Canllawiau

Adrodd eich prisiau tanwydd a manylion cwrt blaen

Defnyddiwch wasanaeth Canfodydd Tanwydd i adrodd prisiau tanwydd a rheoli manylion eich cwrtiau blaen.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno prisiau tanwydd a rhestru’r cyfleusterau a’r gwasanaethau yn eich cwrtiau blaen. Mae hyn yn helpu gyrwyr i ddod o hyd i wybodaeth gywir a chyfredol am brisiau tanwydd a’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig.

O 2 Chwefror 2026, rhaid i chi gyflwyno diweddariadau prisiau tanwydd o fewn 30 munud i unrhyw newid.

Cyn i chi ddechrau

Darllenwch y canllawiau i masnachwyr tanwydd modur.

Creu cyfrif newydd

Bydd angen:

  • manylion cofrestredig eich cwrtiau blaen, gan gynnwys cyfeiriad ac enw’r gweithredwr

Dim ond os ydych chi’n weithredwr neu’n gynrychiolydd awdurdodedig o’r cwrt blaen y gallwch gyflwyno manylion.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cwrtiau blaen yn y Deyrnas Unedig.

Dechrau nawr

Os oes gennych gyfrif eisoes

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif i reoli manylion eich cwrt blaen neu ddiweddaru prisiau tanwydd.

Diweddaru prisiau gan ddefnyddio’r API

Gallwch ddefnyddio’r API cyhoeddus i ddiweddaru eich prisiau tanwydd drwy integreiddio’r data i’ch offer a’ch gwasanaethau eich hun.

Darganfyddwch sut i gael mynediad a defnyddio’r API i gyflwyno prisiau tanwydd.

Dulliau eraill o roi gwybod i ni

Os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r gwasanaeth i newid neu ddiweddaru eich manylion, gallwch gysylltu â’n tîm drwy e-bost neu dros y ffôn.

Dod o hyd i help

Os oes gennych unrhyw broblemau ynghylch defnyddio Canfodydd Tanwydd, cysylltwch â’r tîm.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Chwefror 2026 show all updates
  1. Motor Fuel Traders can now use the API to update their fuel prices.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon