant ac ati)
  • Cefnogi’r gwaith o gyhoeddi a gweithredu’r strategaeth i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd, gan sicrhau bod plant a’u buddiannau yn cael eu cynrychioli’n deg mewn trafodaethau o’r fath.
  • Nodi a gweithredu i sicrhau bod buddiannau gorau plant, gan gynnwys gofynion diogelu a lleihau’r perygl o gamfanteisio troseddol, yn cael eu cadw ar flaen y gad o ran unrhyw gynllunio strategol.
  • Cynghori ar ymatebion priodol i gynyddu lefelau diogelwch yn yr ardal bartneriaeth leol, a galluogi plant i allu symud ymlaen o’u troseddu.
  • Helpu i gyflawni mentrau atal ac ymyrraeth gynnar lle bo hynny’n bosibl, ac egluro i bartneriaid sut y gall eu mewnbwn helpu i wella’r gwaith hwn.
  • Gweithio ar draws ardaloedd awdurdodau lleol a ffiniau sefydliadol lle nad yw plant wedi’u lleoli yn yr ardal bartneriaeth (er enghraifft, wrth adael y ddalfa neu mewn achosion llinellau sirol lle gall plant fod ymhell o’u hardal gartref.)

Gwasanaeth Prawf

210. Mae’r gwasanaeth prawf yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd a lleihau troseddau, gan ganolbwyntio ar oruchwylio’r gweithgareddau adsefydlu ar gyfer y rhai sydd ar drwydded neu ddedfrydau cymunedol gwasanaeth. Ar lefel leol, mae’r Gwasanaeth Prawf yn gyfrifol am asesu troseddwyr treisgar yn y carchar i’w paratoi ar gyfer rhyddhau ar drwydded i’r gymuned, eu goruchwylio pan fyddant yn cael eu rhyddhau a chychwyn galw i gof lle bo angen er mwyn diogelu’r cyhoedd a helpu i sicrhau bod troseddwyr treisgar sydd â dedfrydau cymunedol yn bodloni’r gofynion a orchmynir gan y llysoedd. Mae ganddynt rôl benodol i’w chwarae wrth leihau ac atal ail-droseddu trwy ddarparu gweithgareddau ac ymyriadau adsefydlu ymhlith troseddwyr treisgar yn ogystal â chyfathrebu â dioddefwyr troseddau treisgar a blaenoriaethu eu lles, pan fydd y troseddwr wedi cael dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy, neu’n cael ei gadw fel claf iechyd meddwl.

211. Mae gwasanaethau prawf hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu a charchardai drwy bartneriaethau aml-asiantaeth presennol, megis Trefniadau Diogelu’r Cyhoedd Aml-Asiantaeth (MAPPA), Cynadleddau Asesu Risg Aml- Asiantaeth (MARAC) a Chynlluniau Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM), i asesu a rheoli troseddwyr treisgar cymwys ar lefel strategol.

212. Mae’r Ddyletswydd yn gymwys i ddarparwr gwasanaethau prawf o dan adran 3(6) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007. Dylai penaethiaid Unedau Ddarparu Leol (LDU) sy’n cynrychioli’r Gwasanaeth Prawf mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPs) fod yn gyfrifol am sicrhau bod cynrychiolaeth briodol i’r bartneriaeth. Dylai’r cynrychiolydd fod yn gallu:

  • Ymgysylltu â’r bartneriaeth leol yn llawn i atal a lleihau trais difrifol.
  • Rhannu data a gwybodaeth a gyhoeddwyd ar hyn o bryd a/neu ddata a gyhoeddwyd er mwyn llywio’r asesiad strategol ar gyfer yr ardal leol (er enghraifft; Ystadegau chwarterol rheoli troseddwyr - ystadegau allweddol yn ymwneud â throseddwyr sydd yn y carchar neu o dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf a/neu ystadegau’r llys troseddau – Ystadegau Gwladol ar achosion yn llysoedd yr ynadon a Llys y Goron.)
  • Defnyddio yr offer asesu risg perthnasol i lywio’r asesiad o anghenion unigol i droseddwyr unigol.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r strategaeth leol i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd.
  • Cydweithio gyda phartneriaid lleol i helpu i leihau achosion o ail-droseddu ymhlith troseddwyr treisgar a diogelu grwpiau bregus (er enghraifft, dioddefwyr cam-drin domestig.)

lechyd

213. Mae trais yn un o brif achosion salwch a lles gwael, ac mae’n gysylltiedig â’r gwahaniaeth o ran statws iechyd, penderfynyddion cymdeithasol gofal iechyd ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd rhwng ardaloedd a chymunedau; mae cyswllt cryf gydag anghydraddoldebau. Mae data wedi dangos bod gan y pumed tlotaf o bobl yn Lloegr gyfraddau derbyn ysbytai ar gyfer trais bum gwaith yn uwch na rhai o’r pumed mwyaf cefnog.[footnote 54] Mae’n effeithio ar unigolion a chymunedau ac mae’n dreth ar wasanaethau iechyd, y system gyfiawnder troseddol a’r economi yn ehangach.

214. Mae ymyriadau ataliol sy’n anelu’n benodol at leihau anghydraddoldebau i atal trais a mynd i’r afael â’i achosion sylfaenol, yn enwedig y rhai yn ystod plentyndod cynnar, yn gwella canlyniadau tymor hir lluosog gan gynnwys y ffyniant ar gyfer trais, addysg, cyflogadwyedd ac iechyd.

215. O fewn y sector iechyd yn Lloegr, mae Grwpiau Comisiynu Clinigol (CCGs) [footnote 55]yn awdurdodau penodedig at ddibenion y Ddyletswydd gan eu bod yn y sefyllfa orau i arwain a sicrhau mewnbwn lleol i strategaethau atal trais difrifol a’u darparu. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu Byrddau Gofal Integredig (ICB) i ddisodli Grwpiau Comisiynu Clinigol. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar nodi unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael ag anghenion penodol dioddefwyr cam-drin, gan gynnwys cam-drin domestig a rhywiol.

216. Bydd holl swyddogaethau a dyletswyddau CCG yn cael eu trosglwyddo i Fwrdd Gofal Integredig (ICB) pan fydd yn cael ei sefydlu o 1 Gorffennaf 2022, ynghyd â’r holl asedau a rhwymedigaethau CCG gan gynnwys eu cyfrifoldebau a’u contractau comisiynu. Bydd dyletswyddau diogelu statudol perthnasol CCGs yn cael eu trosglwyddo i arweinwyr gweithredol ICB.

217. Mae ICBs, sy’n destun y ddyletswydd o 1 Gorffennaf 2022, yn bartneriaethau sefydliadau iechyd a gofal a fydd yn dod at ei gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau cydgysylltiedig ac i wella iechyd pobl sy’n byw ac yn gweithio yn eu hardal. Mae’r partneriaethau yn bodoli i gyflawni pedwar nod:

  • gwella canlyniadau o ran iechyd y boblogaeth a gofal iechyd

  • mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn canlyniadau, profiad, a mynediad

  • gwella cynhyrchiant a gwerth am arian

  • helpu’r GIG i gefnogi datblygiadau cymdeithasol ac economaidd ehangach.

218. Mae [footnote 56] prif nyrs weithredol yr ICB yn debygol o sefydlu strwythurau partneriaeth ar sail lleoliadau o arweinwyr clinigol i gydweithio â phartneriaethau diogelu lleol a Diogelu Byrddau Oedolion. Mae angen i’r partneriaethau hyn weithio gyda’r nod o atal: VRUs, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol; gwasanaethau profiad personol dioddefwyr a gwasanaethau eiriolaeth goroeswr, asedau cymunedol cefnogi cyfoedion cynaliadwy, comisiynwyr heddlu a throseddu ac arweinwyr addysg.

219. Dylai swyddog atebol yr ICB [footnote 57]sicrhau bod cynrychiolaeth briodol i’r bartneriaeth. Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd disgwyl i’r cynrychiolydd hwn:

  • Hwyluso rhannu data a gwybodaeth iechyd anhysbys perthnasol i lywio’r proffil problemau/asesiad strategol o anghenion ar gyfer yr ardal (er enghraifft, nifer yr anafiadau treisgar a drinir o fewn lleoliadau gofal brys y GIG),
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth i nodi a lliniaru’r risgiau a nodwyd a chytuno ar ddull o atal trais difrifol, rheoli problemau iechyd cysylltiedig, a gwella lles/gwydnwch y gymuned
  • Hwyluso comisiynu (a chyd-gomisiynu) priodol yn y system iechyd leol i atal, trin a rheoli trais difrifol fel y nodir yn y strategaeth (er enghraifft, gwasanaethau gofal iechyd meddwl, ymrwymiadau ar ofal mamolaeth a newydd-anedig, ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, yng Nghynllun Tymor Hir y GIG)
  • Lle bo’n bosibl, (cyd-gomisiynu) comisiynu gwasanaethau cymorth i’r rhai sydd mewn perygl o drais difrifol neu gymryd rhan mewn trais difrifol (gan gynnwys o’r sector gwirfoddol a chymunedol)

220. Yn dibynnu ar ffiniau daearyddol y bartneriaeth(au) yn eu hardal gomisiynu, efallai [footnote 58] y bydd angen i ICBs:

  • Ymgysylltu yn uniongyrchol â phob partneriaeth trais difrifol yn eu hardal, neu
  • Mewn rhai ardaloedd, bydd mwy nag un ICB fesul ardal bartneriaeth. Er bod rhaid i bob ICB gydymffurfio â’r Ddyletswydd, gallant ystyried ei bod yn briodol enwebu ‘arweinwr’ neu ystyried trefniant ‘cynnal’ er mwyn cael mewnbwn ac ymgysylltu gweithredol i’r bartneriaeth trais difrifol ar ran System Gofal Integredig arall neu grŵp arall o ICBs. Yn yr achos hwn, dylai’r arweinydd ar gyfer trais difrifol sicrhau mewnbwn pob ICBs yn yr ôl troed daearyddol.

221. Bydd gan GIG Lloegr a Gwella Gwasanaethau’r GIG rôl graffu a sicrhau wrth wneud ICBs yn atebol am eu mewnbwn i bartneriaethau trais difrifol lleol ar gyfer unrhyw faterion a osodir o fewn canllawiau, gan gynnwys drwy’r Fframwaith Diogelu Atebolrwydd a Sicrhau [footnote 59]a Phecyn Cymorth Sicrhau Diogelu. Dylai ICBs gysylltu â’u Harweinydd Diogelu Rhanbarthol GIG Lloegr a’r GIG ar gyfer cefnogaeth.

Rhannu gwybodaeth am gleifion a gwybodaeth bersonol

222. O dan y Ddyletswydd, mae cyfyngiadau penodol o dan adran 16 ac 17 o Ddeddf PCSC ar ddatgelu gwybodaeth gan awdurdodau iechyd a gofal cymdeithasol. Ni chaniateir datgelu gwybodaeth am gleifion a gall awdurdodau iechyd a chymdeithasol rannu data dienw yn unig. Am fwy o fanylion, gweler pennod Rhannu Gwybodaeth o’r canllawiau hyn.

223. Os yw gwybodaeth am gleifion neu wybodaeth bersonol yn cael ei rhannu gan awdurdod iechyd neu ofal cymdeithasol, rhaid i ddatgeliadau o’r fath fod yn gyson â’r fframwaith cyfreithiol presennol, sy’n cynnwys y ddyletswydd cyfraith gyffredin o gyfrinachedd, yn ogystal â Deddf Diogelu Data 2018. Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi llunio canllawiau ar hyn[footnote 60].

Awdurdod Lleol

224. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu ystod o wasanaethau hanfodol i bobl a busnesau mewn ardal leol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gofal cymdeithasol plant ac oedolion, diogelu plant ac oedolion, ysgolion, tai [footnote 61]a chynllunio, gwasanaethau ieuenctid, cymorth busnes, trwyddedu alcohol, hamdden, camddefnyddio sylweddau, diogelwch cymunedol yn ogystal â chomisiynu iechyd cyhoeddus, felly bydd ganddo rôl hanfodol i’w chwarae mewn trefniadau partneriaeth.

225. Dylai Prif Weithredwyr awdurdodau lleol sicrhau bod cynrychiolaeth briodol i’r bartneriaeth er mwyn cyflawni dyletswyddau’r awdurdod lleol. Gellir dirprwyo’r gynrychiolaeth hon i uwch swyddog priodol.

226. O fewn tirwedd Llywodraeth Leol, dyma beth sy’n cael ei ddiffinio fel awdurdodau penodedig:

  • Cyngor dosbarth
  • Cyngor sir yn Lloegr
  • Cyngor bwrdeistref yn Llundain
  • Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn ei swydd fel awdurdod lleol
  • Cyngor Ynysoedd Sili
  • Cyngor sir yng Nghymru
  • Cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru

227. Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ategu gwaith asiantaethau eraill a chyfrannu at atal a lleihau trais difrifol trwy wneud y canlynol:

  • Rhannu ystod o setiau data cyfanredol perthnasol ar gyfer datblygu’r asesiad strategol o anghenion (er enghraifft data sydd eisoes yn cael ei gasglu gan ysgolion lleol a gwasanaethau gofal cymdeithasol),
  • Cynnal gwaith ataliol ehangach gan fynd i’r afael â ffactorau cyffredinol sy’n cyfrannu at risg a bregusrwydd (e.e. tlodi, tai [footnote 62], heriau teuluol, amgylchedd),
  • Arwain ar gomisiynu iechyd cyhoeddus ehangach i gefnogi atal trais a mynd i’r afael â ffactorau risg neu effeithiau trawma (e.e. gwasanaethau camddefnyddio sylweddau gan gynnwys gwasanaethau trin alcohol),
  • Darparu gwybodaeth am argaeledd/pwysau ar adnoddau lleol gan gynnwys tai, cymorth cymunedol, gofal cymdeithasol plant, ac ati, a
  • Chefnogi mentrau ymyrraeth gynnar y gellid eu hangen mewn ymateb i faterion sy’n ymwneud â cham-fanteisio troseddol plant, trais gangiau, trais rhywiol, cam-drin domestig.

228. Dylai awdurdodau lleol hefyd fod yn ymwybodol o bob sefydliad sy’n dod o fewn eu awdurdodaeth a allai fod â mater penodol yn ymwneud â thrais difrifol, yn enwedig wrth gynnal yr asesiad strategol o anghenion lleol yn y lle cyntaf. Gall hyn gynnwys cyfleusterau gofal preswyl ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys cartrefi plant diogel, llety â chymorth, a gwasanaethau llety ar sail cam-drin domestig. Dylid hefyd ystyried mannau cyhoeddus eraill fel parciau, sy’n dod o dan gyfrifoldeb awdurdodau lleol, gan y gallai’r rhain fod yn ardaloedd lle mae mathau penodol o drais difrifol yn gyffredin.

229. Gall Awdurdodau Cyfun Maerol gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth i gefnogi atal a lleihau trais difrifol, ond nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol iddynt wneud hynny.[footnote 63] Mae hyn oherwydd y gwahanol swyddogaethau y gallai awdurdod cyfun eu cyflawni, ac nid yw pob un ohonynt yn debygol o fod yn berthnasol i fynd i’r afael â thrais difrifol. Gall awdurdodau cyfansoddol ddewis cydweithio drwy strwythur cyffredinol awdurdod cyfun fodd bynnag maent yn parhau i fod yn atebol yn unigol am eu cyfranogiad.

230. At ddibenion y Ddyletswydd, mae Timau Troseddu Ieuenctid awdurdodau lleol (YOTs) yn awdurdod penodedig ar wahân, ac felly mae’r timau yn cael eu trin yn annibynnol i’r awdurdod lleol. Bydd YOTs felly yn gyfrifol am ymgysylltu â’r bartneriaeth yn annibynnol.

231. Mae Llywodraeth Leol wedi datganoli i Gymru ac mae’r canllawiau perthnasol am hyn ym mhennod un, Cyflawni yng Nghymru

Tai a digartrefedd

232. Awdurdodau lleol fydd yn y sefyllfa orau i roi trosolwg strategol o dai a gwybodaeth am dai a materion cysylltiedig yn yr ardal leol. Dylid ystyried gofynion presennol deddfwriaeth tai fel rhan o’r gwaith i ateb gofynion y Ddyletswydd Trais Difrifol. Mae’n hanfodol bod hyn yn cynnwys cydnabod a diogelu’r grwpiau sydd mewn perygl fwyaf o gymryd rhan mewn trais difrifol.

233. Mae adran 195 o Ddeddf Tai 1996 [footnote 64]yn gosod dyletswydd ar awdurdodau tai i weithio gyda phobl sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod i helpu i’w hatal rhag bod yn ddigartref – ‘y ‘dyletswydd atal’. Mae adran 189B o Ddeddf 1996 [footnote 65]yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai helpu pobl sy’n ddigartref i ddod o hyd i lety – y ‘ddyletswydd rhyddhad’. O dan y dyletswyddau hyn, mae’n ofynnol i’r awdurdod tai gymryd camau rhesymol i helpu’r unigolyn naill ai aros yn ei lety presennol (lle bo hynny’n berthnasol) neu ddod o hyd i lety arall. Mae’r dyletswyddau hyn yn berthnasol pan fydd yr awdurdod tai yn fodlon bod y person yn ddigartref (neu mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod) ac yn gymwys am gymorth.

234. Mae adran 177(1A)(b) o Ddeddf Tai 1996 [footnote 66]yn diffinio trais fel trais gan berson arall neu fygythiadau o drais gan berson arall sy’n debygol o gael ei gyflawni. Mae hyn yn ystyried a yw’n rhesymol i barhau i aros mewn llety a pha amgylchiadau y dylid eu hystyried ynghylch a yw person yn mynd i berygl o drais yr un fath.

235. Mae adran 177(1) o Ddeddf 1996 [footnote 67]yn nodi nad yw’n rhesymol i berson barhau i aros mewn llety os yw’n debygol y bydd hyn yn arwain at drais yn erbyn:

a. yr ymgeisydd;

b. person sydd fel arfer yn byw fel aelod o deulu’r ymgeisydd; neu,

c. unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol i fyw gyda’r ymgeisydd.

236. Fel arfer, bydd yn amlwg o’r asesiad digartrefedd a yw’r person wedi gorfod gadael llety oherwydd trais neu fygythiadau o drais. Wrth wneud asesiad am pa mor debygol yw’r bygythiad o drais, ni ddylid fod yn seiliedig ar a fu trais yn y gorffennol. Rhaid i asesiadau fod yn seiliedig ar ffeithiau’r achos a dylai fod heb unrhyw farnau gwerth am yr hyn y dylai person ei wneud neu na ddylai fod wedi ei wneud, neu ddylai wedi’i wneud na ddylai fod wedi’i wneud, i liniaru’r risg o unrhyw drais pellach.

237. Mae gan rai categorïau o gartrefi angen blaenoriaeth am gymorth digartrefedd. Mae gan berson sy’n agored i niwed o ganlyniad i orfod symud o’u llety oherwydd trais gan berson arall neu fygythiadau o drais gan berson arall sy’n debygol o gael eu cyflawni, neu sy’n ddigartref o ganlyniad i fod yn ddioddefwr cam- drin domestig, angen blaenoriaeth fel y nodir yn adran 189 o Ddeddf 1996[footnote 68].

238. Mae’r dyletswyddau atal a rhyddhad yn berthnasol i bob person cymwys sy’n ddigartref waeth beth yw’r ‘angen blaenoriaeth’. Fodd bynnag, os nad yw digartrefedd yn cael ei atal neu ei leihau yn llwyddiannus, bydd gan awdurdod tai brif ddyletswydd tai i bobl sy’n gymwys, sydd ag angen blaenoriaeth am lety ac nad ydynt yn ddigartref yn fwriadol. Os oes gan yr awdurdod lleol reswm i gredu bod gan berson angen blaenoriaeth, mae dyletswydd arnynt hefyd i ddarparu llety dros dro yn ystod y ddyletswydd rhyddhad.

239. Mae adran 193(2) o Ddeddf 1996 [footnote 69]yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai sicrhau bod llety ar gael ac yn barod ar gyfer ymgeiswyr sydd ag angen blaenoriaeth am lety, ac fel y nodir yn adran 176 o Ddeddf 1996 [footnote 70], rhaid i’r llety fod ar gael ac yn barod i’r ymgeisydd ynghyd ag unrhyw berson arall sydd fel arfer yn byw gyda nhw fel aelod o’r teulu, neu rywun y gellid disgwyl yn rhesymol i fyw gyda nhw.

240. Mae gan awdurdodau tai gyfrifoldeb barhaus i adolygu addasrwydd llety yn barhaus, ac i ymateb i unrhyw newid perthnasol mewn amgylchiadau a all effeithio ar addasrwydd llety. Am rhagor o wybodaeth am angen blaenoriaeth, gweler Pennod 8 (o’r Cod Canllawiau Digartrefedd)[footnote 71].

241. Mae nifer o opsiynau llety posib ar gyfer dioddefwyr trais difrifol, a bydd angen i awdurdodau tai ystyried pa rai sydd fwyaf priodol ar gyfer pob person fesul achos gan ystyried eu hamgylchiadau a’u hanghenion. Gall hyn gynnwys llety diogel dros dro a/neu symudiad wedi’i reoli. Gall awdurdodau tai, er enghraifft, ddarparu llety dros dro tra bod camau’n cael eu cymryd i ddiarddel neu i arestio a chadw cyflawnwr.

242. Bydd angen ystyried unrhyw ystyriaethau cymdeithasol yn ymwneud â’r person a’i gartref a allai effeithio ar addasrwydd y llety a gynigir iddynt i atal neu gynorthwyo â digartrefedd, neu o dan y brif ddyletswydd tai.

243. Mae adran 208(1) o Ddeddf 1996 [footnote 72]yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai sicrhau llety o fewn eu hardal, lle bo hynny yn rhesymol yn ymarferol. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle bu trais difrifol neu fygythiadau o drais difrifol mewn ardal benodol, efallai y bydd manteision amlwg i’r ymgeisydd o gael llety y tu allan i’r ardal i sicrhau eu diogelwch.

244. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i awdurdodau tai ystyried yr angen am lety na fyddai cyflawnwr yn gallu dod o hyd iddo (a allai olygu lleoliad y tu allan i’r ardal) ac sydd â mesurau diogelwch a staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i amddiffyn y deiliaid. Gall awdurdodau tai ystyried gweithredu cydgytundeb gydag awdurdodau tai a darparwyr eraill i hwyluso symudiadau ardal i ymgeiswyr sydd mewn perygl o drais.

245. O ran penderfynu ar yr awdurdod priodol i dderbyn cais digartrefedd (cyfeiriadau cysylltiad lleol), ni all awdurdod tai gyfeirio person at awdurdod tai arall lle mae ganddynt gysylltiad lleol os byddai’r person hwnnw, neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda nhw, mewn perygl o drais yn yr ardal arall honno. Mae dyletswydd bendant ar yr awdurdod tai i holi a fyddai’r ymgeisydd yn wynebu risg o’r fath ac, os byddent, ni ddylid tybio y bydd y person hwnnw yn cymryd camau i ddelio â bygythiad o drais. Am fwy o fanylion am gysylltiad lleol, gweler Pennod 10 (Cod Canllawiau Digartrefedd)[footnote 73].

246. Mae’n hanfodol bwysig bod awdurdodau tai yn cydweithio gyda gwasanaethau eraill gan gynnwys timau troseddu ieuenctid, awdurdodau addysg a gwasanaethau prawf cenedlaethol er mwyn rhoi cymorth i ddioddefwyr trais difrifol a’r rhai sy’n byw gyda nhw. Er mwyn sicrhau bod pobl sydd wedi profi trais neu gael bygythiad o drais yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, dylai awdurdodau tai hefyd roi gwybodaeth iddynt am sefydliadau arbenigol priodol yn yr ardal, yn ogystal ag asiantaethau sy’n cynnig cwnsela a chymorth.

247. Er nad yw’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Trais Difrifol, mae gan Ddarparwyr Cofrestredig Preifat (PRPs)sy’n darparu tai cymdeithasol ddyletswydd o dan a.170 o Ddeddf Tai 1996 [footnote 74]i gydweithredu gydag awdurdodau tai - lle mae’r awdurdod yn gofyn amdani - i’r fath raddau ag sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau o ran cynnig llety i bobl sy’n cael ei hystyried yn flaenoriaeth o dan gynllun dyrannu’r awdurdod. Mae hyn yn cynnwys rhenti a ddyrannwyd i’r rhai sydd angen eu hailgartrefu ar frys o ganlyniad i drais neu fygythiadau o drais.

248. Yn yr un modd, mae a.213 o’r un Ddeddf [footnote 75]yn darparu, lle os bydd cais am PRP gan awdurdod tai i’w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaethau digartrefedd o dan Ran 7, rhaid iddo gydweithredu i’r un graddau. Mae canllawiau statudol [footnote 76]ar ddyraniadau a gyhoeddwyd yn 2012, y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried, yn ailddatgan hyn.

249. Mae tai wedi ei ddatganoli i Gymru, ac mae’r canllawiau perthnasol wedi’u cynnwys ym mhennod un, Cyflawni yng Nghymru.

Addysg

250. Mae bod yn rhan o’r darpariaeth addysg yn ffactor amddiffynnol cryf yn erbyn risg plant a phobl ifanc o gymryd rhan mewn trais difrifol. Drwy fod yn rhan o ddarpariaeth addysg o ansawdd da, mae plant a phobl ifanc yn teimlo ymdeimlad o berthyn, cyflawniad ac mae ganddyn nhw sgiliau a gwydnwch sydd eu hangen arnynt i fod yn ddiogel ac i lwyddo mewn bywyd. Mae gan ddarparwyr addysg rôl hanfodol wrth atal a lleihau trais difrifol drwy hwyluso ymyrraeth gynnar, atal a diogelu plant a phobl ifanc yn eu gofal fel asiantaeth berthnasol o fewn y trefniadau diogelu aml-asiantaeth.

251. Mae potensial i’r cydweithio effeithiol rhwng y bartneriaeth leol a sefydliadau addysg yn yr ardal leol wella partneriaethau’r heddlu, ysgolion a cholegau a darparu cefnogaeth ar gyfer unrhyw ymyriadau ar lefel sefydliad sydd eisoes yn bodoli neu wedi’u cynllunio. Gall y cydweithio agos hwn hefyd ychwanegu at ymdeimlad o ddiogelwch plant a phobl ifanc mewn ysgolion, colegau a’u cymunedau leol gan y byddant yn fwy ymwybodol o’r gwaith sy’n digwydd yn eu hardal leol i atal, lleihau a diogelu plant a phobl ifanc rhag trais difrifol.

252. I gydnabod y rôl hanfodol mae ysgolion yn ei chwarae wrth ddiogelu plant a phobl ifanc, rhaid i awdurdodau penodedig ymgynghori ag awdurdodau addysg [footnote 77]sydd wedi’u lleoli o fewn ardal y bartneriaeth, gan gynnwys; ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, academïau, ysgolion annibynnol, ysgolion am ddim, darparwyr addysg amgen ac addysg bellach, wrth baratoi’r strategaeth leol.

253. Gall awdurdodau addysg hefyd ddewis cydweithio ag awdurdod penodedig, carchar neu awdurdod ddalfa ieuenctid neu awdurdod addysg arall yn yr ardal honno o’u dewis eu hun. Neu, os bydd gofyn gan yr awdurdodau penodedig, rhaid i awdurdodau addysg gydweithio â phartneriaid eraill wrth baratoi a darparu’r strategaeth.

254. Awdurdodau addysgol a ddiffinir yn adran 12 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 2 o’r Ddeddf yw:

  • Cyrff llywodraethol ysgolion a gynhelir, colegau addysg bellach a cholegau chweched dosbarth yn Lloegr a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru
  • Perchnogion ysgolion academi, ysgolion am ddim, academïau darpariaeth amgen ac ysgolion arbennig heb ei gynnal[footnote 78]
  • Perchnogion ysgolion annibynnol
  • Pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion

255. Dylai cynrychiolydd(au) neu grŵp cynrychioladol addysg strategol ar gyfer yr ardal leol gael ei ddewis gan y bartneriaeth i ddarparu cysylltiad rhwng yr awdurdodau sydd â chyfrifoldeb a sefydliadau addysg unigol. Os dewisir grŵp cynrychioliadol, gall hyn gynnwys sefydliadau addysg o bob oedran a phob math o ysgol neu goleg.

256. Dylai cynrychiolydd addysg strategol ar gyfer yr ardal leol gael ei enwebu gan y bartneriaeth i ddarparu cysylltiad rhwng yr awdurdodau penodedig a sefydliadau unigol. Gallai’r rôl hon gynnwys:

  • Cynrychioli llais darparwyr addysg mewn trafodaethau ar drais difrifol yn lleol
  • Cynorthwyo â’r bartneriaeth i ddeall yn well y ffactorau risg addysg a’r gwendidau a brofwyd gan bobl ifanc

257. Dylai’r bartneriaeth a’r cynrychiolydd(au) neu’r grŵp cynrychioliadol addysg strategol fod yn gallu:

  • Defnyddio strwythurau diogelu presennol neu ddulliau eraill, i ymgynghori â’r grwp ehangach o ysgolion a darparwyr addysg i gael dealltwriaeth o ansawdd am effaith trais difrifol ar y sector addysg yn ehangach
  • Cytuno ar y cyd am y ffyrdd y gall y sector addysg gefnogi gweithredu’r strategaeth i fynd i’r afael â’r ffactorau lleol sy’n rhoi plentyn neu berson ifanc mewn perygl o fod yn ddioddefwr neu gyflawnwr trais difrifol

258. Rhaid i’r awdurdodau penodedig a’r grŵp cynrychioliadol addysg strategol,wrth baratoi’r strategaeth leol,ymgynghori â darparwyr addysg unigol, ac fel awdurdodau cyfrifol, dylent fod yn gallu:

  • Darparu data, fel y bydd gofyn drwy ddyletswyddau statudol sydd eisoes yn bodoli, i Awdurdodau Lleol. Bydd y data hwn yn cyfrannu i’r dadansoddiad ar sail tystiolaeth o broffiliau risg pobl ifanc ac achosion trais difrifol ymhlith pobl ifanc ar gyfer y strategaeth trais difrifol lleol. Mae enghreifftiau o’r data hwn yn cynnwys data am ddarpariaeth ysgolion, gwaharddiadau ac absenoldeb parhaus
  • Ymgysylltu â’r bartneriaeth drwy’r cynrychiolydd(au) addysg strategol neu’r grŵp cynrychioliadol i ddarparu dealltwriaeth o ansawdd am effaith trais difrifol ar y sector addysg
  • Ymgysylltu â’r bartneriaeth drwy’r cynrychiolydd addysg strategol i roi cipolwg ar y ffactorau risg a’r gwendidau sy’n cael eu profi gan blant a phobl ifanc yn yr ardal leol
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r strategaeth i fynd i’r afael â’r ffactorau lleol sy’n rhoi plentyn mewn perygl o fod yn ddioddefwr neu gyflawnwr trais difrifol
  • Lle bo’n ofynnol, cyflwyno camau ar lefel sefydliad unigol a bennir yn y strategaeth sydd wedi’u cytuno gan y bartneriaeth ar y cyd â’r cynrychiolydd(au) addysg strategol a’r ymgynghoriad ehangach.

259. Efallai y bydd angen i awdurdodau addysg, o dan y Ddyletswydd, gyflawni camau a bennir mewn strategaeth y cytunwyd arnynt gan y bartneriaeth mewn cydweithrediad â’r cynrychiolydd(au) addysg strategol a’r ymgynghoriad ehangach.

Os bydd gofyn amdani, rhaid bod y sefydliad addysg yn cydymffurfio â chamau gweithredu mewn strategaeth leol, ar yr amod:

  • eu bod yn gyson ag unrhyw ddyletswyddau statudol eraill;
  • na fyddai’n amharu ar arfer swyddogaethau’r awdurdod;
  • nad ydynt yn anghymesur â’r angen i atal a lleihau trais difrifol yn lleol; ac
  • na fyddai’n golygu bod yr awdurdod yn cael costau afresymol.

260. Gall trais difrifol hefyd ddigwydd mewn llety preswyl addysg uwch neu adeiladau trwyddedig, megis cyfleusterau undeb myfyrwyr. Os yw sefydliad addysg uwch lleol yn ystyried bod trais difrifol yn fater sy’n berthnasol iddynt yna anogir hwy i gyfrannu i’r bartneriaeth lle bo hynny’n briodol.

261. Gweler pennod un, Cyflawni yng Nghymru, am ganllawiau perthnasol am addysg wedi ei ddatganoli i Gymru.

Gwasanaeth Tân ac Achub

262. Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gyfrifol am oruchwylio a darparu Gwasanaethau Tân ac Achub yn eu hardal. Yn ôl data Ionawr 2022, mae 44 Awdurdod Tân ac Achub yn Lloegr, a thri awdurdod yng Nghymru (ble mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn gyfrifoldeb datganoledig).

263. Mae’r Ddyletswydd yn berthnasol i’r Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer pob ardal Awdurdod, gan gynnwys Comisiynwyr Heddlu, Tân a Throsedd, Meiri Metropolitan a Chomisiynydd Tân Llundain yn eu swydd fel awdurdodau tân ac achub yn unig ac wrth arfer y swyddogaethau hynny. Efallai y bydd yr Awdurdod Tân ac Achub am adnabod cynrychiolydd, a allai fod o Wasanaeth Tân ac Achub gweithredol yr ardal, gan mai hwn fydd y corff â’r wybodaeth leol fwyaf, ond bydd yr Awdurdod fel y deiliad dyletswydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â gofynion y ddyletswydd. Dylai’r Awdurdod, felly, sicrhau bod gan unrhyw gynrychiolydd addas gyfrifoldeb ac awdurdod dros sicrhau cyfranogiad llawn gyda threfniadau’r bartneriaeth.

264. Mae’r Gwasanaethau Brys eisoes yn destun dyletswydd statudol i gydweithio â’i gilydd ac mae gan y Gwasanaethau Tân ac Achub rôl allweddol yn y partneriaethau hyn, sy’n aml yn golygu dal swydd gyfrifol iawn gan rai grwpiau cymunedol. Mae’r ddyletswydd statudol yn berthnasol yn Lloegr yn unig.

265. Gall cydweithio â phartneriaid helpu i adnabod a dargyfeirio’n gynnar rhag cymryd rhan mewn trais difrifol sy’n hanfodol wrth wyrdroi perygl mwy a allai gael ei achosi gan ac yn erbyn pobl ifanc yn y gymuned leol.

Pennod Pump: Monitro a Chydymffurfio

Partneriaethau llwyddiannus

266. Tri mesur llwyddiant allweddol ar gyfer atal a lleihau trais difrifol yw cyfraddau dynladdiad, derbyniadau i ysbytai ar gyfer ymosodiadau cyllell/gwrthrych miniog, a throseddau cyllell a gofnodwyd gan yr heddlu. Gall canlyniadau hefyd fod yn seiliedig ar: data ar droseddau trais a gofnodwyd gan yr heddlu sydd wedi’u cynnwys yn yr asesiad strategol o anghenion yr ardaloedd lleol, gallai hyn gynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) troseddau sy’n ymwneud â drylliau, lladrad a meddu ar arfau. Efallai y bydd data ar ffactorau dros dro o drais fod o ddiddordeb hefyd.

267. Mae data’r heddlu ar gyfraddau tâl am droseddau trais difrifol, fel lladrad; ac ystadegau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer troseddwyr sydd wedi cael eu rhybuddio/eu dyfarnu yn euog am droseddau sy’n gysylltiedig â chyllyll ac arfau hefyd yn ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gyfer mesur llwyddiant partneriaeth.

268. Nid yw’r mesurau llwyddiant a nodir uchod yn stopio ardaloedd lleol rhag mabwysiadu mesurau llwyddiant ychwanegol i helpu monitro cynnydd wrth ddelio â materion trais difrifol lleol. Sut bynnag, bydd partneriaethau am deilwra’r mesurau llwyddiant i gyd-fynd â’r asesiad strategol o anghenion lleol.

Sut y bydd partneriaethau yn cael eu monitro?

269. Mae’n ofynnol i bartneriaid weithio gyda’i gilydd i sefydlu’r asesiad proffil problem/anghenion strategol lleol a pharatoi a gweithredu strategaeth, y dylid ei hadolygu’n flynyddol.[footnote 79] Wrth wneud hynny, disgwylir i bartneriaethau allu hunan- fonitro a gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd y strategaeth leol ar y cyd. Efallai y bydd partneriaethau am geisio cymorth ychwanegol gan arfarnwr allanol, megis grŵp ymchwil prifysgol, i’w cefnogi gyda’r broses hon. Bydd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain, bŵer diamod hefyd i fonitro perfformiad y bartneriaeth leol yn erbyn ei hamcanion wedi ei rhannu. Gall adrannau’r Llywodraeth hefyd fonitro cynnydd mewn perthynas â gofynion y Ddyletswydd a rhoi cyngor/cymorth i ardaloedd lleol lle bo angen. Bydd bwrdd traws-Whitehall yn darparu goruchwyliaeth genedlaethol, yn ystyried strategaethau cyhoeddedig, effaith y Ddyletswydd ac yn gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer datrys heriau cyflawni strategol.

270. Mae gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol ofyniad statudol o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i barhau i adolygu’r broses o weithredu eu strategaethau at ddibenion monitro effeithiolrwydd ac i wneud unrhyw newidiadau i strategaethau o’r fath lle bo angen neu’n gyfleus a chyhoeddi canlyniadau pob adolygiad.

271. Gall rhaglenni arolygu rheolaidd a gynhelir gan arolygiaethau unigol hefyd ystyried ymateb y sefydliad i faterion trais difrifol lleol.

Pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol

272. Pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon bod awdurdod penodedig, awdurdod addysg, carchar neu awdurdod dalfa ieuenctid wedi methu â chyflawni dyletswyddau penodol a osodwyd o dan Ddeddf PCSC[footnote 80], er enghraifft yn dilyn arolygiad fel y nodir uchod, mae adran 18 o Ddeddf PCSC yn darparu y gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau i awdurdodau sydd â chyfrifoldeb er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd honno. Nid yw’r pŵer hwn yn berthnasol i wasanaethau prawf a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol nac i lywodraethwyr carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc, canolfannau hyfforddi diogel neu bennaeth coleg diogel a reolir yn uniongyrchol. Ar gyfer sefydliadau o’r fath, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ddefnyddio dulliau presennol i sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol, os oes angen.

273. Efallai y bydd cyfarwyddiadau a roddir o dan adran 18 o Ddeddf PCSC yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod penodedig perthnasol gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Ddyletswydd. Gellir gorfodi’r cyfarwyddyd hwn drwy orchymyn gorfodol, sef gorchymyn a roddir ar gais i’r Llys Gweinyddol yng Nghymru a Lloegr, i orfodi corff cyhoeddus i gydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gael caniatâd Gweinidogion Cymru cyn rhoi cyfarwyddyd i awdurdod datganoledig yng Nghymru.

274. Credwn, lle mae angen cyfarwyddyd a bod gan gyrff plismona lleol rôl allweddol i’w chwarae wrth gychwyn y broses hon. Nid ydym yn disgwyl i’r pwerau hyn gael eu defnyddio yn aml a byddant ond yn cael eu defnyddio pan fydd pob dull arall o sicrhau cydymffurfiaeth wedi’i ddihysbyddu.

275. Pan fo cyrff plismona lleol yn arfer eu pwerau o dan adran 14(2) o Ddeddf PCSC i fonitro’r modd y mae awdurdodau penodedig yn arfer eu swyddogaethau o dan adran 8 neu 9 o’r Ddeddf, mae adran 14(3) yn rhoi’r pŵer i gyrff plismona lleol gyflwyno eu canfyddiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol. Wrth arfer y pŵer hwn, dylai cyrff plismona lleol gysylltu’n ysgrifenedig ag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref yn y lle cyntaf. Yn dibynnu ar yr awdurdod penodedig dan sylw, byddai’r Ysgrifennydd Gwladol naill ai’n ystyried yr adroddiad neu’n cysylltu â’i chyd- Weinidog yn Adran berthnasol y Llywodraeth.

Pennod Chwech: Partneriaethau Diogelwch Cymunedol – Strategaethau Trais Difrifol

Cyflwyniad

276. Sefydlwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol(CSPs), a oedd yn arfer cael eu cyfeirio ati fel Partneriaethau Lleihau Trosedd ac Anhrefn, o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i helpu i fynd i’r afael â throseddu a lleihau aildroseddu. Mae tua 300 o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn Lloegr a 22 yng Nghymru.[footnote 81]

277. Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cynnwys ‘awdurdodau sydd â chyfrifoldeb’ sef: yr heddlu, y gwasanaeth prawf, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd, tân ac achub sy’n gyfrifol am ddatblygu strategaethau ar gyfer lleihau troseddu ac anhrefn, mynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill, a lleihau aildroseddu yn eu hardaloedd.[footnote 82] Bu dyletswydd ar y cyd hefyd ar Gomisiynwyr a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol i gydweithredu ar leihau troseddu a throseddu ers Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.[footnote 83]

278. Mae gan yr awdurdodau sydd â chyfrifoldeb ddyletswydd statudol i gydweithio i: leihau aildroseddu; mynd i’r afael â throseddu ac anhrefn; mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol; mynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol a sylweddau; a mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad arall sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol.[footnote 84] Gall CSPs hefyd weithio gydag unrhyw bartneriaid lleol eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr busnes a’r sector gwirfoddol a chymunedol.

279. Wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol, mae gan CSPs hefyd rwymedigaethau pellach gan gynnwys: sefydlu grŵp strategol i gyfeirio gwaith y bartneriaeth; iymgysylltu â’r gymuned ac ymgynghori â hi’n rheolaidd am eu blaenoriaethau a’u cynnydd o ran eu cyflawni; sefydlu protocolau a threfniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth; dadansoddi ystod eang o ddata, gan gynnwys lefelau a phatrymau troseddu a gofnodwyd, er mwyn nodi blaenoriaethau mewn asesiad strategol blynyddol i nodi cynllun partneriaeth a monitro cynnydd; llunio strategaeth i leihau aildroseddu; a chomisiynu adolygiadau dynladdiadau trais yn y cartref.

Atal a Lleihau Trais Difrifol

280. Ochr yn ochr â’r ddyletswydd, mae Deddf PCSC hefyd yn diwygio Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i gynnwys gofyniad i CSPs lunio a gweithredu strategaeth i atal pobl rhag cymryd rhan mewn trais difrifol, fel dioddefwyr a chyflawnwyr, a lleihau achosion o drais difrifol yn yr ardal.

281. Os bydd awdurdodau penodedig o’r farn mai’r CSP yw’r strwythur amlasiantaethol lleol mwyaf priodol y maent yn bwriadu ei ddefnyddio i fodloni gofynion y ddyletswydd, yna gall yr asesiad strategol o anghenion a’r strategaeth a gynhyrchir gan y CSP ystyried gofynion y Ddeddf Dyletswydd Trais Difrifol a Throseddu ac Anhrefn. Mae Deddf PCSC yn caniatáu ar gyfer cydweithredu ehangach rhwng aelodau’r CSP ac awdurdodau sydd â chyfrifoldeb sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Trais Difrifol, gan gynnwys rhannu data a gwybodaeth, at y diben hwnnw.

282. Er mwyn cydnabod cylch gwaith ehangach CSPs mewn perthynas â diogelwch cymunedol, a’r ffaith y gall llawer o faterion sy’n ymwneud â throseddau treisgar fod yn gysylltiedig â’i gilydd, gall CSP ddewis ymgorffori eu strategaeth ar gyfer atal a lleihau trais difrifol mewn cynllun ehangach sydd hefyd yn cynnwys eu blaenoriaethau eraill. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod strategaethau unigol yn cael eu trefnu heb fod yn dyblygol.

Astudiaeth achos: Uned Lleihau Trais Llundain (VRU)[footnote 85]

Mae rhoi cymunedau a phobl ifanc yn ganolog i’n gwaith i gael dull hirdymor cynaliadwy o leihau trais yn un o 3 nod strategol VRU Llundain.

Sefydlwyd Grŵp Cyfeirio Partneriaeth yr Uned VRU i ddarparu cyfeiriad strategol, cefnogi a herio gwaith yr Uned. Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan y Maer sy’n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau cymunedol ac arbenigwyr o’r meysydd iechyd, addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a llywodraeth leol.

Un o gamau cyntaf VRU Llundain yw sefydlu grŵp gweithredu pobl ifanc a fydd yn cael adnoddau a’r awdurdod i arwain ar rannau o raglen waith y VRU. Bydd gan bobl ifanc ran yn holl waith yr Uned ond yn enwedig o ran newid y neges ynghylch trais, yn sicrhau bod llais y bobl ifanc wedi’i gynrychioli yn iawn a thrwy gefnogi ymgysylltiad rhwng cymheiriaid.

Mae’r Uned hefyd wedi dod â grŵp o 30 o randdeiliaid cymunedol at ei gilydd i ffurfio grŵp Cynllunio Cynnwys y Gymuned sydd wedi cefnogi’r Uned i gynllunio ymgysylltu a llunio blaenoriaethau. Ym mis Ionawr 2019 daeth tua 150 o sefydliadau cymunedol at ei gilydd i drafod sefydlu’r VRU ac roedd modd iddynt rannu syniadau.

Drwy gyfres o gyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol, gweithdai a thrafodaethau gyda gwahanol bartneriaid cymunedol, mae’r Grŵp Cynllunio Cynnwys y Gymuned wedi gweithio gyda’r VRU i ddatblygu cyfres o ymrwymiadau ar gyfer y VRU yn ei weithrediadau ledled Llundain, gyda Llundeinwyr:

  • Gweithio gydag ystod eang o leisiau o’r gymuned

  • Bod mor hygyrch â phosibl a chreu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer cymryd rhan

  • Cydnabod o ble mae cymunedau yn dod

  • Rhoi llais i’r gymuned

  • Sicrhau bod cyfranogiad y gymuned yn parhau yn y tymor hir

  • Cynnwys pobl ifanc

  • Mynd i’r afael â stereoteipiau

Rhyngweithio â’r dyletswyddau presennol

Dyletswyddau statudol

283. Trafodir dyletswyddau perthnasol yng Nghymru yn y pennod Cyflawni yng Nghymru o’r canllawiau hyn.

284. Bydd angen i awdurdodau cyfrifol fod yn ymwybodol o’r dyletswyddau statudol canlynol wrth arfer eu swyddogaethau o dan y ddyletswydd hon:

  • Mae Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, Deddf yr Heddlu 1996, Deddf Diwygio’r Heddlu 2002 a Deddf Plismona a Throsedd 2017 yn sail i ddyletswyddau gweithredol craidd swyddogion yr heddlu sy’n cynnwys; cynnal cyfraith a threfn, diogelu’r cyhoedd, atal a chanfod troseddau, diogelu eiddo a chynnal a chadw trefn sifil. Goruchwylir pob heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mae Prif Swyddog yr Heddlu (Prif Gwnstabliaid, Comisiynydd Heddlu Dinas Llundain a Chomisiynydd yr Heddlu Metropolitan) yn atebol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu, mewn perthynas â’r Heddlu Metropolitan a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain fel awdurdod yr heddlu mewn perthynas â Dinas Llundain.
  • Sefydlwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs) a Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu (MOPAC) gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (‘Deddf 2011’) i fod yn uniongyrchol atebol am blismona unigol. Nodir eu cyfansoddiad, eu pwerau a’u dyletswyddau yn Rhan 1 o Ddeddf 2011.
  • Mae Grwpiau Comisiynu Clinigol (CCGs) [footnote 86]yn gyrff GIG statudol a arweinir yn glinigol yn Lloegr, sy’n gyfrifol am gynllunio a chomisiynu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer eu hardal leol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gofal brys a gofal mewn argyfwng, gwasanaethau dewisol mewn ysbytai, a gofal cymunedol. Nodir eu swyddogaethau statudol yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012.

285. Nodir dyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol mewn nifer o Ddeddfau Seneddol. Mae swyddogaethau sy’n arbennig o berthnasol yn cynnwys:

  • Deddf Llywodraeth Leol 1972 (‘Deddf 1972’), Rhan IX sy’n nodi swyddogaethau awdurdodau lleol, gan gynnwys swyddogaethau iechyd cyhoeddus a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae Deddf 1972 hefyd yn darparu’r fframwaith ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru (fel y diwygiwyd, gan gynnwys gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994)

  • Nodir swyddogaethau a dyletswyddau ymhellach yn adran 12 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, Deddf y GIG 2006 a Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990

  • Nodir gwasanaethau cymdeithasol craidd, dyletswyddau a swyddogaethau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970. Nodir dyletswyddau a swyddogaethau ychwanegol yn Neddf Plant 1989 (mewn perthynas â phlant) (dyletswyddau diogelu yn adran 27 a 47), Deddf Plant 2004 (dyletswydd diogelu yn adran 11), Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017, Deddf Safonau Gofal 2000, Deddf Gofal Plant 2006 a Deddf Iechyd Meddwl 1983. Yng Nghymru, nodir dyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a Byrddau Diogelu rhanbarthol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac maent yn cyd-fynd â chanllawiau statudol. [footnote 87]

  • Nodir dyletswyddau a swyddogaethau Diogelwch Cymunedol yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (‘Deddf 1998’) a Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006. O dan adran 17 o Ddeddf 1998, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried goblygiadau trosedd ac anhrefn yn eu holl weithgareddau o ddydd i ddydd. Nodir dyletswyddau’r gwasanaeth Troseddau Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn Neddf 1998. Nodir dyletswyddau Cyfiawnder Troseddol yn Neddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

  • Nodir dyletswyddau a swyddogaethau addysg yn Neddf Diwygio Addysg 1988, Deddf Addysg 1996, Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Addysg a Sgiliau 2008 a Deddf Tlodi Plant 2010. Mae gan berchnogion ysgolion wahanol ddyletswyddau mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo lles plant, gan gynnwys cydweithredu ag ysgolion eraill a gyda chyrff perthnasol eraill. Nodir canllawiau ar y gwahanol swyddogaethau hyn yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant 2018.

  • Nodir dyletswyddau tai craidd o dan Ddeddf Tai 1996.

  • Nodir dyletswyddau a swyddogaethau tân, sy’n ymwneud yn bennaf â diogelwch tân, yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2004

  • Dyletswyddau Awdurdodau Lleol, fel y nodir yn Rhan 4 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, sy’n ymwneud â darparu cymorth i bawb sy’n dioddef cam- drin domestig mewn llety ‘perthnasol’.

  • Nodir y swyddogaethau craidd a’r dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer carchardai i oedolion yn Neddf Carchardai 1952 a Rheolau Carchardai 1999.

  • Nodir y swyddogaethau craidd a’r dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer Sefydliadau Troseddwyr Ifanc o dan 18 oed (YOIs) a Chanolfannau Hyfforddi Diogel (STCs) yn Neddf Carchardai 1952 ac yn Rheolau Sefydliadau Troseddwyr Ifanc 2000 a Rheolau’r Ganolfan Hyfforddi Ddiogel 1998.

  • Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn goruchwylio troseddwyr risg uchel sy’n cael eu rhyddhau i’r gymuned. Swyddogaethau’r Gwasanaeth, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yw sicrhau bod digon o ddarpariaeth brawf yn cael ei darparu gan gynnwys goruchwylio ac adsefydlu personau sydd wedi cael caniatáu mechnïaeth, rhybuddion amodol neu eu cyhuddo neu eu collfarnu o

drosedd a rhoi cymorth i’r llysoedd wrth benderfynu ar y dedfrydau priodol i’w cyhoeddi. Nodir hyn yn Adran 1 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007.

  • Sefydlir Timau Troseddau Ieuenctid gan awdurdodau lleol o dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Eu dyletswydd statudol yw cydgysylltu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn ardal yr awdurdod, a chyflawni swyddogaethau a bennir yn y cynllun cyfiawnder ieuenctid a luniwyd gan yr awdurdod lleol.

  • Nodir swyddogaethau craidd Awdurdodau Tân ac Achub (FRAs) yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (‘FRSA 2004’) ac maent yn cynnwys diffodd tanau yn eu hardal, diogelu bywyd ac eiddo os bydd tanau yn eu hardal, achub ac amddiffyn pobl os bydd gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd ac achub ac amddiffyn pobl os bydd argyfyngau eraill yn digwydd. Rhaid i Awdurdodau Tân ac Achub hefyd gydymffurfio â Fframwaith Cenedlaethol y Gwasanaethau Tân ac Achub.

  • Gwnaeth Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan o’i gyfraith ddomestig. Mae hyn yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cynnwys ym mhob polisi a wneir yng Nghymru.

Canllawiau ac adnoddau defnyddiol

287. Efallai y bydd awdurdodau sydd â chyfrifoldeb hefyd am gyfeirio at y dolenni canlynol i ganllawiau, dogfennau ac adnoddau:

Rhestr termau

Trais Difrifol

Fel y diffinnir yn Strategaeth Trais Difrifol [footnote 88]2018, Llywodraeth EM. Mae maes y strategaeth yn ymwneud â mathau penodol o droseddau megis dynladdiad, troseddau cyllyll, a throseddau gynnau ac ardaloedd o droseddu lle mae trais difrifol neu ei fygythiad yn barhaol, megis mewn gangiau a delio cyffuriau mewn llinellau sirol. Mae’n hefyd yn cynnwys bygythiadau troseddu sy’n dod i’r amlwg mewn rhai ardaloedd o’r wlad megis defnyddio sylweddau cyrydol fel arf.

Dyletswydd Trais Difrifol

Dyletswydd ar sefydliadau lleol i gydweithio a chynllunio i atal a lleihau trais difrifol. Fel y nodir yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd (PCSC) 2022.

Ardal leol

Y prif faes lle y bydd awdurdodau penodedig yn eu cydweithio wrth gyflawni’r ddyletswydd. Gall hyn fod, o leiaf, yn ardal awdurdod lleol ac, ar y mwyaf, ardal heddlu.

Partneriaeth

Trefniant lle bydd awdurdodau penodedig yn gweithio gyda’i gilydd i fodloni gofynion y Ddyletswydd Trais Difrifol.

Asesiad Strategol o Anghenion

Dadansoddiad o faterion cyfredol a hirdymor sy’n ymwneud â thrais difrifol a’r grwpiau sydd fwyaf agored i gymryd rhan mewn ardal leol a gynhaliwyd i ddarparu gwell dealltwriaeth o dueddiadau trais difrifol sefydledig a rhai sy’n dod yn amlwg, lleoliadau blaenoriaeth neu faterion risg uchel eraill.

Strategaeth

Cynllun lefel uchel sy’n amlinellu’r ymateb amlasiantaethol y bydd y bartneriaeth yn ei gymryd i atal a lleihau trais difrifol yn yr ardal leol benodol.

Awdurdodau Penodedig

Pob awdurdod y mae’r Ddyletswydd Trais Difrifol yn gymwys iddo, fel y diffinnir yn adran 11 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Awdurdodau sydd â chyfrifoldeb

Pob awdurdod y mae’r Ddyletswydd Trais Difrifol yn gymwys iddo a/neu sefydliadau a sefydliadau sydd â dyletswydd i gydweithredu ag awdurdodau penodedig pan ofynnir iddynt wneud hynny. Fel y diffinnir yn adran 11 a 12 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 1 a 2 i’r Ddeddf.

Cyrff Plismona Lleol

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddu (MOPAC), Cyngor Cyffredin Dinas Llundain yn ei swydd fel awdurdod heddlu a Chomisiynwyr Heddlu, Tân a Throsedd yn eu swydd fel cyrff plismona lleol ac wrth arfer y swyddogaethau hynny.

Uned Lleihau Trais

Partneriaethau anstatudol sy’n cynnig arweiniad a chydgysylltu strategol o’r ymateb lleol i drais difrifol drwy ddod â’r heddlu, llywodraeth leol, gweithwyr iechyd ac addysg proffesiynol, arweinwyr cymunedol a phartneriaid allweddol eraill at ei gilydd i nodi’r ffactorau sy’n achosi trais difrifol a chytuno ar ymateb amlasiantaethol iddynt.

  1. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  2. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  3. Fel y diffinnir yn adran 11 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 1 i’r ddeddf. 

  4. Fel y diffinnir yn adran 12 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 2 i’r ddeddf. 

  5. https://www.who.int/violenceprevention/approach/public_health/en/ 

  6. Dull y Gynghrair Atal Trais (who.int) 

  7. Ar 1 Hydref 2021, daeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn rhan o Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, o fewn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (asiantaeth weithredol newydd o DHSC). 

  8. https://www.college.police.uk/about/public-health 

  9. Mae hyn yn cynnwys Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu yn unig yn eu swydd fel awdurdodau tân ac achub ac wrth arfer y swyddogaethau hynny. 

  10. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  11. Fel y diffinnir yn adran 12 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 2 i’r ddeddf. 

  12. Mae adran 15(7) o Ddeddf PCSC yn nodi nad yw awdurdod addysg yn ddarostyngedig i ddyletswydd yn is- adran (3), (4) neu (5)(b) o adran 15, os neu i’r graddau y byddai cydymffurfio â’r ddyletswydd: (a) yn anghyson ag unrhyw ddyletswydd arall sydd gan yr awdurdod a osodir gan ddeddfiad (ac eithrio is-adran (5)(b)), (b) fel arall yn amharu ar arfer swyddogaethau’r awdurdod, (c) yn anghymesur â’r angen i atal a lleihau trais difrifol yn yr ardal sy’n dod o dan y ddyletswydd neu (ch) yn golygu bod yr awdurdod wedi cael costau afresymol. Mae is-adran (8) yn nodi, wrth benderfynu a yw is-adran (7) yn gymwys i awdurdod, bod rhaid ystyried effaith cronnol cydymffurfio â dyletswyddau o dan yr adran hon. 

  13. Mae adran 15(7) o Ddeddf PCSC yn nodi nad yw awdurdod carchardai ac awdurdod dalfa ieuenctid yn ddarostyngedig i ddyletswydd yn is-adran (3), (4) neu (5)(b) o adran 15, os neu i’r graddau y byddai cydymffurfio â’r ddyletswydd: (a) yn anghyson ag unrhyw ddyletswydd arall gan yr awdurdod a osodir gan ddeddfiad (ac eithrio is-adran (5)(b)), (b) fel arall yn amharu ar arfer swyddogaethau’r awdurdod, (c) yn anghymesur â’r angen i atal a lleihau trais difrifol yn yr ardal sy’n dod o dan y ddyletswydd, neu (ch) yn golygu bod yr awdurdod wedi cael costau afresymol. Mae is-adran (8) yn nodi, wrth benderfynu a yw is- adran (7) yn gymwys i awdurdod, bod rhaid ystyried effaith cronnol cydymffurfio â dyletswyddau o dan yr adran hon. 

  14. https://www.gov.uk/government/publications/serious-violence-strategy 

  15. Mae Strategaeth Mynd i’r Afael â VAWG 2021 yn diffinio VAWG fel gweithred o drais neu gamdriniaeth sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Mae troseddau ac ymddygiad sy’n dod o dan y term hwn yn cynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, cam-drin domestig, stelcian, cam-drin ‘er anrhydedd’ (gan gynnwys anffurfio organau rhywiol menywod priodas dan orfod, a lladd ‘anrhydedd’), yn ogystal â llawer o droseddau eraill, gan gynnwys troseddau a gyflawnwyd ar-lein. Er ein bod yn defnyddio’r term ‘trais yn erbyn menywod a merched’, mae’n cyfeirio at bawb sy’n dioddef unrhyw un o’r troseddau hyn. 

  16. Deddf Cam-drin Domestig 2021 (legislation.gov.uk) 

  17. Canllawiau statudol drafft y Ddeddf Cam-drin Domestig - GOV.UK (www.gov.uk) 

  18. Ceir diffiniad o ardal llywodraeth leol yn adran 11 o Ddeddf PCSC fel a ganlyn: (a) yn gysylltiedig â Lloegr, ardal neu Fwrdeistref Llundain, Dinas Llundain, Ynys Wyth ac Ynysoedd Sili; ac (b) yn gysylltiedig â Chymru, sir neu fwrdeistref sirol. 

  19. ystyr “ardal berthnasol”, mewn perthynas ag awdurdod penodedig, awdurdod addysg, awdurdod carchardai neu awdurdod dalfa ieuenctid, yw ardal sy’n cynnwys: (a) ardal llywodraeth leol gyfan neu ran ohoni y mae’n awdurdod penodedig, awdurdod addysg, awdurdod carchardai neu awdurdod dalfa ieuenctid ar ei chyfer, a (b) y cyfan neu ran o un neu ragor o ardaloedd llywodraeth leol eraill (p’un a yw hefyd, yn achos awdurdod neu awdurdod addysg penodedig, mae’n hefyd yn awdurdod penodedig neu’n awdurdod addysg ar gyfer yr ardal neu’r ardaloedd eraill). 

  20. Cefnogi’r rhai sydd mewn perygl o aildroseddu (GOV.WALES) 

  21. youth-justice-blueprint_0.pdf (gov.wales) 

  22. female-offending-blueprint_3.pdf (gov.wales) 

  23. Mae gan Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru ddwy ddyletswydd mewn perthynas â Byrddau Diogelu Rhanbarthol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; rhoi cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu gyda bwriad o sicrhau eu bod yn effeithiol ac adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru. 

  24. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawl y Plentyn: poster (GOV.WALES) 

  25. allocation-of-accommodation-and-homelessness-guidance-for-local-authorities.pdf (gov.wales) 

  26. https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-03/allocation-of-accommodation-and-homelessness- guidance-for-local-authorities.pdf 

  27. Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (legislation.gov.uk) 

  28. Deddf Addysg 2002 (legislation.gov.uk) 

  29. Cwricwlwm i Gymru - Hwb (gov.wales) 

  30. Themâu trawsbynciol ar gyfer dylunio eich cwricwlwm - Hwb (gov.wales) 

  31. Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru 

  32. Gwaith ieuenctid ac ymgysylltu Is-bwnc (GOV.WALES) 

  33. Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: adroddiad terfynol (GOV.WALES) 

  34. Cymunedau Mwy Diogel i Gymru - Cymunedau Mwy Diogel Cymru 

  35. Uned Atal Trais (violencepreventionwales.co.uk) 

  36. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/838930/multi-agency_approach_to_serious_violence_prevention.pdf 

  37. Comisiynu gwasanaethau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched - GOV.UK (www.gov.uk) Mae’r Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau yn rhoi arweiniad i ardaloedd lleol ar sut i gomisiynu gwasanaethau cymorth effeithiol i ddioddefwyr VAWG. Mae’r NSE yn seiliedig ar Becyn Cymorth Comisiynu unigol, sy’n casglu gwybodaeth mewn ffordd ymarferol i ddangos sut y gellir comisiynu gwasanaethau VAWG i ddiwallu anghenion yn effeithiol. 

  38. Trais yn erbyn menywod a merched: Fframwaith canlyniadau a pherfformiad (prgloo.com) 

  39. Dyletswydd Trais Difrifol: canllawiau am asesu strategol o anghenion - GOV.UK (www.gov.uk) 

  40. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu gwneud cyn i’r Ddyletswydd Trais Difrifol ddod i rym a bydd fersiwn derfynol y canllawiau hyn yn cael ei diweddaru i adlewyrchu cynnwys terfynol y rheoliadau. 

  41. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/838930/multi-agency_approach_to_serious_violence_prevention.pdf 

  42. Canllawiau Dros Dro yr Uned Lleihau Trais. Mawrth 2020. 

  43. Fel y diffinnir yn adran 11 ac Atodlen 1 o Ddeddf PCSC. 

  44. Cyngor Meddygol Cyffredinol. Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth am gleifion, paragraff 50 – 76 

  45. Cyngor rhannu gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr diogelu - GOV.UK (www.gov.uk) 

  46. Cyngor Meddygol Cyffredinol. Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth am gleifion 

  47. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu gwneud cyn i’r Ddyletswydd Trais Difrifol ddod i rym a bydd fersiwn derfynol y canllawiau hyn yn cael ei diweddaru i adlewyrchu cynnwys terfynol y rheoliadau. 

  48. Fel y nodir yn adran 14 o Ddeddf PCSC. 

  49. Mae’r 20 ardal sy’n derbyn dyraniad cyllid VRU gan y Swyddfa Gartref fel a ganlyn: Heddlu Metropolitan, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi, Gorllewin Swydd Efrog, De Swydd Efrog, Northumbria, Thames Valley, Swydd Gaerhirfryn, Essex, Avon a Gwlad yr Haf, Kent, Swydd Nottingham, Swydd Gaerlŷr, Swydd Bedford, Sussex, Hampshire, De Cymru, Cleveland (ers 22/23 a Humberside (ers 22/23). 

  50. Fel y nodir yn ‘Dull aml-asiantaethol system gyfan o atal trais difrifol’ gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr (OHID erbyn hyn): https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/83893 0/multi-agency_approach_to_serious_violence_prevention.pdf 

  51. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  52. https://www.gov.uk/government/publications/serious-violence-strategy 

  53. At ddibenion y ddyletswydd, bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol am bob math o ofal preswyl i blant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys cartrefi diogel i blant, yn yr ardal lle mae’r plant. Felly, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol fydd sicrhau ymgysylltiad rhwng y bartneriaeth a sefydliadau o’r fath lle bo angen. 

  54. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/216977/Violence-prevention.pdf 

  55. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  56. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  57. Fel uchod 

  58. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  59. https://www.england.nhs.uk/wp-content/uploads/2015/07/safeguarding-children-young-people-adults-at- risk-saaf-1.pdf 

  60. https://www.gmc-uk.org/ethical-guidance/ethical-guidance-for-doctors/confidentiality 

  61. Nid yw darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig wedi’u cynnwys yn y Ddyletswydd Trais Difrifol 

  62. Mae dyletswyddau presennol awdurdodau lleol o dan Ddeddf Tai 1996 yn berthnasol yma a dylid eu hystyried fel rhan o’r gwaith i fodloni gofynion y Ddyletswydd Trais Difrifol. 

  63. Mae Awdurdod Cyfunol Manceinion Fwyaf yn eithriad i hyn gan ei fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd, ond mewn perthynas â’i rôl fel awdurdod tân ac achub yn unig ac ond wrth arfer y swyddogaethau hynny. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw awdurdodau cyfunol Maerol yn y dyfodol a ffurfiwyd sy’n cyflawni’r un swyddogaethau. 

  64. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  65. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  66. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  67. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  68. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  69. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  70. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  71. Pennod 8: Angen blaenoriaeth - Cod canllawiau digartrefedd ar gyfer awdurdodau lleol - Canllawiau - GOV.UK (www.gov.uk) 

  72. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  73. Pennod 10: Cysylltiadau lleol ac atgyfeiriadau at awdurdod tai arall - Cod canllawiau digartrefedd ar gyfer awdurdodau lleol - Canllawiau - GOV.UK (www.gov.uk) 

  74. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  75. Deddf Tai 1996 (legislation.gov.uk) 

  76. https://assets.publishing.service.gov.uk/media/60df2d0de90e0771784b991f/Current_allocation_of_accomodation_guidance.pdf 

  77. Fel y diffinnir yn adran 12 o Ddeddf PCSC ac Atodlen 2 i’r ddeddf. 

  78. Yn achos academïau ac ymddiriedolaethau ysgolion am ddim, y perchennog fydd yr ymddiriedolaeth ei hun. Bydd angen i ymddiriedolaethau aml-academi sy’n croesi mwy nag un ardal leol ystyried a oes angen ymgysylltu ag un neu nifer o bartneriaethau lleol. 

  79. Yn ôl y darpariaethau ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf PCSC. 

  80. Mewn perthynas ag awdurdod penodedig, dyletswydd a osodir gan adran 8, 14(6), 15(3) neu 17(4) o Ddeddf PCSC, ac mewn perthynas ag awdurdod addysg, carchar neu awdurdod dalfa ieuenctid, dyletswydd a osodir gan adran 15(3), (4) neu (5)(b) neu 17(4) o’r Ddeddf honno. 

  81. https://www.gov.uk/government/publications/2010-to-2015-government-policy-crime-prevention/2010- to2015-government-policy-crime-prevention 

  82. http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/37/part/I/chapter/I/crossheading/crime-and-disorder-strategies 

  83. Fel y nodir yn adran 10 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. 

  84. Fel y nodir yn adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. 

  85. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/838930/multi-agency_approach_to_serious_violence_prevention.pdf 

  86. Bydd Byrddau Gofal Integredig yn cymryd lle Grwpiau Comisiynu Clinigol o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. 

  87. Canllawiau diogelu (GOV.WALES) 

  88. https://www.gov.uk/government/publications/serious-violence-strategy