Skip to main content
Ymgynghoriad agored

Ymgynghoriad: Dyfodol y ffordd y ceir gwybodaeth gan Gofrestrfa Tir EF

Diweddarwyd 11 Tachwedd 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Am yr ymgynghoriad hwn

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar becyn o gynigion i gynyddu gwerth cyhoeddus data Cofrestrfa Tir EF (CTEF) a gwella’r ffordd y ceir gwybodaeth am berchnogaeth tir, gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol yn eu lle. Mae’r cynigion yn rhoi sylw i set data perchnogaeth newydd, newidiadau i drefniadau cael gwybodaeth a chodi tâl, cael gwybodaeth er budd y cyhoedd, cyflymu cofrestru tir, a phwerau posibl i gyflwyno mesurau diogelu neu gyfyngu ar wybodaeth lle mae tystiolaeth o risg sylweddol o niwed.

Cyhoeddir yr ymgynghoriad gan CTEF, ar ran ac ar y cyd â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (GTCLlL) a’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Mae’n ceisio tystiolaeth ar fanteision, risgiau ac effeithiau’r cynigion a bydd yn llywio gwneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol, gweithredu ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol.

Cwmpas yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr.

Hyd yr ymgynghoriad

Mae’r cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 27 Hydref 2026 a bydd yn para tan 22 Rhagfyr 2026.

Ymgynghoriad cysylltiedig: Ailstrwythuro Ffïoedd Cofrestrfa Tir EF

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn, mae CTEF hefyd yn ymgynghori ar gynigion sy’n ymwneud â symleiddio’r model ffïoedd presennol sydd wedi ei gynnwys yng Ngorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2024. Er bod yr ymgynghoriadau’n rhoi sylw i feysydd gwaith gwahanol, mae’r ddau yn cefnogi ein huchelgais ehangach i wella’r gallu i gael gwybodaeth ddibynadwy am dir ac eiddo. Anogwn ymatebwyr i gyfrannu at yr ymgynghoriad Ailstrwythuro Ffïoedd Cofrestrfa Tir EF a rhannu eu barn ar y cynigion a nodir ynddo.

Sut rydym yn ymgynghori

Egwyddorion ymgynghori

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori diwygiedig Swyddfa’r Cabinet a gyhoeddwyd ym Mawrth 2018. Mae’r egwyddorion hyn yn rhoi cyfarwyddyd clir i adrannau’r llywodraeth ar sut i gynnal ymgynghoriadau.

Adborth ar y broses ymgynghori

Gwerthfawrogwn eich adborth ar ba mor dda rydym yn ymgynghori. Os oes unrhyw sylwadau gennych am y broses ymgynghori (yn hytrach na sylwadau am y materion sy’n destun yr ymgynghoriad), gan gynnwys os ydych yn teimlo bod yr ymgynghoriad heb gadw at y gwerthoedd a fynegir yn yr egwyddorion ymgynghori neu y gellid gwella’r broses, anfonwch ebost at

futureaccessconsultation@landregistr.gov.uk neu ysgrifennwch at:

Policy Team
HM Land Registry
7th Floor
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

Data personol

Trwy ymateb i’r ymgynghoriad hwn, rydych yn cydnabod y caiff y data a rowch eu prosesu yn unol â siarteri gwybodaeth bersonol CTEF, GTCLlL a Defra.

Caiff yr holl adborth ei drin yn gyfrinachol ac ni fydd unrhyw beth a fyddai’n eich adnabod chi neu’ch sefydliad yn cael ei gynnwys mewn unrhyw adroddiad neu ddadansoddiad cyhoeddedig.

Mae CTEF a GTCLlL yn bwriadu defnyddio teclyn deallusrwydd artiffisial (AI) o’r enw Consult i gynorthwyo’r dadansoddiad. Mae’r teclyn wedi ei gynnal yn yr Adran Busnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach (BAGM). Bydd CTEF a GTCLlL yn penodi BAGM yn ‘brosesydd data’, gan weithredu ar ran yr Adrannau ac o dan ein cyfarwyddyd, i helpu i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Lle byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod prosesu eich data personol yn parhau i fod yn hollol unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data.

Bydd CTEF a GTCLlL yn cymryd camau rhesymol a chymesur i atal data personol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad rhag cael eu hanfon at Consult. Mae’r teclyn deallusrwydd artiffisial yn prosesu data mewn modd diogel ac nid yw’n copïo neu’n rhannu data. Dim ond y rhai sydd wedi eu hawdurdodi i wneud hynny fydd yn gallu cael gafael ar y data a’u defnyddio.

Mae’r teclyn deallusrwydd artiffisial yn nodi’r themâu sy’n bresennol yn yr ymatebion. Caiff y themâu drafft eu hadolygu a’u cytuno gan dîm polisi cyn bod y teclyn yn mapio’r ymatebion i’r themâu sydd i’w defnyddio gan dimau polisi i ddadansoddi’r ymgynghoriad. Bydd CTEF a GTCLlL yn cymryd camau i wirio cywirdeb ac adnabod a lleihau tuedd. Ni chaiff eich data eu defnyddio i hyfforddi’r modelau deallusrwydd artiffisial.

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Fe’ch anogwn yn gryf i ymateb trwy ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Mae defnyddio’r arolwg ar-lein yn ein helpu i dadansoddi’r ymatebion, gan gynnig ystyriaeth fwy effeithlon ac effeithiol o’r wybodaeth a ddarperir. Os nad oes modd ichi ddefnyddio’r arolwg ar-lein, cysylltwch â ni i drafod fformatau eraill trwy anfon ebost neu ysgrifennu atom.

neu

Anfonwch ebost at:

futureaccessconsultation@landregistr.gov.uk

Ysgrifennwch at:

Policy Team
HM Land Registry
7th Floor
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

Gwahoddir pob aelod o’r cyhoedd i ymateb, ynghyd â sefydliadau megis awdurdodau lleol, cyrff cynrychioliadol, cymunedau a busnesau. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn yr hyn y byddai’r cynigion hyn yn ei olygu ichi yn eich cyd-destun chi.

Os ydych yn darparu ymateb, cyfeiriwch at ein hysbysiad preifatrwydd. Os ydych yn ateb unrhyw gwestiynau trwy ddefnyddio blwch testun rhydd, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol sensitif yn eich ateb. Dylech ymateb i’r ymgynghoriad hwn dim ond os ydych dros 18 oed.

Y camau nesaf

Byddwn yn cyhoeddi ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad polisi ar GOV.UK.

Rhagair gan y Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir

Mae CTEF yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal hyder mewn perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr. Mae’r gofrestr teitl yn darparu cofnod dibynadwy o berchnogaeth, hawliau a buddion sy’n effeithio ar dir. Mae’n sail i’r farchnad eiddo, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac yn helpu pobl, busnesau a chymunedau i ddeall pwy sy’n berchen ar dir a sut y caiff ei ddefnyddio.

Mae gallu cael gwybodaeth ddibynadwy am dir ac eiddo yn gynyddol bwysig. Gall gwella’r gallu i gael gafael ar ddata CTEF gefnogi twf economaidd, adeiladu tai, cynllunio lleol, adfywio, ymchwil, newyddiaduraeth er budd y cyhoedd a gweithgarwch cymunedol. Gall hefyd helpu’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth a darparu gwasanaethau mewn modd mwy effeithiol.

Mae bod yn agored wedi bod yn rhan bwysig o’r system cofrestru tir erioed. Fodd bynnag, rhaid i gynyddu’r gallu i gael gwybodaeth gael ei wneud mewn modd gofalus a chyfrifol. Rydym yn cydnabod yr angen i gydbwyso tryloywder, budd cyhoeddus a chyfle economaidd gydag ystyriaethau diogelu data, preifatrwydd a diogelwch. Bydd y dystiolaeth a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddeall y manteision, risgiau a chyfaddawdau hynny, a llywio unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol.

Rydym yn croesawu barn aelodau’r cyhoedd, perchnogion tir, busnesau, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, ymchwilwyr, sefydliadau cymunedol, defnyddwyr proffesiynol ac unrhyw un sydd â budd mewn perchnogaeth tir a gallu cael gwybodaeth am dir. Bydd eich tystiolaeth a’ch profiad yn hanfodol i’n helpu i lunio cynigion sy’n ddefnyddiol, cymesur a dibynadwy.

Rwy’n eich annog i ddarllen y cynigion yn ofalus a rhannu eich barn. Bydd pob ymateb yn cael ei ystyried wrth inni ddatblygu ein hargymhellion a pharhau i wella’r gallu i gael gwybodaeth ddibynadwy am dir ac eiddo mewn ffordd sy’n cynnal tryloywder, yn diogelu unigolion ac yn creu gwerth cyhoeddus.

Diolch am gymryd yr amser i gyfrannu.

Iain Banfield

Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir
Cofrestrfa Tir EF

Rhageiriau Gweinidogol

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw un o’n casgliadau pwysicaf o ddata tir ac eiddo. Gall y wybodaeth hon helpu i ddatgloi twf economaidd, cefnogi adeiladu tai, cryfhau cynllunio ac adfywio lleol, gwella gwasanaethau cyhoeddus, a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o sut y mae tir yn cael ei berchen a’i ddefnyddio. Dyna pam ei bod yn bleser gen i lansio’r ymgynghoriad hwn ar ddyfodol y ffordd y ceir gwybodaeth gan Gofrestrfa Tir EF.

Nod y cynigion yw sicrhau gwerth cyhoeddus mwyaf yr ased hwn sy’n bwysig ar lefel genedlaethol, gan helpu’r llywodraeth, busnesau, ymchwilwyr a’r cyhoedd i wneud penderfyniadau mwy gwybodus. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn y materion hyn i rannu ei farn a helpu i lunio dyfodol gwybodaeth am dir yng Nghymru a Lloegr.

Y Farwnes Taylor o Stevenage OBE

Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Roedd Fframwaith Defnydd Tir y Llywodraeth yn glir bod yn rhaid inni fod yn fwy strategol yn y ffordd rydym yn defnyddio tir yn y wlad hon – er mwyn inni allu cyflawni ein nodau ar gyfer tai a datblygu, ynni gwyrdd, diogelwch bwyd, adfer byd natur ac addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae ein cofrestr tir yn chwarae rôl bwysig o ran ein helpu i gynllunio a darparu gwasanaeth mewn modd strategol a chydweithredol. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Chofrestrfa Tir EF i gynyddu’r gallu i gael gwybodaeth am berchnogaeth tir ac annog cwblhau’r gofrestr tir. Gwyddom fod y mwyafrif o’r tir digofrestredig yn dir amaethyddol; felly rydym am weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i’w hannog i gofrestru eu tir, tra ar yr un pryd sicrhau bod cymorth parhaus ar gael i ffermwyr tenant sy’n chwarae rôl mor allweddol wrth sicrhau diogelwch bwyd ein cenedl a darparu nwyddau amgylcheddol.

Stephen Morgan AS

Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Cefndir a chyd-destun

Cefndir i CTEF

Prif swyddogaeth statudol CTEF yw cynnal y gofrestr teitl i dir yng Nghymru a Lloegr, gan ddarparu cofnod dibynadwy a hygyrch i’r cyhoedd o berchnogaeth tir a buddion sy’n effeithio ar dir. Gwnawn hyn yn bennaf trwy gofrestri teitl, sy’n cofnodi manylion perchnogaeth, gan gynnwys enwau perchnogion a hawliau a rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n effeithio ar y tir—er enghraifft, hawliau i groesi tir cymdogion, hawliau ar gyfer llwybrau neu lwybrau mynediad, cyfyngiadau ar ddatblygu, a morgeisi—a chynlluniau teitl, sy’n dangos ffiniau cyffredinol tir cofrestredig.

Model ffïoedd a chodi tâl CTEF

Mae CTEF yn cael ei hariannu gan y ffïoedd  a godir am ei gwasanaethau, gan gynnwys ar gyfer cofrestru, newidiadau i’r gofrestr, ceisiadau am ddogfennau a gallu cael gwybodaeth y mae CTEF eisoes yn ei chadw. Gall cwsmeriaid archwilio cofrestr teitl neu gynllun teitl i ddarllen yr hyn y mae’n ei ddweud trwy dalu ffi, er enghraifft er mwyn deall perchnogaeth, hawliau, cyfyngiadau neu fuddion eraill sy’n effeithio ar dir. Gallant brynu Copi Swyddogol hefyd, sef copi swyddogol a gyhoeddir gan CTEF a ddefnyddir fel rheol fel tystiolaeth at ddibenion cyfreithiol, trawsgludo neu ddibenion ffurfiol eraill. Daw’r rhan fwyaf o incwm gwasanaeth gwybodaeth o Gopïau Swyddogol a ddefnyddir mewn trafodion eiddo, a daw peth incwm o ffïoedd  archwilio at ddefnyddiau eraill.

Roedd Gorchymyn Ffi diweddaraf CTEF (2024) wedi cynyddu ffïoedd  gwasanaeth gwybodaeth gan £4, y cynnydd cyntaf mewn mwy na 10 mlynedd. Ar hyn o bryd rhaid talu ffi o £7 ar gyfer pob dogfen teitl y Gofrestrfa Tir i’w harchwilio ar-lein. Roedd y cynnydd yn adlewyrchu costau rhedeg a gwella gwasanaethau CTEF, gan gynnwys cynlluniau i gynyddu digideiddio data. Roedd hefyd yn cefnogi nod CTEF i barhau’n niwtral yn fras o ran cost i’r trethdalwr dros y tymor hir. Fodd bynnag, wrth i ffïoedd  ar gyfer gallu cael gwybodaeth gynyddu, mae’n bwysig ystyried lle gallai’r ffïoedd  hynny fod yn rhwystr i gynyddu gwerth cyhoeddus data CTEF.

Setiau data cyhoeddus CTEF

Mae CTEF hefyd yn cyhoeddi data cyhoeddus a gynhyrchir trwy ddefnyddio’r cofrestri teitl a chynlluniau teitl. Yn 2016, rhyddhawyd data yn rhad ac am ddim o dan drwydded ar berchnogaeth 16% o’r teitlau ar y gofrestr, sef y rhai sydd ym mherchnogaeth cwmnïau’r DU a chwmnïau neu gyrff corfforaethol sydd heb fod yn y DU. Mae CTEF yn amcangyfrif bod y setiau data hyn ar dir sydd ym mherchnogaeth cwmnïau yn rhoi hwb i Werth Ychwanegol Gros (GVA) y DU o rhwng £77 miliwn i £139 miliwn y flwyddyn, yn ôl prisiau 2025.

Mae dadansoddiad GTCLlL a’r ymgysylltu â budd-ddeiliaid wedi dangos y bydd cynyddu ymhellach y gallu i gael gafael ar ddata CTEF yn cynyddu ei gyfraniad at dwf economaidd, effeithlonrwydd y farchnad dir, llunio polisïau, rheoleiddio, cynllunio ac adfywio llywodraeth leol, cyflawni dyletswyddau statudol a dealltwriaeth y cyhoedd o berchnogaeth tir.

Ein cynigion

Mae’r cynigion sy’n destun yr ymgynghoriad yn targedu’r manteision hyn gan geisio cynnal incwm ffïoedd  CTEF a lliniaru effeithiau diogelu data. Y cynigion yw:

  • Cyhoeddi set ddata newydd o berchnogion daliadau tir sylweddol ar y gofrestr.
  • Galluogi defnyddwyr yn y sector cyhoeddus i gael gwybodaeth a gedwir ar gofrestri teitl CTEF yn ddi-dâl.
  • Galluogi pob defnyddiwr i gael gwybodaeth a gedwir ar gofrestri teitl CTEF sy’n ymwneud â daliadau tir sydd ym mherchnogaeth fasnachol a daliadau tir sylweddol yn ddi-dâl.
  • Estyn y trefniadau sydd gan y sector cyhoeddus ar gyfer cael gwybodaeth i ddefnyddwyr eraill sydd ag amcanion budd y cyhoedd.
  • Cyflymu cwblhau’r gofrestr teitl trwy ystyried opsiynau megis cysylltu taliadau defnydd tir y llywodraeth â chofrestru’r tir.

Ochr yn ochr â’r cynigion penodol hyn, mae’r llywodraeth hefyd yn ceisio barn ynghylch a ddylai CTEF gael pwerau i atal neu gyfyngu ar y gallu i gael gwybodaeth mewn amgylchiadau cyfyngedig lle mae tystiolaeth glir o risg.

Gwerth cynyddu’r gallu i gael data perchnogaeth

Nod y cynigion hyn yw ceisio cynyddu gwerth cyhoeddus data CTEF. Fel y nodir isod, gallent gefnogi twf economaidd, adeiladu tai, effeithlonrwydd y farchnad dir, llunio polisïau ac ymyriadau’r llywodraeth, gweithgarwch cymunedol, a newyddiaduraeth ac ymchwil er budd y cyhoedd. Cefnogir hyn gan dystiolaeth ansoddol o’r ymgysylltu â budd-ddeiliaid, ymchwil desg, ac ymatebion i ymgynghoriad Fframwaith Defnydd Tir y Llywodraeth, yn ogystal â thystiolaeth feintiol ar werth setiau data perchnogaeth gyhoeddus presennol CTEF.

Gallai manteision sylweddol gynnwys:

  • Twf economaidd: Gallai hwyluso cael gafael ar ddata perchnogaeth am lai o gost alluogi busnesau, yn enwedig ym maes datblygu eiddo, PropTech a sectorau cysylltiedig, i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, lleihau costau ymchwil a dod ag arloesiadau i’r farchnad yn gyflymach. Fel y dangosir gan fentrau data agored blaenorol, gallai gwybodaeth am berchnogaeth sydd ar gael yn haws greu cyfleoedd masnachol newydd a helpu i greu swyddi. Mae CTEF yn amcangyfrif bod ei setiau data perchnogaeth gyhoeddus presennol eisoes yn cynhyrchu £77 miliwn i £139 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros, gyda mwy o enillion yn bosibl wrth i’r gallu i gael gwybodaeth a chwmpas y wybodaeth gynyddu (gweler hefyd Atodiad B).
  • Adeiladu tai: Mae data perchnogaeth yn fewnbwn pwysig ar gyfer nodi, cydosod a hyrwyddo safleoedd datblygu, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau cyflenwi tir tai ac adfywio awdurdodau lleol. Gallai estyn y gallu i gael gafael ar ddata perchnogaeth a chynyddu’r cwmpas leihau’r amser a’r gost sy’n gysylltiedig â pharatoi safleoedd i’w datblygu a chefnogi cynlluniau cyflenwi tai mwy effeithlon. Roedd yr ymatebion i ymgynghoriad Fframwaith Defnydd Tir y Llywodraeth wedi nodi bod data perchnogaeth yn hanfodol ar gyfer cynllunio’r defnydd o dir a lleihau’r rhwystrau i ddatblygu ar draws ardaloedd gofodol mwy.
  • Effeithlonrwydd y farchnad dir: Gallai hwyluso cael gwybodaeth am berchnogaeth a gwybodaeth arall am deitlau leihau anghymesuredd gwybodaeth o fewn marchnadoedd tir ac eiddo, gan helpu prynwyr a chyfranogwyr eraill yn y farchnad i wneud penderfyniadau mwy gwybodus. Gallai hyn wella tryloywder yn y farchnad, lleihau costau trafodion a chefnogi trafodion tir mwy effeithlon. Roedd yr ymatebion i ymgynghoriad Fframwaith Defnydd Tir y Llywodraeth hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd cael data perchnogaeth sy’n gallu rhyngweithredu â setiau data geo-ofodol eraill er mwyn gwella dealltwriaeth o’r farchnad a gwneud penderfyniadau gwell.
  • Cynllunio gofodol strategol: Gallai cael data perchnogaeth mwy cynhwysfawr a hygyrch gefnogi cynllunio strategol gwell trwy helpu penderfynwyr i ddeall pwy sy’n berchen ar dir a sut mae parseli gwahanol yn ymwneud â blaenoriaethau gofodol ehangach. Gallai hyn ei gwneud hi’n haws cynllunio ar draws ardaloedd mwy, nodi cyfleoedd ar gyfer tai a seilwaith, a chefnogi defnydd o dir sy’n cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys cynhyrchu bwyd domestig, adfer byd natur, ynni glân, cydnerthedd rhag newid hinsawdd a thwf economaidd.
  • Llunio polisïau a’r llywodraeth: Gallai cael data perchnogaeth mwy cynhwysfawr a hygyrch helpu’r llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol i ddeall patrymau perchnogaeth tir ac eiddo yn well a helpu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Gallai hyn gefnogi gwaith ar gyflenwi tai, cynllunio strategol, adfywio, cyflenwi seilwaith, datblygu economaidd, gwella’r amgylchedd, monitro cyflwr safleoedd gwarchodedig, ac atal cyllid anghyfreithlon a throseddau gwastraff. Adroddodd budd-ddeiliaid y gallai cynyddu’r gallu i gael gwybodaeth alluogi mathau o ddadansoddi sy’n anodd neu’n afresymol o ddrud ar hyn o bryd.
  • Datganoli a gwneud penderfyniadau yn lleol: Gallai data perchnogaeth mwy cynhwysfawr a hygyrch helpu Awdurdodau Strategol Maerol, awdurdodau cyfun, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am dai, seilwaith, adfywio a’r defnydd o dir. Gallai gwella’r gallu i weld patrymau perchnogaeth helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer trefniadau cydosod tir strategol, cydlynu buddsoddiad ar draws ffiniau gweinyddol a helpu i gyflawni blaenoriaethau twf lleol. Wrth i sefydliadau datganoledig gymryd mwy o gyfrifoldebau dros gynllunio a datblygu economaidd, gallai gwella’r gallu i gael gwybodaeth am berchnogaeth gryfhau’r gallu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi ymyriadau mwy effeithiol sy’n seiliedig ar le.
  • Troseddau economaidd a diogelwch gwladol: Gall gwella gallu’r sector cyhoeddus a defnyddwyr budd y cyhoedd i gael data perchnogaeth ategu gallu asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau eraill, ac yn pen draw, gefnogi camau gorfodi yn erbyn troseddau economaidd. Bydd hyn yn gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth actorion gwladol ac endidau sy’n gysylltiedig â hwy o batrymau perchnogaeth tir ac eiddo yn y DU. Gall hyn gefnogi amcanion diogelwch gwladol, cydymffurfio â sancsiynau, a nodi crynodiadau strategol o berchnogaeth lle y gallai fod angen craffu mwy manwl.
  • Gweithgarwch cymunedol: Mae sefydliadau cymunedol yn defnyddio data perchnogaeth i gefnogi gweithgareddau gan gynnwys tai dan arweiniad y gymuned, prosiectau ynni, gwaith adfer ecolegol, cynhyrchu bwyd a diogelu asedau cymunedol. Gallai lleihau costau cael gwybodaeth ehangu defnydd yn sylweddol ymysg grwpiau sy’n aml yn sensitif iawn i brisiau, gan helpu i gefnogi cydweithio a chyfranogiad lleol.
  • Newyddiaduraeth ac ymchwil er budd y cyhoedd: Gallai mwy o dryloywder gefnogi ymchwil a chraffu ar faterion megis tai, y defnydd o dir, anghydraddoldeb cyfoeth, taliadau rheoli tir a chyllid anghyfreithlon. Mae newyddiadurwyr, academyddion a budd-ddeiliaid eraill wedi dweud bod costau cael gwybodaeth yn rhwystr mawr i’r gwaith hwn.

Ar draws yr ymgysylltu â budd-ddeiliaid ac ymgynghoriad Fframwaith Defnydd Tir y Llywodraeth, roedd cefnogaeth gref i ddata perchnogaeth tir sy’n agored, fforddiadwy, rhyngweithredol a hawdd eu defnyddio ochr yn ochr â setiau data eraill, gan gydnabod pwysigrwydd mesurau diogelu cymesur i ddiogelu preifatrwydd a gwybodaeth sensitif.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

1. Cwestiynau amdanoch chi

1. Beth yw eich enw chi?

2. 1. Beth yw eich cyfeiriad ebost (dewisol) neu rif ffôn symudol?

3. 1. Ydych chi’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn fel unigolyn neu’n cyflwyno ymateb ar y cyd gan grŵp?

  • a. unigolyn
  • b. ymateb ar y cyd ar ran cwmni, elusen, corff cyhoeddus neu sefydliad arall

(3.1 – os ydych chi’n ymateb ar ran cwmni, elusen, corff cyhoeddus neu sefydliad arall) Beth yw eich enw chi neu enw eich sefydliad / y grŵp rydych yn cyflwyno ymateb ar ei ran?

(3.2 Os ydych chi’n cyflwyno ymateb ar y cyd) Rhowch grynodeb o’r bobl neu’r sefydliadau rydych yn eu cynrychioli a phwy arall rydych wedi ymgynghori â nhw er mwyn dod i’r casgliadau yn eich ymateb?

4. Pa un o’r canlynol sy’n eich disgrifio chi orau?

  • aelod o’r cyhoedd
  • perchennog tir
  • ffermwr/busnes fferm
  • ffermwr tenant
  • cyfreithwyr neu gwmni trawsgludo
  • hyrwyddwr tir
  • awdurdod llywodraeth leol
  • gwasanaeth arall y llywodraeth
  • syrfëwr siartredig
  • cwmni eiddo (e.e. gwerthwr tai, datblygu eiddo, adeiladu, asiant neu gynghorydd tir)
  • academydd/ymchwilydd PropTech
  • cyfleustodau
  • cymdeithas tai
  • bancio, cyllid, neu sefydliad buddsoddi-ariannol
  • cwmni prosesu data, neu gyfryngwr chwilio
  • melin drafod
  • grŵp buddiant/ymgyrchu/sefydliad gwleidyddol
  • proffesiynol arall
  • arall – nodwch os gwelwch yn dda

5. Beth yw rhan gyntaf eich cod post? Os ydych chi’n ymateb ar ran cwmni neu sefydliad, beth yw rhan gyntaf cod post y brif swyddfa? [rhowch y 3-4 nod cyntaf yn unig]

2. Set ddata newydd o berchnogion daliadau tir sylweddol

Ein cynnig

Fel y cyhoeddwyd yn y ddogfen ddiweddar Fframwaith Defnydd Tir y Llywodraeth, mae CTEF yn ystyried cyhoeddi set ddata newydd gyda gwybodaeth am berchnogion rhydd-ddaliol daliadau tir sylweddol. Bwriedir iddo gwmpasu’r rhan fwyaf o dir nad yw eisoes wedi ei gynnwys mewn setiau data perchnogaeth presennol, gan eithrio bron pob perchentyaeth. Ar hyn o bryd nid oes gan CTEF rif adnabod unigryw ar gyfer pob perchennog tir, felly nid oes modd seilio’r trothwy ar gyfanswm daliadau tir pob unigolyn ar draws ei holl eiddo.

Rydym yn cynnig poblogi’r set ddata gan ddefnyddio trothwy arwynebedd ar gyfer pob teitl unigol, a hefyd o bosib, ddefnyddio data ar gyfer pa eiddo sy’n cynnwys cyfeiriadau preswyl er mwyn hidlo perchnogion tai.

Rydym yn cynnig y byddai’r set ddata yn debygol o fod yn debyg i’r data sydd eisoes wedi eu cyhoeddi ar gwmnïau’r DU sy’n berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr o ran fformat a hygyrchedd. Er enghraifft, angen mewngofnodi i lawrlwytho, bod yn rhad ac am ddim o dan drwydded, a chael ei chyhoeddi’n fisol. Byddem hefyd yn ceisio cynnwys y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn gallu rhyngweithredu a mapio’r data.

Pam rydym yn ei gynnig

Dangosodd dadansoddiad CTEF fod rhwng £77 miliwn a £139 miliwn o werth economaidd blynyddol wedi cael ei ddatgloi yn dilyn rhyddhau data cwmnïau’r DU a thramor. Fodd bynnag, nid yw oddeutu 70% o dir cofrestredig yn ôl arwynebedd wedi ei gynnwys yn y setiau data hyn, ac mae gwybodaeth am berchnogaeth ar gyfer y tir hwnnw ar gael trwy gofrestri teitl yn unig ar hyn o bryd, wedi eu lawrlwytho fel ffeiliau PDF fel rheol ar ôl talu ffi fesul dogfen. Gallai rhyddhau set ddata alluogi defnyddiau newydd fel y nodir uchod, megis integreiddio mewn PropTech a dadansoddi patrymau perchnogaeth. Trwy ganolbwyntio ar ddaliadau tir sylweddol, gallai’r setiau data cyhoeddus rhad ac am ddim ar y cyd gwmpasu’r rhan fwyaf o dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, gan eithrio bron pob perchentyaeth.

Byddai’r set ddata daliadau tir sylweddol yn cynyddu cwmpas setiau data perchnogaeth cyhoeddedig CTEF o oddeutu 30% o dir ac 16% o deitlau ar draws Cymru a Lloegr i hyd at 95% o dir a 21% o deitlau. Amcangyfrifwn os ydym yn cymryd nad yw gwybodaeth am berchnogaeth teitlau mwy yn fwy gwerthfawr na gwybodaeth am deitlau llai, gallai roi hwb pellach i’r economi o £22 miliwn i £41 miliwn (gweler Atodiad B).

Ystyriaethau

Byddai goblygiadau diogelu data a phreifatrwydd yn codi o ganlyniad i berchnogion tir. Er ei fod eisoes yn bosibl talu i gael gwybod pwy sy’n berchen ar eiddo penodol, byddai hyn yn gwneud y broses yn haws trwy ddileu’r gost a hwyluso cael gwybodaeth (er enghraifft, cynnig modd i ddefnyddwyr chwilio’r set ddata yn ôl enw’r perchennog, gyda’r effaith gysylltiedig ar breifatrwydd a diogelu data). Gallwn liniaru’r effeithiau ar rai unigolion trwy eithrio pob eiddo o dan drothwy arwynebedd penodol. Gallem hefyd eithrio’n uniongyrchol deitlau’r Gofrestrfa Tir sy’n cynnwys un cyfeiriad preswyl, gan ddefnyddio data cyfeiriad a gynhyrchir gan awdurdodau lleol. Byddwn hefyd yn gweithio ar Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data yn dilyn yr ymgynghoriad hwn i benderfynu pa effeithiau a mesurau lliniaru y gallem eu rhoi yn eu lle i ddiogelu data personol unigolion. Byddwn yn ystyried mesurau lliniaru pellach yn seiliedig ar y broses Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data ac ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.

Mae Erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gwarchod hawl pobl i barch at eu bywyd preifat a theuluol, eu cartref a’u gohebiaeth. Gall cyhoeddi gwybodaeth am berchnogaeth tir effeithio ar yr hawliau hyn oherwydd gall ei gwneud yn haws cael gwybodaeth bersonol, ei chyfuno a’i hailddefnyddio. Fodd bynnag, mae ymyrryd â’r hawliau hyn yn gyfyngedig gan fod gwybodaeth sy’n uniongyrchol gysylltiedig â pherchnogaeth a statws cyfreithiol tir eisoes yn gyhoeddus ac yn faes lle mae’r system gofrestru wedi ei bwriadu’n hanesyddol i ddarparu rhybudd cyhoeddus a sicrwydd cyfreithiol. Fel y manylir uchod, mae cyhoeddi gwybodaeth hefyd yn cefnogi sawl nod cyfreithlon. Bydd y llywodraeth yn ystyried a yw unrhyw effaith ar yr hawliau hyn yn gyfreithlon, angenrheidiol a chymesur, gan ystyried manteision cyhoeddus tryloywder ac unrhyw mesurau diogelu y mae eu hangen i ddiogelu unigolion.

Cydnabyddwn hefyd fod angen profi’r sylfaen tystiolaeth ac rydym yn croesawu tystiolaeth ar y risgiau a’r mesurau lliniaru posibl.

Cwestiynau

Tabl 1. Trothwyon arwynebedd enghreifftiol ar gyfer y set ddata daliadau tir sylweddol arfaethedig, yn dangos cyfran teitlau CTEF, tir cofrestredig a theitlau sy’n cynnwys un cartref a fyddai’n cael ei gynnwys ym mhob trothwy.

Beth fyddai wedi ei gynnwys ym mhob trothwy?

Trothwy Cyfran holl deitlau CTEF Cyfran yr holl dir cofrestredig Cyfran y teitlau sy’n cynnwys un cartref1
Mwy na neu’n hafal i 0.5 hectar 6.5% 94.5% 1.6%
Mwy na neu’n hafal i 1 hectar 4.9% 92.8% 1.1%
Mwy na neu’n hafal i 5 hectar 2.0% 83.3% 0.4%
Mwy na neu’n hafal i 10 hectar 1.2% 75.3% 0.3%
Mwy na neu’n hafal i 20 hectar 0.7% 63.7% 0.2%

Sylwer: Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys tir lle mae manylion y perchennog eisoes mewn setiau data cyhoeddus ar gwmnïau’r DU a thramor sy’n berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr.

6. I ba raddau ydych chi’n cefnogi’r cynnig i CTEF gyhoeddi set ddata agored newydd o berchnogion daliadau tir sylweddol? Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

7. Pa fanteision allai ddeillio o gyhoeddi set ddata gyhoeddus newydd o berchnogion daliadau tir sylweddol ar y gofrestr? Rhowch enghreifftiau i ddangos sut y gallech chi neu eraill ddefnyddio’r data yma.

8. Pa risgiau allai ddeillio o gyhoeddi’r data yma? Sut gellid lliniaru’r risgiau hyn?

9. Pa drothwy arwynebedd lleiaf fyddai’r mwyaf priodol i’w fabwysiadu er mwyn cydbwyso defnyddioldeb y data yn erbyn effeithiau preifatrwydd a diogelu data? Er mwyn helpu i gael syniad o raddfa, mae cae pêl-droed yn 0.7 hectar. Esboniwch eich ateb.

  • 0.5 hectar
  • 1 hectar
  • 5 hectar
  • 10 hectar
  • Arall (nodwch os gwelwch yn dda)

10. A ddylai’r trothwy lleiaf ar gyfer teitlau sy’n cynnwys un cyfeiriad preswyl fod yn uwch na’r trothwy ar gyfer teitlau eraill? Os felly, beth fyddai’r trothwy uwch hwnnw? Esboniwch eich ateb.

  • Na ddylai, dylid defnyddio’r un trothwy
  • Dylai, 1 hectar
  • Dylai, 5 hectar
  • Dylai, 10 hectar
  • Arall (nodwch os gwelwch yn dda)

11. Pa ddewisiadau eraill allai gyflawni’r amcanion polisi hyn sy’n cynyddu’r manteision tra ar yr un pryd yn lleihau’r risgiau? Esboniwch eich ateb.

3. Galluogi defnyddwyr yn y sector cyhoeddus i gael wybodaeth a gedwir ar holl gofrestri teitl CTEF yn ddi-dâl

Ein cynnig

Rydym yn cynnig caniatáu i ddefnyddwyr yn y sector cyhoeddus gael gwybodaeth a gedwir ar holl gofrestri teitl CTEF yn ddi-dâl, gan gynnwys eiddo preswyl. Byddai’r cynnig hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr yn y sector cyhoeddus weld cofrestri teitl at ddibenion gwybodaeth yn unig. Ni fyddai’n dileu ffïoedd  lle mae’r cais yn ymwneud â delio â thir, megis prynu, gwerthu, prydlesu, morgeisio neu drosglwyddo eiddo. Ni fyddai defnyddwyr yn y sector cyhoeddus yn esempt rhag talu’r ffi arferol am gopïau swyddogol o’r gofrestr y mae eu hangen ar gyfer trafodion cyfreithiol.

Pam rydym yn ei gynnig

Mae ein hymgysylltu wedi awgrymu bod y sector cyhoeddus yn sensitif i’r costau sy’n gysylltiedig â chael gafael ar wybodaeth ac y bydd yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o gofrestri teitl os yw’n gallu cael y wybodaeth angenrheidiol yn rhad ac am ddim, yn enwedig mewn awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Fel y disgrifir uchod, bydd hyn yn cefnogi llunio polisïau, cynllunio lleol, adfywio, ymgysylltu â pherchnogion tir, gorfodi rheoliadau, ac atal cyllid anghyfreithlon.

Ystyriaethau

Nid ydym yn cynnig rhoi’r gallu i gael gwybodaeth yn gyffredinol neu heb ei gyfyngu ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Byddai cael gwybodaeth yn amodol ar reolaethau priodol, gan gynnwys telerau ac amodau neu gytundebau rhannu data. Byddai’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr yn y sector cyhoeddus gadarnhau bod eu defnydd arfaethedig o’r wybodaeth yn gyfreithlon, angenrheidiol a chymesur, a’i fod yn cefnogi budd cyfreithlon sy’n gysylltiedig â’u swyddogaethau cyhoeddus. Byddai defnyddwyr yn y sector cyhoeddus hefyd yn gyfrifol am gydymffurfio â’u rhwymedigaethau diogelu data eu hunain wrth ddefnyddio’r wybodaeth.

Cwestiynau

12. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid darparu llwybrau i’r sector cyhoeddus gael gwybodaeth ar holl gofrestri teitl CTEF yn ddi-dâl? Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

13. Pa fanteision allai ddeillio o alluogi’r sector cyhoeddus i gael gwybodaeth a gedwir ar yr holl gofrestri teitl yn ddi-dâl? Rhowch enghreifftiau i ddangos sut y gallech chi neu eraill ddefnyddio’r data yma, gan gynnwys pa fathau o sefydliad sector cyhoeddus fyddai’n elwa o allu cael gwybodaeth.

14. Pa risgiau allai ddeillio o alluogi’r sector cyhoeddus i gael gwybodaeth a gedwir ar yr holl gofrestri teitl yn ddi-dâl? Sut gellid lliniaru’r risgiau hyn?

15. Pa ddewisiadau eraill allai gyflawni’r amcanion polisi hyn sy’n cynyddu’r manteision tra ar yr un pryd yn lleihau’r risgiau? Esboniwch eich ateb.

4. Galluogi pob defnyddiwr i gael gwybodaeth a gedwir ar gofrestri teitl CTEF sy’n gysylltiedig â daliadau tir ym mherchnogaeth fasnachol a daliadau tir sylweddol yn ddi-dâl

Ein cynnig

Rydym hefyd yn cynnig galluogi pob defnyddiwr i gael gwybodaeth a gedwir ar gofrestri teitl CTEF yn ddi-dâl ar gyfer yr eiddo sydd wedi eu cynnwys yng nghwmnïau’r DU a thramor, a setiau data daliadau tir sylweddol. Ni fydd hyn yn cynnwys newidiadau i ffïoedd  ar gyfer y Copïau Swyddogol sydd yn ofynnol fel rheol ar gyfer trafodion cyfreithiol. Rydym yn cynnig cyflwyno terfynau cymesur ar gael gwybodaeth, er enghraifft, cyfyngu ar y gallu i gael gwybodaeth mewn swmp.

Pam rydym yn ei gynnig

Ar y cyd bydd setiau data daliadau tir y DU a thramor a daliadau tir sylweddol yn golygu bod data ar gael yn hwylus ar berchnogaeth y rhan fwyaf o dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae cofrestri teitl yn cynnwys mathau eraill o ddata gwerthfawr gan gynnwys cyfeiriadau gohebu perchnogion, manylion prydlesi, cyfamodau cyfyngu, hawddfreintiau, rhybuddion a gytunwyd ac arwystlon eraill. Credwn y byddai darparu’r gallu i gael y wybodaeth hon yn ddi-dâl yn cynyddu’r defnydd ohoni ac yn gwella dealltwriaeth o berchnogaeth a’r hawliau a buddion sy’n effeithio ar dir, gan gynnal effeithlonrwydd y farchnad dir, datblygu, cynllunio gofodol ac ymgysylltu cymunedol.

Ystyriaethau

Gallai cael gwybodaeth heb ei gyfyngu ganiatáu i ddefnyddwyr gopïo symiau mawr o ddata yn awtomatig a’u hailgyhoeddi rywle arall. Gallai hyn greu risgiau preifatrwydd ac arwain at greu copïau answyddogol o’r gofrestr y tu allan i reolaeth CTEF. Er mwyn lleihau’r risg hon, rydym yn cynnig terfynau defnydd cymesur er mwyn atal cael gafael ar ddata heb ei gyfyngu. Yn unol â thelerau ac amodau arferol CTEF, ni chaniateir tynnu ac ailgyhoeddi data o gofrestri teitl yn awtomatig.

Mae materion diogelu data a phreifatrwydd hefyd yn berthnasol gan fod cofrestri teitl yn cynnwys data personol megis cyfeiriadau gohebu neu ddata personol trydydd parti, ac mae’n bosib y byddai’r cynnig hwn yn hwyluso cael gafael ar y data personol. Disgwyliwn i deitlau sy’n ymwneud â daliadau tir sylweddol sydd ym mherchnogaeth unigolion fod yn fwy tebygol o gynnwys data personol na theitlau sydd ym mherchnogaeth cwmnïau. Byddwn hefyd yn gweithio ar Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data yn dilyn yr ymgynghoriad hwn i lywio ein dull o ddiogelu data personol. Byddwn yn ystyried mesurau lliniaru pellach yn seiliedig ar y broses Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data ac ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.

O ran pryderon preifatrwydd ehangach, rydym o’r farn bod cynyddu’r gallu i gael gafael ar y gofrestr teitl yn cefnogi amcan cyfreithlon trwy ddarparu gwybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn deall effaith gyfreithiol a chyd-destun cofnodion sy’n ymddangos ar y gofrestr, gan gynnwys hawddfreintiau, hawliau tramwy, cyfamodau cyfyngu a buddion eraill sy’n effeithio ar dir.

Mae’r wybodaeth hon eisoes ar gael gan CTEF am ffi ac mae’n cefnogi gweithrediad effeithlon y farchnad eiddo trwy helpu pobl i ddeall perchnogaeth tir, rheolaeth, hawliau a rhwymedigaethau sy’n effeithio ar dir. Mae’r cynnig yn ystyried a allai cael y wybodaeth bresennol hon yn ddi-dâl ac mewn modd rheoledig ar gyfer rhai eiddo ei gwneud hi’n haws ar gyfer defnyddiau ehangach sy’n ymwneud â’r farchnad tir, adeiladu tai, gweithgareddau cymunedol, cynllunio gofodol a gweithgareddau economaidd eraill.

Ar ôl ymgynghori, bydd y llywodraeth yn asesu’r cynigion er mwyn deall unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau Erthygl 8 ac a fyddai’n gyfreithlon, angenrheidiol a chymesur. Byddwn hefyd yn cynnal Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data i lywio mesurau i ddiogelu data personol, gan gynnwys unrhyw fesurau diogelu y mae eu hangen cyn bod penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud.

Cwestiynau

16. I ba raddau ydych chi’n cytuno â chaniatáu’r gallu i gael gwybodaeth a gedwir ar holl gofrestri teitl CTEF sy’n gysylltiedig ag eiddo yn set ddata cwmnïau’r DU a thramor yn ddi-dâl? Mae hyn yn cynrychioli tua 16% o deitlau, gan gwmpasu tua 30% o dir yng Nghymru a Lloegr. Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

17. I ba raddau ydych chi’n cytuno â chaniatáu’r gallu i gael gwybodaeth a gedwir ar holl gofrestri teitl CTEF ar gyfer yr eiddo sy’n gysylltiedig â’r set ddata daliadau tir sylweddol a ddisgrifir uchod yn ddi-dâl? Yn dibynnu ar y trothwyon a ddewisir, mae hyn yn cynrychioli tua 1-5% o eiddo, gan gwmpasu tua 50-65% o dir yng Nghymru a Lloegr. Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

18. Pa fanteision allai ddeillio o ddarparu’r gallu i bob defnyddiwr gael gafael ar gofrestri teitl yn ddi-dâl ac mewn modd rheoledig, megis PDF, yn hytrach na dim ond data gydag enwau perchnogion? Rhowch enghreifftiau i ddangos sut y gallech chi neu eraill ddefnyddio’r data yma.

19. Pa risgiau neu ganlyniadau anfwriadol allai ddeillio o ddarparu’r gallu i bob defnyddiwr gael gafael ar gofrestri teitl yn ddi-dâl ac mewn modd rheoledig, megis PDF, yn hytrach na dim ond data gydag enwau perchnogion? Sut gellid lliniaru’r risgiau hyn?

20. Pa ddewisiadau eraill allai gyflawni’r amcanion polisi hyn sy’n cynyddu’r manteision tra ar yr un pryd yn lleihau’r risgiau? Esboniwch eich ateb.

5. Estyn y trefniadau sydd gan y sector cyhoeddus ar gyfer cael gwybodaeth i ddefnyddwyr eraill sy’n gweithredu er budd y cyhoedd

Ein cynnig

Rydym yn cynnig y dylai rhai defnyddwyr heb fod yn y sector cyhoeddus allu gwneud cais am ganiatâd arbennig i gael data CTEF lle gallant ddangos amcan clir er budd y cyhoedd. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, rheoleiddwyr ac ymchwilwyr. Gallai hyn gwmpasu’r gallu cyfyngedig i rannu data a/neu allu cyfyngedig i gael cofrestri teitl yn ddi-dâl, gan gynnwys eiddo preswyl, gyda chyfyngiadau clir ar gael gafael ar ddata a sut mae’r data yn cael eu defnyddio.

Rydym yn cynnig y byddai hyn yn cael ei lywodraethu gan reolau eang, a byddai CTEF yn ystyried cymhwyso’r rheolau hyn fesul achos. Rydym yn cynnig y dylai hyn gynnwys sicrhau bod cael gwybodaeth:

  • yn seiliedig ar achos defnydd er budd y cyhoedd penodol a phrofedig,

  • yn amodol ar asesiad yn hytrach na bod yn hawl awtomatig,

  • yn gyfreithlon, cymesur a diogel,

  • wedi ei gynllunio i atal mantais fasnachol heb fudd i’r cyhoedd, camddefnydd a chael gwybodaeth ar hap ar raddfa fawr.

Pam rydym yn ei gynnig

Mae newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill eisoes yn defnyddio data CTEF i hysbysu’r cyhoedd, gan gynnwys trwy’r broses Rhyddid Gwybodaeth. Deallwn nad yw rhai defnyddiau er budd y cyhoedd efallai’n cael eu gwasanaethu’n dda gan y llwybrau presennol. Byddai’r cynnig hwn yn darparu llwybr cliriach a rheoledig ar gyfer cael gwybodaeth lle mae amcan budd cyhoeddus penodol.

Ystyriaethau

Rydym yn cynnig y byddai ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos gyda chanllawiau sy’n bwriadu atal camddefnydd fel uchod, megis y gofynion ar gyfer storio diogel, dilysu defnyddwyr ac adolygu cyfnodol. Byddai gallu cael gafael ar ddata yn dilyn rheolau diogelu data gan gynnwys cymesuredd, lleihau data, sicrhau trefniadau cael data diogel, ac archwilio. Byddwn hefyd yn gweithio ar Asesiad Llawn o’r Effaith ar Ddiogelu Data yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Byddwn yn ystyried mesurau lliniaru pellach yn seiliedig ar y broses Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data ac ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.

Cydnabyddwn y gallai’r math hwn o fframwaith cael gwybodaeth godi cwestiynau ynghylch tegwch, tryloywder gwneud penderfyniadau, cael gafael ar ddata personol, ac a allai trefniadau cael gwybodaeth gynnig budd i sefydliadau penodol yn anfwriadol. Rydym yn croesawu tystiolaeth ar y materion hyn ac ar y mesurau lliniaru posibl.

Cwestiynau

21. I ba raddau ydych chi’n cefnogi cyflwyno fframwaith ar gyfer cael gwybodaeth er budd y cyhoedd? Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

22. Pa fanteision allai ddeillio o gyflwyno fframwaith ar gyfer cael gwybodaeth er budd y cyhoedd? Rhowch enghreifftiau i ddangos sut y gallech chi neu eraill ddefnyddio’r data yma.

23. Pa risgiau neu ganlyniadau anfwriadol allai ddeillio o gyflwyno fframwaith ar gyfer cael gwybodaeth er budd y cyhoedd? Sut gellid lliniaru’r risgiau hyn?

24. Pa ddewisiadau eraill allai gyflawni’r amcanion polisi hyn sy’n cynyddu’r manteision tra ar yr un pryd yn lleihau’r risgiau? Esboniwch eich ateb.

6. Cyflymu cwblhau’r gofrestr teitl trwy ystyried opsiynau gan gynnwys cysylltu cynlluniau taliadau cyhoeddus ar gyfer tir â chofrestru’r tir

Ein cynnig

Fel y nodir yn Fframwaith Defnydd Tir y Llywodraeth mae cofrestru wedi bod yn orfodol er 1990, ond er hynny mae tua 10% o’r tir yng Nghymru a Lloegr yn parhau’n ddigofrestredig, gydag oddeutu 58% o’r tir digofrestredig hwn yn dir amaethyddol ac 20% arall yn dirweddau naturiol. Felly, rydym yn ystyried opsiynau i gau’r bwlch hwn.

Gallai’r opsiynau hyn amrywio o annog cwblhau i wneud cofrestru yn amod ar gyfer cynlluniau taliadau cyhoeddus sy’n ymwneud â’r defnydd o dir. Byddai hyn yn cefnogi amcan CTEF o gyflymu cwblhau’r gofrestr tir. Trwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio barn ar yr opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys risgiau posibl ac effeithiau niweidiol cyflwyno gofyniad i gofrestru tir.

Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer cefnogi cofrestru tir yng Nghymru, gan gydnabod er bod cofrestru tir yn fater a gedwir yn ôl, bod gweinyddu cynlluniau taliadau cyhoeddus perthnasol wedi ei datganoli yng Nghymru.

Pam rydym yn ei gynnig

Er bod 90% o’r tir yng Nghymru a Lloegr wedi ei gofrestru erbyn hyn, byddai cwblhau’r gofrestr yn cynnig manteision economaidd ac ymarferol sylweddol. Mae cofrestru’n gwarantu perchnogaeth, yn lleihau’r risg o dwyll, yn cefnogi trafodion eiddo a rheoli portffolio effeithlon, ac yn gwella tryloywder ynghylch pwy sy’n berchen ar y tir. Mae CTEF wedi mabwysiadu amrywiaeth o ddulliau dros amser i gynyddu cofrestru tir digofrestredig yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys gwaith rhagweithiol i annog cyfranogiad yn ei Rhaglen Cofrestru Gwirfoddol. Roedd hyn yn cynnwys cymhellion megis ffïoedd  cofrestru gostyngol i gyfranogwyr. Erbyn hyn rydym yn ystyried opsiynau, gan gynnwys a allai cysylltu gallu defnyddio cynlluniau taliadau cyhoeddus tir â chofrestru tir helpu i gyflymu cwblhau’r gofrestr teitl.

Mae budd-ddeiliaid, gan gynnwys datblygwyr, hyrwyddwyr tir, darparwyr seilwaith, rheoleiddwyr amgylcheddol, sefydliadau amgylcheddol a ffermio, awdurdodau lleol, Homes England a sefydliadau cymunedol, yn dweud yn gyson bod tir digofrestredig yn rhwystr i ddatblygu, cydosod tir ac ymgysylltu â thir. Mae’r oedi hyn yn amrywio o’r amser a’r gost arferol o sefydlu perchnogaeth i achosion mwy sylweddol lle mae perchnogaeth anhysbys neu faterion cofrestru heb eu datrys yn atal gwneud cynnydd ar ddatblygiadau cyfan. Byddai cwblhau’r gofrestr hefyd yn cefnogi tryloywder cyhoeddus trwy helpu’r cyhoedd i ddeall patrymau perchnogaeth tir yn well a nodi buddiolwyr terfynol cynlluniau taliadau cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r defnydd o dir.

Rydym wedi cynnal asesiad cychwynnol o’r effaith ar nifer y cofrestriadau a gallu CTEF i ddelio â’r ceisiadau ychwanegol, wedi ei ategu gan dystiolaeth ansoddol ar fanteision cyflymu cofrestru. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i adeiladu’r sylfaen tystiolaeth ac yn llywio unrhyw asesiad effaith manwl dilynol.

Ystyriaethau

Rydym am osgoi’r sefyllfa lle mae’r cynigion hyn yn arwain at leihau’r gallu i ddefnyddio cynlluniau taliadau tir. Dyma pam rydym yn croesawu barn a thystiolaeth ar hyn gan ymatebwyr ar yr opsiynau, a risgiau neu effeithiau niweidiol posibl yr opsiynau hyn ar rai grwpiau. Byddwn yn ategu’r ymatebion hyn gydag ymgysylltu ac ystyried y risgiau a’r mesurau lliniaru ymhellach.

Mae gennym ddiddordeb arbennig yn yr effeithiau posibl ar fathau penodol o dderbynwyr taliadau rheoli tir. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno model nad yw’n cael effaith negyddol ar ffermwyr tenant, lle mae’r tir y maent yn ei rentu heb ei gofrestru oherwydd diffyg gweithredu eu landlord neu oedi yn y broses gofrestru.

Bydd angen ystyried yn ofalus hefyd yr effeithiau ar CTEF er mwyn osgoi effeithio ar wasanaethau cwsmeriaid eraill CTEF. Gan gymryd bod cofrestriadau tir sydd wedi ei gynnwys mewn cynlluniau taliadau cyhoeddus sy’n ymwneud â’r defnydd o dir wedi eu lledaenu dros gyfnod o 6 blynedd, amcangyfrifwn y byddai’n ofynnol i CTEF fuddsoddi oddeutu £3-8 miliwn y flwyddyn mewn gweithwyr achos ychwanegol (sy’n cyfateb i 0.6% i 1.5% o incwm presennol CTEF) (gweler Atodiad B).

Pe byddem yn ystyried cysylltu cymhwystra ar gyfer cynlluniau taliadau cyhoeddus sy’n ymwneud â thir i dir cofrestredig, gallai hyn gael ei ystyried yn ffordd o gyflawni’r nodau cyfreithlon o sicrhau gwirhau manwl, lleihau’r risg o dwyll a gwallau, helpu gyda gweinyddu arian cyhoeddus yn effeithlon a chefnogi system gynhwysfawr o gofrestru tir.

Cydnabyddwn y gallai cysylltu cofrestru â chymhwystra ar gyfer cynlluniau taliadau cyhoeddus osod costau a beichiau gweinyddol ar rai perchnogion tir. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed barn a gweld tystiolaeth ategol ynghylch a fyddai dull o’r fath yn gymesur, pa ddewisiadau eraill a allai gyflawni canlyniadau tebyg, a pha esemptiadau neu drefniadau pontio fyddai’n ofynnol.

Cwestiynau

25. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid cymryd camau i annog cwblhau’r gofrestr teitlau? Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

26. I ba raddau ydych chi’n cytuno â’n cynnig y dylai fod yn ofynnol, yn y tymor hir, i dir gael ei gofrestru gyda CTEF fel rheol er mwyn gallu derbyn cyllid gan y llywodraeth ar gyfer gweithgareddau ar y tir? Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

27. Pa fanteision allai ddeillio o gysylltu taliadau tir â chofrestru? Rhowch enghreifftiau i ddangos sut y gallech chi neu eraill ddefnyddio’r data yma.

28. Pa risgiau neu ganlyniadau anfwriadol allai ddeillio o gysylltu taliadau tir â chofrestru? Sut gellid lliniaru’r risgiau hyn?

29. Pa ddewisiadau eraill allai gyflawni’r amcanion polisi hyn o gwblhau’r gofrestr teitlau sy’n cynyddu’r manteision tra ar yr un pryd yn lleihau’r risgiau? Esboniwch eich ateb.

7. Ystyried cyflwyno mesurau diogelu a phwerau ehangach i atal neu gyfyngu ar gael gwybodaeth

Ein cynnig

Rydym yn ceisio barn ynghylch yn gyntaf, a ddylai CTEF gyflwyno mesurau diogelu ar gyfer ei chyhoeddiadau, ac yn ail gael pwerau i atal neu gyfyngu ar gael gwybodaeth ar y gofrestr teitlau mewn amgylchiadau cyfyngedig lle gallai’r gallu i gael gwybodaeth cyhoeddus greu risg sylweddol o niwed. Gallai’r rhain gynnwys proses ymgeisio ffurfiol ar gyfer unigolion a all ddarparu tystiolaeth o risgiau difrifol, megis pryderon diogelwch personol, cam-drin domestig, aflonyddu, bygwth neu fathau eraill o fregusrwydd, neu’r rhai â phryderon diogelwch gwladol.

Byddai atal yn golygu newid deddfwriaethol i gyfyngu ar allu’r cyhoedd i gael rhai teitlau mewn unrhyw ffurf, gan gynnwys o bosibl gyfyngu ar allu’r cyhoedd i lawrlwytho rhai teitlau.

Byddai mesurau diogelu’n ymwneud â newidiadau i bolisïau CTEF sy’n llywodraethu cynnwys a gallu defnyddio gwasanaethau anstatudol (megis setiau data cyhoeddus). Yn dibynnu ar y gwasanaeth dan sylw, gallai hyn gynnwys pethau megis dilysu defnyddwyr, trefniadau monitro ac archwilio, cyfyngiadau ar gael gwybodaeth mewn swmp, cyfyngiadau ar gael gwybodaeth yn awtomatig, caniatáu optio allan ar gyfer unigolion agored i niwed, neu delerau ac amodau sy’n llywodraethu ailddefnyddio gwybodaeth.

Pam rydym yn ei gynnig

Gallai cynigion yn yr ymgynghoriad hwn gynyddu cyhoeddi a gallu cael gwybodaeth CTEF, felly rydym am ddeall a oes angen mesurau diogelu ychwanegol i sicrhau bod mwy o dryloywder yn cael ei gyflwyno mewn modd cyfrifol. Cydnabyddwn y gallai cael gwybodaeth sy’n haws ei chanfod, ei chyfuno a’i hailddefnyddio godi pryderon i rai unigolion, yn enwedig lle gallai cyhoeddi gwybodaeth effeithio ar ddiogelwch personol, preifatrwydd neu ddiogelwch. Mae CTEF hefyd wedi derbyn gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau gan Aelodau Seneddol ar ran etholwyr, yn gofyn i wybodaeth bersonol gael ei dileu o’r gofrestr teitl. Felly, mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio tystiolaeth ar y mathau o risgiau a all godi, a yw’r mesurau diogelu presennol yn parhau’n ddigonol, ac a ddylai CTEF gael pwerau ychwanegol i atal neu gyfyngu ar gael gwybodaeth mewn amgylchiadau cyfyngedig lle mae tystiolaeth glir o risg sylweddol o niwed.

Ystyriaethau

Byddai angen targedu unrhyw fesurau diogelu neu atal yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn gwarchod unigolion sydd mewn gwir berygl tra ar yr un pryd yn cynnal cofrestr agored a dibynadwy. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn a ddylai mesurau diogelu neu atal fod ar gael lle mae tystiolaeth glir o risg, a pha dystiolaeth ddylai fod yn ofynnol.

Cwestiynau

30. I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r cynnig y dylai CTEF gyflwyno mesurau diogelu mewn amgylchiadau cyfyngedig lle mae cyhoeddi gwybodaeth yn creu risg sylweddol o niwed? Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

31. I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r cynnig bod CTEF yn cael pwerau i atal neu gyfyngu ar gael gwybodaeth mewn amgylchiadau cyfyngedig lle mae cael gwybodaeth yn creu risg sylweddol o niwed? Esboniwch eich ateb.

  • Cefnogi’n gryf
  • Cefnogi i ryw raddau
  • Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
  • Gwrthwynebu i ryw raddau
  • Gwrthwynebu’n gryf
  • Ddim yn gwybod

32. Pa rai o’r risgiau canlynol sy’n achosi’r pryder mwyaf ac, yn eich barn chi, allai gyfiawnhau cyfyngu ar gael gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau? Esboniwch eich ateb.

  • pryderon diogelwch personol;
  • aflonyddu, stelcio, neu fygwth;
  • risgiau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig neu reolaeth drwy orfodaeth;
  • twyll, trosedd hunaniaeth neu gamfanteisio ariannol;
  • niwed i enw da;
  • camddefnyddio gwybodaeth bersonol;
  • diogelwch gwladol;
  • cysylltiadau rhyngwladol;
  • arall (nodwch os gwelwch yn dda)

33. Ydych chi wedi profi, gweld neu wedi dod yn ymwybodol o unrhyw risgiau sy’n codi o gyhoeddi neu gael gwybodaeth a gedwir gan CTEF neu sefydliadau tebyg? Rhowch dystiolaeth neu enghreifftiau lle bo modd.

34. Pa dystiolaeth ddylai fod yn ofynnol i ymgeisydd ei darparu wrth geisio atal gwybodaeth?

8. Ystyriaethau Cydraddoldeb ac Effaith

O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus mae’n ofynnol i’r llywodraeth roi sylw dyledus i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw fath arall o ymddygiad a waherddir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010,

  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu,

  • annog perthnasoedd da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Ar ôl ystyried yr effaith y gallai’r cynigion hyn ei chael ar bobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 2010, ein hasesiad cychwynnol yw na fyddent yn cael unrhyw effaith niweidiol.

Rydym wedi ystyried y gallai rhai rhannau o’r boblogaeth fod yn fwy agored i dwyll neu weithgarwch troseddol nag eraill. Mae’r llywodraeth yn ymwybodol o’i rhwymedigaethau o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gwahoddir ymatebwyr i ddarparu tystiolaeth i ddangos a allai’r cynigion gael effeithiau gwahaniaethol ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig ac a ddylid ystyried unrhyw fesurau lliniaru.

35. Ydych chi’n credu bod unrhyw risgiau yn deillio o’r cynigion hyn sy’n gysylltiedig ag effeithiau ar nodweddion gwarchodedig penodol? Esboniwch eich ateb.

Atodiad A: Termau a byrfoddau yn y ddogfen hon

Archwilio cofrestr teitl: gweld y wybodaeth mewn cofrestr teitl. Mae hyn yn cynnig modd i’r cwsmer ddarllen yr hyn y mae’r gofrestr yn ei ddweud, ond nid yw’r un peth â phrynu Copi Swyddogol i’w ddefnyddio fel tystiolaeth ffurfiol.

Arwystl: cofnod ar y gofrestr teitl sy’n dangos bod budd ariannol cyfreithiol gan rywun yn y tir neu’r eiddo, fel arfer oherwydd bod arian yn ddyledus. Mae morgais yn enghraifft gyffredin.

Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data: asesiad a ddefnyddir i nodi a lleihau risgiau i ddata personol pobl cyn gwneud penderfyniadau ynghylch sut y caiff gwybodaeth ei defnyddio neu ei rhannu.

Atal neu gyfyngu ar gael gwybodaeth: cyfyngu ar gael gwybodaeth a fyddai ar gael fel arall, lle mae rheswm clir dros wneud hynny, er enghraifft i warchod rhywun sydd mewn perygl difrifol o niwed.

Cael gwybodaeth er budd y cyhoedd: cael gwybodaeth CTEF at ddiben penodol sydd o fudd i’r cyhoedd, megis ymchwil, craffu cyhoeddus, rheoleiddio neu waith arall sy’n ategu dealltwriaeth y cyhoedd neu wasanaethau cyhoeddus.

Canfyddadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol ac Ailddefnyddiadwy: egwyddorion ar gyfer gwneud data yn haws i’w canfod, eu cyrchu, eu cyfuno â mathau eraill o ddata a’u hailddefnyddio.

Cofrestri teitl: y cofnodion a gedwir gan CTEF ar gyfer tir cofrestredig. Fel arfer mae cofrestr teitl yn dangos pwy sy’n berchen ar y tir, y math o berchnogaeth, a hawliau, cyfyngiadau, arwystlon neu fuddion eraill sy’n effeithio ar y tir.

Copïau Swyddogol: copïau swyddogol o gofrestri teitl, cynlluniau teitl neu ddogfennau cofrestr eraill a gyhoeddir gan CTEF. Fel rheol fe’u defnyddir fel tystiolaeth ffurfiol mewn prosesau cyfreithiol, trawsgludo neu brosesau swyddogol eraill.

Cyfamod cyfyngu: cyfyngiad cyfreithiol sy’n cyfyngu ar yr hyn y gall perchennog ei wneud gyda’i dir neu eiddo. Er enghraifft, gall gyfyngu ar waith adeiladu, rhai defnyddiau busnes, neu newidiadau i’r eiddo.

Cynllun y Taliad Sylfaenol: cyn gynllun taliad amaethyddol oedd yn talu ffermwyr a rheolwyr tir yn seiliedig yn bennaf ar y tir cymwys roeddent yn ei reoli. Yn y ddogfen hon, defnyddir data Cynllun y Taliad Sylfaenol i helpu i amcangyfrif y tir sy’n gysylltiedig â thaliadau tir.

Cynlluniau taliadau cyhoeddus sy’n gysylltiedig â thir: cynlluniau lle mae arian cyhoeddus yn cael ei dalu i bobl neu sefydliadau am weithgareddau sy’n gysylltiedig â thir neu’r defnydd o dir. Gall hyn gynnwys taliadau ar gyfer ffermio, gwelliannau amgylcheddol, adfer byd natur, creu coetiroedd neu weithgareddau rheoli tir eraill.

Cynlluniau teitl: cynlluniau a gedwir gan CTEF sy’n dangos ffiniau cyffredinol tir cofrestredig. Dylid eu darllen ochr yn ochr â’r gofrestr teitl.

Cytundeb rhannu data: cytundeb ffurfiol rhwng sefydliadau sy’n nodi pa ddata gaiff eu rhannu, pam eu bod yn cael eu rhannu, sut y gellir eu defnyddio, a pha fesurau diogelu y mae’n rhaid eu rhoi yn eu lle i’w diogelu.

Eiddo cofrestredig: eiddo sydd wedi cael ei gofnodi ar y gofrestr tir ac sydd wedi cael rhif teitl gan CTEF. Gall eiddo cofrestredig gynnwys tir, adeiladau, neu’r ddau.

Gwerth Ychwanegol Gros: mesur o’r gwerth y mae gweithgaredd, sector neu ardal yn ychwanegu at yr economi.

Hawddfraint: hawl gyfreithiol i ddefnyddio tir rhywun arall at ddiben penodol, megis mynediad, draenio, pibellau neu geblau.

PropTech: technoleg a ddefnyddir yn y sector eiddo. Gall hyn gynnwys offer digidol, gwasanaethau data a meddalwedd sy’n helpu pobl i ddeall, rheoli, prynu, gwerthu, datblygu neu ddefnyddio tir ac eiddo.

Prydles: cytundeb cyfreithiol sy’n rhoi’r hawl i rywun ddefnyddio tir neu eiddo am gyfnod penodol. Fel arfer bydd y brydles yn nodi hawliau a chyfrifoldebau’r les-ddeiliad a’r rhydd-ddeiliad.

Rhydd-ddaliad: perchnogaeth tir neu eiddo am gyfnod diderfyn. Mae perchennog rhydd-ddaliol yn berchen ar yr eiddo yn llwyr, yn amodol ar unrhyw hawliau, cyfyngiadau neu arwystlon a gofnodir ar y gofrestr teitl.

Sector cyhoeddus: sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus neu sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, megis y llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, heddluoedd a chyrff cyhoeddus eraill.

Teitl cofrestredig: y cofnod swyddogol a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF ar gyfer darn cofrestredig o dir neu eiddo. Mae’n dangos gwybodaeth megis pwy sy’n berchen arno, y math o berchnogaeth, ac unrhyw hawliau, cyfyngiadau, arwystlon neu fuddion eraill sy’n effeithio arno.

Tir cofrestredig: tir lle mae perchnogaeth a buddion cyfreithiol eraill wedi cael eu cofnodi gan CTEF ar y gofrestr tir. Mae hyn yn cynnig modd i bobl weld pwy sy’n berchen ar y tir a pha hawliau neu gyfyngiadau sy’n effeithio arno.

Tir digofrestredig: tir sydd heb ei gofnodi eto ar y gofrestr tir. Fel arfer mae perchnogaeth yn cael ei phrofi trwy weithredoedd teitl neu ddogfennau hanesyddol eraill.

Atodiad B: Cyfrifiadau

Cyfraniad set ddata daliadau tir sylweddol at dwf economaidd

Yn y cyfnod cyn Adolygiad Gwariant 2021, datblygodd CTEF Fodel Gwerthuso Data. Ei nod oedd prisio data cyhoeddus CTEF yn ei gyflwr presennol, yn ogystal â dangos tystiolaeth o’r cynnydd mewn gwerth a ddisgwylir trwy gymhwyso egwyddorion Canfyddadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol ac Ailddefnyddiadwy.

Casglwyd tystiolaeth ar y defnydd o ddata trwy ymchwil desg yn ogystal â chyfarfodydd ymgysylltu â budd-ddeiliaid allanol gyda chymysgedd o sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat, ac arolwg a anfonwyd at gwsmeriaid ychwanegol. Roedd wedi ystyried yr effeithiau ar ddefnyddwyr uniongyrchol dim ond o ran cynyddu gallu, cynhyrchu refeniw ac arbedion cost. Yna a oedd yr effaith yn economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ariannol, a graddfa’r effaith honno wedi ei haddasu yn ôl pa mor hanfodol oedd data CTEF i’r defnyddwyr hynny. Yn gyffredinol, mae gwerth y data yn gymharol fach ar y cyfan ond mae llawer o effeithiau. Ni chyhoeddwyd y model a’r canlyniadau, ond cyhoeddwyd astudiaeth achos o’r prisiad gan y Comisiwn Geo-ofodol sy’n rhoi rhagor o fanylion am y fethodoleg.

Amcangyfrifodd y model gwreiddiol fod setiau data perchnogaeth cwmnïau’r DU a thramor wedi rhoi hwb o £65-119m y flwyddyn i’r economi yn ôl prisiau 2021, a’r disgwyl oedd y byddai hyn yn cynyddu hyd at 12% ar ôl i egwyddorion Canfyddadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol ac Ailddefnyddiadwy gael eu gwneud. Adolygwyd hyn gan CTEF yn 2025 ac addasodd y gwerth i £77m i £139m. Mae rhai o’r egwyddorion Canfyddadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol ac Ailddefnyddiadwy yn cael eu gwneud nawr felly dylai’r gwerth hwn godi ymhellach.

Byddai’r set ddata daliadau tir sylweddol a gynigir yn cynyddu cwmpas setiau data perchnogaeth gyhoeddus CTEF o oddeutu 16% o deitlau a 30% o dir ar draws Cymru a Lloegr i oddeutu 21% o deitlau a 95% o dir. O ystyried y byddai’r set ddata daliadau tir sylweddol yn cyfateb yn uniongyrchol i’r setiau data perchnogaeth eraill hyn, gallwn amcangyfrif ei chyfraniad at yr economi trwy dynnu gwybodaeth o ganlyniadau prisiad CTEF o’r setiau data cyhoeddus eraill. Yn seiliedig ar y cynnydd yng nghwmpas y gofrestr teitl (16% i 21% o deitlau), amcangyfrifwn hyd yn oed os nad yw’r wybodaeth yn y teitlau mwy yn fwy gwerthfawr na’r wybodaeth yn y teitlau llai, byddai’r set ddata daliadau tir sylweddol yn rhoi hwb pellach o £22 miliwn i £41 miliwn i’r economi.

Amcangyfrif faint o dir digofrestredig sy’n derbyn taliadau tir, y costau i CTEF o’i gofrestru, a chyfran yr hawlwyr taliadau tir a effeithir

Yn ôl dadansoddiad CTEF roedd perchnogion tair rhan o bump o’r holl dir digofrestredig yn Lloegr yn derbyn taliad Cynllun y Taliadau Sylfaenol yn 2023 (yn ogystal â mwy na dwy ran o dair o’r tir digofrestredig yng Nghymru). Disgwylir i raglenni taliadau tir yn y dyfodol gael dosbarthiad tebyg. Felly, pe bai’r holl dir sy’n derbyn taliadau tir wedi ei gofrestru, byddem yn disgwyl i hyn ddal tua thair rhan o bump o’r tir digofrestredig sy’n weddill yn Lloegr.

Yn seiliedig ar ddosbarthiad a dwysedd teitlau tir cofrestredig mewn tir sy’n derbyn taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol, amcangyfrifwn fod y tir digofrestredig yn Lloegr a dderbyniodd taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 yn cyfateb i oddeutu 71,000 i 288,000 o deitlau ychwanegol y Gofrestrfa Tir (gyda chanolbwynt o 180,000). Gan ddefnyddio data ar ddosbarthiad a dwysedd yr holl deitlau tir cofrestredig, amcangyfrifwyd ymhellach y bydd eiddo digofrestredig sy’n weddill yn Lloegr yn cyfateb i oddeutu 1.8 miliwn o deitlau ychwanegol y Gofrestrfa Tir (ac oddeutu 0.15 miliwn yng Nghymru). Felly, amcangyfrifwn y byddai’r cynnig hwn yn arwain at gofrestru oddeutu 10% o’r teitlau digofrestredig sy’n weddill. Byddai’r rhan fwyaf o’r gweddill yn deitlau trefol bach na chânt eu heffeithio i raddau helaeth gan y diwygiadau a gynigir yma, fodd bynnag, dylem ddisgwyl i rai ohonynt fod yn destun sbardunau cofrestru presennol dros y degawdau nesaf.

Gan ddefnyddio data ar yr amser arferol a gymerir i weithio ar gofrestriadau cyntaf, amcangyfrifwn pe bai cofrestriadau tir sydd wedi eu cynnwys mewn cynlluniau taliadau cyhoeddus sy’n ymwneud â’r defnydd o dir yn cael eu lledaenu dros gyfnod o 6 blynedd, byddai angen i CTEF recriwtio rhwng 68-172 o weithwyr amser llawn ychwanegol er mwyn osgoi effeithio ar wasanaethau eraill. Byddai hyn yn costio rhwng £3 miliwn i £8 miliwn bob blwyddyn (0.6% i 1.5% o incwm blynyddol presennol CTEF). Ni fyddai cofrestriadau’n cynyddu tan o leiaf 2029, sy’n golygu y bydd hyn yn cael ei gynnwys yng nghyfnod yr Adolygiad Gwariant nesaf.

Er y byddai hyn yn cael effaith fawr ar leihau tir digofrestredig, ni fyddai’n effeithio ar y rhan fwyaf o hawlwyr taliadau tir gan fod y rhan fwyaf o dir sy’n gysylltiedig â thaliadau tir cyhoeddus eisoes wedi ei gofrestru. Roedd 84% o daliadau unigol Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ar gyfer parseli tir lle roedd mwy na 95% o’r tir wedi ei gofrestru. Mae’r 5% sy’n weddill yn debygol o fod yn wall ffin fel arfer sydd wedi digwydd trwy gymharu setiau data’r Gofrestr Tir Gwledig a CTEF, felly amcangyfrifwn na fyddai 84% o eiddo sy’n hawlio taliadau rheoli tir yn cael eu heffeithio gan y cynnig hwn.