Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd: diwygiadau arfaethedig i Atodiad A
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Rydym wedi derbyn 39 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.
Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Gogledd Iwerddon) wedi ymateb i’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad.
Rydym wedi diweddaru Atodiad A y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd. Bydd y diwygiadau i Atodiad A yn dod i rym ar unwaith.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o ymatebion ac ymateb y Llywodraeth yn Saesneg.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym eisiau eich barn ar y diwygiadau arfaethedig i Atodiad A i’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS).
Cyhoeddwyd y JFS gan awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU (Defra, a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban) ym mis Tachwedd 2022.