Gwerthu cerbyd

Mae’n rhaid ichi ddarparu’r wybodaeth gywir i brynwyr ac i DVLA pan fyddwch yn gwerthu cerbyd.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyn ichi werthu’r cerbyd

Gwnewch gais i ddiweddaru eich llyfr log (V5CW) os ydych wedi:

Efallai na fyddwch yn cael ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sy’n weddill ar eich treth cerbyd os yw eich manylion yn anghywir.

Diogelu eich llyfr log

Gallwch ddangos eich llyfr log i brynwyr posibl fel y gallant sicrhau bod y manylion yn cyd-fynd â’ch cerbyd. Fodd bynnag, peidiwch â rhannu:

  • cyfeirnod dogfen eich llyfr log
  • lluniau neu gopïau o’ch llyfr log

Gall rhywun ddefnyddio’r rhain i gael copi twyllodrus o’ch llyfr log, sy’n rhoi eich cerbyd mewn perygl o gael ei ddwyn neu ei glonio.

Os oes gan eich cerbyd rif cofrestru preifat (personol) rydych am ei gadw, rhaid ichi wneud cais i gymryd y rhif cofrestru oddi ar y cerbyd cyn ichi ei werthu.

Pan fyddwch yn gwerthu eich cerbyd

Mae beth rydych yn ei wneud â’r llyfr log yn dibynnu ar ble mae’r prynwr yn cymryd neu’n cofrestru’r cerbyd.

Aros yn y DU

Rhowch y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o’r llyfr log i’r prynwr.

Rhaid ichi roi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu’r cerbyd a rhoi’r enw a chyfeiriad llawn i’r prynwr. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y bydd unrhyw ad-daliad treth cerbyd sy’n ddyledus ichi yn cael ei effeithio.

Mynd â’r cerbyd dramor a’i gofrestru yno

  1. Llenwi’r adran ‘allforio parhaol’ yn llyfr log eich cerbyd.

  2. Anfon i DVLA, Abertawe, SA99 1BD. Cynhwyswch lythyr sy’n rhoi enw a chyfeiriad y prynwr.

  3. Rhoi gweddill eich llyfr log i’r prynwr - bydd ei angen arno i gofrestru’r cerbyd yn y wlad y mae’n mynd iddi.

Byddwch yn cael ad-daliad ar eich treth cerbyd o fewn 4 i 6 wythnos fel arfer. Cyfrifir yr ad-daliad o’r dyddiad y bydd DVLA yn cael eich adran ‘allforio parhaol’.