Canlyniad yr ymgynghoriad

Cynlluniau Gweithredu Llwybrau ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol ym Mhrydain Fawr

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Cawsom 66 o ymatebion i’r ymgynghoriad yma. O ganlyniad i’r ymgynghoriad yma, rydyn ni wedi anonymeiddio ac wedi crynhoi’r holl sylwadau a gafwyd ar fanylion y Cynlluniau Gweithredu Llwybr (PAPs). Bydd y canlyniadau dienw, cryno hyn yn cael eu rhannu gyda gweithgorau’r PAPs i’w hystyried yn arbenigol. Pan fydd y gweithgorau wedi edrych ar adborth yr ymgynghoriad yma, bydd unrhyw addasiadau angenrheidiol ar sail ymatebion yr ymgynghoriad yn cael eu gwneud i bob un o’r PAPs

Pan fydd y PAPs wedi’u diweddaru, cânt eu cymeradwyo gan y gweithgorau ac yna Bwrdd Rhaglen INNS Prydain Fawr yn eu cyhoeddi’n derfynol, sef erbyn diwedd 2026 yn ôl y disgwyl. 

Mae’r ymateb yn cael ei gyhoeddi ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Defra a Llywodraeth yr Alban. 

Gallwch ddarllen fersiwn Saesneg yr wybodaeth hon.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd sylwadau ar Gynlluniau Gweithredu Llwybrau (PAPs) drafft sy'n targedu’r llwybrau ar gyfer cyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) i Brydain Fawr sydd â blaenoriaeth.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn roedd ar wefan arall.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth yr Alban am wybod eich barn ar Gynlluniau Gweithredu Llwybrau (PAPs) drafft ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) ym Mhrydain Fawr.

Llwybrau yw’r ffyrdd y gall INNS gael eu cyflwyno a’u lledaenu. Rydyn ni wedi nodi 5 llwybr sydd â blaenoriaeth, sef:

  • cychod hamdden
  • pysgota
  • garddwriaeth
  • sŵau ac acwaria
  • anifeiliaid anwes

Mae’r PAPs rydyn ni wedi’u datblygu yn rhoi canllawiau ar yr arferion gorau. Bydd gweithredu’r cynlluniau yn targedu’r risgiau o gyflwyno a lledaenu sy’n gysylltiedig â’r llwybrau blaenoriaeth hyn.

Bydd eich ymatebion yn ein helpu i gyhoeddi PAPs terfynol cynhwysfawr gyda’r nod o atal neu leihau’r risgiau hyn.

Gallwch ddarllen fersiwn Saesneg yr wybodaeth hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Wedi ychwanegu’r crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraethau.

  2. Cawsom 66 o ymatebion gan ystod o unigolion, sefydliadau anllywodraethol, cyrff cyhoeddus, cyrff masnach yn y sector, a sefydliadau aelodaeth. O'r ymatebion yma, cafodd 57 eu cyflwyno trwy borth Citizen Space, 8 trwy’r ebost ac 1 trwy lythyr. Rydyn ni wrthi’n cwblhau'r crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraeth, a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2025. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’ch amynedd.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon