Canlyniad yr ymgynghoriad

Lefelau gwasanaeth gofynnol mewn achos o streic: gwasanaethau ambiwlans

Applies to England, Scotland and Wales

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Dadansoddwyd cyfanswm o 150 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar-lein a chafwyd adborth manwl pellach gan gyflogwyr, undebau llafur, elusennau a grwpiau cynrychioliadol eraill yn ysgrifenedig ac fel rhan o bedwar gweithdy ymgynghori rhyngweithiol.

Yn gyffredinol, dangosodd yr ymgynghoriad, er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (76%) yn anghytuno â’r egwyddor o gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol (MSL) deddfwriaethol yn y gwasanaeth ambiwlans, roedd llawer ohonynt yn cydnabod bod materion a risgiau’n gysylltiedig â’r dull presennol o gytuno ar randdirymiadau sail wirfoddol.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, a phwyso a mesur y pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad ynglŷn â’r risg i fywyd ac iechyd a ddaw yn sgil gweithredu diwydiannol yn y gwasanaeth ambiwlans, mae’r llywodraeth wedi penderfynu cyflwyno MSLs yn y gwasanaethau ambiwlans.

See the English version of the government response for:

  • respondent frequency data tables
  • respondent and population demographics data tables
  • impact assessment
  • equality impact assessment

Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn awyddus am farn pobl am lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wrth basio Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) i sicrhau yr amddiffynnir diogelwch cleifion.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AIGC) yn awyddus am safbwyntiau wrth basio Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) ynghylch, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan y Senedd, cyflwyno rheoliadau ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi lefelau gwasanaeth gofynnol yn y gwasanaeth iechyd yn ystod streiciau er mwyn amddiffyn diogelwch cleifion.

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i ymgynghori ar weithredu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau’r rheilffordd, ambiwlans a thân. Yn y maes iechyd, ein bwriad yw y byddai lefelau gwasanaeth gofynnol yn amddiffyn gallu gweithwyr i streicio ac amddiffyn bywyd ac iechyd ar yr un pryd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gymorth i wneud penderfyniad ynglŷn â pha wasanaethau iechyd y dylid eu cynnwys yn y rheoliadau. Ein cynnig yw y dylai gwasanaethau ambiwlans fod wedi’u cynnwys yn y rheoliadau â blaenoriaeth. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gymorth i wneud penderfyniad ynglŷn â pha wasanaethau iechyd y dylid eu cynnwys, a manylion y lefelau gwasanaeth gofynnol sydd eu hangen yn y gwasanaeth ambiwlans.

Y gynulleidfa darged yw:

  • y cyhoedd
  • undebau llafur
  • cyflogwyr gwasanaeth ambiwlans y GIG
  • cyflogwyr eraill y GIG a’r gwasanaeth iechyd
  • sefydliadau cynrychiadol a chyrff cyhoeddus
  • pob gweithiwr o fewn y gwasanaethau ambiwlans ac iechyd

Bydd asesiad effaith ar gydraddoldeb ac asesiad effaith yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Dogfennau

Cyhoeddwyd ar 14 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 November 2023 + show all updates
  1. Added the government response.

  2. First published.