Canfodydd Tanwydd
Darganfyddwch am wasanaeth Canfodydd Tanwydd.
Mae Canfodydd Tanwydd yn wasanaeth gan Lywodraeth y DU sy’n dod â phrisiau tanwydd manwerthu byw a gwybodaeth am fforydd tanwydd ledled y DU ynghyd.
Mae’r gwasanaeth yn helpu:
- masnachwyr tanwydd modur i gyflawni eu dyletswyddau
- sefydliadau awdurdodedig i ddod o hyd i a rhannu data agored dibynadwy
- pobl i adrodd am broblemau maent yn eu gweld ar y cwrt blaen
Gall gyrwyr ddod o hyd i’r wybodaeth ar apiau a gwefannau trydydd parti sy’n cymryd rhan.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Diweddaru prisiau tanwydd a manylion cwrt blaen
Ar gyfer masnachwyr tanwydd modur.
Diweddaru prisiau tanwydd a rheoli manylion eich cwrtiau blaen. Rhaid i chi gyflwyno diweddariadau prisiau o fewn 30 munud i unrhyw newid.
Adrodd ar wall yn y data
Ar gyfer pobl sy’n adrodd ar wall yn y data.
Adrodd ar anghysondeb rhwng y data a’r prisiau a manylion eraill mewn cwrt blaen. Er enghraifft, pris anghywir, math o danwydd anghywir, swm anghywir, dyddiad ac amser anghywir.