Publication

Diwygio’r Cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol cenedlaethol

Updated 8 March 2022

Applies to England and Wales

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) a Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl ynghylch diwygio’r cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol (CEA) cenedlaethol, gan anelu i gyflwyno cynllun newydd o fis Ebrill 2022.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig y dylid ehangu mynediad i’r cynllun, gwneud y broses ymgeisio’n decach ac yn fwy cynhwysol, yn ogystal â newid y broses ymgeisio gyfredol.

Pam bod angen Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol (CEAs)

Mae meddygon a deintyddion ymgynghorol ac ymarferwyr cyffredinol academaidd ymhlith y gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi i’r safon uchaf yn y DU. Mae eu sgiliau’n werthfawr ac mae galw mawr amdanynt yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan ddarparwyr meddygol preifat, sefydliadau academaidd a’r diwydiant gwyddorau bywyd, er enghraifft. Mae’n bwysig cadw sgiliau a gwybodaeth yr arbenigwyr hyn a’u cymell i berfformio y tu hwnt i’w rôl gytundebol; mae hyn er budd y GIG, ei gleifion, staff gofal iechyd dan hyfforddiant, iechyd y cyhoedd a’r effaith ar ‘economi iechyd’ ehangach y DU.

Mae CEAs cenedlaethol (NCEAs) yn fecanwaith pwysig i’r GIG gadw’r sgiliau hyn, gan alluogi’r gwasanaeth i gadw ei enw da fel arweinydd y byd ym maes darparu gofal iechyd, ymchwil glinigol a hyfforddiant meddygol, a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn yr holl feysydd hynny. Gwelwyd enghreifftiau o hyn yn y gwaith a’r canlyniadau eithriadol a gafwyd gan y GIG yn ystod pandemig COVID-19. Ar raddfa leol a chenedlaethol, aeth clinigwyr ati i ad-drefnu a rhoi’r flaenoriaeth i wasanaethau a fyddai’n rhoi diagnosis, yn profi, yn olrhain cysylltiadau ac yn trin y cleifion salaf, gan ddatblygu meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol ar yr un pryd. Bu ymdrechion diflino clinigwyr yr un mor bwysig wrth gynnal gwasanaethau clinigol eraill ac addysg ac ymchwil feddygol yn wyneb y pwysau cystadleuol dybryd yn gysylltiedig â COVID-19. Dyfarniadau ar ffurf taliadau wedi’u cyfyngu gan amser yw’r cynllun cyfredol, sef yr NEAs. Fe’u cynigir drwy gystadleuaeth flynyddol i feddygon a deintyddion ymgynghorol ac ymarferwyr cyffredinol (YC) academaidd.

Er mwyn ennill CEA, mae’n rhaid i ymgeiswyr arddangos cyflawniadau sydd y tu hwnt i’r hyn a fyddai’n ddisgwyliedig ganddynt fel arfer yn y meysydd canlynol:

  • darparu gwasanaeth o ansawdd uchel

  • datblygu gwasanaeth o ansawdd uchel

  • arwain a rheoli gwasanaeth o ansawdd uchel

  • ymchwil ac arloesi

  • addysgu a hyfforddi

Cynhelir y cynllun yng Nghymru a Lloegr.

Y Pwyllgor Cynghori ar Ddyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol (ACCEA) yw’r corff cynghorol cyhoeddus anadrannol annibynnol sy’n gyfrifol am weithredu’r cynllun CEA cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynghori Gweinidogion DHSC a Llywodraeth Cymru (sy’n cynghori Gweinidogion Cymru) ynghylch cyflwyno’r dyfarniadau.

Yn Lloegr, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn neilltuo 300 o ddyfarniadau newydd bob blwyddyn ar lefelau efydd, arian, aur a phlatinwm (y rhan fwyaf ar y lefel efydd, a’r lleiaf ar y lefel platinwm). Yng nghystadleuaeth 2019, cafwyd 956 o geisiadau o bob rhan o Loegr o blith poblogaeth gymwys o oddeutu 52,000[footnote 2] am 300 o ddyfarniadau newydd, gan roi cyfradd lwyddo o 31.4%.

Mae’r dyfarniadau’n para am 5 mlynedd, a gellir eu hadnewyddu yn amodol ar gyflwyno cais llwyddiannus sy’n dangos bod safonau’n cael eu cynnal. Mae ychydig yn llai na 2,200 yn dal dyfarniadau ar hyn o bryd.

Dyma yw gwerthoedd CEAs Cenedlaethol:

  • £36,192 y flwyddyn (efydd)

  • £47,582 y flwyddyn (arian)

  • £59,477 y flwyddyn (aur)

  • £77,320 y flwyddyn (platinwm)

Telir y dyfarniadau ar sail pro rata i rai sy’n gweithio llai nag amser llawn (LlNALl).

Gall ymgeiswyr symud i fyny drwy’r lefelau dyfarnu dros amser, ar yr amod bod eu cais yn llwyddiannus. Mae’r dyfarniadau’n bensiynadwy ar hyn o bryd, sy’n golygu bod cyfanswm gwerth y wobr yn uwch na’r ffigurau uchod. Gwariwyd £131.5m ar CEAs cenedlaethol ledled Cymru a Lloegr yn 2019 i 2020, gan gynnwys argostau.

Yng Nghymru, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn neilltuo 15 i 18 o ddyfarniadau bob blwyddyn, yn dibynnu ar lefel y dyfarniadau hynny. Yng nghystadleuaeth 2019, cafwyd 66 o geisiadau o bob rhan o Gymru, o blith poblogaeth gymwys o oddeutu 2,600, sy’n rhoi cyfradd lwyddo o 23%.

Ar hyn o bryd mae ychydig yn llai na 100 yn dal dyfarniad yng Nghymru, a gwerth y rhain yw:

  • £36,924 y flwyddyn (efydd)

  • £48,533 (arian)

  • £60,666 (aur)

  • £78,866 (platinwm)

Mae NCEAs yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â CEAs lleol (LCEAs), er na chaniateir dal dyfarniadau lleol a chenedlaethol ar yr un pryd. Cyflwynwyd LCEAs yn 2004 ac fe’u gweithredir ar raddfa ymddiriedolaethau yn Lloegr yn unig. Mae’r dyfarniadau hyn yn gytundebol, yn anghyfunol ac yn amhensiynadwy. Mae’r trefniadau cyfredol ar waith hyd fis Mawrth 2022, ac ymhen amser byddant yn cael eu diwygio drwy drafod â’r undebau llafur. Er nad oes gan Gymru LCEAs, gellir dechrau cymhwyso Dyfarniadau Ymrwymiad 3 blynedd ar ôl i feddyg/ddeintydd ymgynghorol gyrraedd brig y raddfa gyflog, yn amodol ar berfformiad boddhaol.

Yr achos o blaid newid

Daeth cynllun cyfredol y CEA i ddisodli’r Dyfarniadau Rhagoriaeth yn 2004, ac er bod newidiadau graddol wedi’u cyflwyno ers hynny, ni chafwyd unrhyw ddiwygiadau o bwys. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r gweithlu ymgynghorol, a’r ffordd y mae meddygon/deintyddion ymgynghorol yn gweithio, wedi esblygu. Rydym am sicrhau bod y cynllun CEA cenedlaethol yn gyfredol, yn cynnig gwerth da am arian ac yn gwobrwyo’r meddygon/deintyddion ymgynghorol sy’n perfformio orau.

Adlewyrchu poblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol sydd wedi newid

Mae’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol wedi tyfu’n sylweddol: o 31,000 o feddygon ymgynghorol (nifer y gweithwyr unigol) yn Lloegr yn 2004[footnote 1] i 52,000 yn 2019[footnote 2]. Mae nifer y CEAs sydd ar gael bob blwyddyn wedi aros yn sefydlog ar 300 ers 2009 (600 hyd 2009).

Mae’r cyfansoddiad o ran y rhywiau wedi newid o 31% o feddygon/deintyddion ymgynghorol benywaidd yn 2010 i 38% yn 2020[footnote 2]. Mae nifer y meddygon/deintyddion ymgynghorol sy’n gweithio’n rhan-amser hefyd wedi cynyddu rhyw fymryn, o 19% yn 2010 i 21% yn 2019.

Yn yr un modd, dros yr un cyfnod mae cyfran y meddygon/deintyddion ymgynghorol du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig sy’n gweithio yn Lloegr wedi cynyddu’n sylweddol o 22%[footnote 1] i 37%[footnote 2].

Ymdrinnir â materion amrywiaeth yn fanylach isod.

Adlewyrchu’r newid mewn patrymau gwaith

Yn y ddwy flynedd ar bymtheg ers cyflwyno’r cynllun CEA cenedlaethol, mae clinigwyr cymwys wedi symud i swyddi newydd yn amlach ac, mewn llawer o achosion, wedi datblygu gyrfaoedd portffolio mwy amrywiol wrth i brosesau cynllunio swydd barhau i esblygu a gwella.

Dylai cynllun diwygiedig i foderneiddio CEAs ystyried y ffyrdd newydd hyn o weithio, gan gynnwys gwella cydnabyddiaeth y rhai sy’n gweithio LlNALl, a chydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth ar draws ystod ehangach o gyfraniadau clinigol, academaidd ac arweinyddol.

Tabl 1: twf gweithlu meddygon/deintyddion ymgynhgorol

Blwyddyn Cyfwerth ag amser llawn Nifer
2009 35,010 36,932
2010 36,497 38,507
2011 37,583 39,758
2012 38,772 40,997
2013 39,852 42,125
2014 41,290 43,602
2015 42,903 45,349
2016 44,333 46,955
2017 45,825 48,607
2018 47,308 50,275
2019 48,926 52,130
2020 50,875 54,313

Ffynhonnell: Ystadegau Gweithlu Digidol y GIG

Gwella amrywiaeth

Mae ymgeiswyr benywaidd a du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig wedi’u tangynrychioli ar bob lefel dyfarnu; mae’r effaith hon yn cynyddu ar y lefelau uwch.

Tabl 2: demograffeg deiliaid CEA cenedlaethol ar 21 Gorffennaf 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr

Demograffeg Efydd Arian Aur Platinwm Cyfanswm
Gwryw 860 (76.58%) 585 (83.81%) 191 (83.541%) 79 (86.81%) 1751 (80.10%)
Benyw 263 (23.42%) 113 (16.19%) 38 (17%) 12 (13.19%) 426 (19.90%)
Gwyn 874 (77.83%) 576 (82.52%) 188 (82%) 71 (78.02%) 1709 (79.82%)
Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig 213 (18.97%) 112 (16.05%) 34 (15%) 15 (16.48%) 374 (17.47%)
Heb nodi 36 (3.21%) 10 (1.43%) 7 (2%) 5 (5.49%) 58 (2.71%)
Cyfanswm 1123 698 229 91 2141

Mae meddygon/deintyddion ymgynghorol sy’n fenywod, ac yn ddu, Asiaidd a lleiafrifol ethnig wedi cael eu tangynrychioli’n gyson ymhlith yr ymgeiswyr. Fodd bynnag, pan fydd menywod yn ymgeisio, mae eu cyfraddau llwyddo bellach yn debyg i gyfraddau llwyddo dynion cyfatebol.

Tabl 3: cyfraddau llwyddo’r dyfarniad newydd yn ôl rhyw 2014 i 2019

Blwyddyn 2014 2015 2016 2017 2018 2019
Benyw 16.50% 26.40% 25.60% 26.70% 30.20% 33.20%
Gwryw 21.70% 26.50% 26.80% 30.20% 31.30% 32.49%
Cyffredinol 20.70% 26.50% 26.50% 29.50% 31.00% 32.67%
Bwlch -5.20% -0.10% 01.20% -3.50% -1.10% 0.17%

O ran ymgeiswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, mae’r darlun yn fwy cymysg.

Tabl 4: Cyfraddau llwyddiant y dyfarniad yn ôl ethnigrwydd 2014 i 2019

Blwyddyn 2014 2015 2016 2017 2018 2019
Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig 13.90% 29.90% 26.10% 25.70% 23.30% 28.24%
Gwyn 21.60% 25.90% 26.80% 30.20% 31.80% 34.60%
Bwlch -7.70% 4.00% -0.70% -4.50% -8.50% -6.36%

Ceir hyd i’r data ar gyfraddau llwyddo yn ein Hadroddiadau Blynyddol

Yng nghyhoeddiad Mend the Gap - the independent review into gender pay gaps in medicine in England yn Rhagfyr 2020, canfuwyd bod CEAs lleol a chenedlaethol yn ffactor a oedd yn cyfrannu at y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau mewn meddygaeth. Amlygwyd nifer o resymau pam bod menywod yn llai tebygol o ddal CEA. Er enghraifft, mae menywod sy’n feddygon/ddeintyddion ymgynghorol yn fwy tebygol o fod yn iau, ac yn fwy tebygol o weithio mewn meysydd arbenigol sydd wedi’u tangynrychioli fel meddygaeth liniarol a’r henoed. Maent hefyd yn fwy tebygol o gymryd seibiant gyrfa, gan ei gwneud hi’n fwy anodd casglu 5 mlynedd o dystiolaeth ar gyfer CEA. Fodd bynnag, canfuwyd nad oedd y ffactorau hyn gyda’i gilydd yn esbonio’r bwlch yn llawn.

Tabl 5: cyfansoddiad meddygon Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCSC) o ran rhywedd ar draws y prif feysydd gwaith, Medi 2018

Prif faes gwaith Meddygon benywaidd Meddygon gwrywaidd
Oncoleg glinigol 53.76% 46.24%
Cymorth glinigol 46.5% 53.5%
Acíwt cyffredinol 42.01% 57.99%
Delweddu 38.08% 61.92%
Meddygaeth 50.26% 49.74%
Heb nodi maes gwaith 58.92% 43.08%
Obstetreg a gynaecoleg 66.35% 33.65%
Iechyd Galwedigaethol 52.1% 47.9%
Patholeg 52.33% 47.67%
Seiciatreg 72.56% 27.44%
Meddygaeth iechyd y cyhoedd 72.56% 27.44%
Llawfeddygaeth 31.26% 68.74%

Ffynhonnell: Cofnodion Staff Electronig (ESR), Adolygiad ‘Mend the Gap’ GIG Digidol.

Canfu’r adolygiad hefyd fod menywod yn llai parod i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd i gynyddu eu henillion, gan nodi cymryd rhan mewn proses hunan-ddethol fel rheswm posibl; ar hyn o bryd, mae’n rhaid ymgeisio am CEAs cenedlaethol drwy eich enwebu eich hun. Gwyddom fod rhai menywod yn cael eu hannog i wneud hynny gan eu rheolwyr, ond nid yw’r arfer honno’n safonol ar draws y GIG, a dylai cyflogwyr eu hannog yn weithredol trwy’r broses arfarnu. Roedd adborth o’n grwpiau ffocws a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref 2020 yn atgyfnerthu hyn, gan awgrymu bod menywod, yn enwedig rhai sy’n gweithio LlNALl, yn ei chael hi’n fwy anodd cael cyngor gyrfaoedd, mentoriaeth a chefnogaeth gan gyflogwyr ar gyfer ceisiadau.

Rydym am i’r cynllun newydd fod yn fwy hygyrch, ac yn gynllun sy’n annog ceisiadau gan rai sydd wedi cyflawni y tu hwnt i’w ‘swydd bob dydd’ waeth beth yw eu cefndir a’u nodweddion. Defnyddiwyd canfyddiadau ac argymhellion adolygiad Mend the Gap yn sail ar gyfer ein cynigion.

Sicrhau cymhelliant effeithiol i ragori

Mae CEAs cenedlaethol ar hyn o bryd yn bensiynadwy, sy’n deillio o’r adeg pan oedd CEAs yn cael eu trin fel codiad cyflog. Nid yw hyn yn gyson â’r cysyniad o gynllun gwobrwyo a chydnabod modern anghyfunol.

Mae statws pensiynadwy CEAs hefyd yn creu goblygiadau o ran trethu. Mae’r atebolrwydd treth posibl yn y dyfodol am werth cronedig eu pensiwn GIG yn ffactor sydd wedi gwneud i nifer sylweddol o ddeiliaid y dyfarniad ystyried ildio eu CEAs am resymau ariannol, lleihau eu horiau, neu ‘ymddeol a dychwelyd’ (yn aml gan ddiosg eu cyfrifoldebau clinigol yn benodol). Mae’n debygol bod hyn hefyd wedi cymell pobl i beidio ymgeisio.

Yn olaf, cafodd y cynllun cyfredol ei drosi o fformat papur i’r porthol ar-lein cyfredol, ac nid yw wedi’i ddylunio fel gwasanaeth ‘digidol yn gyntaf’. Mae’r TG sy’n cynnal y porthol bellach yn 14 mlwydd oed, heb fod yn hawdd iawn i’w defnyddio ac yn hen ffasiwn gyda chyfyngiadau o ran diweddaru a chefnogaeth. Mae’r cynllun newydd a gynigir yn gyfle i adeiladu gwasanaeth modern sy’n fwy effeithlon ac effeithiol, gan leihau’r baich ar ymgeiswyr, sgorwyr a gweinyddwyr fel ei gilydd.

Ein hamcanion

Mae’r newidiadau a gynigir gennym yn perthyn i 3 thema drosfwaol:

  • ehangu mynediad i’r cynllun

  • gwneud y broses ymgeisio yn haws, yn decach ac yn fwy cynhwysol

  • sicrhau bod y cynllun yn gwobrwyo ac yn cymell hagoriaeth ar draws ystod ehangach o waith ac ymddygiadau

Yn 2012, gofynnodd gweinidogion iechyd y DU i’r Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion (DDRB) ‘adolygu lefelau tâl a systemau cymhelliant a’r cynlluniau Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol amrywiol ar gyfer meddygon/deintyddion ymgynghorol y GIG ar raddfa leol a chenedlaethol.’ Yn ei adroddiad ar lefelau iawndal meddygon/deintyddion ymgynghorol, argymhellodd y DDRB newidiadau i’r cynlluniau CEA lleol a chenedlaethol.

Wrth ddatblygu ein cynigion, rydym hefyd wedi ymgynghori’n eang â chyflogwyr ar draws y GIG, practisau meddygol cyffredinol, cymdeithasau a cholegau arbenigol a Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA). Mae llawer o’n rhanddeiliaid, gan gynnwys y Colegau Brenhinol a’r BMA, wedi cael golwg ar y diwygiadau arfaethedig a chynnig sylwadau defnyddiol yn uniongyrchol a thrwy drafodaethau grwpiau ffocws.

Bydd moderneiddio’r cynllun CEA yn allweddol er mwyn helpu i gyflawni’r Cynllun Hirdymor yn Lloegr, ochr yn ochr â Chynllun Pobl 2020 i 2021, sy’n nodi blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer cael denu a chadw mwy o bobl, yn gweithio’n wahanol mewn diwylliant tosturiol a chynhwysol yn y GIG. Mae’r Cynllun Hirdymor yn darparu fframwaith strategol ar gyfer sut y bydd modelau gofal newydd yn cael eu trawsnewid yn ystod y 5 mlynedd nesaf er mwyn gwella canlyniadau i’n poblogaethau.

Bydd cynllun newydd yn cefnogi’r Cynllun Hirdymor a Chynllun Pobl y GIG drwy gydnabod cyfraniadau meddygon/deintyddion ymgynghorol ac ymarferwyr cyffredinol academaidd sy’n cyflawni ar lefel genedlhaetol:

  • arloesi yn y byd digidol a thechnoleg, neu welliannau effeithlonrwydd sy’n rhyddhau amser ar gyfer gofal

  • gwell gofal ataliol a/neu wedi’i bersonoli sy’n lleihau anghydraddoldebau iechyd

  • cynnydd mewn ymchwil feddygol i wella canlyniadau cleifion yn y dyfodol

  • addysg a hyfforddiant modern, aml-broffesiynau - ymgysylltu, arwain a gweithredu newid strategol

  • gwelliannau i staff y GIG drwy arwain, mentora neu fel arall er mwyn gwneud y GIG yn lle gwych i weithio

I Gymru, byddai cynllun CEA wedi’i foderneiddio o gymorth i gyflawni Cymru Iachach, y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n pennu ‘trefn system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’ fel gweledigaeth hirdymor yn y dyfodol sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch.

Newidiadau a gynigir i’r cynllun CEA cenedlaethol

O gofio’r amcanion uchod, rydym yn ymgynghori ar y canlynol:

  • cynyddu nifer y CEAs newydd, a gwneud hynny’n bosibl drwy eu gwneud yn anghyfunol ac yn amhensiynadwy

  • cael gwared â’r ‘dilyniant’ seiliedig ar amser rhwng y lefelau dyfarnu, a sicrhau bod lefelau’r dyfarniadau’n gysylltiedig ag effaith cyflawniadau

  • newidiadau i’r meysydd ar gyfer asesu ceisiadau CEA cenedlaethol

  • rôl geirdaon a phennu safleoedd ymgeiswyr gan gyrff enwebu cenedlaethol (NNBs) a chymdeithasau arbenigol (SSs) achrededig.

  • parhau i gynnal y dyfarniad dros 5 mlynedd, ond diweddu’r broses adnewyddu gyfredol ar gyfer dyfarniadau, gyda chlinigwyr yn gwneud cais am ddyfarniad newydd wrth i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben;

  • sut i sicrhau bod deiliaid dyfarniadau’n cynnal rhagoriaeth tra bo CEA yn weithredol; ac

  • a oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach ar drefniadau cynllun CEA cenedlaethol yn y dyfodol

Ochr yn ochr â’r broses ymgynghori ffurfiol, mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) yn cefnogi ymchwil sy’n canolbwyntio ar brosesau sgorio ac asesu ACCEA. Bydd hyn yn dechrau yn fuan a bydd yr ymchwilwyr yn adrodd yn yr hydref.

Hoffem glywed gan feddygon a deintyddion ymgynghorol ac ymarferwyr cyffredinol academaidd, meddygon dan hyfforddiant, ymddiriedolaethau’r GIG ac ymddiriedolaethau sefydledig y GIG, Colegau Brenhinol Meddygol, sefydliadau cynrychioliadol, undebau llafur, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, Addysg Iechyd Lloegr a sefydliadau eraill meddygol neu sefydliadau sy’n canolbwyntio ar iechyd, a allai hefyd fod â diddordeb mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Cwestiynau ymgynghori

Ehangu mynediad i’r cynllun

Nifer y Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol Cenedlaethol (NCEAs)

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cynyddu nifer y CEAs sydd ar gael fel y gallai 1% o’r boblogaeth o glinigwyr ddal dyfarniad platinwm, 2% o glinigwyr ddal dyfarniad aur a 3% o glinigwyr ddal dyfarniad arian?

Yn eich barn chi, faint o CEAs ddylai fod ar gael, ar ba lefel a pham, gan gydnabod y bydd costau’r cynllun yn aros yr un fath yn fras?

Cwestiynau am Gymru’n benodol

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r lefelau dyfarnu arfaethedig o ystyried y ffaith na cheir unrhyw gynllun CEA lleol (LCEA) yng Nghymru?

Yng Nghymru, rydym yn cynnig cadw’r cynllun dyfarnu lefel efydd am nad oes unrhyw gynllun LCEA ar waith. Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod hyn yn ddewis da?

Pa gynllun amgen yr hoffech chi ei weld yn ei le?

Cyn gynted ag y bo’r broses o drosglwyddo o’r cynllun cyfredol wedi’i chwblhau, rydym yn cynnig yn Lloegr y dylai dyfarniadau fod ar gael i oddeutu 6% o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys, ac y caniateir dal y dyfarniadau hynny ar yr un pryd â’r dyfarniadau lleol neu’r cynllun a ddaw i ddisodli’r rheiny:

  • Gallai 1% (tua 500) o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys ddal dyfarniad platinwm, sydd werth £40,000 y flwyddyn o leiaf

  • Gallai 2% (tua 1000) o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys ddal dyfarniad aur, sydd werth £30,000 y flwyddyn o leiaf

  • Gallai 3% (tua 1500) o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys ddal dyfarniad arian, sydd werth £20,000 y flwyddyn o leiaf

Rydym yn cynnig cael gwared â lefel efydd y dyfarniadau cenedlaethol yn Lloegr. Bydd y lefelau sy’n weddill yn gwobrwyo cyflawniadau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cynllun dyfarniadau lleol yn dal i gydnabod cyflawniadau lleol, ond yn amodol ar ganlyniad trafodaethau, gallai hefyd gydnabod ymdrechion rhanbarthol ar y lefel uchaf, fel gwaith ychwanegol a gyflawnwyd ar draws systemau gofal integredig a chynaliadwyedd a phartneriaethau trawsnewid. Drwy ganiatáu i feddygon/deintyddion ymgynghorol ddal dyfarniadau lleol a chenedlaethol ar yr un pryd, rydym yn cynyddu nifer y meddygon/deintyddion ymgynghorol sy’n gymwys i dderbyn dyfarniadau lleol; gan fod cyfanswm y gwariant ar CEAs lleol yn dibynnu ar faint y boblogaeth gymwys, mae hyn yn golygu y bydd angen sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun. Byddwn yn sicrhau bod y gost ychwanegol hon i ymddiriedolaethau yn cael ei thalu, ond byddem yn awgrymu, yn amodol ar y trafodaethau parhaus ar y cynllun lleol, y dylid rhoi’r cyllid ychwanegol hwn tuag at gydnabod rhagoriaeth ranbarthol.

Yn unol â’r cynnig hwn, byddai oddeutu 300 o ddyfarniadau arian newydd, 200 o ddyfarniadau aur newydd a 100 o ddyfarniadau platinwm newydd bob blwyddyn. Yn fras, mae hyn yn dyblu nifer y dyfarniadau sydd ar gael yn Lloegr bob blwyddyn (o 300 i 600). Bwriad hyn yw annog mwy o feddygon/deintyddion ymgynghorol i wneud cais a chynyddu’r cyfle i lwyddo. Bydd angen gosod ac adolygu nifer a dosbarthiad y dyfarniadau bob blwyddyn gan ystyried paramedrau fforddiadwyedd.

Yng Nghymru, ceir 2,612 o feddygon/deintyddion ymgynghorol amser llawn ar hyn o bryd a chynigir y canlynol:

  • Gallai 1% (26) o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys ddal dyfarniad platinwm, sydd werth £40,000 y flwyddyn o leiaf

  • Gallai 2% (52) o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys ddal dyfarniad aur, sydd werth £30,000 y flwyddyn o leiaf

  • Gallai 3% (78) o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys ddal dyfarniad arian, sydd werth £20,000 y flwyddyn o leiaf

  • A gallai 4% (104) o’r boblogaeth o feddygon/deintyddion ymgynghorol cymwys ddal dyfarniad efydd, sydd werth £10,000 y flwyddyn o leiaf

Rydym yn cynnig na ddylai ymgeiswyr orfod symud ymlaen trwy wahanol lefelau CEAs cenedlaethol fel ar hyn o bryd. Yn y cynllun newydd, bydd ymgeiswyr yn gwneud cais heb nodi lefel y dyfarniad y maent yn anelu ato. Byddai’r broses sgorio ranbarthol yn penderfynu a yw ymgeiswyr wedi cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer dyfarniad ac, os felly, lefel y dyfarniad hwnnw. Er mwyn sicrhau cyfle cyfartal, dyrennir nifer o ddyfarniadau i bob rhanbarth (gall y rhain newid o’r rhai cyfredol) sy’n gymesur â nifer y ceisiadau a wneir gan glinigwyr cymwys sy’n gweithio yno, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, gyda chyfran sefydlog ym mhob un ar y tair lefel arfaethedig. Bydd ceisiadau’n cael eu sgorio gan y pwyllgor rhanbarthol perthnasol gyda Chymru yn parhau i fod yn rhanbarth fel ar hyn o bryd.

Disgwylir i’r newid hwn wella amrywiaeth deiliaid y gwobrau ar bob lefel. Bydd hefyd yn cynyddu trosiant deiliaid gwobrau, gan wella’r cyfle i uwch glinigwyr ennill gwobr a allai fod ar lefel uwch yn llawer cynharach yn eu gyrfaoedd. Er mwyn sicrhau bod gwobrau platinwm yn cydnabod y cyflawniadau uchaf yn unig, rydym yn bwriadu parhau i sgorio’r rhain yn genedlaethol. Bob blwyddyn, unwaith y byddwn yn pennu nifer y dyfarniadau platinwm sydd i’w gwneud, byddwn yn tynnu dwywaith y nifer hwnnw o’r ceisiadau sy’n sgorio orau yn gymesur o bob pwll rhanbarthol. Yna bydd y rhain yn cael eu hail-sgorio gan bwyllgor platinwm. Bydd hanner yr ymgeiswyr hyn sydd â sgôr uwch yn ennill dyfarniad platinwm, a’r hanner sydd â sgôr is yn derbyn dyfarniad aur (o’r dyfarniadau aur a ddyrannwyd yn rhanbarthol).

Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, byddai ymgeiswyr sy’n gweithio i gyrff hyd braich DHSC, meddygon teulu academaidd wedi’u contractio gan GIG Lloegr ac ymgynghorwyr iechyd cyhoeddus a gyflogir gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cael eu sgorio gan bwyllgor canolog nad yw’n ddaearyddol ei natur.

Dyfarniadau perfformiad lleol ac NCEAs

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r gwerth a gynigir ar gyfer yr NCEAs ar y gwahanol lefelau, sef o leiaf: £20,000 - arian, £30,000 - aur, a £40,000 - platinwm, o gofio y bydd dyfarniadau perfformiad lleol hefyd ar gael i ddeiliaid NCEA o 2022?

Pan gyflwynwyd y cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Clinigol, roedd ganddo 12 lefel, gyda lefelau 1 i 9 yn cael eu dyfarnu’n lleol a 9 i 12 yn ddyfarniadau cenedlaethol (efydd, arian, aur a phlatinwm). Bwriad y gorgyffwrdd ar lefel 9 ac efydd oedd gweithredu fel rhyngwyneb rhwng y cynlluniau lleol a chenedlaethol, ond achosodd hyn ddryswch ynghylch pa gynllun a fyddai’n cydnabod rhagoriaeth ar y lefel honno yn fwy priodol.

Rydym yn cynnig cael gwared â lefel efydd y dyfarniadau cenedlaethol. Bydd y lefelau sy’n weddill, drwy’r broses ymgeisio un haen, yn gwobrwyo cyflawniadau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cynllun dyfarniadau lleol yn dal i gydnabod cyflawniadau lleol, ond yn amodol ar ganlyniad trafodaethau, gallai hefyd gydnabod ymdrechion rhanbarthol ar y lefel uchaf, fel gwaith ychwanegol a gyflawnwyd ar draws systemau gofal integredig neu ôl troed rhanbarthol ehangach.

Drwy ganiatáu i feddygon/ddeintyddion ymgynghorol ddal dyfarniadau lleol a chenedlaethol ar yr un pryd, rydym yn cynyddu nifer y meddygon/deintyddion ymgynghorol sy’n gymwys i dderbyn dyfarniadau lleol. Gan fod cyfanswm y gwariant ar CEAs lleol yn dibynnu ar faint y boblogaeth gymwys, mae hyn yn golygu y bydd angen sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer y cynllun. Byddwn yn sicrhau bod y gost ychwanegol hon i ymddiriedolaethau yn cael ei thalu, ond byddem yn awgrymu, yn amodol ar y trafodaethau parhaus ar y cynllun lleol, y dylid rhoi’r cyllid ychwanegol hwn tuag at gydnabod rhagoriaeth ranbarthol neu ragoriaeth ar lefel-system.

Bydd meddygon teulu academaidd yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais am CEA cenedlaethol. Dylid nodi nad oes gan feddygon teulu academaidd sy’n gweithio yn Lloegr fynediad at gynlluniau tâl perfformiad lleol.

Nid oes unrhyw gynllun dyfarniadau lleol yng Nghymru, ond mae meddygon/deintyddion ymgynghorol yn gymwys i dderbyn Dyfarniadau Ymrwymiad y dechreuir eu cymhwyso 3 blynedd ar ôl i feddyg/ddeintydd ymgynghorol gyrraedd brig y raddfa. Fel sy’n wir ar hyn o bryd, disgwylir na fydd rhywun sy’n dal dyfarniad cenedlaethol yng Nghymru mewn unrhyw gynllun newydd yn gymwys i ddal Dyfarniad Ymrwymiad, ond y bydd y ddarpariaeth bresennol sy’n galluogi meddygon/deintyddion ymgynghorol i fod yn gymwys i ddychwelyd i’r raddfa Dyfarniad Ymrwymiad os nad ydynt yn derbyn CEA cenedlaethol mwyach yn parhau.

Newidiadau i’r meysydd ar gyfer asesu ceisiadau CEA cenedlaethol

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r meysydd hyn sydd wedi’u haddasu?

Pa feysydd yr hoffech eu gweld a pham, a/neu sut fyddech chi’n addasu’r disgrifyddion a ddarperir ar gyfer y 5 maes arfaethedig?

Nid yw’r ‘meysydd’ tystiolaeth cyfredol wedi cael eu hadolygu’n sylweddol ers i CEAs cenedlaethol ddisodli Gwobrau Rhagoriaeth yn 2004. Rydym yn cynnig y meysydd canlynol ar gyfer y cynllun newydd:

  • datblygu a darparu eich gwasanaeth - dylunio neu ail-ddylunio a gweithredu gwasanaeth sydd wedi’i fabwysiadu’n eang, gan hybu effeithiolrwydd yn eich ardal a thu hwnt

  • arweinyddiaeth – datblygu polisi sylweddol, ymgorffori newid, arwain pobl, datblygu gweledigaeth a strategaeth, estyn ar draws ffiniau, gydag effaith bendant uwchlaw lefel leol a rhanbarthol ar gyfer gofal cleifion neu ar gyfer y GIG fel cyflogwr

  • addysg, hyfforddiant a datblygu pobl – datblygu a chyflwyno hyfforddiant a deunyddiau dysgu effeithiol, dulliau asesu arloesol sy’n cyfrannu at addysg ôl-raddedig, a chyfraniad at addysgu ac asesu yn y DU neu dramor. Hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd mewn hyfforddiant, addysgu ac asesu, a chydnabod pwysigrwydd addysg cleifion a’r cyhoedd. Cyfrannu at ddatblygiad pobl i gael effaith gadarnhaol ar brofiad a pherfformiad staff y GIG

  • arloesi ac ymchwil – cyfraniad at ymchwil a/neu arloesi â chymorth. Datblygu technegau newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, systemau arloesol neu fodelau gwasanaeth. Gwelliannau o ran ymgysylltiad y cyhoedd a chleifion mewn ymchwil a ffyrdd newydd o feddwl ynghylch gwella gwasanaethau i gleifion. Effaith ymchwil ar arfer a pholisi’r gwasanaeth iechyd

  • un maes arall lle gall ymgeiswyr roi tystiolaeth o unrhyw waith arall o ansawdd a gydnabyddir yn genedlaethol neu’n rhyngwladol mewn meysydd a allai gynnwys gofal meddygol neu reolaeth, addysg, hybu iechyd, neu ymchwil a datblygu

Yn Lloegr, gallai’r pumed maes hwn gynnwys, er enghraifft:

  • Meysydd arolygu’r Comisiwn Ansawdd Gofal

  • blaenoriaethau Cynllun Hirdymor y GIG (modelau gwasanaeth newydd, gweithredu ar atal ac anghydraddoldebau iechyd)

  • blaenoriaethau’r Ysgrifennydd Gwladol: ‘pobl, atal, seilwaith a thechnoleg’ i wella gofal i gleifion

Blaenoriaethau strategol cenedlaethol eraill, gan gynnwys:

  • cyfrannu at gyflawni Cynllun Pobl y GIG

  • cyfrannu at y gwaith o ddatblygu systemau gofal integredig

  • cefnogi blaenoriaethau datblygol y GIG, fel ymatebion brys ac adferiad gwasanaeth a staff

  • dangos trwy arweinyddiaeth fyfyriol, er enghraifft, werthoedd ac ymddygiadau’r GIG a chefnogaeth i newid diwylliannol yn unol â’r rhai a nodir yn Addewid Pobl y GIG

O ran Cymru, gallai hyn gynnwys:

  • alinio â’r Safonau Iechyd a Gofal

  • Cymru Iachach (Datblygu gofal i gleifion mewn Systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd)

  • unrhyw feysydd gwaith ac effaith eraill fel y teimlir eu bod yn briodol gan yr ymgeisydd sy’n adlewyrchu eu cyfraniad ‘yn ychwanegol at’ eu cynllun swydd

Gwella mynediad at yr NCEA

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i wella mynediad at y gystadleuaeth NCEA?

A oes gennych chi awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella mynediad gan fenywod a rhai â nodweddion gwarchodedig i’r cynllun?

I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai rhai sy’n gweithio LlNALl dderbyn gwerth y dyfarniad yn llawn yn hytrach na’r dyfarniad cyfredol sy’n seiliedig ar dâl pro rata?

Ceir hyd i fanylion am y broses ymgeisio gyfredol yn ein canllaw i ymgeiswyr.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Llywodraeth Cymru am archwilio opsiynau er mwyn gwella’r broses ymgeisio gyfredol. Ein hamcanion yw annog yr ymgeiswyr mwyaf haeddiannol i ymgeisio am ddyfarniad, ac i fod yn deg a chyfartal, heb roi unrhyw grŵp cymwys o ymgeiswyr dan anfantais. Gan hynny, dylid rhoi ystyriaeth i amrywiaeth wrth ddylunio’r broses honno a dylid adrodd ar yr ystadegau a’u cyhoeddi bob blwyddyn.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Llywodraeth Cymru am annog cyflogwyr i sicrhau bod ymgeiswyr o’u sefydliad yn adlewyrchu amrywiaeth eu gweithlu o feddygon/ddeintyddion ymgynghorol, gan roi mwy o gefnogaeth i feddygon/ddeintyddion ymgynghorol sy’n fenywod ac yn ddu, yn Asiaidd ac yn lleiafrifol ethnig. Yn rhan o hyn, dylent ystyried annog ceisiadau o grwpiau arbenigedd sydd wedi cael eu tangynrychioli yn y gorffennol, fel gofal lliniarol neu bediatreg cymunedol, gan adrodd ar amrywiaeth ceisiadau yn erbyn meincnodau priodol.

Argymhellai adolygiad ‘Mend the Gap’ y dylid monitro ceisiadau’n agosach a gwelliannau wrth adrodd er mwyn helpu i hyrwyddo ceisiadau o arbenigeddau sydd fel arfer yn derbyn dyfarniadau is.

Efallai y bydd modd asesu cyfraniad a lefel y cymorth i rai sy’n gweithio llai nag amser llawn (LlNALl) yn erbyn yr un safon a chydweithiwr amser llawn. Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Archwilio Clinigol yn cynghori ein sgorwyr i asesu tystiolaeth yn ofalus yn y meysydd yn erbyn y cynllun swydd er mwyn sicrhau bod disgwyliad dilys o gyflawni rôl yn cael ei sefydlu; i asesu beth sydd ‘yn ychwanegol at’ ar gyfer pob ymgeisydd gan ddefnyddio’r llinell sylfaen hon. Fodd bynnag, mae ymgeiswyr LlNALl, os ydynt yn llwyddiannus yn eu cais, yn derbyn gwerth pro-rata o’u dyfarniad, yn seiliedig ar nifer y sesiynau yn eu cynllun swydd. Mae hyn yn codi pryderon ynghylch mynediad i’r cynllun NCEA a lefel y dyfarniad os yw’r ymgeisydd llwyddiannus, er iddo gael ei gontractio i weithio llai o oriau, yn dal i ddangos rhagoriaeth glinigol. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a llywodraeth Cymru yn cynnig na ddylid talu dyfarniadau NCEA yn y dyfodol ar sail pro-rata, ond yn lle hynny, talu’r dyfarniad yn llawn. Dylai hyn fod yn ffactor sy’n cyfrannu at leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Byddem yn dymuno i gyflogwyr chwarae rhan allweddol er mwyn annog ceisiadau gan rai sy’n gweithio LlNALl.

Cynnal rhagoriaeth tra bo’r CEA yn weithredol

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod hyn yn ffordd briodol o gymell deiliaid i gynnal rhagoriaeth hyd ddiwedd cyfnod y CEA?

Pa gynigion sydd gennych i sicrhau bod deiliaid CEA yn cynnal rhagoriaeth glinigol hyd ddiwedd cyfnod y dyfarniad?

Mae’r ACCEA am sicrhau, wrth gydnabod rhagoriaeth glinigol, fod cynnydd yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod llawn tra bo’r CEA yn weithredol. Ar hyn o bryd, dim ond tystiolaeth o gyflawniadau dros y 5 mlynedd diwethaf a ystyrir wrth sgorio ceisiadau.

Yn rhan o’r broses ymgeisio, rydym yn ystyried gofyn i ymgeiswyr gyflwyno cynllun amlinellol ar gyfer y cyfnod pan fyddai’r CEA yn cael ei dalu, pe byddent yn llwyddiannus. Byddai hyn yn dangos sut maent yn bwriadu cynnal/parhau i ddatblygu’r gwaith y maent yn cael eu cydnabod amdano. Rydym yn cydnabod y gallai cynlluniau ymgeiswyr a’u portffolio o gyfrifoldebau newid dros amser. Gan hynny, ni chynigir dyfarnu sgôr ar gyfer y maes hwn, na’i gynnwys fel rhwymedigaeth mewn ceisiadau yn y dyfodol. Yn hytrach, fe’i defnyddir fel ysgogiad i ddisgrifio sut y bydd eu cyfraniad yn datblygu dros amser.

Dirwyn y broses adnewyddu i ben

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid parhau i gynnal y dyfarniad dros 5 mlynedd, ond y dylid dod â’r broses adnewyddu ar gyfer dyfarniadau i ben, gyda chlinigwyr yn gwneud cais am ddyfarniad newydd wrth i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben?

Rydym yn cynnig parhau i gynnal y dyfarniad dros 5 mlynedd, ond dirwyn y broses adnewyddu gyfredol ar gyfer dyfarniadau i ben, gyda chlinigwyr yn gwneud cais am ddyfarniad newydd wrth i’r dyfarniad ddod i ben.

Mae dileu’r broses adnewyddu yn gosod disgwyliad cliriach y bydd pob ymgeisydd yn cystadlu â’i gilydd ar hyd continwwm adeg y cais. Dylai hyn gymell deiliaid dyfarniadau presennol sy’n dymuno ennill dyfarniad newydd yn y rownd nesaf i barhau i ymdrechu am ragoriaeth yn ystod 5 mlynedd eu dyfarniad, gyda golwg ar eu cais nesaf. Gall hyn wella amrywiaeth yn gyffredinol a gwella mynediad at ddyfarniadau i staff iau sy’n perfformio’n dda.

Fodd bynnag, bydd trosiant uwch hefyd yn arwain at amrywiadau mewn incwm; yn enwedig ar gyfer meddygon/deintyddion ymgynghorol iau wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd. Gall yr amrywiadau posibl mewn incwm i’r unigolyn wneud cynllunio ariannol yn fwy heriol.

Yn ôl y cynllun presennol, mae’r weithdrefn ar gyfer ymgeisio i adnewyddu CEA cenedlaethol i bob pwrpas yn union yr un peth â’r broses ar gyfer ymgeisio am ddyfarniad newydd. Fodd bynnag, mae cadw’r 2 fath o gais ar wahân yn feichus i is-bwyllgorau sgorio ACCEA a’i ysgrifenyddiaeth ganolog.

Statws pensiynadwy yr NCEAs

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno na ddylai CEAs cenedlaethol fod yn bensiynadwy?

Yn ei adolygiad yn 2012 nododd y DDRB: ‘Nid ydym o’r farn ei bod hi’n briodol i’r dyfarniadau fod yn bensiynadwy mwyach. Mae hyn yn gyson â’r arfer ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Caiff unigolion ddewis gwneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol o’u dyfarniad i gynllun pensiwn y GIG (neu gynllun pensiwn preifat).’

Mae statws pensiynadwy CEAs cenedlaethol yn deillio o’r adeg pan oedd y dyfarniadau’n cael eu trin fel codiad cyflog parhaol. Nid yw hyn yn gyson â’r cysyniad o gynllun gwobrwyo modern anghyfunol. Mae gan statws pensiynadwy cyfredol CEA oblygiadau treth i rai deiliaid dyfarniadau cenedlaethol lefel uwch hirsefydlog, oherwydd gallai olygu bod twf pensiwn y GIG yn fwy na’u terfyn lwfans di-dreth blynyddol, ac mewn rhai achosion hyd yn oed yn lleihau (neu’n tapro) eu lwfans blynyddol, gan arwain atynt yn atebol am dâl treth lwfans blynyddol. Mae hyn wedi peri i rai deiliaid dyfarniadau ystyried ildio eu CEAs am resymau ariannol, lleihau eu horiau neu ymddeol yn gynnar. Efallai ei fod hefyd wedi cymell i rai beidio â gwneud cais ac wedi lleihau gallu’r cynllun i hyrwyddo cadw uwch glinigwyr sy’n perfformio’n dda yn y GIG.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai gwneud CEAs yn ddyfarniadau amhensiynadwy effeithio ar feddygon/ddeintyddion ymgynghorol yng nghyfnodau cynharach eu gyrfa. Rydym yn cydnabod y bydd cyfran gynyddol o fenywod ymhlith y rhain, ond disgwylir y caiff hyn ei wrthbwyso drwy gynyddu mynediad cyfran a nifer llawer mwy o feddygon/ddeintyddion ymgynghorol sy’n fenywod, yn ddu, yn Asiaidd ac yn lleiafrifol ethnig at ddyfarniadau, lle maent wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd.

Ymhellach, nid yw CEAs lleol wedi bod yn bensiynadwy ers cychwyn y cynllun dros dro cyfredol ym mis Ebrill 2018, a chytunwyd ar hynny drwy drafodaethau rhwng Cyflogwyr y GIG ac undebau llafur.

Byddai CEAs anghyfunol yn cael eu cyfrif fel incwm trethadwy ac felly gallent barhau i greu goblygiadau’n gysylltiedig â lwfans blynyddol i rai deiliaid dyfarniadau. Fodd bynnag, gan fod y llywodraeth wedi cynyddu’r trothwyon tapro lwfans blynyddol o 6 Ebrill 2020, gall deiliaid dyfarniadau ennill incwm trethadwy ychwanegol o hyd at £90,000 cyn i’w terfyn lwfans blynyddol gael ei ostwng.

Rydym felly’n cytuno ag argymhelliad y DDRB y dylai CEAs fod yn anghyfunol ac yn amhensiynadwy, gan sicrhau eu bod yn gyson â CEAs lleol. Bydd hyn yn lleihau cost pob dyfarniad gan ein galluogi i gynnig mwy o ddyfarniadau (fel y nodir uchod). Cyhoeddir gweithio ar oblygiadau pensiwn y cynllun CEA cenedlaethol newydd ar GOV.UK

Rôl a gwerth safleoedd a geirdaon yn y broses ddyfarnu

Ydych chi’n cefnogi’r newidiadau a gynigir i rôl cyflogwyr?

Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ynghylch y rôl y dylai cyflogwyr ei chyflawni mewn proses dyfarniadau cenedlaethol newydd?

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r newidiadau a gynigiwyd i nodi pwy ddylai fod yn NNB ac SS achrededig ac i leihau’r posibilrwydd y gallai arbenigeddau ac is-arbenigeddau gael eu gorgynrychioli?

Pa feini prawf y dylid eu defnyddio i benderfynu a ddylid achredu NNB neu SS?

I ba raddau ydych chi’n cefnogi’r newidiadau a gynigir ar gyfer geirdaon trydydd parti?

O dan y cynllun presennol, er bod y cais trwy hunan-enwebiad, yn hanesyddol bu’n ofynnol i gyflogwyr sgorio a llofnodi pob cais gan eu cyflogeion, gan ddarparu datganiad cyflogwr a nodi lefel eu cefnogaeth (cefnogaeth lawn, cefnogaeth amodol, dim cefnogaeth). Mae rhai cyflogwyr hefyd yn rhoi eu hymgeiswyr â chefnogaeth lawn mewn trefn safleoedd ac fe’i haddaswyd yn rownd 2020 i 2021 gyda chyflogwyr yn nodi lefel eu cefnogaeth yn unig.

Mae NNBs a SSs wedi’u hachredu fel y caniateir iddynt ddarparu safleoedd a geirdaon i’w haelodau. Mae sefydliadau achrededig yn cael nifer o “leoedd graddio” yn seiliedig ar faint eu haelodaeth a’u statws cenedlaethol. Mae’r 28 NNB yn Golegau Brenhinol yn bennaf. Mae tua 130 o SSs achrededig o wahanol feintiau, sy’n cwmpasu ystod eang o arbenigeddau ac is-arbenigeddau. Yn 2019 gwnaed dros 1,600 o enwebiadau ar gyfer y 300 o ddyfarniadau a oedd ar gael.

Yn y cynllun cyfredol, gall ymgeiswyr hefyd ofyn am eirdaon trydydd parti cefnogol gan unrhyw unigolyn neu sefydliad arall pe byddent yn dymuno gwneud hynny, ond ni chaniatawyd hynny ar gyfer rownd 2021.

Mae yna achosion o ymgeiswyr â niferoedd uchel o eirdaon nad ydyn nhw’n ychwanegu at driongli tystiolaeth ac felly rydym am leihau’r llwyth gwaith ar gyfer ymgeiswyr, sgorwyr a darparwyr geirdaon.

Rydym yn cynnig gwella a symleiddio’r broses o roi ymgeiswyr mewn safleoedd a rhoi geirdaon ar gyfer CEAs, fel y disgrifir isod:

  • rydym yn cynnig cadw cymeradwyaeth y cyflogwr, sgoriau, lefelau cefnogaeth a datganiadau a ddarperir gan y cyflogwr. Yn ogystal â hynny, byddwn yn gweithredu gofyniad i gyflogwyr roi datganiad i ACCEA ar eu proses i sicrhau ansawdd ac amrywiaeth, a chynrychiolaeth gytbwys ymhlith ymgeiswyr o’u poblogaeth gymwys o uwch-glinigwyr. Rydym yn cynnig cael gwared â’r drefn lle bydd cyflogwyr yn gosod ymgeiswyr mewn safleoedd

  • rydym yn cynnig adolygu’r rhestr o gyrff enwebu cenedlaethol (NNBs) a chymdeithasau arbenigol (SSs) achrededig er mwyn sicrhau nad oes unrhyw arbenigedd neu is-arbenigedd wedi’i gynrychioli gan nifer o wahanol gyrff, gan fanteisio’n ormodol ar ei ddylanwad o bosib. Hoffem sicrhau bod gan unrhyw NNB ac SS achrededig statws a dylanwad cenedlaethol. Fel y nodwyd uchod, gofynnir i NNBs ac SSs ddarparu datganiad ynghylch eu proses i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth a chynrychiolaeth gytbwys o ymgeiswyr o blith eu haelodau a’r arbenigedd ehangach.

  • rydym yn cynnig cyfyngu ar nifer y geirdaon gan drydydd parti i uchafswm o 2. Mewn llawer o achosion byddwn yn gweld testun geirda unfath o wahanol ffynonellau, ac nid oes modd cynnal proses sicrhau ansawdd ar gyfer y geirdaon hynny.

Unrhyw sylwadau pellach ar drefniadau’r cynllun CEA cenedlaethol yn y dyfodol

Oes gennych chi unrhyw gynigion ychwanegol neu sylwadau pellach ar drefniadau’r cynllun NCEA yn y dyfodol?

Mae’r newidiadau arfaethedig yn dod o dan 3 thema gyffredinol:

  • ehangu mynediad i’r cynllun

  • gwneud y broses ymgeisio yn symlach, yn decach ac yn fwy cynhwysol

  • sicrhau bod y cynllun yn gwobrwyo ac yn cymell rhagoriaeth ar draws ystod ehangach o waith ac ymddygiadau

Yn ogystal, fel yr amlinellwyd yn yr adran Ein hamcanion uchod:

  • gweithredu mwyafrif yr argymhellion gan y DDRB i ‘adolygu lefelau iawndal a systemau cymhelliant a’r amrywiol gynlluniau Dyfarniadau Rhagoriaeth Clinigol a Rhagoriaeth ar gyfer ymgynghorwyr y GIG ar lefelau cenedlaethol a lleol’

  • sicrhau y bydd cynllun CEA wedi’i foderneiddio yn allweddol wrth helpu i gyflawni’r Cynllun Tymor Hir a Chynllun Pobl y GIG 2020 i 2021. Bydd cynllun newydd yn adlewyrchu’r uchelgeisiau strategol cenedlaethol hyn ac yn cydnabod y meddygon/deintyddion ymgynghorol a’r meddygon teulu academaidd hynny sydd, yn ogystal â darparu rhagoriaeth ar draws gwahanol feysydd, hefyd yn cwrdd â gwerthoedd a diwylliant y GIG, fel y nodir yn Addewid Pobl y GIG

  • cyflwyno cynllun newydd sy’n fwy hygyrch ac yn annog ceisiadau gan y rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i’w rôl o ddydd i ddydd waeth beth fo’u cefndir

Atodiad A - meini prawf cymhwysedd ar gyfer CEAs cenedlaethol

Mae uwch feddygon yn gymwys i dderbyn Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol, fel y nodir yng nghanllawiau ymgeiswyr ACCEA, os ydynt:

  • yn ymarferydd meddygol neu ddeintyddol wedi cofrestru’n llawn ar restr arbenigol y Cyngor Deintyddol Cyffredinol neu ar gofrestr arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae’n rhaid iddynt gael trwydded i ymarfer, ac maen rhaid iddynt hefyd fod wedi bod yn feddyg/ddeintydd ymgynghorol parhaol gyda’r GIG am flwyddyn ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ddyfarnu. Nid yw’r flwyddyn yn cynnwys amser a dreuliwyd fel locwm, ond cânt roi tystiolaeth o’u cyflawniadau fel locwm yn yr un rôl.

Byddant yn gymwys os ydynt:

1. wedi’u cyflogi gan sefydliad y GIG (yng Nghymru a Lloegr), yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, neu ei chyrff hyd braich, prifysgol, ysgol feddygol neu ddeintyddol, awdurdod lleol, neu wedi’u cyflogi gan sefydliadau tebyg sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru. Gall ceisiadau gan gyflogeion mewn sefydliadau eraill fod yn gymwys.

2. yn ymarferydd cyffredinol academaidd, os yw ei gyfrifoldebau yr un peth â staff academaidd clinigol ymgynghorol. Gallant wneud cais am ddyfarniadau os:

  • ydynt yn treulio o leiaf hanner eu horiau gwaith fel ymarferydd cyffredinol academaidd a/neu

  • ydynt yn glinigydd sy’n ymarfer sy’n darparu rhai gwasanaethau GIG uniongyrchol

3. yn cyflawni o leiaf 5 gweithgaredd wedi’i rhaglenni neu gyfatebol sy’n helpu’r GIG, gan gynnwys addysgu ac ymchwil glinigol.

4. yn feddyg ymgynghorol neu ymarferydd deintyddol â chontract anrhydeddus gyda’r GIG, sydd wedi’i gofrestru’n llawn a chanddo drwydded i ymarfer. Mae eu cymhwysedd i dderbyn dyfarniad yn dibynnu ar y cyfraniad a wneir ganddynt i’r GIG sy’n ychwanegol at roi gofal uniongyrchol i gleifion.

5. yn ymgynghorydd iechyd cyhoeddus wedi’i gofrestru’n llawn ar gofrestr arbenigol y GMC neu ar restr arbenigol y GDC, â thrwydded i ymarfer.

6. yn ddeon ôl-raddedig sydd wedi’i gofrestru’n llawn â’r GMC neu’r GDC, â thrwydded i ymarfer, a gystadlodd am y rôl yn erbyn ymarferwyr cyffredinol a meddygon/deintyddion ymgynghorol, ac sy’n gyfrifol am hyfforddeion ôl-raddedig ar draws pob arbenigedd.

7. yn feddyg/deintydd ymgynghorol neu ymarferydd cyffredinol academaidd a gyflogir fel deon neu bennaeth ysgol feddygaeth neu ddeintyddiaeth, sydd wedi cofrestru’n llawn gyda’r GMC neu’r GDC, a chyda thrwydded i ymarfer.

8. yn feddyg/deintydd ymgynghorol wedi’i gofrestru’n llawn gyda’r GMC neu’r GDC, gyda thrwydded i ymarfer, yn gweithio fel cyfarwyddwr clinigol neu feddygol gydag ymddiriedolaeth y GIG, neu mewn swydd reoli feddygol ar lefel debyg. Os ydynt bron bob amser yn gweithio ym maes rheoli meddygol, gallant barhau i fod yn gymwys os oes ganddynt gontract ymgynghorol gweithredol gyda rôl arweinyddiaeth glinigol benodol a’u bod yn parhau i adnewyddu eu trwydded i ymarfer. Os ydynt yn symud i faes rheoli cyffredinol ac/neu fod ganddynt gontract rheoli y tu allan i’r raddfa gyflog ymgynghorol, ni fyddant yn gymwys i dderbyn dyfarniad.

Atodiad B - darpariaethau diogelu tâl

Gall aelodau adrannau 1995 a 2008 Cynllun Pensiwn y GIG wneud cais i ddiogelu eu tâl pensiynadwy os caiff ei ostwng, fel y nodir yn rheoliad R9 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y GIG 1995 ac ym Mhennod 2.D.12 ynRheoliadau Cynllun Pensiwn y GIG 2008.

Yn ôl y cynllun CEA presennol, os na fydd dyfarniad aelod yn cael ei adnewyddu ar ôl iddo ymgeisio, neu os bydd hi’n bryd adnewyddu’r dyfarniad ond bod yr aelod yn dewis peidio ymgeisio, diogelir eu tâl pensiynadwy. Mae’r darpariaethau diogelu tâl hyn yn sicrhau y gall aelodau sy’n derbyn tâl ond nad ydynt yn agos at oed ymddeol barhau i gyfrif y dyfarniad tuag at y cyflog terfynol a ddefnyddir i gyfrifo buddion pensiwn wrth ymddeol.

Byddai darpariaethau diogelu cyflog hefyd ar waith ar gyfer:

  • rhai sy’n dal CEA cenedlaethol o dan y cynllun cyfredol ac sy’n gwneud cais llwyddiannus am ddyfarniad newydd o dan y cynllun newydd. Y rheswm am hyn yw bod Atodlen 30 y contract ymgynghorol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer iawndal ariannol i ddeiliaid dyfarniadau sy’n symud i unrhyw gynllun cenedlaethol newydd, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol bod y dyfarniad cenedlaethol newydd yn bensiynadwy am y cylch cyntaf ac y telir iddynt y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng unrhyw ddyfarniad newydd ar lefel gyfatebol a’u dyfarniad presennol ar ffurf LCEA pensiynadwy; a’r

  • rhai sy’n dal CEA cenedlaethol o dan y cynllun cyfredol ac sy’n gwneud cais aflwyddiannus am ddyfarniad newydd o dan y cynllun newydd, gan y byddent yn elwa, yn amodol ar eu sgoriau, ar y mecanwaith presennol o dan Atodlen 30, lle byddent yn dychwelyd i ddyfarniad lleol pensiynadwy o dan y cynllun lleol sydd bellach wedi’i ddisodli gan gynllun newydd.

Mae’r darpariaethau a nodir yn Atodlen 30 wedi’u cytuno ar y cyd â’r BMA a dim ond trwy gytundeb wedi’i negodi gydag undebau llafur meddygol y gellir eu newid.

O dan y cynllun CEA newydd, byddai’r dyfarniadau newydd yn amhensiynadwy ac felly’n anghyfunol. Gan na fyddai’r dyfarniadau newydd hyn yn cyfrif tuag at gyflog terfynol yr aelod, ni fyddai’n ofynnol defnyddio’r darpariaethau diogelu tâl.