Cynhaliaeth plant os yw rhiant yn byw dramor

Neidio i gynnwys y canllaw

Os yw'r rhiant arall yn gweithio dramor i Sefydliad Prydeinig

Efallai y gallwch wneud hawliad cynhaliaeth plant newydd yn hytrach na gorfodi un presennol os yw’r rhiant arall yn gweithio dramor i rai sefydliadau Prydeinig, er enghraifft:

  • fel gwas sifil
  • i Wasanaeth Llysgenhadol Ei Fawrhydi
  • fel aelod o’r Lluoedd Arfog
  • i gwmni wedi’i leoli a’i gofrestru yn y DU
  • i GIG
  • i awdurdod lleol

Sut i wneud hawliad

Ni allwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth Cael cymorth i drefnu cynhaliaeth plant a chael cyfeirnod yn gyntaf.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth Cael cymorth i drefnu cynhaliaeth plant i gael gwybod beth yw’ch opsiynau ar gyfer talu am gynhaliaeth plant neu gael cynhaliaeth ar gyfer eich plentyn, gan gynnwys gwneud trefniant preifat eich hun.

Os ydych angen help i ddefnyddio’r gwasanaeth Cael cymorth i drefnu cynhaliaeth plant, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhif ffôn: 0800 171 2345
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0800 232 1979
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 ac yna 0800 171 2345
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - gwiriwch y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae yna rif ffôn gwahanol os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon.

I wneud cais i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, mae’n rhaid i chi dalu:

  • £20 i wneud cais - nid oes rhaid i chi dalu’r ffi hon os ydych o dan 19 oed, wedi dioddef trais domestig neu yng Ngogledd Iwerddon
  • ffioedd ychwanegol ar gyfer talu a chasglu cynhaliaeth plant os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Casglu a Thalu

Os ydych wedi gwneud hawliad yn barod, cysylltwch â’r gwasanaeth sy’n delio gyda’ch achos am gyngor.