Publication

Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraethau

Updated 15 December 2025

Cyflwyniad

Rhwng 23 Mehefin a 18 Awst 2025, cynhaliodd Llywodraeth Cymru, Defra a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd ar Gynlluniau Gweithredu Llwybrau (PAPs) drafft ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol (INNS). Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn bennaf drwy ddefnyddio Citizen Space, dull ymgynghori ar-lein llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe’i hategwyd gan gyfathrebiadau ebost.

Mae’r ddogfen yma yn rhoi ‘crynodeb o’r ymatebion’ a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad yn ogystal ag ‘ymateb y tair llywodraeth’.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynir yn y ‘crynodeb o’r ymatebion’ wedi’i seilio ar yr ymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad, a ddaeth i law trwy Citizen Space a thrwy’r ebost. Mae’r tair llywodraeth hefyd wedi ystyried yr holl sylwadau a fynegwyd mewn trafodaethau eraill, i ddatblygu eu hymateb.

Cefndir

Mae pum PAP wedi’u datblygu gan weithgorau a sefydlwyd gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr. Maen nhw’n cwmpasu chwech o’r llwybrau blaenoriaeth:

  • pysgota
  • cychod hamdden
  • garddwriaeth (sy’n ymwneud â’r llwybrau ‘garddwriaeth’ a ‘rhywogaethau sy’n teithio ar blanhigion’)
  • anifeiliaid anwes
  • sŵau ac acwaria

Mae datblygu’r PAPs drafft wedi golygu ymgysylltu helaeth â phartneriaid a sefydliadau eraill. Mae pob PAP yn cynnwys set lawn o gamau i’w cymryd, a’r rheiny wedi’u bwriadu i dargedu’n benodol y risgiau y nodwyd eu bod yn bresennol ym mhob llwybr blaenoriaeth.

Nid yw’r PAPs yn newid deddfwriaeth nac yn creu beichiau neu waharddiadau.

Rhoddodd yr ymgynghoriad yma gyfle i gasglu adborth ehangach ar y camau ym mhob PAP. Roedd yna nod cyffredinol o wneud diwygiadau angenrheidiol i’r PAPs i’w gwneud mor gynhwysfawr â phosibl. Yr ymgynghoriad yma felly oedd y cam olaf wrth ddatblygu’r PAPs cyn eu cyhoeddi.

Crynodeb o’r ymatebion – trosolwg

Nifer yr ymatebion

Daeth 66 o ymatebion i law, 57 trwy Citizen Space, wyth trwy’r ebost ac un trwy lythyr.

O’r ymatebwyr:

  • roedd saith yn eu categoreiddio eu hunain fel unigolion
  • roedd 53 yn ymateb ar ran sefydliad, ac roedd 20 ohonynt yn cynrychioli NGOs, pump yn dod o gorff cyhoeddus a naw o gorff masnach sector neu sefydliad aelodaeth
Yr opsiwn a ddewiswyd Cyfanswm Citizen Space (ar-lein) Cyfanswm ebost/ lythyr Cyfanswm pob fformat
Cyrff anllywodraethol 13 5 18
Corff masnach sector/sefydliad masnach 9 0 9
Unigolyn 7 0 7
Corff cyhoeddus 3 2 5
Academydd 4 0 4
Awdurdod Lleol 4 0 4
Sefydliad ymchwil 3 0 3
Ecolegydd 2 0 2
Perchennog/meddiannwr tir 2 0 2
Arall 10 2 12

Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd i’r ymatebwyr eu gosod eu hunain mewn categori ar sail eu diddordeb mewn INNS. Gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un diddordeb. Dewisodd pob ymatebydd o leiaf un diddordeb, dewisodd 15 o ymatebwyr bedwar neu fwy o wahanol feysydd diddordeb.

Opsiwn Cyfanswm Citizen Space
Garddwriaeth 22
Pysgota 20
Cychod 19
Anifeiliaid anwes 17
Sw 13
Morol 13
Gardd fotaneg 12
Acwariwm 12
Grŵp diddordeb rhywogaeth 11
Hobïwr 7
eNGO 6
Canolfan achub 4
Arall (rhowch y manylion) 14

Mae rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad wedi’i nodi yn Atodiad 1. Dywedodd pum ymatebydd eu bod yn dymuno i’w hymateb gael ei gadw’n gyfrinachol, felly mae enwau’r sefydliadau a restrwyd gan yr ymatebwyr hyn wedi’u hepgor.

Gofynnwyd hefyd â pha leoliad roedd eu hymateb yn ymwneud. Gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un opsiwn.

Opsiwn Cyfanswm Canran
Prydain Fawr 31 47%
Lloegr 23 35%
Cymru 18 27%
Yr Alban 10 15%
arall (dywedwch ble) 2 3%

Methodoleg

Gofynnwyd set safonol o gwestiynau am y llwybrau penodol sy’n gymysgedd o ymatebion amlddewis a thestun rhydd ar gyfer pob un o’r PAPs. Roedd y cwestiynau hyn yn canolbwyntio ar yr hyn y byddai’r ymatebwyr yn ei newid neu’n ei wella ynglŷn â’r PAP penodol. Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw’n fodlon ar y PAP a gallent ddewis pa agwedd a allai gael ei gwella yn eu barn nhw o blith rhestr oedd yn cynnwys testun neu gam oedd angen eu gwella, testun neu weithred oedd yn eisiau neu fater arall. Yna caent gyfle i ysgrifennu mewn blwch testun rhydd yr hyn yr hoffent ei newid, ei wella neu ei ddileu. Ceir rhestr lawn o’r holl gwestiynau a ofynnwyd yn Atodiad 2.

Mae’r ymatebion ‘ie’ a ‘na’ a’r ymatebion amlddewis wedi’u cyfrifo.

Oherwydd natur ansoddol y sylwadau, cafodd dadansoddiadau thematig eu cyflawni. Dadansoddwyd pob ymateb ar gyfer yr argymhellion trawsbynciol ar draws pob un o’r PAPs. Wedyn edrychwyd ar y sylwadau oedd yn ymwneud yn benodol â’r cynnwys a’r camau ar gyfer pob llwybr i chwilio am argymhellion ar gyfer diweddariadau mwy penodol i’r testun. Crynhowyd yr ymatebion i bob cwestiwn er mwyn creu’r crynodeb cyffredinol o’r ymatebion.

Y prif negeseuon

Themâu cyffredinol

Soniodd llawer o’r ymatebion am themâu cyffredinol sy’n gymwys ar draws pob un o’r PAPs. Gellir rhannu’r rhain yn bedwar categori, sef:

1. Strwythur

Cyfeiriodd llawer o’r ymatebwyr at yr angen am strwythur cyson rhwng y PAPs. Roedd hyn yn cynnwys sylwadau am dudalennau cynnwys, is-benawdau i rannu’r testun, defnyddio teip trwm, ehangu acronymau, creu tabl o’r camau. Un awgrym allweddol oedd y gellid ailadrodd strwythur y PAPs drafft a gynhyrchwyd yn fwyaf diweddar trwy’r gyfres gyfan.

Soniodd sawl un am yr angen i’r PAPs groesgyfeirio at ei gilydd fel bod y darllenwyr yn ymwybodol y gall gweithredoedd sy’n berthnasol iddynt ymddangos mewn mwy nag un PAP (er enghraifft, y PAPs Cychod a Physgota).

Cafwyd sylwadau hefyd am yr angen i leihau hyd pob dogfen i’w gwneud yn fwy cryno. Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd y gellid tynnu dogfennau yn atodiadau’r PAPs a mewnosod dolenni yn eu lle. Awgrymwyd y byddai hyn yn helpu gyda hyd y dogfennau ac yn sicrhau bod y PAPs a’r dogfennau ategol yn haws i’w diweddaru.

Dyfyniadau allweddol:


“To encourage widespread uptake, where possible, the final PAPs should be formatted consistently. For example, the Angling PAP includes a table (Annex 3) outlining the key actions for each angling stakeholder to reduce accidental spread through angling activity. A similar table should be included for each PAP to help outline best practice approaches for different stakeholders.”

“Guidance and best practice documents…should be separate standalone documents which the PAP references and links to (as with the Zoos PAP).”

2. Llywodraethu

Disgrifiodd llawer o’r ymatebwyr eu bod am i’r camau yn y PAPs fod yn CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol) gyda cherrig milltir ac amserlenni cyflawni cytûn, perchnogaeth glir, ac iaith gryfach i gyfleu mwy o ymdeimlad o bwrpas.

Awgrymwyd hefyd fod angen rhychwant ehangach o ran y rhanddeiliaid dan sylw, o ran pwnc (yr angen am well sylw i infertebratau, er enghraifft), ond hefyd gwell cynrychiolaeth o wahanol rannau o Brydain Fawr. Roedd hyn yn cynnwys awgrymiadau gan sefydliadau yng Nghymru a’r Alban, ac mewn rhai achosion, grwpiau mwy rhanbarthol.

Gofynnodd sawl ymatebydd am ffordd o olrhain y cynnydd yn erbyn y camau. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys defnyddio dangosfwrdd. Awgrymwyd hefyd y dylai pob cam wneud yn glir pa amcan y mae’n ei gyflawni.

Dyfyniadau allweddol:


“It would be useful to make clear where progress against a particular action can be tracked.”

“The actions should be ranked by priority level and given timeframes to be delivered and monitored by a responsible body.”

“Monitoring the implementation of the PAP could be strengthened, … progress would be better tracked over time in a systematic way e.g. using a dashboard that is updated. If no progress is made, then the effectiveness of the PAP needs to be reviewed.”

“A standardised template should be produced to capture the progress made by the group towards the different actions, and this should be made publicly visible to improve accountability and information sharing.”

3. Cyflawni

Thema arall a ddaeth i’r amlwg oedd cyflawni’r PAPs.

Roedd hyn yn cynnwys adborth yn gofyn a yw’r rhanddeiliaid cywir wedi’u cynnwys er mwyn cwmpasu grwpiau diddordeb gwahanol a phob rhan o Brydain Fawr. Awgrymwyd hefyd fod angen cydlynu mwy o sefydliadau rhanbarthol (er enghraifft, o fewn Cymru).

Awgrymwyd hefyd y dylid gwneud yn glir pwy rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw gyflawni pob cam, gan gynnwys sut mae’n rhaid i sefydliadau gydweithio, cydweithredu a rhannu tasgau er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion. Yn achos y PAPs ar gyfer pysgota a chychod, trafodwyd cael modelau cyflawni sy’n canolbwyntio ar ddalgylchoedd.

Amheuai’r adborth hefyd a yw’r adnoddau ar waith i sbarduno’r cyflawni. Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth ar y costau i weithredwyr, y diffyg cymhellion i weithredu a’r diffyg canlyniadau os anwybyddir y canllawiau a’r arferion gorau.

Awgrymwyd hefyd fod angen mwy o ymdrech ar INNS. Doedd hi ddim bob amser yn glir at beth roedd y sylwadau yma yn cyfeirio, ond mae’n amlwg bod rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod angen gwneud mwy i symud ymlaen â’r camau yn y PAPs.

Dyfyniadau allweddol:


“Funding to support the implementation of the PAPs is referred to directly within the GB Strategy which states it will ‘complete the suite of PAPs for priority pathways, ensuring that they are delivered and resourced’. We urge that dedicated funding is provided to ensure adequate implementation, with the working groups informing funding prioritisation to support PAP delivery.”

“For the majority of actions, there is little incentive (and in fact a disincentive in terms of cost) for operators or boat owners to follow best practice and there is a lack of consequences for not doing so.”

4. Cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth

Ar y cyfan, cafwyd llawer o sylwadau am gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth ar draws yr holl ymatebion am y PAPs. Er bod cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth wedi’u cynnwys fel camau ym mhob un o’r PAPs fel y’u drafftiwyd ar hyn o bryd, mae’n amlwg bod hyn yn cael ei ystyried fel problem gan y rhanddeiliaid. Roedd y sylwadau hyn yn ymwneud â’r canlynol:

  • bod angen mwy o ymdrech ar godi ymwybyddiaeth
  • bod angen defnyddio’r strwythurau, y rhanddeiliaid a’r grwpiau presennol i ledaenu a hybu’r negeseuon am INNS, gan gynnwys cyrff anllywodraethol lleol a grwpiau gwyddoniaeth dinasyddion
  • bod angen cyrraedd mwy o bobl gyda negeseuon ac ymgyrchoedd, gan gynnwys yr angen i dargedu defnyddwyr mewn sectorau penodol

Roedd hefyd yn amlwg nad yw rhai rhanddeiliaid yn ymwybodol o’r broses ar gyfer rhoi gwybod am INNS, felly mae angen cyfathrebu hyn yn ehangach (gweler yr adran ‘y tu allan i’r rhychwant’).

Hefyd, roedd rhai sylwadau yn gefnogol i’r gwaith codi ymwybyddiaeth cyfredol.

5. Yr Arolygiaeth Rhywogaethau Estron (NNSI)

Roedd ymatebion ar y PAPs Cychod, Pysgota a Sŵau i gyd yn cynnwys sylwadau am yr angen i’r PAPs yma adlewyrchu’r ffaith bod yr NNSI yn bodoli erbyn hyn. Roedd hyn yn ganlyniad disgwyliedig, gan fod y PAPs yma wedi’u hysgrifennu cyn i’r NNSI gael ei sefydlu, ac mae’r PAPs mwy diweddar eisoes yn cynnwys camau sy’n ymwneud â’r NNSI. Mae’r adborth a gafwyd yn awgrymu y dylai’r NNSI gael ei gynnwys fel actor yn gyffredinol, y dylai camau newydd sy’n cael eu harwain gan yr NNSI gael eu hychwanegu ac y dylid diweddaru rhai camau i adlewyrchu rôl yr NNSI.

Mae’r PAP Garddwriaeth yn cynnwys cyfeiriadau at yr NNSI, ac mae sylwadau’n awgrymu y dylid diweddaru hyn o NNSI peilot i gael gwared ar y gair peilot, gan fod yr NNSI bellach wedi’i sefydlu.

Dyfyniadau allweddol:


“out of date… having been written before the NNSI was established”

“Actions should be added …to recognise the role of the Non-Native Species Inspectorate (NNSI) in raising awareness of invasive species and tackling pathways of spread. This includes their role in undertaking voluntary checks for non-native species on recreational equipment.”

Ymatebion y tu allan i’r rhychwant

Daeth sawl sylw i law am bob PAP oedd y tu allan i’r rhychwant ac felly mae’r rhain heb eu disgrifio fel rhan o’r ymateb yma. Mae’r PAPs yn ddogfennau sy’n helpu i gydlynu camau ynglŷn â llwybr cyflwyno ac nid ydynt wedi’u bwriadu i gyflwyno rheoliadau. Ymdrinnir â chamau sy’n gyfan gwbl o fewn cyfrifoldeb y llywodraeth yn Strategaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr.

Gwnaeth pum ymatebydd awgrymiadau i ddatblygu, gwella neu gyflymu’r broses o osod deddfwriaeth. Er hynny, ffocws yr ymgynghoriad yw datblygu’r PAPs heb ddefnyddio rhagor o reoleiddio. Rydym yn cydnabod bod rhanddeiliaid yn gweld angen rhagor o ddeddfwriaeth i reoli INNS neu yn dymuno cyflymu’r ddeddfwriaeth arfaethedig, ond fyddwn ni ddim yn mynd i’r afael â’r mater yma ymhellach yn y ddogfen yma.

Gofynnodd rhai ymatebwyr am fecanwaith rhoi gwybod cliriach neu offeryn ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am INNS ac am broses ymateb sydd ag adnoddau da. Mae nifer o fecanweithiau adrodd eisoes yn bodoli megis y porth gwybodaeth rhywogaethau estron (NNSIP), sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth, yn ogystal â’r INNS Mapper a Chanolfannau Cofnodi Amgylcheddol Lleol. Yn ychwanegol, mae ymatebion i ddileu rhywogaethau estron yn cael eu rhedeg gan y llywodraeth ar gyfer ymosodiadau newydd o INNS yn ôl proses o asesu risg a blaenoriaethu. Mae’n amlwg nad yw’r rhanddeiliaid bob amser yn ymwybodol o’r mecanweithiau hyn, felly mae hwn yn faes lle mae angen gwell cyfathrebu.

Ymatebion penodol i bob PAP

Isod ceir ymatebion oedd yn perthyn i bob PAP yn benodol:

PAP pysgota

I’r cwestiwn ‘Ydych chi’n fodlon ar y camau yn y PAP hwn?’ atebodd 15 ymatebydd ‘nac ydw’, atebodd 28 ‘ydw’ ac roedd 14 heb ateb. O’r naw ymateb ar ffurf llythyr, darparodd pump adborth penodol ar yr adran o’r arolwg yn ymdrin â physgota.

Cwestiwn 12: ‘Os nad ydych, beth allai gael ei wella yn eich barn chi?’ Gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un ateb.

Opsiwn Cyfanswm Canran
Gallai’r testun gael ei wella 18 27%
Gallai’r cam gael ei wella 13 20%
Cam yn eisiau 9 14%
Testun yn eisiau 6 9%
Arall 5 8%

Cafwyd 19 o ymatebion yn Citizen Space a phump arall trwy’r ebost i’r cwestiwn ‘Rhowch fanylion y newidiadau y byddech chi’n eu gwneud i’r PAP hwn neu unrhyw beth arall sy’n bwysig yn eich barn chi. Daeth themâu allweddol i’r amlwg o’r ymatebion eraill, gyda rhywfaint o orgyffwrdd rhyngddynt.

Abwyd

Cynigiodd sawl ymateb sylwadau ar gam 14, sy’n ymwneud ag asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig ag abwyd symudol ar gyfer pysgota morol. Mae’r asesiad yma wedi’i gyflawni gan Cefas ers i’r PAP gael ei ddrafftio ac felly gall gael ei ddiweddaru. Awgrymwyd hefyd y dylid ychwanegu camau newydd yn mynd i’r afael â’r risgiau o ledaenu INNS drwy symud a defnyddio abwyd byw.

Dyfyniad allweddol:


“The Cefas draft comprehensive assessment of the risk posed by moving bait associated with marine angling was presented in 2020. It is recommended that this action is amended to implement the recommendations of the report. It is also recommended that a code of conduct for bait digging is developed to promote best practice to the angling community.”

Trwyddedau gwialen

Codwyd Cam 5 sy’n ymwneud ag argraffu negeseuon Gwirio, Glanhau, Sychu (CCD) ar drwyddedau gwialen gan fwy na chwarter yr ymatebwyr ar y PAP, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n rhoi trwyddedau gwialen. Mae trwyddedau gwialen bellach yn cael eu rhoi’n electronig sy’n golygu nad yw’r cam yn berthnasol mwyach. Awgrymodd ymatebwyr y dylid ei ddileu neu ei ddiwygio o bosibl i ddweud y bydd negeseuon CCD yn cael eu hanfon drwy’r ebost at ymgeiswyr pan fyddant yn cael eu trwydded electronig.

Dyfyniad allweddol:


“Since the Angling PAP was developed, the Environment Agency has transitioned to issuing digital licences and no longer provides physical rod licence cards. To fulfil Action 5 and ensure the ‘Check, Clean, Dry’ message continued to reach the angling community, we recommend incorporating the Check Clean Dry logo or wording that communicates these measures within the digital email version of the licence.”

Angen cynrychiolaeth ehangach o bob rhan o Brydain Fawr

Cafwyd llawer o sylwadau ynglŷn ag ehangu rhychwant y gynrychiolaeth ar weithgor y PAP Pysgota. Cafwyd sawl sylw am yr angen i gynnwys mwy o sefydliadau o Gymru a’r Alban, a’r ffaith nad yw Cymru a’r Alban yn cael eu cynrychioli’n briodol gan rai o’r sefydliadau pysgota a dyfrffyrdd mwyaf yn y gweithgorau (mae’r Angling Trust, er enghraifft, yn ymdrin â Lloegr yn unig).

Dylid nodi bod PAP pysgota yr Alban wedi’i ddrafftio ar wahân gan Lywodraeth yr Alban ac yr ymgynghorir yn ei gylch maes o law. Soniwyd bod gan Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau (IFCAs) (Lloegr yn unig) ddyletswydd statudol i reoli adnoddau pysgodfeydd môr, gan gynnwys gweithgareddau pysgota. Tynnwyd sylw at eu rôl wrth hybu ymwybyddiaeth a bioddiogelwch ymhlith y sector pysgota fel dolen gyswllt ddefnyddiol y gellid ei wneud trwy weithgor y PAP.

Dyfyniadau allweddol:


“The PAP seems to have poor representation from anglers in Wales.”

“There is a lack of Welsh representation in organisations. Neither Angling Cymru nor Fishing in Wales are referenced as partners in the PAP.”

Rhychwant ehangach: gwahanol fathau o bysgota

Soniodd sawl ymgynghorai fod y PAP yn canolbwyntio’n ormodol ar ddŵr croyw gan deimlo bod angen iddo wneud mwy i ymgysylltu â physgotwyr môr. Roedd y sylwadau’n cynnwys nad yw’n glir pa gamau sy’n ymwneud â physgota dŵr croyw, pysgota morol, neu’r ddau a bod y camau a’r atodiadau (cod ymddygiad a chanllawiau bioddiogelwch) yn canolbwyntio ar ddŵr croyw.

Awgrymwyd camau newydd er mwyn:

  • hybu mesurau bioddiogelwch sy’n benodol i bysgota ar lan y môr ac ar gychod, gan gynnwys glanhau a sychu esgidiau pysgota, botasau pysgota, ac offer pysgota dŵr hallt
  • gofyn am gynlluniau bioddiogelwch ar gyfer cystadlaethau a gwyliau pysgota môr ar raddfa fawr

Cafwyd ymatebion hefyd am y gwahaniaethau rhwng mathau o bysgota ac yn benodol y gwahaniaethau rhwng pysgotwr afon a physgotwr dŵr llonydd a sut mae angen ystyried y gwahanol weithgareddau yma wrth ysgrifennu canllawiau.

Dyfyniadau allweddol:


“Generally, it is not clear which actions relate to freshwater, marine or both – it also needs to be clarified that the annexes (code of conduct and biosecurity guidance) are very much focussed on freshwater. These should also encompass relevant messages for marine anglers or make clear that the same biosecurity principles apply to both.”

“I felt that the text needs to be more engaging of sea anglers too and emphasising the issue of travelling between similar water bodies such as estuaries.”

Roedd y camau a amlygwyd fel rhai sydd wedi dyddio neu sydd angen eu gwella yn cynnwys: 5, 6, 8, 10A, 12, 13 a 14, ac atodiadau 4 (Cod ymarfer Prydain Fawr ar gyfer pysgota), 5 (Canllawiau/cynllun bioddiogelwch cytûn ar gyfer perchnogion pysgodfeydd ym Mhrydain Fawr) a 6 (Rhestr o rywogaethau â blaenoriaeth i’w cadw allan). Yr adborth ar yr atodiadau hyn oedd bod angen eu diweddaru â gwybodaeth fwy diweddar, ac awgrymwyd y dylid eu cysylltu ag URL fel bod rhestrau neu gyngor sy’n cael eu diweddaru yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn berthnasol.

PAP Cychod

I’r cwestiwn ‘Ydych chi’n fodlon ar y camau yn y PAP hwn?’ atebodd 19 ymatebydd ‘nac ydw’, atebodd 26 ‘ydw’ ac nid atebodd 12 na llenwi rhagor o adrannau o’r rhan o’r arolwg oedd yn ymwneud â’r PAP Cychod. O’r naw ymateb ar ffurf llythyr, darparodd pump adborth am y PAP Cychod yn benodol.

Cwestiwn 9: ‘Os nad ydych, beth allai gael ei wella yn eich barn chi?’ Gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un ateb.

Opsiwn Cyfanswm Canran
Gallai’r testun gael ei wella 14 21%
Gallai’r cam gael ei wella 13 20%
Cam yn eisiau 6 9%
Testun yn eisiau 6 9%
Arall 7 11%

Cafwyd 28 o ymatebion i’r cwestiwn: ‘Rhowch fanylion y newidiadau y byddech chi’n eu gwneud i’r PAP hwn neu unrhyw beth arall sy’n bwysig yn eich barn chi. Roedd rhai ymatebion yn gefnogol heb awgrymu unrhyw gamau pellach. Daeth themâu allweddol i’r amlwg o’r ymatebion eraill, gyda rhywfaint o orgyffwrdd rhyngddynt.

Ehangu rhychwant y llongau yr ymdrinnir â nhw yn y PAP Cychod

Disgrifiodd sawl ymatebydd yr angen i’r diffiniad o ‘llong’ gynnwys ystod ehangach o longau, cychod a badau megis cychod chwythu, padlfyrddau, ffoiliau adenydd, sgïau jet ac e-ffoiliau, yn ogystal ag ôl-gerbydau ac offer cysylltiedig ar gyfer y mathau hyn o gychod. Mae’r rhain yn fathau mwyfwy poblogaidd o gychod hamdden, fel arfer yn perthyn i unigolion ac yn cael eu symud o’r dŵr yn syth i gerbyd i’w cludo ar ôl eu defnyddio, gan gynyddu’r risg o ledaenu INNS. Galwai’r ymatebion hefyd am ganllawiau bioddiogelwch pwrpasol ynglŷn â’r gwahanol offer a restrwyd.

Codwyd pryderon am nifer y cychod chwythu sy’n cael eu gwerthu bob mis gan fanwerthwyr ar-lein, a’r ffaith eu bod yn aml yn cael eu prynu gan ddefnyddwyr dibrofiad a’u defnyddio ar safleoedd mewndirol heb fynediad wedi’i reoli. Dyma grŵp sydd felly efallai yn gwbl anymwybodol o unrhyw gyngor ar fioddiogelwch. Mae’n debyg bod cychod o’r fath hefyd yn aml yn cael eu tynnu o’r dŵr a’u pacio yn wlyb, gan ganiatáu i INNS ac wyau sy’n cael eu cludo gan ddŵr aros yn y plygiadau. Gan hynny, awgrymwyd ychwanegiadau i’r PAP ar ffurf camau yn targedu gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr cychod o’r fath ac yn darparu deunyddiau addysgol pwrpasol i dargedu defnyddwyr cychod chwythu a ffoiliau adenydd.

Roedd rhai ymatebion hefyd yn gofyn i offer gan gynnwys siwtiau gwlyb, botasau neu esgidiau glaw gael eu cynnwys yn y canllawiau gan fod hyn yn ffordd arall y gall defnyddwyr cychod hamdden drosglwyddo INNS.

Ym mhen arall y sbectrwm, cafwyd awgrymiadau hefyd ynglŷn â chamau penodol i ddatblygu cyngor i ddefnyddwyr llongau mwy (mwy na 10 tunnell), nad oes modd eu tynnu’n gyson o’r dŵr i’w glanhau.

Dyfyniad allweddol:


“It is important to explicitly include paddleboards and inflatables…within the scope of recreational watercraft. These items are commonly owned and transported by individuals rather than hired locally, increasing the risk of cross-site contamination.

Inflatables are typically deflated and rolled or folded for transport, creating warm, dark, and damp microenvironments that are highly conducive to harbouring INNS, particularly eggs and seeds. Their inclusion in biosecurity guidance is essential.”

Gwaredu malurion

Gofynnodd sawl ymatebydd am welliannau yn y testun a’r camau ynglŷn â golchi llongau ac offer er mwyn cynnwys gwaredu’r malurion a’r dŵr golchi, a hynny er mwyn sicrhau na fydd INNS yn cael eu golchi’n uniongyrchol i gorff dŵr dihalog.

Dyfyniad allweddol:


“…more should be made of the need to clear up, remove and responsibly dispose of the debris from hull cleaning at ‘scrubbing piles’ etc. after each operation by the vessel owner and managed by the scrubbing grid owner.”

Ffocws morol

Mynegodd rhanddeiliaid bryderon eu bod yn teimlo bod y camau yn canolbwyntio ar ddŵr croyw ac nad oedd risgiau INNS morol yn cael eu hadlewyrchu’n ddigon manwl yn y PAP Cychod.

Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys bod ar gychod morol angen eu PAP eu hunain ar wahân, neu adran ar wahân ynghylch risgiau INNS cychod morol o fewn y PAP Cychod ochr yn ochr â chamau ychwanegol i adlewyrchu risgiau a realiti gweithgarwch cychod yn yr amgylchedd morol.

Dyfyniadau allweddol:


“Improve cleaning advice for marine areas. Most of the advice is focused on freshwater. There should be more guidance for sea users, especially about hull cleaning and antifouling.”

“…many of the actions listed are not appropriate or far less effective in a marine setting…”

“It is important that the PAPs consistently reflect marine INNS risks across boating, angling, and coastal tourism pathways to mitigate this risk.”

Y camau a amlygwyd am fod angen eu gwella oedd: 9, 11, 12A, 14, 15.

Cafwyd sylwadau hefyd fod angen i atodiad 2 (cod ymddygiad cychod hamdden) gael ei ddiweddaru a chynnwys cyfeiriadau clir yn y testun.

PAP Garddwriaeth

I’r cwestiwn ‘Ydych chi’n fodlon ar y camau yn y PAP hwn?’ atebodd 24 o ymatebwyr ‘ydw’ tra dywedodd 15 ‘nac ydw’ ac nid atebodd 18. O’r naw ymateb ar ffurf llythyr, rhoddodd pedwar adborth penodol ar y rhan o’r arolwg yn ymwneud â’r PAP Garddwriaeth.

Cwestiwn 15: ‘Os nad ydych, beth allai gael ei wella yn eich barn chi?’ Gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un ateb.

Opsiwn Cyfanswm Canran
Gallai’r testun gael ei wella 14 21%
Gallai’r cam gael ei wella 14 21%
Cam yn eisiau 8 12%
Testun yn eisiau 6 9%
Arall 11 17%

Cafwyd 24 o ymatebion yn Citizen Space a phedwar arall trwy’r ebost i’r cwestiwn ‘Rhowch fanylion am y newidiadau y byddech chi’n eu gwneud i’r PAP hwn neu unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl sy’n bwysig.’ Gwnaed ystod eang o argymhellion garddwriaeth penodol ond nid pob un ohonynt oedd yn dod o fewn rhychwant y PAP. Daeth themâu allweddol i’r amlwg o’r ymatebion eraill, gyda rhywfaint o orgyffwrdd rhyngddynt.

Codi ymwybyddiaeth

Pwysleisiodd nifer o’r ymatebwyr bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ymhlith masnachwyr garddwriaethol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys gwella’r gwaith codi ymwybyddiaeth yn y pwynt gwerthu mewn canolfannau garddio ynghylch planhigion goresgynnol a halogion pridd, gwell negeseuon ar gyfer teithwyr tramor ar y ffin (er enghraifft, porthladdoedd fferi), galwad am gynnwys mwy o grwpiau a chyrff perthnasol yn y PAP i ddal yr ystod ehangaf o fuddiannau a sicrhau bod yna broses adnabyddus ar gyfer rhoi gwybod am INNS gan bawb sy’n ymwneud â’r fasnach garddwriaeth.

Dyfyniad allweddol:


“Increasing public awareness of the ecological consequences of allowing invasive plants to escape garden boundaries is vital.”

Gwerthiannau ar-lein a ffiniau

Roedd nifer o’r ymatebwyr eisiau camau ychwanegol i ymdrin ag ymchwilio i farchnadoedd ar-lein heb eu rheoleiddio, gan gynnwys gwerthiannau yn y cyfryngau cymdeithasol, o gofio’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwerthu rhywogaethau goresgynnol a phriddoedd halogedig.

Cafwyd awgrym hefyd y dylid gofyn am ymgysylltu ag awdurdodau yng Ngogledd Iwerddon a’r UE i sicrhau aliniad a rhannu gwybodaeth.

Dyfyniad allweddol:


“Action 2 should incorporate regular working with colleagues in Northern Ireland and EU Member states.”

Labelu planhigion

Cafwyd nifer o awgrymiadau ar gyfer datblygu system labelu planhigion well i sicrhau bod y defnyddwyr yn deall beth maen nhw’n ei brynu a sut i’w blannu a’i waredu’n gywir. Roedd hyn yn cynnwys awgrymiadau y dylid cynnal ymgynghoriad â’r diwydiant ynghylch gwneud gwelliannau i’r gofynion presennol ynglŷn â labelu planhigion, y dylid trefnu bod rhestrau cyfredol o blanhigion estron goresgynnol gan gynnwys enwau cyfredol, enwau cyffredin ac enwau anghywir ar gael i fanwerthwyr. 

Dyfyniad allweddol:


“Accurate and informative labelling is critical—both in terms of correct plant identification and clear indication of invasive potential.”

Rhywogaethau sy’n teithio ar blanhigion

Teimlai un ymatebydd fod angen cryfhau’r PAP Garddwriaeth mewn perthynas ag infertebratau sy’n teithio ar blanhigion, gan nodi y dylid ychwanegu amcan o adnabod ac atal INNS sy’n infertebratau rhag ymsefydlu mewn cadwyni cyflenwi garddwriaethol a gerddi domestig.

Awgrymodd yr ymatebydd hefyd gamau newydd i ddatblygu protocolau monitro systematig ar gyfer INNS sy’n infertebratau mewn mewnforion garddwriaethol, gan gynnwys hyfforddiant i’r Arolygiaeth Iechyd Planhigion a Hadau (PHSI) a staff NNSI mewn adnabod infertebratau a sefydlu protocolau ymateb cyflym. Dywedodd yr ymatebydd yma, ochr yn ochr ag un arall, y dylid gwella camau 14 (NNSI a PHSI i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau sy’n teithio ar blanhigion) i gynnwys darparu hyfforddiant yn y diwydiant garddwriaethol ar adnabod infertebratau sy’n teithio ar blanhigion a’r camau y mae angen eu cymryd os gwelir y rhain.

Dyfyniad allweddol:


“[There should be] mandatory training for horticulture industry staff in identifying invertebrate hitchhikers, not just plant pests. Many invasive invertebrates can establish from horticultural imports and spread to natural habitats.

PAP Anifeiliaid anwes

I’r cwestiwn ‘Ydych chi’n fodlon ar y camau yn y PAP hwn?’ Atebodd 23 o ymatebwyr ‘ydw’, dywedodd 14 ‘nac ydw’ ac nid atebodd 20. O’r naw ymateb ar ffurf llythyr, rhoddodd tri adborth penodol ar y rhan o’r arolwg yn ymwneud â’r PAP Anifeiliaid anwes.

Cwestiwn 21: ‘Os nad ydych, beth allai gael ei wella yn eich barn chi?’ Gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un ateb.

Opsiwn Cyfanswm Canran
Gallai’r testun gael ei wella 12 18%
Gallai’r cam gael ei wella 8 12%
Cam yn eisiau 9 14%
Testun yn eisiau 7 11%
Arall 5 8%

Cafwyd 20 o ymatebion trwy Citizen Space a thri drwy’r ebost/llythyr i’r cwestiwn ‘Rhowch fanylion am y newidiadau y byddech chi’n eu gwneud i’r PAP hwn neu unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl sy’n bwysig.’ Gwnaed ystod eang o argymhellion garddwriaeth penodol ond nid pob un ohonynt oedd yn dod o fewn rhychwant y PAP. Roedd nifer o’r ymatebion hyn yn gefnogol, heb awgrymu rhagor o argymhellion. Daeth themâu allweddol i’r amlwg o’r ymatebion eraill, gyda rhywfaint o orgyffwrdd rhyngddynt.

Ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymwybyddiaeth

Amlygodd llawer o’r ymatebwyr mor bwysig yw addysg gyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau y bydd anifeiliaid anwes yn cael eu rhyddhau ac yn dianc. Cafwyd sylwadau ar rôl y sector anifeiliaid anwes wrth addysgu a chynghori perchnogion anifeiliaid anwes am y risgiau, gyda rhai ymatebwyr yn nodi y dylai hyn fod yn ofyniad ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes.

Dyfyniad allweddol:


“Actions 4 and 6 should include a clear plan for ensuring that the provision of consistent and high-quality information to potential pet owners is a requirement for those trading in pet animals…”

Y fasnach anifeiliaid anwes ar-lein

Cododd ymatebwyr bryderon am yr arfer sylweddol a chynyddol o werthu a chyfnewid anifeiliaid anwes ar-lein. Argymhellwyd y dylid adolygu’r risgiau a achosir a rhoi mesurau ar waith i’w lleihau. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys camau i wneud llwyfannau ar-lein mawr yn fwy atebol, gwell gallu gorfodi, a defnyddio technoleg i wella goruchwyliaeth.

Dyfyniad allweddol:


“The current Pet PAP significantly underestimates the risks posed by online pet sales, which have expanded dramatically in recent years…online sellers often operate without regulatory oversight, proper species identification, or biosecurity awareness.”

Risg a rheoli rhywogaethau

Roedd yr ymatebwyr o’r farn y dylid canolbwyntio’n fwy ar adnabod rhywogaethau a allai fod yn oresgynnol. Tynnwyd sylw at infertebratau fel un risg arbennig a chodwyd risg ymlusgiaid, amffibiaid a physgod hefyd.

Argymhellodd rhai o’r ymatebwyr y dylid ystyried rhestr gadarnhaol o rywogaethau y caniateir eu masnachu fel anifeiliaid anwes.

Argymhellwyd camau manwl ar gyfer gwaredu dŵr acwaria, bioddiogelwch bwyd byw, a rheoli is-haenau.

Argymhellwyd mwy o ymwybyddiaeth o’r risgiau o gadw rhai anifeiliaid mewn pyllau yn yr ardd a llociau yn yr awyr agored hefyd.

Mae rhai o’r argymhellion hyn eisoes yn cael eu datblygu ac mae canllawiau ychwanegol yn cael eu paratoi.

Dyfyniad allweddol:


“…a positive list of species that can be traded as pets, based on them being assessed as very low risk for invasiveness (among other criteria), would provide a far more precautionary approach and should be considered…species considered high risk should not be traded or kept.”

Ailgartrefu a rhoi gwybod

Cafwyd argymhellion ar hybu ailgartrefu anifeiliaid anwes diangen mewn modd cyfrifol. Gofynnwyd hefyd am ganllawiau ar beth i’w wneud os canfyddir anifeiliaid anwes sydd wedi dianc neu wedi’u rhyddhau yn y gwyllt, gan gynnwys argymhellion ar gyfer opsiwn i roi gwybod yn hawdd. Mae rhai o’r argymhellion hyn eisoes yn cael eu datblygu ac mae canllawiau ychwanegol yn cael eu paratoi.

Cododd nifer o’r ymatebwyr bryderon am y diffyg capasiti yn y sector achub i ailgartrefu rhywogaethau anfrodorol ac awgrymwyd camau newydd fel protocolau ewthanasia trugarog a chefnogaeth gan y llywodraeth i’r sector achub. Mae’r maes pryder yma i raddau helaeth y tu allan i rychant y PAP Anifeiliaid anwes.

Dyfyniad allweddol:


“Add an action to promote responsible rehoming. People should be shown safe ways to give up unwanted pets instead of releasing them.”

PAP Sŵau

I’r cwestiwn ‘Ydych chi’n fodlon ar y camau yn y PAP hwn?’ Atebodd 13 o ymatebwyr ‘nac ydw’, atebodd 25 ‘ydw’ ac nid atebodd 19 na llenwi rhagor o adrannau o’r rhan o’r arolwg yn ymwneud â’r PAP Sŵau. O’r naw ymateb ar ffurf llythyr, rhoddodd un adborth penodol am y rhan o’r arolwg ymwneud â’r PAP Sŵau.

Cwestiwn 18: ‘Os nad ydych, beth allai gael ei wella yn eich barn chi?’ Gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nag un ateb.

Opsiwn Cyfanswm Canran
Gallai’r testun gael ei wella 12 18%
Gallai’r cam gael ei wella 11 17%
Cam yn eisiau 7 11%
Testun yn eisiau 4 6%
Arall 6 8%

Cafwyd 17 o ymatebion i’r cwestiwn: ‘Rhowch fanylion y newidiadau y byddech chi’n eu gwneud i’r PAP hwn neu unrhyw beth arall sy’n bwysig yn eich barn chi. Roedd rhai ymatebion yn gefnogol heb awgrymu unrhyw gamau pellach. Daeth themâu allweddol i’r amlwg o’r ymatebion eraill, gyda rhywfaint o orgyffwrdd rhyngddynt.

Diweddariad i ‘Safonau Arferion Sŵau Modern yr Ysgrifennydd Gwladol’ (SSSMZP)

Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod y PAP Sŵau wedi dyddio ac nad yw bellach yn adlewyrchu ‘Safonau Arferion Sŵau Modern yr Ysgrifennydd Gwladol’ (2025) sydd wedi’u diweddaru a’u cyhoeddi’n ddiweddar. O ganlyniad, bydd angen adolygu’r PAP cyfan ochr yn ochr â’r ddogfen SSSMZP newydd.

Dyfyniad allweddol:


“it is out of date, for example apparently having been written…before changes to zoo governance/regulation, especially the publication in May 2025 of the ‘Standards of modern zoo practice for Great Britain’.”

Trin a gwaredu deunyddiau a ddefnyddir mewn hwsmonaeth anifeiliaid

Awgrymodd rhai o’r rhanddeiliaid gamau ychwanegol ar gynhyrchu canllawiau ar sut i drin, symud a gwaredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel, er mwyn osgoi trosglwyddo pathogenau, wyau neu larfau i’r gwyllt. Roedd hyn yn cynnwys galwadau am ganllawiau ar yr angen i reoli’r defnydd o fwyd byw fel na all ddianc.

Dyfyniad allweddol:


“The PAP must address the issue of the safe disposal of waste materials. This is a particular issue for reptiles and amphibians…”

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

Roedd rhai o’r rhanddeiliaid yn adlewyrchu maint, rhychwant a phwrpas gwahanol yr amrywiol sefydliadau sŵau ac acwaria. Arweiniodd hyn at sylwadau ynghylch a yw pob math o sŵau neu acwaria yn cael eu cynrychioli gan gyrff y sector, pa mor dda maen nhw’n ymgysylltu â negeseuon INNS a pha mor dda maen nhw’n cydymffurfio â’r canllawiau presennol, y ceir amrywiaeth eang ohonynt.

Gwnaed awgrymiadau ynghylch gwella hyfforddiant ar INNS i arolygwyr sŵau, gwella canllawiau i’r diwydiant, gwella’r gwaith codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd gan y diwydiant ac ‘archwilio’ sŵau yn erbyn y canllawiau presennol. Mae rhai o’r awgrymiadau hyn eisoes yn digwydd neu y tu allan i gylch gwaith dogfen y PAP Sŵau.

Dyfyniad allweddol:


“A new action could be to audit Zoos on how well they have implemented the measures and what their challenges have been.”

Y camau a amlygwyd am fod angen eu gwella oedd: 6, 7, 8 ac 11.

Cafwyd sylwadau hefyd ynglŷn ag atodiadau 2 (Canllawiau Cytûn ar Sŵau (ar ddianc etc) i Gymru a Lloegr) a 5 (Cod Ymarfer y Deyrnas Unedig ar gyfer Sŵau), gan gynnwys y gellid uno’r rhain, ac y gallai atodiad 5 gynnwys cyfeiriad at yr ymgyrch ‘Mynd at Wraidd y Mater’.

Ymateb y llywodraethau a’r camau nesaf

Rydym yn ddiolchgar i’r holl unigolion a sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yma.

Bydd sylwadau cyffredinol ar y gyfres o PAPs, fel y’u nodwyd uchod, yn cael eu trafod ac wrth i’r PAPs gael eu diwygio, byddant yn cael eu gwneud yn gyson â’i gilydd o ran strwythur, fformatio ac arddull. Bydd gwybodaeth sydd wedi dyddio yn cael ei disodli, a lle bo’n briodol yn cael ei chysylltu â ffynonellau allanol i sicrhau bod gwybodaeth y cyfeirir ati ym mhob PAP yn dal yn berthnasol (megis y rhestr sganio’r gorwel).

Er mwyn mynd i’r afael â phwyntiau a godwyd ynghylch cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â’r PAPs, byddwn yn gofyn i’r gweithgorau PAPs ymgysylltu â gweithgor Cyfryngau a Chyfathrebu Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr i helpu i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth cryfach ar gyfer pob PAP. Byddwn hefyd yn gofyn i weithgor Cyfryngau a Chyfathrebu GB INNS ystyried y ffordd orau inni wella’r cyfathrebu a’r ymwybyddiaeth ynglŷn â’r PAPs yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys eu hybu a’u gweithredu.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau datganoledig wedi anonymeiddio ac wedi crynhoi’r holl sylwadau a gafwyd ar fanylion y PAPs. Bydd y canlyniadau dienw, cryno hyn yn cael eu rhannu gyda gweithgorau’r PAPs i’w hystyried yn arbenigol. Pan fydd y gweithgorau wedi edrych ar adborth yr ymgynghoriad yma, bydd unrhyw addasiadau angenrheidiol ar sail ymatebion yr ymgynghoriad yn cael eu gwneud i bob un o’r PAPs.

Anogir gweithgorau’r PAPs i wneud camau CAMPUS lle bo’n briodol, fel bod y camau yn glir ac yn gyraeddadwy, gan enwi’r perchnogion neu’r mecanweithiau cyflawni, y gwaith cydlynu a lle bo modd yr amserlenni ar gyfer y cynnydd arfaethedig. Yn ychwanegol, bydd angen i’r gweithgorau ystyried pa fecanwaith y gellir ei ddefnyddio i ddangos sut mae’r camau o fewn y PAPs yn dod ymlaen, gan amlygu llwyddiannau.

Pan fydd y PAPs wedi’u diweddaru, cânt eu cymeradwyo gan y gweithgorau ac yna Bwrdd Rhaglen INNS Prydain Fawr yn eu cyhoeddi’n derfynol, sef erbyn diwedd 2026 yn ôl y disgwyl.

Atodiad 1

Sefydliadau a ymatebodd

  • Afonydd Cymru
  • Amphibian and Reptile Conservation Trust
  • Angling Scotland Ltd, Migratory Fish Committee, for Scottish Anglers National Association (game), Scottish Federation of Sea Anglers and Scottish Federation for Coarse Angling Association
  • Angling Trust
  • Arboricultural Association
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Bristol Veterinary School, University of Bristol
  • British and Irish Association of Zoos and Aquariums
  • British Association of Landscape Industries
  • Broads Authority
  • Buglife
  • CABI
  • Countryside Alliance
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Dumfries and Galloway Council
  • Elwy Invasive Plants Group
  • Environment Agency (Fisheries)
  • Grŵp Tystiolaeth ac Ymgynghorol Iechyd Planhigion Cymru
  • Hampshire and Isle of Wight Wildlife Trust
  • Hants Invasive Plants Group
  • Inland Waterways Association, UK
  • Institute of Fisheries Management
  • International Herpetology Society
  • Kernock Park Plants Ltd
  • London Wildlife Trust
  • Marine Biological Association
  • Marine Management Organisation
  • Merman Conservation Expeditions Ltd
  • National Centre for Birds of Prey
  • Natural England
  • Ornamental Aquatic Trade Association (OATA)
  • Portsmouth Reptile and Amphibian Society
  • Responsible Reptile Keeping
  • River Ely INNS Partnership Group
  • Royal Horticultural Society
  • Royal Yachting Association
  • Scottish Animal Welfare Commission
  • Scottish Canals
  • Scottish Exotic Animal Rescue (SC041507)
  • SEA LIFE Park
  • South Devon National Landscape Estuaries Partnership
  • South East Water
  • South West Water
  • Southern Water
  • Tees Rivers Trust
  • Tirweddau Cymru - Landscapes Wales
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Tweed Forum
  • Tyne Rivers Trust
  • United Utilities
  • Wildlife and Countryside Link

Atodiad 2

Cwestiynau

Cwestiynau rhagarweiniol

C1. Hoffech chi i’ch ymateb fod yn gyfrinachol? 

  • Hoffwn 
  • Na hoffwn 

Os ydych chi wedi ateb ‘Hoffwn’ i’r cwestiwn hwn, rhowch eich rheswm. 

C2. Beth yw’ch enw chi? 

C3. Beth yw’ch cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth?

Rhowch gyfeiriad ebost neu rif ffôn oni bai eich bod yn methu gwneud hynny. Os byddwch yn rhoi’ch cyfeiriad ebost yna fe gewch chi neges ebost awtomatig i gydnabod hynny ar ôl ichi gyflwyno’ch ymateb.

C4. Dywedwch ym mha gapasiti rydych chi’n ymateb i’r ymgynghoriad trwy ddewis o blith y canlynol: 

  • unigolyn
  • sefydliad ymchwil
  • corff masnach sector neu sefydliad aelodaeth
  • ecolegydd
  • academydd
  • ymgynghorydd cynllunio
  • datblygwr neu adeiladwr
  • awdurdod lleol
  • corff cyhoeddus
  • sefydliad anllywodraethol
  • tirfeddiannwr
  • arall (rhowch y manylion)

C5. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch enw’r sefydliad rydych yn ymateb ar ei ran.

C6. Nodwch eich maes diddordeb penodol wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn: 

  • cychod 
  • pysgota 
  • y môr 
  • garddwriaeth 
  • sw 
  • anifeiliaid anwes
  • gardd fotanegol 
  • acwariwm 
  • eNGO 
  • canolfan achub 
  • hobi 
  • grŵp diddordeb rhywogaeth 
  • arall (rhowch y manylion) 

C7. Nodwch pa leoliad y mae’ch ymateb yn ymwneud ag ef, gan ddewis o blith y canlynol:

  • Prydain Fawr 
  • Lloegr 
  • Yr Alban 
  • Cymru 
  • arall (dywedwch ble)

Cwestiynau am PAPs 

C8. Ydych chi’n fodlon ar y camau yn y PAP hwn? Ydw neu nac ydw 

C9. Os nad ydych, beth allai gael ei wella yn eich barn chi? 

  • cam yn eisiau 
  • gallai cam gael ei wella 
  • testun yn eisiau 
  • gallai’r testun gael ei wella 
  • arall 

Gweler C10 i ymhelaethu ar unrhyw newidiadau. 

C10. Rhowch fanylion y newidiadau y byddech chi’n eu gwneud i’r PAP hwn neu unrhyw beth arall sy’n bwysig yn eich barn chi. 

Cyfeiriwch at y camau yn ôl y rhif, a sôn a ddylai gael ei ddileu neu ei newid (a sut felly), neu awgrymwch gamau ychwanegol.