Consultation outcome

Diwygio'r Ddeddf Iechyd Meddwl: crynodeb

Updated 24 August 2021

Applies to England and Wales

Rydym ni (Llywodraeth y DU) eisiau rhoi gwybod i chi am y newidiadau rydym yn eu cynnig i wella'r gofal i bobl sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'r ddogfen hon:

  • yn crynhoi'r prif newidiadau arfaethedig, sydd ar gael yn y Papur Gwyn llawn[footnote 1]
  • yn dweud wrthych ble i gael rhagor o wybodaeth
  • yn egluro sut y gallwch ddweud wrthym beth yw eich barn am y newidiadau
  • yn egluro sut mae'r cynigion yn berthnasol i Gymru

Beth sydd wedi digwydd hyd yma

Mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl (y Ddeddf) yn nodi pryd y gellir cadw rhywun mewn ysbyty a'i drin am anhwylder iechyd meddwl, ar adegau yn groes i'w ddymuniadau. Yn Saesneg, mae hyn weithiau yn cael ei alw yn 'sectioned'.

Mae'r Ddeddf yn nodi'r broses ar gyfer asesu a thrin pobl a diogelu eu hawliau.

Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad annibynnol o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Gofynnwyd i'r Adolygiad edrych ar sut y defnyddir y Ddeddf a sut y gellir gwella ymarfer. Edrychodd yr Adolygiad ar pam:

  • mae mwy a mwy o bobl yn cael eu cadw o dan y Ddeddf
  • mae nifer anghymesur o bobl o grwpiau Du a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cadw

Gwnaeth yr Adolygiad 154 o argymhellion ar sut y dylid gwella'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Beth rydyn ni'n ei wneud nawr

Rydym wedi ystyried argymhellion yr Adolygiad ac rydym yn cynnig newidiadau i wella gwasanaethau iechyd meddwl a phrofiadau pobl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. 'Papur Gwyn' yw'r enw ar hyn.

Nod y newidiadau yw sicrhau:

  • bod pobl yn cael eu cadw am gyfnodau byrrach, a dim ond pan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol y cânt eu cadw
  • pan fydd rhywun yn cael ei gadw, bod y gofal a'r driniaeth y mae'n eu cael yn canolbwyntio ar ei wneud yn iach
  • bod pobl yn cael mwy o ddewis ac ymreolaeth ynghylch eu triniaeth
  • bod pawb yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg, a mynd i'r afael â'r gwahaniaethau a brofir gan bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig
  • bod pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn cael eu trin yn well o dan y gyfraith a lleihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau arbenigol i gleifion mewnol ar gyfer y grŵp hwn o bobl
  • bod pawb yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg ac yr eir i'r afael â'r gwahaniaethau yn y cyfraddau cadw sy'n bodoli rhwng rhai grwpiau ethnig

Mae'r Papur Gwyn wedi'i rannu'n dair prif ran. Dyma nhw:

  • Rhan 1: Diwygiadau deddfwriaethol – y newidiadau rydym yn eu cynnig i'r Ddeddf Iechyd Meddwl ei hun
  • Rhan 2: Diwygio polisi ac ymarfer i wella profiad cleifion – cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau newid diwylliant cyffredinol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, er mwyn i bobl gael profiad llawer gwell o ofal o dan y Ddeddf
  • Rhan 3: Ymateb Llywodraeth y DU i'r Adolygiad Annibynnol o'r Ddeddf Iechyd Meddwl – ymateb y Llywodraeth i bob un o argymhellion yr Adolygiad (nid ymdrinnir â hyn yn y ddogfen hon)

Hoffem glywed eich barn am y cynigion, er mwyn i ni allu ystyried hynny cyn gwneud unrhyw newidiadau.

Mae'r prif newidiadau rydyn ni'n eu cynnig ym mhapur gwyn y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cael eu crynhoi yn y ddogfen hon.

Sut mae'r cynigion yn berthnasol i Gymru?

Mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl bresennol yn gymwys yng Nghymru a Lloegr. Er bod polisi iechyd wedi'i ddatganoli i Gymru, mae materion cyfiawnder yn dal heb eu datganoli gan Lywodraeth y DU. Mae system ddatganoledig ar wahân hefyd o ran tribiwnlysoedd yng Nghymru.[footnote 2]

Mae'r Papur Gwyn yn cynrychioli safbwynt Llywodraeth y DU, a gomisiynodd yr Adolygiad Annibynnol o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Roedd cynigion yr Adolygiad yn canolbwyntio i raddau helaeth ar sut y mae'r gyfraith a'r system iechyd meddwl yn gweithredu yn Lloegr, er ei fod wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i bolisi ac ymarfer yng Nghymru.

Materion datganoledig

Mae'r rhan fwyaf o'r Papur Gwyn yn ymwneud â pholisi iechyd sydd wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae gwella canlyniadau iechyd meddwl yn flaenoriaeth drawsbynciol yng Nghymru ac mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad polisi i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl rhagorol. Gan fod y Ddeddf yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, mae angen ystyried canfyddiadau'r Adolygiad a'r cynigion a nodir yn y Papur Gwyn hwn yn ofalus hefyd yng nghyd-destun y ffordd y mae'r Ddeddf yn gweithredu ar hyn o bryd ochr yn ochr â deddfwriaeth, gwasanaethau a systemau iechyd meddwl penodol yng Nghymru. Yn arbennig, mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 eisoes wedi rhoi rhai cynigion tebyg, megis cynlluniau gofal ar gyfer pobl sy'n cael eu cadw, ar sail statudol yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y cynigion a nodir yn y Papur Gwyn wrth iddi ystyried camau nesaf priodol ar gyfer Cymru ac wrth iddi ddatblygu ei hymateb ei hun i'r Adolygiad.

Materion a gedwir yn ôl

Tynnir sylw isod ac yn y Papur Gwyn at faterion a gedwir yn ôl lle gallai Llywodraeth y DU wneud newidiadau yng Nghymru a Lloegr (yn enwedig mewn perthynas â'r system cyfiawnder troseddol). Fodd bynnag, hyd yn oed mewn meysydd a gedwir yn ôl, mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio'n agos i ddeall unrhyw effeithiau a materion penodol i Gymru, ac efallai y bydd achosion lle mae'n briodol i Gymru fabwysiadu dull diwygio gwahanol i'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr.

Nid yw'n anghyffredin i gleifion o Gymru gael gofal yn Lloegr ac i gleifion o Loegr gael gofal yng Nghymru. Mae'r ddwy Lywodraeth felly wedi ymrwymo i sicrhau system iechyd meddwl gydgysylltiedig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n gweithio i'r holl gleifion a'r staff yn yr amgylchiadau hyn.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn yng Nghymru

Mae arnom eisiau sicrhau bod lleisiau o Gymru yn cael eu clywed yn ystod y cyfnod ymgynghori. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd yn helpu i lywio penderfyniadau polisi yng Nghymru. Er y bydd ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn mynd yn uniongyrchol i law Llywodraeth y DU, os ydych chi'n ymateb i'r ymgynghoriad hwn yng Nghymru, bydd eich adborth hefyd yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru. O ran materion a gedwir yn ôl, bydd yr holl ymatebion o Gymru a Lloegr yn cael eu hystyried yn llawn gan Lywodraeth y DU. O ran materion datganoledig, bydd y ddwy Lywodraeth yn darllen pob ymateb, fodd bynnag, ni fydd adborth o Gymru yn cael ei gyfrif na'i drafod ar wahân fel rhan o ymateb Llywodraeth y DU i'r ymgynghoriad.

Rhan 1: Diwygiadau deddfwriaethol

Pennod 1: Egwyddorion arweiniol newydd

Mae pedair egwyddor arweiniol newydd y bydd angen i bobl sy'n gweithio i ddarparu gofal eu hystyried wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae'r egwyddorion hyn yn ganolog i'n cynlluniau i foderneiddio a gwella'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Sef:

  • dewis ac ymreolaeth – sicrhau bod barn a dewisiadau pobl yn cael eu parchu
  • cyfyngiad lleiaf – sicrhau bod pwerau'r Ddeddf yn cael eu defnyddio yn y ffordd leiaf cyfyngol
  • budd therapiwtig – sicrhau bod cleifion yn cael eu cefnogi i wella, fel y gellir eu rhyddhau o'r Ddeddf cyn gynted ag y bo modd
  • y person fel unigolyn – gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael eu gweld a'u trin fel unigolion cyflawn.

Rydym am i'r egwyddorion hyn gael eu cynnwys yn amlwg yn y Ddeddf, yn ogystal ag yn y Cod Ymarfer, sy'n rhoi arweiniad ymarferol i staff ar sut i ddilyn y gyfraith. Rydym yn gobeithio y bydd y newid hwn yn helpu i sicrhau bod yr egwyddorion yn cael eu rhoi ar waith ym mhob agwedd ar ofal a thriniaeth pobl o dan y Ddeddf.

Gallwch ateb y cwestiwn ymgynghori am gymhwyso'r egwyddorion arweiniol:

Cwestiwn ymgynghori 1: Rydym yn cynnig ymgorffori'r egwyddorion yn y Ddeddf Iechyd Meddwl ac yng Nghod Ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ble arall hoffech chi weld yr Egwyddorion yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod yn cael effaith ac yn cael eu gwreiddio mewn arferion bob dydd?

[Testun rhydd – 500 gair]

Pennod 2: Meini prawf cadw cliriach a chadarnach

Y meini prawf cadw yw'r amodau yn y gyfraith y mae'n rhaid i lunwyr penderfyniadau ddangos bod person yn eu cyflawni cyn iddo gael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae dau brif faen prawf. Y cyntaf yw bod y person yn dioddef o salwch meddwl digon difrifol i gyfiawnhau ei gadw. Yr ail yw bod angen cadw'r person er mwyn ei iechyd a'i ddiogelwch, neu er mwyn amddiffyn pobl eraill.

Gall person gael ei gadw ar gyfer asesiad meddygol (adran 2) neu ar gyfer triniaeth (adran 3).

Rydym am gryfhau ac egluro'r meini prawf ar gyfer cadw o dan adrannau 2 a 3 y Ddeddf, fel mai dim ond pan fydd hynny'n gwbl briodol y caiff cleifion eu cadw. Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar yr egwyddorion arweiniol canlynol:

  • budd therapiwtig – rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i sut y bydd y gofal a'r driniaeth a ddarperir o dan y Ddeddf yn hybu adferiad ac yn hwyluso cleifion i wella
  • cyfyngiad lleiaf – sicrhau mai dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y caiff person ei gadw, a lle mae peidio â'i gadw yn peri risg sylweddol o niwed sylweddol iddo ef ei hun neu i eraill

Bydd angen i'r rheswm pam fod unigolyn yn bodloni'r meini prawf cadw gael ei gofnodi gan ei Glinigydd Cyfrifol, gan gynnwys y risg benodol sy'n cyfiawnhau ei gadw a, lle bo'n berthnasol, sut y bydd ei gadw yn sicrhau budd therapiwtig.

Dylid rhannu'r rhesymau dros ei gadw gyda'r claf a dylent gael eu hadolygu gan lunwyr penderfyniadau eraill, yn cynnwys gan y Tribiwnlys Iechyd Meddwl pan fydd yn ystyried apeliadau. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at fwy o dryloywder ac atebolrwydd.

Gweler Pennod 2 y Papur Gwyn am ragor o wybodaeth a gallwch hefyd ateb cwestiynau'r ymgynghoriad am newidiadau i'r meini prawf cadw:

Cwestiwn ymgynghori 2: Rydym eisiau newid y meini prawf cadw fel bod rhaid i gadw ddarparu budd therapiwtig i'r unigolyn. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig hwn?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn Ymgynghori 2a: Rhowch resymau dros eich ateb – [Testun rhydd – 200 gair]

Cwestiwn ymgynghori 3: Rydym hefyd am newid y meini prawf cadw fel mai dim ond os oes tebygolrwydd sylweddol o niwed sylweddol i iechyd, diogelwch neu les y person, neu i ddiogelwch unrhyw berson arall, y caiff unigolyn ei gadw i. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig hwn?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn Ymgynghori 3a: Rhowch resymau dros eich ateb

[Testun rhydd – 200 gair]

Pennod 3: Rhoi mwy o hawliau i gleifion herio cadw

Rydym am sicrhau bod yr achos dros ryddhau claf o'r ysbyty yn cael ei adolygu'n fwy rheolaidd a bod cleifion yn cael mwy o gyfleoedd i apelio i gael eu rhyddhau er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu cadw'n hirach nag sy'n angenrheidiol.

Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud y newidiadau a nodir isod.

Adolygiad mwy cyson o'r achos dros gadw claf

Rydym am wneud yn siŵr bod gofyn i'r Clinigydd Cyfrifol a phobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau adolygu'r achos dros ryddhau claf yn fwy rheolaidd. Rydym hefyd yn bwriadu cynyddu mynediad pobl at y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iechyd Meddwl) (Tribiwnlys), sy'n craffu'n annibynnol ar gadw.

Mae'r cynigion canlynol yn cefnogi'r newidiadau hyn:

  • Ar gyfer cleifion o dan adran 3 y Ddeddf, dylent gael tri chyfle ffurfiol i apelio yn erbyn eu cadw yn y Tribiwnlys, yn hytrach na dim ond dau o fewn eu blwyddyn gyntaf o gael eu cadw.
  • Dylai cleifion sy'n cael eu cadw o dan adran 2 allu gwneud cais am gael eu rhyddhau yn ystod y 21 diwrnod cyntaf, yn hytrach na'r cyfnod terfyn o 14 diwrnod ar hyn o bryd.
  • Dylai Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol allu gwneud cais i'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl ar ran y claf, fel nad oes neb yn llithro drwy'r rhwyd.
  • Bod amlder atgyfeiriadau awtomatig i'r Tribiwnlys yn cynyddu er mwyn sicrhau bod achos pobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cael ei glywed.
  • Bod y Tribiwnlys yn ystyried Cynllun Gofal a Thriniaeth statudol y claf pan fydd yn ystyried cais am ryddhau. Dylai hyn nodi'n glir beth yw cyfiawnhad y clinigydd cyfrifol dros barhau i gadw'r claf.

Gweler pennod 3 y Papur Gwyn am ragor o wybodaeth am ein cynlluniau i roi mwy o hawliau i gleifion herio eu cadw. Gallwch ateb cwestiynau'r ymgynghoriad am y cyfnodau arfaethedig ar gyfer atgyfeirio claf i'r Tribiwnlys.

Cwestiwn ymgynghori 4: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r amserlen arfaethedig ar gyfer atgyfeiriadau awtomatig i'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl (gweler tabl 1, isod, am fanylion)?

a) Cleifion o dan adran 3

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

b) Cleifion ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol (GTG)

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

c) Cleifion sy'n ddarostyngedig i Ran III

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

d) Cleifion ar Ryddhad Amodol

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn 4a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 500 gair]

Tabl 1: amlder atgyfeiriadau awtomatig

Math o glaf Ar hyn o bryd Cynnig
Cleifion sy’n ddarostyngedig i adran 3 Atgyfeiriad 6 mis ar ôl dechrau’r cyfnod cadw, os nad oedd y claf wedi gwneud apêl. Wedi hynny, byddir yn atgyfeirio os oes mwy na 3 blynedd wedi mynd heibio ers i’r Tribiwnlys ystyried yr achos ddiwethaf. I gleifion o dan 18 oed, caiff achosion eu hatgyfeirio i’r Tribiwnlys yn flynyddol. Atgyfeiriad 4 mis ar ôl dechrau’r cyfnod cadw, os nad oedd y claf wedi gwneud apêl. Wedi hynny, byddid yn atgyfeirio 12 mis ar ôl i’r cyfnod cadw ddechrau, os nad yw’r Tribiwnlys wedi ystyried yr achos yn y cyfamser. Ar ôl y 12 mis cyntaf o gadw, byddai’r achos yn cael ei atgyfeirio’n flynyddol.
Cleifion ar GTG Yn ystod y GTG, byddir yn atgyfeirio 6 mis ar ôl dechrau’r cyfnod cadw, os nad yw’r Tribiwnlys wedi ystyried yr achos yn y 6 mis cyntaf. Wedi hynny, byddir yn atgyfeirio os oes mwy na 3 blynedd (neu 1 flwyddyn yn achos claf o dan 18) wedi mynd heibio ers i’r Tribiwnlys ystyried yr achos ddiwethaf. Os bydd y GTG yn cael ei ddirymu, byddir yn atgyfeirio i’r Tribiwnlys cyn gynted ag y bo modd. Byddid yn atgyfeirio 6 mis ar ôl i’r claf gael ei roi ar GTG, os nad yw’r Tribiwnlys wedi ystyried yr achos yn y 6 mis cyntaf. Wedi hynny, byddid yn atgyfeirio 12 mis ar ôl i’r claf gael ei roi ar GTG, os nad yw’r Tribiwnlys wedi ystyried yr achos yn y cyfamser, a bydd yn parhau i gael ei atgyfeirio’n flynyddol.
Cleifion sy’n ddarostyngedig i Ran III Mae’r achos yn cael ei atgyfeirio os nad yw’r Tribiwnlys wedi ystyried achos y claf yn y 3 blynedd diwethaf. Bob 12 mis
Cleifion ar Ryddhad Amodol (cyfyngedig, cleifion rhan III) Nid oes gan y cleifion hyn hawl i gael eu hatgyfeirio’n awtomatig. Byddid yn atgyfeirio 24 mis ar ôl i’r claf gael ei ryddhau’n amodol. Wedi hynny, byddid yn atgyfeirio bob 4 blynedd.

Newidiadau i gyfrifoldebau'r Tribiwnlys

Os oes cyfiawnhad dros barhau i gadw claf, rydym am roi'r pŵer i'r Tribiwnlys i roi caniatâd neu gyfarwyddo trosglwyddo cleifion i sefydliadau eraill, llai cyfyngol, i helpu i hwyluso adferiad y claf. Rydym hefyd yn cynnig rhoi'r pŵer i'r Tribiwnlys i gyfarwyddo gwasanaethau yn y gymuned, lle mae hyn yn rhwystr rhag ryddhau. Rydym yn cynnig y dylid rhoi 5 wythnos i awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol i gyflawni cyfarwyddiadau a wneir gan y Tribiwnlys Iechyd Meddwl.

Newidiadau eraill i weithdrefnau sy'n ymwneud â chadw claf

Rydym yn cynnig dileu rhannau presennol o'r broses adolygu cadw, y daeth yr Adolygiad i'r casgliad eu bod yn aneffeithiol neu y gwneir iawn amdanynt gan y diwygiadau uchod, a fydd yn sicrhau bod yr achos dros ryddhau claf yn cael ei adolygu'n amlach:

  • Cael gwared â'r atgyfeiriad awtomatig i Dribiwnlys pan fydd Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (GTG) claf yn dod i ben a'i fod yn dychwelyd i'r ysbyty. Gorchymyn yw GTG a wneir gan y Clinigydd Cyfrifol i roi triniaeth dan oruchwyliaeth i'r claf yn y gymuned, yn hytrach nag aros yn yr ysbyty.
  • Dileu rôl Rheolwyr Ysbyty Cysylltiol (a elwir hefyd yn banel Rheolwyr Ysbyty) wrth adolygu'r achos dros ryddhau claf o gyfnod cadw neu GTG.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael ym Mhennod 3 y Papur Gwyn. Gallwch hefyd ateb y cwestiynau ymgynghori canlynol:

Cwestiwn ymgynghori 5: Rydym am ddileu'r atgyfeiriad awtomatig i Dribiwnlys a gaiff defnyddwyr gwasanaeth pan fydd eu Gorchymyn Triniaeth Gymunedol yn cael ei ddirymu. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig hwn?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn Ymgynghori 5a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 6: Rydym eisiau rhoi mwy o bŵer i'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl allu caniatáu gadael, trosglwyddiadau a gwasanaethau cymunedol. Rydym yn cynnig y dylid rhoi 5 wythnos i awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol i gyflawni cyfarwyddiadau a wneir gan y Tribiwnlys Iechyd Meddwl. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod hyn yn gyfnod priodol o amser?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 6a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 200 gair]

Cwestiwn ymgynghori 7: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i ddileu rôl panel y rheolwr wrth adolygu'r achos dros ryddhau claf o gyfnod cadw neu GTG?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 7a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 200 gair]

Pennod 4: Cryfhau hawl y claf i ddewis a gwrthod triniaeth

Rydym yn bwriadu diweddaru'r Ddeddf Iechyd Meddwl er mwyn i gleifion:

  • Cael mwy o ddylanwad dros benderfyniadau am eu gofal a'u triniaeth
  • Gallu disgwyl i'w dymuniadau a'u dewisiadau gael eu parchu a'u dilyn
  • Cael cyfle i herio eu gofal a'u triniaeth os nad yw eu dymuniadau'n cael eu dilyn

Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud y newidiadau a nodir isod.

Cyflwyno Dogfennau Dewisiadau Ymlaen Llaw

Mewn Dogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw, bydd pobl yn gallu nodi ymlaen llaw pa ofal a thriniaeth fyddai orau ganddynt a/neu driniaethau y byddent yn dymuno eu gwrthod os byddant yn mynd yn rhy sâl i wneud y penderfyniadau hyn eu hunain. Gall y ddogfen hefyd nodi gwybodaeth bwysig arall megis manylion Person Enwebedig y claf, trefniadau cynllunio ar gyfer argyfwng ac arwyddion cynnar o lithro'n ôl.

Bydd ein diwygiadau'n mynnu bod Dogfennau Dewisiadau Ymlaen Llaw yn cael eu hystyried os na fydd gan y claf y galluedd meddyliol perthnasol yn ddiweddarach i fynegi ei ddymuniadau.

Rydym yn cynnig y bydd Dogfennau Dewisiadau Ymlaen Llaw, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cael eu trin fel pe baent yn cyfateb i'r dymuniadau a'r dewisiadau a fynegir gan rywun sydd â'r galluedd perthnasol ar yr amod bod gan yr unigolyn, adeg ysgrifennu'r ddogfen, y galluedd meddyliol perthnasol.

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y gellir ei gynnwys mewn Dogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw, a sut y bydd yn gweithio'n ymarferol, ym Mhennod 4.1 y Papur Gwyn. Gallwch hefyd ateb cwestiynau'r ymgynghoriad am yr hyn y dylid ei gynnwys yn Nogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw y claf a sut y dylid penderfynu ar ddilysrwydd Dogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw:

Cwestiwn ymgynghori 8: Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer yr hyn y dylid ei gynnwys yn Nogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw yr unigolyn?

[Testun rhydd – 500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 9: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai dilysrwydd Dogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw ddibynnu ar pa un a gafodd y datganiadau yn y ddogfen eu gwneud gyda galluedd a'u bod yn gymwys i'r driniaeth dan sylw, fel sy'n wir o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 9a: Rhowch resymau dros eich ateb. [Testun rhydd – 500 gair]

Gwneud Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn rhai statudol

Rydym yn cynnig bod yn rhaid i bob claf gael Cynllun Gofal a Thriniaeth manwl erbyn diwrnod 7 y cyfnod cadw a bod y Cyfarwyddwr Meddygol neu'r Cyfarwyddwr Clinigol yn cymeradwyo'r cynllun erbyn diwrnod 14. Dylai'r Cynllun Gofal a Thriniaeth gynnwys gwybodaeth megis:

  • y gofal a'r driniaeth a ddarperir a sut y gellir eu cyflwyno yn y modd lleiaf cyfyngol
  • sut mae dymuniadau a dewisiadau'r claf yn cael eu hystyried, gan gynnwys unrhyw Ddogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw
  • rhesymeg y Clinigydd Cyfrifol pan nad yw dymuniadau a dewisiadau'r claf yn cael eu dilyn, sut bynnag y maent wedi cael eu mynegi
  • sut mae argymhellion yr Adolygiadau Gofal (Addysg) a Thriniaeth wedi cael eu hystyried yn achos cleifion sydd ag anabledd dysgu neu gleifion awtistig, gan gynnwys unrhyw resymau pam na ddilynwyd y rhain.
  • Cynllunio ar gyfer rhyddhau, gan gynnwys trefniadau ôl-ofal
  • Cydnabod unrhyw nodweddion gwarchodedig, e.e. anghenion diwylliannol hysbys, a sut bydd y cynllun yn ystyried y rhain

Gallwch ddarllen mwy am ein cynigion o ran yr hyn y dylid ei gynnwys mewn Cynllun Gofal a Thriniaeth, a sut y bydd yn gweithio'n ymarferol, ym Mhennod 4.2 y Papur Gwyn. Gallwch hefyd ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ar beth arall y dylid ei gynnwys yn y Cynllun Gofal a Thriniaeth statudol:

Cwestiwn ymgynghori 10: Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer yr hyn y dylid ei gynnwys yng Nghynllun Gofal a Thriniaeth yr unigolyn?

[Testun rhydd – 500 gair]

Cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer cydsyniad claf a gwrthod triniaeth feddygol

Rydym am roi mwy o reolaeth i gleifion dros eu gofal a'u triniaeth a'r hawl i wrthod triniaethau meddygol penodol yn gynharach o lawer yn eu cyfnod cadw. I gyflawni hyn, rydym yn cynnig diwygiadau i Ran IV y Ddeddf, sy'n rheoleiddio penderfyniadau am ofal a thriniaeth claf, gan gynnwys beth sy'n digwydd pan fydd claf yn cydsynio i driniaeth gael ei rhoi iddo, a beth sy'n digwydd pan nad yw'n gwneud hynny.

Bydd y diwygiadau hyn yn gwella'r mesurau diogelu presennol ac yn cyflwyno rhai newydd ar gyfer cleifion nad ydynt yn cydsynio i driniaeth. Un newid allweddol yr ydym am ei wneud yw bod y pwynt pan fydd y meddyg a benodir i roi ail farn (SOAD) yn adolygu triniaeth claf yn digwydd yn gynharach. Mae'r meddyg SOAD yn annibynnol ar y clinigwr cyfrifol ac yn adolygu a yw'r driniaeth yn iawn o safbwynt clinigol ac a yw barn a hawliau'r claf wedi cael eu hystyried yn ddigonol. Ar hyn o bryd, rhaid i'r meddyg SOAD ardystio triniaeth claf 3 mis ar ôl i'r driniaeth ddechrau, lle nad yw'n cydsynio. Rydym yn cynnig rhoi mynediad i'r claf at y meddyg SOAD ar ddiwrnod 14 y cyfnod cadw ac, os nad oes gan y claf y galluedd perthnasol i gydsynio i driniaeth, byddwn yn mynnu bod y meddyg SOAD yn ardystio ei driniaeth ym mis 2, yn hytrach na mis 3.

Un diwygiad pwysig arall sy'n cael ei gynnig yw'r gallu i gleifion apelio yn erbyn penderfyniadau am driniaeth yn y Tribiwnlys, gerbron un barnwr, lle mae tystiolaeth i awgrymu bod eu dymuniadau a'u dewisiadau wedi cael eu diystyru'n amhriodol gan y clinigydd cyfrifol.

Mae Pennod 4.3 a 4.4 yn rhoi rhagor o fanylion am y newidiadau rydym am eu gwneud o ran:

  • Hawliau cleifion i fod yn rhan o benderfyniadau ynghylch triniaeth feddygol, ac i wrthod triniaethau penodol, gyda rheolau gwahanol yn dibynnu ar pa un a yw rhywun yn gwrthod gyda neu heb alluedd ac ar natur y driniaeth.
  • Y gweithdrefnau y mae'n rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol eu dilyn i sicrhau eu bod yn ystyried dymuniadau a dewisiadau'r claf yng nghyswllt triniaeth feddygol.
  • Hawliau cleifion i apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan y clinigydd cyfrifol ynghylch eu triniaeth a sut mae'r rhain yn wahanol i gleifion sydd â'r galluedd meddyliol perthnasol neu sydd heb y gallu meddyliol perthynasol, a'r rheini sydd â Dogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw.
  • Newidiadau i'r meini prawf ar gyfer rhoi triniaeth mewn amgylchiadau brys sy'n amddiffyn hawl y claf i wrthod triniaeth, os oes ganddo alluedd perthnasol i wneud hynny.

Gallwch hefyd ateb cwestiynau'r ymgynghoriad ar y newidiadau hyn:

Cwestiwn ymgynghori 11: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai cleifion sydd â galluedd ac sy'n gwrthod triniaeth fod â'r hawl i'w dymuniadau gael eu parchu hyd yn oed os ystyrir bod y driniaeth yn angenrheidiol ar unwaith i liniaru dioddefaint difrifol?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 11a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 12: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno, yn ogystal â'r pŵer i fynnu bod y Clinigydd Cyfrifol yn ailystyried penderfyniadau ynghylch triniaeth, y dylai barnwr y Tribiwnlys Iechyd Meddwl (yn eistedd ar ei ben ei hun) hefyd allu gorchymyn na roddir triniaeth benodol?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 12a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 500 gair]

Pennod 5: Gwella'r gefnogaeth i bobl sy'n cael eu cadw

Person Enwebedig

Un o nodau cyffredinol ein diwygiadau arfaethedig yw rhoi mwy o ddewis ac ymreolaeth i bobl pan fyddant yn dod o dan y Ddeddf.

Mae'r adran hon yn trafod ein cynlluniau i ddisodli'r rôl Perthynas Agosaf bresennol sydd, yn ein barn ni, yn hen ffasiwn ac nad yw'n rhoi digon o lais i'r claf o ran pwy sy'n ymwneud â'i ofal, gyda rôl statudol newydd, a elwir yn 'Berson Enwebedig'. Bydd unigolion yn gallu dewis eu Person Enwebedig, os ydynt am gael un, ar adeg eu cadw o dan y Ddeddf neu yn eu Dogfen Dewisiadau Ymlaen Llaw.

Os bydd claf yn rhy sâl i wneud y penderfyniad hwn, bydd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn penodi un ar ei gyfer. Gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yw Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy sydd wedi cael eu cymeradwyo gan awdurdod lleol i gyflawni dyletswyddau penodol o dan y Ddeddf. Maent yn gyfrifol am gydlynu asesiad person a'i dderbyn i'r ysbyty os yw'n cael ei gadw dan orfod o dan y Ddeddf.

Bydd gan y Person Enwebedig holl bwerau'r Perthynas Agosaf, ynghyd â rhai pwerau a hawliau newydd, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gael cyfle i fynegi barn ar Gynlluniau Gofal a Thriniaeth statudol i sicrhau bod buddiannau gorau'r claf yn cael eu gwarchod
  • Yr hawl i gael cyfle i fynegi barn ar drosglwyddiadau rhwng ysbytai, yn ogystal ag ar adnewyddu ac ymestyn cyfnodau cadw a Gorchmynion Triniaeth Gymunedol
  • Y gallu i apelio yn erbyn penderfyniadau am driniaeth glinigol, ar ran y claf lle mae'n rhy sâl i wneud hynny ei hun
  • Y pŵer i wrthwynebu defnyddio GTG ar ran y claf
  • Y pŵer i wneud cais i'r Tribiwnlys ar ran y claf am iddo gael ei ryddhau.

Byddwn yn newid y broses yn ymwneud â diystyru penderfyniadau a wneir gan y Perthynas Agosaf, fel na fydd y Person Enwebedig yn fforffedu ei rôl yng ngofal y claf os yw'n gwrthwynebu iddo gael ei gadw.

Gallwch ddarllen mwy am bwerau'r Person Enwebedig, pa gleifion fydd yn cael mynediad atynt a'r amgylchiadau a'r gweithdrefnau ar gyfer diystyru eu pwerau a ble mae'r cyfrifoldeb hwn yn gorffwys ym Mhennod 5 y Papur Gwyn. Gallwch hefyd ateb cwestiynau'r ymgynghoriad am bwerau newydd y Person Enwebedig:

Cwestiwn ymgynghori 13: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â phwerau ychwanegol arfaethedig y Person Enwebedig?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 13a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 200 gair]

Rydym am weld bod gan fwy o gleifion yr hawl i Berson Enwebedig. Bwriadwn ymestyn yr hawl hon i gleifion yn y system cyfiawnder troseddol, sy'n ddarostyngedig i Ran III y Ddeddf (a elwir hefyd yn gleifion fforensig), fodd bynnag, bydd pwerau'r Person Enwebedig yn fwy cyfyngedig.

Ar gyfer plant a phobl ifanc, bydd gan y rhai 16 ac 17 oed yr un hawl i ddewis Person Enwebedig ag oedolyn. Ar gyfer plant dan 16 oed, os ydynt yn "gymwys yn ôl Gillick", lle mae ganddynt ddealltwriaeth, aeddfedrwydd a deallusrwydd digonol i ddeall yn llawn, credwn y dylent allu dewis Person Enwebedig hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth am y maes hwn ar gael ym Mhennod 5 a gallwch hefyd ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ar allu plant a phobl ifanc i ddewis Person Enwebedig:

Cwestiwn ymgynghori 14: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai rhywun dan 16 oed allu dewis Person Enwebedig gan gynnwys rhywun nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, lle mae ganddo'r gallu i ddeall y penderfyniad (a elwir yn "gymhwysedd Gillick")?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 14a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 500 gair]

Eiriolaeth

Mae Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol yn darparu mesurau diogelu pwysig i bobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Rydyn ni eisiau ehangu rôl Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol fel eu bod hefyd yn gallu:

  • Cefnogi cleifion i gymryd rhan mewn cynllunio gofal
  • Cefnogi unigolion i baratoi Dogfennau Dewisiadau Ymlaen Llaw
  • Herio penderfyniadau ynghylch triniaeth lle mae ganddynt reswm i gredu nad ydynt er lles gorau'r claf;
  • Apelio i'r Tribiwnlys pan fydd cleifion yn rhy sâl i wneud hynny eu hunain

Mae eiriolaeth o ansawdd uchel yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt pan fyddant yn cael eu cadw. Rydym yn ystyried sut y gallwn wella'r rôl ac rydym yn croesawu eich barn ynghylch a ellir cyflawni hyn drwy broffesiynoli'r gwasanaeth.

Un o'r blaenoriaethau wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uwch yw datblygu eiriolaeth sy'n briodol yn ddiwylliannol ar gyfer pobl o bob cefndir ethnig a phob cymuned. Byddwn yn cynnal cynlluniau peilot eiriolaeth sy'n sensitif i ddiwylliannau er mwyn dysgu sut i ymateb yn well i anghenion amrywiol unigolion o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Gallwch ateb cwestiynau'r ymgynghoriad ar bwerau helaethach Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol a sut y gallwn sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n gyffredinol:

Cwestiwn ymgynghori 15: Ydych chi'n cytuno â'r pwerau ychwanegol arfaethedig ar gyfer Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 15a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 200 gair]

Cwestiwn ymgynghori 16: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y gellid gwella gwasanaethau eiriolaeth drwy:

  • Safonau Gwell [Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

  • Rheoleiddio [Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

  • Achredu gwell [Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

  • Dim un o'r uchod, ond drwy modd arall [Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 16a: Rhowch resymau dros eich ateb

[Testun rhydd – 500 gair]

Pennod 6: Gorchmynion Triniaeth Gymunedol (GTGion)

Pwrpas GTGion yw galluogi rhai cleifion mewnol, a fyddai fel arall efallai yn parhau i gael eu cadw o dan y Ddeddf, i gael eu rhyddhau i'r gymuned ar amodau sydd wedi'u bwriadu i gynnal cysylltiad parhaus â gwasanaethau, er mwyn darparu cefnogaeth ac atal llithro'n ôl.

Byddwn yn diwygio GTGion fel mai dim ond pan fydd cyfiawnhad cryf dros wneud hynny a phan ystyrir bod y Gorchymyn yn rhoi budd therapiwtig gwirioneddol i'r claf y cânt eu defnyddio.

I gyflawni hyn, byddwn yn:

  • Cryfhau'r meini prawf ar gyfer gwneud GTG yn y lle cyntaf, fel ei fod yn adlewyrchu'r meini prawf newydd ar gyfer cadw rhywun dan Adran 3;
  • Cynyddu'r gofynion tystiolaeth sydd eu hangen i wneud GTG a'r amodau o'i amgylch;
  • Newid y broses ar gyfer galw person sy'n destun GTG yn ôl i'r ysbyty, fel ei fod yn amharu llai ar yr unigolyn;
  • Mynnu bod mwy o weithwyr proffesiynol yn gorfod cymeradwyo GTG, i sicrhau mwy o graffu
  • Rhoi pwerau i'r Tribiwnlys i orchymyn bod y clinigydd cyfrifol yn ailystyried amodau GTG claf os ydynt yn rhy gaeth;
  • Rhoi'r hawl i'r Person Enwebedig wrthwynebu GTG, ar ran y claf;
  • Cyflwyno disgwyliad na ddylai GTG bara mwy na 24 mis.

Rydym yn gobeithio y bydd y diwygiadau hyn yn arwain at roi llai o bobl ar GTGion a, phan fyddant yn cael eu defnyddio, bod cleifion yn elwa o'r strwythur y maent yn ei ddarparu i gefnogi ymgysylltiad parhaus â gwasanaethau iechyd meddwl.

Byddwn yn monitro effeithiau'r diwygiadau hyn dros gyfnod cychwynnol o bum mlynedd. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru polisi'r Llywodraeth ar ddefnyddio GTGion yn unol â'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg.

Gallwch ddarllen gwybodaeth am y diwygiadau arfaethedig i GTGion ym Mhennod 6 y Papur Gwyn.

Pennod 7: Y rhyngwyneb rhwng y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol

Pan fydd angen i berson gael ei dderbyn i'r ysbyty oherwydd ei anhwylder meddwl, efallai y bydd angen i'r clinigydd benderfynu a ddylai'r person gael ei dderbyn o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ynteu o dan Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a fydd yn cael eu disodli cyn bo hir gan Fesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid.

Mae'r dewis hwn rhwng pa fframwaith sydd fwyaf priodol yn codi os yw'r claf:

  • yn dioddef o salwch meddwl sy'n peryglu ei ddiogelwch ei hun, neu ddiogelwch pobl eraill, ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty am driniaeth feddygol;
  • s nad oes ganddo'r galluedd meddyliol perthnasol i gydsynio i gael ei gadw a'i drin; ac,
  • nad yw'n gwrthwynebu cael ei gadw neu ei drin.

Yn yr amgylchiadau hyn, nid yw'n glir ar hyn o bryd pa fframwaith cyfreithiol y dylid ei ddefnyddio. Ceir hefyd safbwyntiau croes ynghylch pa fesurau diogelu cyfreithiol sy'n well ar gyfer cleifion.

Rydym yn edrych ar syniad yr Adolygiad o gyflwyno 'ffin' symlach rhwng y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol i'w gwneud yn glir pa fframwaith y dylai clinigydd ei ddefnyddio i gadw claf o dan yr amgylchiadau hyn.

Byddai'r cynnig hwn yn golygu y byddai'r dewis yn cael ei ddileu, a byddai'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau yn defnyddio'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid/Mesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid ac nid y Ddeddf Iechyd Meddwl, pe bai claf:

  • heb y galluedd meddyliol perthnasol i gydsynio i gael ei gadw a'i drin;
  • ac nad yw'n gwrthwynebu cael ei gadw neu ei drin.

Gallwch ddarllen mwy am y mater hwn ym Mhennod 7 y Papur Gwyn a hefyd ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ar sut y dylem wneud y ffin rhwng y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn gliriach:

Cwestiwn ymgynghori 17: Sut y dylai'r fframwaith cyfreithiol ddiffinio'r ffin rhwng y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol fel y gellir gwneud cleifion yn ddarostyngedig i'r pwerau sydd fwyaf priodol i fodloni eu hamgylchiadau?

[Testun rhydd 500 gair]

Caniatâd ymlaen llaw i gael ei dderbyn fel claf anffurfiol

Rydym hefyd yn trafod a ddylem wneud darpariaeth yn y Ddeddf Iechyd Meddwl sy'n nodi'n glir hawl unigolion i gydsynio ymlaen llaw i gael eu derbyn i'r ysbyty am driniaeth am salwch meddwl. Byddai hyn yn golygu, pe bai unigolyn wedi rhoi caniatâd ymlaen llaw a'i fod yn mynd yn sâl yn ddiweddarach ac yn colli'r galluedd perthnasol, y byddai'n cael ei dderbyn fel claf anffurfiol neu wirfoddol, yn hytrach na chael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n ddarostyngedig i'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid/Mesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid.

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y byddai hyn yn ei olygu i gleifion ym Mhennod 7 y Papur Gwyn a gallwch ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ynghylch a ddylem newid y ddeddfwriaeth i egluro'r dewis o gydsynio ymlaen llaw i glaf gael ei dderbyn fel claf anffurfiol.

[Testun rhydd – 500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 18: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai'r hawl i roi caniatâd ymlaen llaw i dderbyn cleifion i ysbyty iechyd meddwl yn anffurfiol gael ei nodi yn y Ddeddf Iechyd Meddwl a Chod Ymarfer y Ddeddf i'w gwneud yn glir bod yr hawl hon ar gael i unigolion?

[Cytuno/Anghytuno]

Cwestiwn ymgynghori 18a: Rhowch resymau dros eich ateb

[Testun rhydd – 500 gair]

Os ydych yn cytuno:

Cwestiwn ymgynghori 18b: A oes unrhyw fesurau diogelu y dylid eu rhoi ar waith i sicrhau bod cydsyniad unigolyn ymlaen llaw i gael ei dderbyn yn cael ei ddilyn yn briodol?

[Testun rhydd – 500 gair]

Pwerau Brys yn y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol

Rydym am wella'r pwerau sydd ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys fel bod unigolion y mae angen gofal iechyd meddwl brys arnynt yn aros ar y safle, hyd nes y ceir asesiad clinigol. Nod hyn yw osgoi defnyddio'r heddlu i ddal unigolion sydd mewn argyfwng ac sy'n ceisio gadael Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, a allai arwain at fwy o drallod i'r unigolyn.

Rydym yn trafod manteision dibynnu ar adran 4B y Ddeddf Galluedd Meddyliol i gyflawni'r amcan hwn o'i gymharu ag ymestyn adran 5 y Ddeddf Iechyd Meddwl, a byddai'r naill a'r llall yn rhoi pwerau i weithwyr iechyd proffesiynol mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i gadw pobl dros dro o dan amgylchiadau penodol.

Gweler Pennod 7 y Papur Gwyn am ragor o fanylion am y newid hwn a gallwch hefyd ateb cwestiwn yr ymgynghoriad:

Cwestiwn ymgynghori 19: Rydym am sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn gallu dal unigolion dros dro mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys pan fyddant mewn argyfwng a bod angen asesiad iechyd meddwl arnynt, ond eu bod yn ceisio gadael Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Ydych chi'n meddwl bod y diwygiadau i adran 4B y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cyflawni'r amcan hwn, neu a ddylem ni hefyd ymestyn adran 5 y Ddeddf Iechyd Meddwl?

  • A) Dibynnu ar adran 4B y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn unig
  • B) Ymestyn adran 5 y Ddeddf Iechyd Meddwl fel ei bod hefyd yn berthnasol i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, gan dderbyn bod adran 4B yn dal ar gael ac y gellir ei defnyddio lle bo'n briodol

Cwestiwn ymgynghori 19c: Rhowch resymau dros eich ateb

[Testun rhydd – 500 gair]

Pennod 8: Gofalu am gleifion yn y System Cyfiawnder Troseddol

Efallai y bydd gan rai pobl sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol salwch meddwl digon difrifol i fod ag angen triniaeth yn yr ysbyty. Gallai hyn gael ei ganfod ar ôl i'r unigolyn gael ei arestio gan yr heddlu, cael ei gydnabod gan lys, neu gall person fynd yn sâl yn ddiweddarach yn y ddalfa.

Rydym am sicrhau bod pobl yn yr amgylchiadau hyn yn cael mynediad at y gofal iawn, ar yr adeg iawn, tra'n cyflawni ein dyletswydd i amddiffyn y cyhoedd.

Mae Rhan III y Ddeddf yn nodi'r fframwaith ar gyfer gofalu am y cleifion hyn. Bydd llawer o'n diwygiadau i wella gofal cleifion yn berthnasol i gleifion o dan y rhan hon o'r Ddeddf, fodd bynnag, ceir rhai eithriadau:

  • Ni fydd y meini prawf newydd ar gyfer cadw cleifion yn berthnasol i gleifion Rhan III
  • Pwerau cyfyngedig fydd gan y Person Enwebedig ar gyfer claf Rhan III
  • Bydd pwerau'r Tribiwnlys ac atgyfeiriadau awtomatig i'r Tribiwnlys yn wahanol i'r cleifion hyn o'u cymharu â chleifion sifil
  • Ni fydd newidiadau i'r meini prawf cadw ar gyfer unigolion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn berthnasol i gleifion Rhan III

Mae'r system cyfiawnder troseddol yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Rydym yn croesawu'n arbennig ymatebion gan bobl yng Nghymru a Lloegr i gwestiynau'r ymgynghoriad yn y bennod hon o'r Papur Gwyn.

Pwerau Llysoedd – cysoni Llysoedd Ynadon a Llys y Goron

Mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn rhoi pŵer i lysoedd ynadon ddargyfeirio person sydd mewn argyfwng iechyd meddwl o'r system cyfiawnder troseddol ac i'r ysbyty ar gyfer asesiad a/neu driniaeth. Fodd bynnag, gall fod oedi ar hyn o bryd o ran sicrhau bod pobl yn cael y gofal a'r driniaeth y mae arnynt eu hangen.

Er mwyn cyflymu'r broses, argymhellodd yr Adolygiad y dylid cynyddu pwerau'r llysoedd ynadon i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Llys y Goron. Gan ein bod ar hyn o bryd yn ystyried diwygiadau eraill i'r llysoedd ynadon, a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, rydym yn dymuno rhoi ystyriaeth bellach i hyn cyn i ni wneud ein penderfyniad ar argymhelliad yr Adolygiad.

Darllenwch Bennod 8 y Papur Gwyn i gael trafodaeth lawn ar y cynnig hwn.

Trosglwyddiadau Diogel - trosglwyddo pobl rhwng y Carchar neu Ganolfannau Mewnfudo a Symud a'r ysbyty

Rydym am sicrhau nad yw pobl y mae angen gofal a thriniaeth arnynt o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cael eu cadw mewn carchardai neu Ganolfannau Mewnfudo a Symud mewn modd amhriodol.

Er mwyn cyflymu'r broses o drosglwyddo cleifion o'r carchar neu Ganolfannau Mewnfudo a Symud i sefydliadau iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol, byddwn yn cyflwyno terfyn amser statudol o 28 diwrnod yn Lloegr pan fydd canllawiau newydd, sy'n cael eu paratoi gan NHS England and Improvement (NHSEI), wedi'u gwreiddio'n briodol.

Gallwch ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ynghylch beth arall ddylai fod yn ei le cyn y gallwn gyflwyno'r terfyn amser statudol ar gyfer trosglwyddo cleifion yn ddiogel.

Cwestiwn ymgynghori 20: Er mwyn cyflymu'r broses o drosglwyddo o garchar neu ganolfan symud mewnfudwyr (IRC), rydym eisiau cyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod. A oes angen rhoi rhagor o fesurau diogelu ar waith cyn y gallwn weithredu terfyn amser statudol ar gyfer trosglwyddiadau diogel?

Oes/Nac oes/Ddim yn siŵr

Cwestiwn ymgynghori 20a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[Testun rhydd – 500 gair]

Rydym hefyd am gyflwyno rôl statudol, annibynnol newydd i reoli'r broses o drosglwyddo pobl o'r carchar i'r ysbyty fel bod rhwystrau'n cael eu goresgyn yn gynt, a bod anghenion y claf yn cael eu rhoi gyntaf. Rydym hefyd yn ystyried rhoi'r hawl i bobl sy'n aros i gael eu trosglwyddo i gael Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol.

Gallwch ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ar sut y dylem gyflwyno'r rôl statudol newydd:

Cwestiwn ymgynghori 21: Rydym am sefydlu rôl ddynodedig newydd ar gyfer unigolyn i reoli'r broses o drosglwyddo pobl o'r carchar neu o Ganolfan Mewnfudo a Symud i'r ysbyty pan fydd angen triniaeth fel claf mewnol arnynt ar gyfer eu hiechyd meddwl. Pa un o'r dewisiadau canlynol ydych chi'n meddwl yw'r dull mwyaf effeithiol o gyflawni hyn?

  • Ehangu rôl bresennol Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn y gymuned fel ei fod hefyd yn gyfrifol am reoli trosglwyddiadau carchar/canolfan mewnfudo a symud
  • Creu rôl newydd o fewn NHSEI neu ar draws NHSEI a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i reoli proses drosglwyddo'r carchardai/canolfannau mewnfudo a symud
  • Dull arall posibl (rhowch fanylion)

[Testun rhydd – 100 gair]

  • Cwestiwn ymgynghori 21a: Rhowch resymau dros eich ateb

[Testun rhydd – 200 gair]

Pan nad oes gwely ysbyty ar gael a bod ar ddiffynnydd (h.y. person y mae achos troseddol neu sifil yn cael ei ddwyn yn ei erbyn) angen gofal a thriniaeth iechyd meddwl, gall llysoedd gael eu gorfodi i'w roi yn y carchar fel "lle diogel". Rydym am wneud yn siŵr bod lleoliadau eraill ar gael i roi diwedd ar ddefnyddio carchar fel lle diogel.

Cleifion dan Gyfyngiadau

Cleifion dan gyfyngiadau yw cleifion sy'n cael eu cadw mewn ysbyty o dan Ran III o'r Ddeddf ac sy'n ddarostyngedig i fesurau rheoli arbennig gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, oherwydd pryderon diogelwch.

I gleifion dan gyfyngiadau, rhaid i'r Clinigydd Cyfrifol ofyn am ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i roi caniatâd i'r claf adael, neu i drosglwyddo'r claf i ysbyty arall, neu i ryddhau'r claf. Cododd yr Adolygiad ei bryderon ynghylch aneffeithlonrwydd yn y system hon a oedd yn arwain at oedi rhag sicrhau'r caniatâd hwn. Ers hynny, rydym wedi gweithio i fynd i'r afael â hyn ac rydym eisoes yn gweld cynnydd cadarnhaol.

Gallwch ddarllen Pennod 8 y Papur Gwyn am drafodaeth ar ein dull o leihau oedi yn y system a'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma.

Cleifion a ryddheir yn amodol

Rhaid rhyddhau rhai cleifion dan gyfyngiadau nad ydynt bellach yn bodloni'r prawf statudol ar gyfer eu cadw mewn ysbyty. Gall hyn fod yn rhyddhad diamod. Neu, os yw'r Tribiwnlys neu'r Ysgrifennydd Cyfiawnder o'r farn bod hynny'n briodol, yn rhyddhad amodol.

Mae rhyddhad amodol yn caniatáu i gleifion symud i'r gymuned. Ond rhaid iddynt ddilyn amodau penodol, ac mae pŵer sy'n golygu y gellir eu galw'n ôl i'r ysbyty os yw'n angenrheidiol i amddiffyn y cyhoedd rhag niwed. Roedd 2,821 o gleifion a ryddhawyd yn amodol yn y gymuned yn 2019.

Mae cleifion a ryddheir yn amodol yn cael eu goruchwylio'n gyffredinol yn y gymuned gan seiciatrydd a goruchwyliwr cymdeithasol. Mae Goruchwyliaeth Gymdeithasol yn rôl bwysig, yn cydbwyso diogelwch y cyhoedd â gofal a chefnogaeth i gleifion a ryddheir yn amodol. Yn draddodiadol, gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol fu'n cyflawni'r rôl, er y gall gweithwyr proffesiynol eraill ymgymryd â hi hefyd. Ar hyn o bryd mae rhywfaint o ddryswch ynghylch pa weithwyr proffesiynol ddylai gyflawni'r rôl hon a diffyg arweiniad cenedlaethol ynghylch sut y dylai weithredu.

Cwestiwn ymgynghori 22: Mae cleifion a ryddheir yn amodol fel arfer yn cael eu goruchwylio yn y gymuned gan seiciatrydd neu oruchwyliwr cymdeithasol. Sut ydych chi'n meddwl y gellid cryfhau rôl y Goruchwylydd Cymdeithasol?

[Testun rhydd – 500 gair]

Rhyddhau carcharorion sydd wedi'u trosglwyddo gan y Bwrdd Parôl

Yn achos cleifion Rhan III sy'n cael eu trin mewn ysbyty iechyd meddwl ac sy'n bwrw dedfryd amhenodol neu ddedfryd oes, gall penderfyniadau ynghylch rhyddhau'r person o'r ysbyty a'i ryddhau o'r carchar fod yn gymhleth.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i'r Tribiwnlys ac yna'r Bwrdd Parôl ystyried penderfyniadau ynghylch rhyddhau o'r ysbyty a rhyddhau o'r carchar ar wahân, gan arwain at oedi.

Rydym yn gwneud gwaith i symleiddio prosesau ac i ganfod newidiadau gweithdrefnol i leihau oedi.

Rhoi'r pŵer i'r Tribiwnlys ryddhau rhywun ar amodau sy'n cyfyngu ar ryddid yn y gymuned

I nifer fach o gleifion dan gyfyngiadau, gall y risg y maent yn ei hachosi i eraill barhau i fod yn sylweddol pan nad ydynt mwyach yn elwa'n therapiwtigo gael eu cadw yn yr ysbyty. Rydym am wneud yn siŵr bod y risg y mae'r cleifion hyn yn ei hachosi yn cael ei rheoli yn y ffordd fwyaf priodol a lleiaf cyfyngol, gan symud yr unigolyn yn ei flaen ar hyd ei lwybr gofal.

I gyflawni hyn, rydym eisiau rhoi'r pŵer i'r Tribiwnlys i ryddhau cleifion dan gyfyngiadau i'r gymuned, o dan oruchwyliaeth a chydag amodau sy'n cyfyngu ar eu rhyddid.

Mae'r meini prawf ar gyfer gwneud hyn a'r mesurau diogelu y byddai'r claf yn gallu cael mynediad atynt wedi'u nodi ym Mhennod 8 y Papur Gwyn.

Gallwch hefyd ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ynghylch a ddylem wneud y pŵer rhyddhau newydd hwn yn bosibl a beth ddylai ei olygu.

Cwestiwn ymgynghori 23: I gleifion dan gyfyngiadau nad ydynt bellach yn elwa'n therapiwtig o gael eu cadw yn yr ysbyty, ond na ellid ond rheoli eu risg yn ddiogel yn y gymuned gyda goruchwyliaeth barhaus, credwn y dylai fod yn bosibl rhyddhau'r cleifion hyn i'r gymuned ar amodau sy'n cyfateb i amddifadu o ryddid. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno mai dyma'r ffordd orau o alluogi'r cleifion hyn i symud o'r ysbyty i'r gymuned?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 23a: Rhowch resymau dros eich ateb. [Testun rhydd – 500 gair]

Os ydych yn cytuno:

Cwestiwn ymgynghori 24: Rydym yn cynnig y byddai gorchymyn 'rhyddhau dan oruchwyliaeth' ar gyfer y grŵp hwn o gleifion yn destun adolygiad Tribiwnlys blynyddol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig hwn?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 25: Y tu hwnt i hyn, pa fesurau diogelu pellach sydd eu hangen yn eich barn chi?

[Testun rhydd – 500 gair]

Dioddefwyr cleifion nad ydynt dan gyfyngiadau

Rydym am wella lefel y wybodaeth a ddarperir i ddioddefwyr troseddwyr sy'n dod o dan y Ddeddf, nad oes ganddynt orchymyn cyfyngu, a sut mae'n cael ei rhannu.

Gweler Pennod 8 am fwy o fanylion am y gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y wybodaeth y mae ganddynt hawl iddi.

Pennod 9: Pobl ag Anabledd Dysgu a Phobl Awtistig

Rydym wedi ymrwymo i leihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau cleifion mewnol arbenigol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig ac i ddatblygu dewisiadau amgen yn y gymuned. Fel rhan o hyn, rydym am gyfyngu ar y gallu i gadw pobl ag anabledd dysgu neu bobl awtistig o dan y Ddeddf.

Mae anabledd dysgu ac awtistiaeth yn gyflyrau gydol oes, na ellir eu dileu drwy driniaeth. Rydym yn cydnabod y gall fod ar rai pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig angen triniaeth ar gyfer salwch meddwl ac rydym eisiau sicrhau bod pobl yn cael gofal diogel o ansawdd uchel sydd fwyaf priodol iddynt hwy.

Rydym yn cynnig newid y Ddeddf i fod yn gliriach nad yw awtistiaeth nac anabledd dysgu yn cael eu hystyried yn anhwylderau meddyliol at ddibenion y rhan fwyaf o bwerau o dan y Ddeddf. Ein cynnig yw caniatáu i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig gael eu cadw i'w hasesu, o dan adran 2 y Ddeddf, pan fydd eu hymddygiad yn dangos cymaint o gynnwrf fel bod risg sylweddol o niwed sylweddol i'r person neu i bobl eraill (fel sy'n wir am bob cyfnod cadw) a bod achos iechyd meddwl tebygol i'r ymddygiad hwnnw sy'n teilyngu asesiad yn yr ysbyty.

Os nad yw sbardun yr ymddygiad hwn yn cael ei ystyried yn gyflwr iechyd meddwl, er enghraifft ei fod i'w briodoli i angen am gymorth sydd heb ei ddiwallu, angen cymdeithasol neu emosiynol sydd heb ei ddiwallu, neu angen iechyd corfforol sydd heb ei ddiwallu (gan gynnwys poen heb ei drin), ni fyddai cyfiawnhad mwyach dros ei gadw'n gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a dylid rhoi'r gorau i'w gadw'n gaeth.

Gallwch ddarllen Pennod 9 y Papur Gwyn i gael rhagor o wybodaeth am y rhesymeg wrth wraidd y cynnig hwn a gallwch ateb cwestiynau'r ymgynghoriad:

Cwestiwn ymgynghori 26: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r diwygiadau arfaethedig i'r ffordd y mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn gymwys i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig:

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 26a: Rhowch resymau dros eich ateb

[500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 27: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod y diwygiadau arfaethedig yn darparu mesurau diogelu digonol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig pan nad oes ganddynt gyflwr iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 27a: Rhowch resymau dros eich ateb

– [500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 28: Ydych chi'n credu y byddai canlyniadau anfwriadol (negyddol neu gadarnhaol) i'r cynigion i ddiwygio'r ffordd y mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn gymwys i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig?

[Byddai/Na fyddai/Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 28a: Rhowch rhesymau dros eich ateb.

[Testun rhydd: 500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 29: Rydym yn meddwl dylai'r cynnig i newid y ffordd y mae'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl yn berthnasol i bobl gydag anawsterau dysgu a phobl awtistig ond effeithio ar gleifion sifil ac nid y sawl sydd yn y system cyfiawnder troseddol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 29a: Rhowch resymau dros eich ateb

[500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 30:

Ydych chi'n disgwyl y byddai goblygiadau anfwriadol (rhai cadarnhaol neu rai negyddol) ar y system cyfiawnder troseddol o ganlyniad i'n cynigion i ddiwygio'r ffordd mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn berthnasol i bobl ag anawsterau dysgu a phobl awtistig?

[Testun rhydd 500 gair]

Ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig, rydym am ei gwneud yn ofyniad statudol i'r Clinigydd Cyfrifol ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion a wnaed fel rhan o Adolygiadau Gofal a Thriniaeth yng Nghynllun Gofal a Thriniaeth y claf. Gwyddom fod Adolygiadau Gofal a Thriniaeth (neu Adolygiadau Gofal, Addysg a Thriniaeth yn achos plant) yn effeithiol o ran lleihau derbyniadau i ysbytai pan gânt eu cynnal yn gywir a phan weithredir arnynt. Dyna pam yr ydym am roi grym statudol iddynt.

Cwestiwn ymgynghori 31: Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y cynnig y dylai argymhellion Adolygiad Gofal a Thriniaeth ar gyfer oedolyn sy'n cael ei gadw neu Adolygiad Gofal, Addysg a Thriniaeth (CETR) ar gyfer plentyn sy'n cael ei gadw gael eu hymgorffori'n ffurfiol mewn Cynllun Gofal a Thriniaeth ac y bydd gofyn i glinigwyr cyfrifol egluro os nad yw argymhellion yn cael eu rhoi ar waith, yn cyflawni'r bwriad i gynyddu cydymffurfiad ag argymhellion Adolygiad Gofal, Addysg a Thriniaeth?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 31a: Rhowch resymau dros eich ateb.** [Testun rhydd 200 gair]

Sicrhau cyflenwad digonol o wasanaethau cymunedol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig

Rydym hefyd yn datblygu dyletswydd ar gomisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio i sicrhau bod cymorth a thriniaeth yn y gymuned yn cael eu darparu ar gyfer y grŵp hwn. Bydd hyn yn cael ei nodi yn y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Gallwch ateb cwestiynau'r ymgynghoriad ar y mater hwn:

Cwestiwn ymgynghori 32: Rydym yn cynnig creu dyletswydd newydd ar gomisiynwyr lleol (GIG a Llywodraeth Leol) i sicrhau bod y cyflenwad o wasanaethau cymunedol yn ddigonol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig hwn?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 32a: Rhowch resymau dros eich ateb. [500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 33: Rydym yn cynnig ategu hyn â dyletswydd bellach ar gomisiynwyr y dylai pob ardal leol ddeall a monitro'r risg o argyfwng ar lefel unigol i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn y boblogaeth leol drwy greu cofrestr "mewn perygl" neu "gefnogi" leol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig hwn?

[Cytuno'n gryf/ Cytuno/ Anghytuno/ Anghytuno'n gryf/ Ddim yn siŵr]

Cwestiwn ymgynghori 33a: Rhowch resymau dros eich ateb.

[500 gair]

Cwestiwn ymgynghori 34: Beth y gellir ei wneud i oresgyn unrhyw heriau o ran defnyddio cyllidebau cyfun ac adrodd ar wariant ar wasanaethau i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig?

[Testun rhydd 500 gair]

Pennod 10: Plant a Phobl Ifanc

Rydym eisiau cryfhau'r hawliau a'r gefnogaeth a gaiff plant a phobl ifanc pan fyddant yn dod o dan y Ddeddf.

Yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol, y bydd pob un ohonynt ar gael i blant a phobl ifanc, byddwn yn sicrhau bod Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn cael eu darparu i bob plentyn a pherson ifanc sy'n derbyn gofal iechyd meddwl fel claf mewnol, pa un a ydynt yn cael eu cadw o dan y Ddeddf ai peidio.

Gweler Pennod 10 am drafodaeth ar argymhellion yr Adolygiad ynghylch asesu 'cymhwysedd' plant a phobl ifanc i gydsynio i'w triniaeth feddygol eu hunain a gwneud penderfyniadau am eu gofal a'u triniaeth heb ganiatâd na gwybodaeth gan rieni.

Dymunwn ystyried yr argymhellion hyn yn llawn fel rhan o'n hadolygiad o'r Cod Ymarfer.

Pennod 11: Profiadau cymunedau lleiafrifoedd ethnig

Mae anghydraddoldebau amlwg yn bodoli ar draws gwasanaethau iechyd meddwl ac o dan y Ddeddf o ran pobl o gymunedau BAME, yn enwedig pobl Ddu Affricanaidd a Charibïaidd. Rydym yn gwneud cyfres o ddiwygiadau i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn:

  • Cyflwyno Fframwaith Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cleifion a Gofalwyr i wreiddio newid strwythurol a diwylliannol yn y ddarpariaeth gofal iechyd er mwyn gwella'r ffordd y mae cleifion o gefndiroedd ethnig amrywiol yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl ac yn ei brofi.

  • Datblygu eiriolaeth sy'n briodol yn ddiwylliannol ar gyfer pobl o bob cefndir ethnig a chymunedau, yn enwedig ar gyfer pobl Ddu Affricanaidd a Charibïaidd

  • Ymchwil sy'n ceisio cefnogi'r broses o wella canlyniadau iechyd meddwl ar gyfer pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Caiff y diwygiadau hyn eu cefnogi gan waith sy'n cael ei arwain gan NHSEI i wella amrywiaeth y gweithlu iechyd meddwl a chan y diwygiadau ehangach sy'n cael eu trafod yn y Papur Gwyn.

Rhan 2: Diwygio Polisi ac Ymarfer o amgylch y Ddeddf Newydd i Wella Profiad y Claf

Mae'r adran hon o'r Papur Gwyn yn disgrifio'r gwaith y mae'r Llywodraeth a'r GIG yn ei wneud ar hyn o bryd ac i'r dyfodol i sicrhau newidiadau er mwyn i bobl gael gwell profiadau o ofal.

Trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl

Mae Cynllun Tymor Hir y GIG yn amlinellu'r uchelgais i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl yn radical, er mwyn i gleifion gael gwell profiadau o ofal fel cleifion mewnol a gwell canlyniadau iechyd meddwl.

Mae'r trawsnewid hwn ar wasanaethau iechyd meddwl yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol sy'n codi i £2.3 biliwn bob blwyddyn erbyn 2023/24 ac mae'n cynnwys ffocws o'r newydd ar wasanaethau i bobl sydd â salwch meddwl difrifol ac ar wella'r ddarpariaeth gofal cymunedol. Mae'r uchelgeisiau yn cynnwys:

  • cynyddu nifer y staff ar wardiau cleifion mewnol aciwt – fel gweithwyr cymorth gan gymheiriaid, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol er mwyn lleihau'r amser sy'n cael ei dreulio yn yr ysbyty a gwella canlyniadau
  • cwtogi hyd arhosiad cleifion mewn sefydliadau iechyd meddwl aciwt i gleifion mewnol sy'n oedolion,
  • sefydlu diwylliant dysgu ar draws y GIG fel bod comisiynwyr a darparwyr yn sicrhau, pan fydd pethau'n mynd o chwith, bod problemau'n cael eu hosgoi yn y dyfodol.
  • sicrhau bod cymorth gofal mewn argyfwng iechyd meddwl ar gael i bawb bob amser drwy GIG 111 erbyn 2023 i 2024.
  • ehangu gwasanaethau cymunedol i gefnogi 370,000 o oedolion sydd â salwch meddwl difrifol er mwyn darparu mwy o gymorth i bobl yn y gymuned cyn bod angen gofal mewn argyfwng neu ofal fel claf mewnol arnynt, gan gynnwys o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Cefnogi pobl yn y gymuned

Yn ogystal ag uchelgeisiau'r Cynllun Tymor Hir i ehangu a gwella gofal iechyd meddwl cymunedol er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau presennol ac atal derbyniadau y gellir eu hosgoi, rydym yn awyddus i sicrhau bod gan yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth sydd mewn cysylltiad â thimau iechyd meddwl cymunedol, gofal cleifion mewnol a/neu wasanaethau cymdeithasol gynllun gofal o ansawdd uchel, wedi'i deilwra'n bersonol ar gyfer eu hanghenion.

Mae'r broses bresennol o ran darparu ôl-ofal yn y gymuned i gleifion sydd wedi cael eu rhyddhau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn gallu bod yn ddryslyd ac mae anghysondebau yn y ffordd y caiff ei wneud. Rydym am gynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar sut y dylid rhannu cyllidebau a chyfrifoldebau i dalu am ôl-ofal.

Gwella diwylliant wardiau ar gyfer cleifion a staff

Yn ogystal â gwella gwasanaethau iechyd meddwl, byddwn yn cymryd camau i greu'r diwylliant gorau ar wardiau i wella profiad cleifion. Rhan allweddol o hyn yw datblygu rhaglen Gwella Ansawdd sy'n canolbwyntio ar weithredu diwygiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Bydd hyn yn cael ei arwain gan NHSEI a'i nod fydd mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag ansawdd, profiad cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant.

Diogelwch a risg cleifion mewnol

Bydd diogelwch cleifion mewn gwasanaethau iechyd meddwl bob amser yn ystyriaeth hollbwysig. Ymrwymodd Cynllun Tymor Hir y GIG i Raglen Gwella Diogelwch Iechyd Meddwl newydd sy'n ceisio mynd i'r afael â materion diogelwch iechyd meddwl sydd â blaenoriaeth: diogelwch rhywiol i gleifion mewnol; lleihau ymarfer cyfyngol; a lleihau nifer yr achosion o hunanladdiadau a hunan-niweidio bwriadol.

Gallwch ddarllen Rhan 2 y Papur Gwyn i gael gwybod mwy am y gwaith sydd ar y gweill yn y meysydd blaenoriaeth hyn.

Byddwn yn gweithio i sicrhau nad yw mesurau diogelwch newydd i gleifion yn dod ar draul datblygu a chynnal amgylcheddau gwirioneddol therapiwtig sy'n helpu pobl i wella.

Gwella amgylchedd ffisegol y ward

Dylai sefydliadau cleifion mewnol gynnig amgylcheddau adsefydlu sy'n galluogi darparu gofal therapiwtig ac sy'n cefnogi adferiad cleifion.

Byddwn yn gwella amgylchedd ffisegol gwasanaethau iechyd meddwl, gan eu gwneud yn lleoedd llawer gwell i gleifion ac i staff. Fel rhan o hyn, byddwn yn rhoi diwedd ar ystafelloedd cysgu mawr, gan roi preifatrwydd eu hystafell eu hunain a'u hystafell ymolchi en-suite i gleifion. Mae'r Llywodraeth wedi rhwymo dros £400m at y diben hwn ac wedi nodi 1,200 o welyau a fydd yn cael eu huwchraddio fel hyn dros y pedair blynedd nesaf. Mae hwn yn gam pwysig tuag at wella diogelwch rhywiol mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac at roi terfyn ar dorri amodau llety un-rhyw.

Rydym hefyd yn buddsoddi i adeiladu ysbytai iechyd meddwl newydd fel rhan o raglen adeiladu ysbytai'r Llywodraeth.

Rôl y Comisiwn Ansawdd Gofal

Mae'r Comisiwn Ansawdd Gofal wedi adrodd yn gyson bod llawer o bobl yn parhau i gael gofal nad yw'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac nad yw'n gwarchod eu hawliau'n llwyr.

O ganlyniad i'r canfyddiadau hyn ac uchelgeisiau'r Cynllun Tymor Hir, bydd y Comisiwn yn adolygu sut mae'n asesu ffactorau sy'n cyfrannu at ansawdd gofal i gleifion mewnol, fel cynllun ffisegol wardiau, y gosodiadau a'r ffitiadau diogelwch a darparu llety un-rhyw.

Hefyd, bydd y Comisiwn yn gweithio gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, teuluoedd, darparwyr, staff rheng flaen a rhanddeiliaid eraill i wella'r ffordd y mae'n rheoleiddio gwasanaethau, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella diwylliant wardiau, o ystyried y rôl hollbwysig y gall hyn ei chwarae yn adferiad claf.

Darllenwch Ran 2 y Papur Gwyn i ddysgu mwy am y gwaith arall y mae'r Comisiwn yn ei wneud er mwyn helpu i wella profiad cleifion mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Gallwch hefyd ateb cwestiwn yr ymgynghoriad ar sut y gellid ymestyn rôl monitro'r Comisiwn.

Cwestiwn ymgynghori 35: Sut gallai'r Comisiwn Ansawdd Gofal gefnogi ansawdd (gan gynnwys diogelwch) gofal drwy ymestyn ei bwerau monitro?

[Testun rhydd – 500 gair]

Gwneud i ffwrdd â chelloedd yr heddlu fel 'lleoedd diogel'

Mae 'lle diogel' yn lle diogel dynodedig lle gellir mynd â phobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl a lle gellir cynnal asesiad iechyd meddwl.

Ar hyn o bryd, gellir mynd â phobl i gelloedd yr heddlu ar gyfer asesiad iechyd meddwl. Rydym am roi terfyn ar hyn a sicrhau, yn y dyfodol, yr eir â phawb sydd mewn argyfwng iechyd meddwl i amgylchedd clinigol, lle gallant gael y gofal a'r cymorth y mae arnynt eu hangen ar frys. Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio'r Ddeddf Iechyd Meddwl i roi'r gorau i ddefnyddio celloedd yr heddlu fel mannau diogel erbyn 2023/24.

Galluogi trosglwyddo gwell oddi wrth yr heddlu i'r gwasanaethau iechyd

Ar hyn o bryd, mae'r heddlu'n mynd â mwy o bobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl i'r ysbyty nag ambiwlans.

Mae Cynllun Tymor Hir y GIG yn ymrwymo i fuddsoddi er mwyn gwella capasiti a gallu'r gwasanaethau ambiwlans i ddiwallu'r galw am wasanaeth iechyd meddwl, gan helpu i osgoi defnyddio'r heddlu i gludo cleifion.

Y gweithlu iechyd meddwl

Mae ehangu a datblygu'r gweithlu iechyd meddwl yn hanfodol er cyflawni ein hymrwymiad i foderneiddio'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda NHSEI, Health Education England a rhanddeiliaid eraill i edrych ar ragor o ofynion cymorth cenedlaethol, gan gynnwys hyfforddi staff ar y newidiadau i'r Ddeddf, cydgynhyrchu ystyrlon a datblygu rolau arwain arbenigwr-drwy-brofiad o fewn darparwyr a systemau lleol.

Mae'r diwygiadau hyn, i raddau, yn cael eu cefnogi gan waith ehangach i ehangu a datblygu'r gweithlu iechyd meddwl fel rhan o Gynllun Tymor Hir y GIG. Fodd bynnag, rydym yn rhagweld y bydd angen ehangu'r gweithlu ymhellach er mwyn diwallu gofynion ychwanegol.

Rydym yn gweithio i gynyddu amrywiaeth y gweithlu iechyd meddwl i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y gymuned y mae'n ei gwasanaethu yn well. Mae hyn yn golygu gweithio i recriwtio mwy o bobl o gymunedau Du Affricanaidd a Charibïaidd i broffesiynau iechyd meddwl a'u cefnogi i godi i lefelau uwch.

Gwyddom fod gwella morâl staff yn bwysig er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion. Mae NHSEI yn gweithio i wella profiad staff ac felly brofiad cleifion drwy ei raglen Improving Health and Wellbeing.

Darllenwch Ran 2 y Papur Gwyn i gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau i ehangu a datblygu'r gweithlu iechyd meddwl.

Data a digidol

Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â gweithredu'r Ddeddf i sicrhau gwelliannau o ran casglu data ac o ran dulliau digidol newydd o ddarparu gwasanaethau. Mae hyn yn rhan hollbwysig o adeiladu gwasanaeth iechyd meddwl modern sy'n gallu ymateb yn fwy effeithlon i anghenion cleifion.

Mae'r uchelgais hwn wedi cael ei gyflymu yn ystod cyfnod y pandemig yn 2020, sydd wedi bod yn fodd i dynnu sylw at y manteision y gall digidol eu cynnig.

Asesiad Effaith

Ochr yn ochr â'r Papur Gwyn, rydym wedi cynhyrchu Asesiad Effaith lle rydym wedi amcangyfrif costau a manteision tebygol gweithredu'r newidiadau arfaethedig i'r Ddeddf.

Gallwch weld yr Asesiad Effaith yma. Gallwch hefyd ateb y cwestiwn ymgynghori:

Cwestiwn ymgynghori 36: Yn yr asesiad effaith, rydym wedi amcangyfrif costau a manteision tebygol gweithredu'r newidiadau arfaethedig i'r Ddeddf. Byddem yn ddiolchgar am unrhyw ddata neu dystiolaeth ychwanegol a fyddai, yn eich barn chi, o gymorth i'r Adrannau i wella'r dulliau a ddefnyddiwyd a'r amcangyfrifon sy'n deillio o hynny. Mae gennym ddiddordeb mewn derbyn data rhifiadol, dadansoddiadau cenedlaethol a lleol, astudiaethau achos neu gyfrifon ansoddol, etc, a allai fod yn sail i effaith y cynigion ar y canlynol:

  • Grwpiau proffesiynol gwahanol, yn benodol:
    • Sut y gallai'r cynigion effeithio ar lwyth gwaith presennol staff clinigol ac anghlinigol, Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol, Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl, Meddygon a Benodir i Roi Ail Farn etc
    • A yw'r cynigion yn debygol o gael unrhyw effeithiau eraill ar grwpiau penodol â diddordeb nad ydynt wedi cael eu hystyried ar hyn o bryd
  • Defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a'u ffrindiau, yn benodol:
    • Sut gallai'r cynnig effeithio ar ganlyniadau iechyd
    • y gallu i ddychwelyd i'r gwaith neu effeithiau ar unrhyw weithgarwch dyddiol arall
    • A yw'r cynigion yn debygol o gael unrhyw effeithiau eraill ar grwpiau penodol â diddordeb nad ydynt wedi cael eu hystyried ar hyn o bryd
  • Y system iechyd a gofal cymdeithasol a'r system gyfiawnder yn fwy cyffredinol.

Rhowch wybodaeth yn y bwlch isod.

[Testun rhydd 500 gair]

Ymateb i'r ymgynghoriad

Mae llawer o gwestiynau ac efallai na fyddwch yn dymuno ateb pob un ohonynt. Rydyn ni wedi creu [arolwg] er mwyn i chi allu ateb cynifer neu gyn lleied o gwestiynau ag y dymunwch chi.

Mae'r cwestiynau wedi'u rhannu'n adrannau/themâu. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 21 Ebril 2021. Yr ymgynghoriadhwn yw ein hymgynghoriad ffurfiol â'r cyhoedd.

  1. Dogfen a gynhyrchwyd gan y Llywodraeth yw Papur Gwyn, sy'n nodi cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol. 

  2. Ymdrinnir â'r swyddogaethau a gyflawnir yn Lloegr gan awdurdodaeth Iechyd Meddwl y Tribiwnlys Haen Gyntaf (a elwir fel arfer yn Dribiwnlys Iechyd Meddwl), gan dribiwnlys ar wahân yng Nghymru, sef Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Mae hwn yn Dribiwnlys Cymreig datganoledig o dan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac fe'i gweinyddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi mai dim ond at y Tribiwnlys Iechyd Meddwl yn Lloegr y mae'r ymateb i'r argymhellion yn y Papur Gwyn hwn yn cyfeirio, ac nid at Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.