Ymgynghoriad agored

Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros taliadau a gwasanaethau: ymgynghoriad

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Crynodeb

Cynigion i weithredu agweddau ar Ran 4 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a diwygio gwasanaethau a thaliadau lesddaliad yn y dyfodol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Cyflwynodd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 ystod o fesurau i wella perchnogaeth cartrefi i filiynau o lesddeiliaid yng Nghymru a Lloegr. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys cynyddu tryloywder taliadau gwasanaeth a pholisïau yswiriant adeiladu, yn ogystal â mynd i’r afael â chostau ymgyfreitha anghyfiawn.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar sut i weithredu’r gofynion newydd hyn trwy is-ddeddfwriaeth, a fydd yn helpu lesddeiliaid i graffu ar ffioedd a thaliadau annheg yn well, a’u herio’n well, yn ogystal â rhesymoldeb y gwasanaethau y maent yn talu amdanynt.

Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer diwygio pellach o safbwynt y taliadau y mae lesddeiliaid, a pherchnogion tai ar ystadau rhydd-ddaliad, yn eu talu a’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Mae’r rhain yn cynnwys ymrwymiadau Llywodraeth y DU i ymgynghori ar ddiwygio’r gyfundrefn adran 20 ar gyfer gwaith mawr a chyflwyno cymwysterau gorfodol ar gyfer asiantiaid rheoli.

Dogfennau

Atodiad A: Ffurflen adroddiad blynyddol

Atodiad B: Ffurflen galw am dal gwasanaeth

Atodiad B3: Ffurflen hysbysiad cysoni

Atodiad C: Templed hysbysiad galw yn y dyfodol

Atodiad D: Ffurf yr atodlen taliadau gweinyddol

Atodiad F: Templed cyfrifon tâl gwasanaeth

Atodiad H: Cefndir y gyfundrefn Gwaith Mawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2025

Argraffu'r dudalen hon