Canlyniad yr ymgynghoriad

Diwygio’r Cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol cenedlaethol

Applies to England and Wales

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Cynhaliodd y llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 24 Mawrth 2021 a 3 Medi 2021 ar gynigion i ddiwygio’r Cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol Cenedlaethol presennol. Dyma ymateb ffurfiol y llywodraeth i’r ymgynghoriad hwnnw.

Mae ymateb y llywodraeth yn amlinellu cyfres o ddiwygiadau gyda’r nod o ehangu mynediad i’r cynllun a gwneud y broses ymgeisio’n decach ac yn fwy cynhwysol.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Ddyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol (ACCEA) eisiau eich barn ar ddiwygiadau i'r cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol genedlaethol (CEA), gyda'r nod o gyflwyno cynllun newydd o Ebrill 2022.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar:

  • gynyddu nifer y CEAs newydd
  • cael gwared ar ‘gynnydd’ dros amser rhwng lefelau’r dyfarnu, gyda lefel y dyfarniadau’n gysylltiedig ag effaith y cyflawniad
  • newidiadau i’r meysydd ar gyfer asesu ceisiadau CEA cenedlaethol
  • rôl geirdaon a phennu safleoedd gan gyrff enwebu cenedlaethol a chymdeithasau arbenigol achrededig
  • parhau i gynnal y dyfarniad dros 5 mlynedd, ond diweddu’r broses adnewyddu gyfredol ar gyfer dyfarniadau
  • sut i sicrhau bod deiliaid dyfarniadau’n cynnal rhagoriaeth yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y CEA

Hoffem glywed gan feddygon a deintyddion ymgynghorol ac ymarferwyr cyffredinol academaidd, meddygon dan hyfforddiant, ymddiriedolaethau ac ymddiriedolaethau sefydledig y GIG, Colegau Brenhinol Meddygol, sefydliadau cynrychioliadol, undebau llafur, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, Addysg Iechyd Lloegr a sefydliadau eraill meddygol neu sefydliadau sy’n canolbwyntio ar iechyd, a allai hefyd fod â diddordeb mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Dogfennau

Cyhoeddwyd ar 24 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2022 + show all updates
  1. Added the consultation response.

  2. Added consultation questions to the document.

  3. First published.